Welsh Blogs.com


Theori Quantum via Blog Rhys Llwyd March 8th, 2008 at 10:45

image Dwi wedi dechrau darllen Quantum Theory Cannot Hurt You: a guide to the Universe (Faber, 2007) gan Marcus Chown, awdur gwyddoniaeth-poblogaidd ac ymgynghorydd y cylchgrawn New Scientist ar gosmoleg. Nid ydw i'n wyddonydd o bell ffordd fodd bynnag ers i mi gael rhyw fan sgyrsiau gyda cyfaill i mi sy'n Gristion, Owain Roberts (neu 'Owain Morfa' i rai), rai blynyddoedd yn ol yn Aberystwyth mae wedi plannu rhyw chwylfrydedd ynai tu ol i theoriau ffiseg yn enwedig rhai a adnabyddir fel theoriau quantum a theoriau perthynol Einstein. Er mai fel ffrind o Gristion dwi'n adnabod Owain yn gyntaf; mae ef, yn wahanol i mi, yn wyddonydd ac yn rhan o dim ymchwil Semiconductors yn adran Ffiseg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae Owain wedi ceisio esbonio i mi droeon beth yn union mae e'n gwneud ond maen...

Tawelwch ar y blog a mwy o bosters via Blog Rhys Llwyd October 15th, 2007 at 23:47

image Dy chi'n gwybod fod e wedi dod i rhywbeth pan fo'ch teulu yn dibynnu ar eich blog i wybod eich bod chi'n iawn. Fe ges i neges destun gan Mam wythnos diwethaf yn dweud rhywbeth fel hyn: "Rhys, wyt ti'n iawn? Mae'r blog wedi bod yn daweld ers sbel." Wel, gan mod i yn trio troi papur yn cymharu safbwyntiau JE Daniel a Miall Edwards rownd mewn wythnos fydd yna ddim trafod unrhywbeth dwys nac o werth ar y blog wythnos yma chwaith ond fe dria i sôn am rywbeth o werth wythnos nesa - crynhoad o'r papur o bosib i rheini ohonoch chi (y rhai prin) fydd a diddordeb.Yn y cyfamser dau ddarn arall o fy mhortffolio dylunio dwi wedi gweithio arnyn nhw dros yr wythnos...