Welsh Blogs.com


The Passion, BBC a’r hyn a gyflawnodd Iesu via Blog Rhys Llwyd March 24th, 2008 at 09:56

image Dros y flwyddyn diwethaf 'dy ni wedi gweld gwleidyddion fel Gordon Brown a David Cameron yn mwynhau iwfforia mis-mêl gwleidyddol un diwrnod, a'r diwrnod nesaf yn plymio i waelodion y polau piniwn wedi i rhyw sgandal dorri ar y newyddion. Ond does 'run gwleidydd dros y flwyddyn diwethaf wedi gweld y ffasiwn newid agwedd o fewn amser mor fyr ag y wynebodd Iesu wythnos y Pasg. Gychwyn yr wythnos gorymdeithiodd yn fuddugoliaethus i fewn i Jerwsalem gyda'r torfeydd yn gweiddi: 'Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd, yn Frenin Israel!' (Ioan 12:13) ac erbyn diwedd yr wythnos roeddent yn bloeddio â chynddaredd 'Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef' (Ioan 19:15). Ond dim ond yn arwynebol y gellid mewn gwirionedd cymharu cwymp Iesu o boblogrwydd cyhoeddus â chwymp...

Dydd y Pasg via Blog Dogfael April 21st, 2006 at 21:07

image Alelwia! Alelwia! Crist a gyfodwyd! Daeth y Pasg yn gynnar mewn ffordd o siarad. Fel warden roeddwn yn gyfrifol am sicrhau fod y trefniadau yn iawn yng ngwasanaeth Cymun Bendigaid 8.00am yn Eglwys S. Mair. Roeddwn i ynon yn ddigon cynnar i roi yr hyn o drefn y gallwn i ar yr hyn yr oedd ei angen - sef cynnau'r canhwyllau, gosod allan y llestri cymun, y bara a'r gwin, sicrhau fod y gwres ymlaen, darllen y darlleniadau o'r Hen Destament a'r Testament Newydd, gwneud y casgliad, a sicrhau fod popeth yn iawn. Wrth gwrs mae codi'n fore ddydd y Pasg yn syniad da gan eich bod yn teimlo'n iawn am ddathlu erbyn 10.00am. A dathlu a wnawd yng nghwmni plant ac oedolion mewn gwasanaeth Cymun i deulu'r eglwys. Y pregethwr oedd y ficer, Andy Herrick, ac fe wnaeth sôn am sicrwydd y gobaith...

Yr wythnos fawr (3) via Blog Dogfael April 19th, 2006 at 22:33

image Rhwng dydd Gwener y Groglith a Dydd y Pasg daw'r Sadwrn Sanctaidd. Dydd o ddisgwyl am ddathliadau'r dydd trannoeth. Fe dreuliais i'r bore yn gwneud yr un peth. Roedd pobol wedi dod i Eglwys y Santes Fair er mwyn addurno'r lle yn barod ar gyfer y Pasg - blodau melyn a gwyn sy'n draddodiadol ar gyfer hyn, ac nid yw'n arferol inni droi cefn ar draddodiad heb bod rhaid gwneud yn Eglwys S. Mair. Roedd nifer go dda wedi dod ynghyd erbyn i mi gyrraedd. I ddweud y gwir roedd y gwaith wedi'i wneud heblaw am un neu ddau bethau fan hyn a fan acw a doedd gen i ddim rhyw lawer o gyfraniad i'w wneud. Nid blodau yw fy nghryfder i, ond roedd hi'n dda cael bod yno i rannu yn y gwaith cymunedol o addurno'r lle.Wrth ddod i'r eglwys fe welais SM yn gadael ar ôl bod yn addurno "ei ffenest". Holodd a oedd gen...

Yr wythnos fawr via Blog Dogfael April 17th, 2006 at 09:40

image Ers dod yn Gristion rhaid imi gyfaddef fy mod wedi delfrydu y syniad o fyw mewn cymuned, neu gomiwn Cristnogol. Rhywbeth fel mynachlog ond yn agor i bawb - dynion, menywod, plant, pobl sengl a'r rhai wedi pridodi - lle buasai'n bosib byw y ddelfryd Gristnogol a gofnodir fel realiti yn yr eglwys fore. Mae'n rhaid ei fod e rhywbeth i'w wneud gyda'r ffaith fy mod i'n un o blant y 1960au. Cafodd Cristnogion ar hyd yr oesoedd eu hysbrydoli yn hyn o beth gan rai o adnodau o lyfr yr Actau yn disgrifio'r eglwys gyntaf (Actau 2.42-47). Dyma sut maen nhw'n ddarllen yng nghyfieithiad ardderchog beibl.net:Roedden nhw wir o ddifri. Roedden nhw’n dilyn beth oedd yr apostolion yn ei ddysgu, yn rhannu popeth gyda'i gilydd, yn cydfwyta a dathlu Swper yr Arglwydd gyda'i gilydd ac yn gweddïo’n ddyfal....