Welsh Blogs.com


Lluniau o Gapel Ebeneser, Penparcau via Aberdare Blog February 13th, 2008 at 12:31

Wedi ychwanegu lluniau i’r Galeri o Gapel Ebeneser, Penparcau, ger Aberystwyth. Capel bach eithaf syml o ran bensaerniaeth yw Capel Ebeneser. Ceir llun o du fewn Capel Ebeneser yma (fel rhan o luniau Flickr Lyn Dafis) Adeiladwyd Capel Ebeneser ym 1848 ac fe’i ail-adeiladwyd ym 1938. Yn o+l Gwefan Capel y Morfa, Aberystwyth (Capel Presbyteraidd) Roedd gweithgarwch amlwg ym mhentref Penparcau mor gynnar ag 1812, pan oedd Ysgol Sul yn cael ei chynnal yng nghartref Richard Hugh. Yn 1848 codwyd capel yn gangen i’r Tabernacl, a’i alw’n Ebeneser. Wedi 90 mlynedd, ac yn wyneb twf y boblogaeth yn yr ardal, penderfynwyd codi capel newydd, ac agorwyd yr Ebeneser presennol ar 14 Mehefin......