Welsh Blogs.com


Morbid? via Wierdo November 11th, 2008 at 17:36

Annwyl syr/madamYmddiheuraf am ysgrifennu mor ffurfiol. Mae'n debygol iawn fy mod yn eich adnabod yn dda, ond gan nad ydwyf yn gwybod pwy ydych chi eto oherwydd na allaf weld i'r dyfodol, mi'ch cyfeiriaf tuag atoch yn ffurfiol fel hyn. Mae gennych swydd anodd, rwy'n ymddiheuro am hyn. Ond fel person sydd fwy na thebyg yn agos iawn ataf, mi fyswn yn ddiolchgar iawn petaech yn trefnu angladd gwerth chweil i mi gan fy mod yn, wel, gwych! Nid ydwi'n ysgrifennu atoch er mwyn creu trafferth; dyna'r peth olaf sydd ar fy meddwl. Tydwi ddim eisiau rhestru pop manylun am f'angladd fy hun - rwy'n eich ymddiried yn llwyr gogyfer a hynny.Ysgrifennu atoch ydwi, er mwyn datgelu mod wedi dewis can angladd. Dyma'r oll mae'r ifanc yn meddwl am angladd - pa gan a gaiff ei chwarae sydd yn mynd i grisialu fy...

Trenflogio via Wierdo February 16th, 2008 at 14:35

Yn aml iawn pan dwi ar drenau (neu amryw o sefyllfaoedd cyhoeddys eraill) dwi'n creu rhyw fath o fyd ffantasi i fi fy hun.Mae'r byd yma bron union yr un peth bob tro.Mae'n dechrau gyda bachgen. Mae'n rhaid iddo fo fod yn fy ngwynebu neu dio'm yn gweithio. Ma'n llygid ni'n cwrdd am hanner eiliad a dyna fi off yn syth i fyd ffantasi ffilmiau. Dau berson ar dren yn cwrdd ac yn disgyn mewn cariad. Fflyrtio, penegliniau'n taro, llygaid yn cwrdd.A mi wn yn iawn fod gin i gariad a mod i ar y ffordd i'w weld o felly mae disgyn mewn cariad ar y ffordd yno yn anghyfleus iawn ond does gan fy ffantasi ddim byd i'w wneud efo bod yn hapus efo John neu beidio. Y rheswm dwi'n cal y ffantasis hyn ydi achos mod i'n darllen gormod ac yn gwylio gormod o deledu. A dwi'n methu dechra perthynas. maethu'r dod i...

Cariad via Wierdo June 29th, 2007 at 20:52

Mana ambell hogyn sydd yn gallu tanio f'enaid a toddi'ng nghoesa. Ma David Tennant yn amlwg yn un. Ma Ceri anweledig yn un arall. Peidiwch a gofyn i mi pam, dydun nhw ddim o reidrwydd yn handsym iawn ond pan manw'n gwenu dwi'n eu caru nhw am byth. Dim cwestiynnau, dim meddwl ddwywaith, dim syniad pam. Dwi'n nabod un ne ddau arall a ma'n rhaid mi ddiolch i dduw nad oes gan unrhyw un ohonyn nw ddiddordeb yddof. Gin i gariad ers tair mlynedd a dwin hapus iawn diolch yn fawr. Dwin llwyddo i neud digon o betha gwirion heb gymorth sylw gan ambell berson anhygoel!!Sgwrs mana genod efo'r un attributes. Allai ddim meddwl am unrhyw un sydd yn enwog yn anffodus a dwi ddim yn siwr os ddylwn i lincio iddyn nhw yma. Tydwi ddim eisiau pobl yn trio fy setio fyny a tydwi ddim eisiau'r rhai sydd ddim ar y...

Teulu via Wierdo May 7th, 2007 at 15:39

Priodas Taid a Nain: Y ganfed briodas yn Eglwys Corris, 4ydd Ebrill 1950 Dwi, fel amryw o bobl erill yn falch iawn o fy nheulu. Dwi wedi bod erioed. Dwi'n cofio pan oeddwn i'n fach, mi oni am farddoni fel taid a mi onin cal cryn lwyddiant (yn fy marn bach bersonnol i) tan oeddwn i'n rhyw 12 oed. Wedyn mi ath y ddawn i rywle er fod yr awydd i sgwennu dal yn bodoli yn fy mlogiau ac fy nghaneuon. Yn wir, taid sydd wedi ysbrydoli'r blog yma gan mod i newydd orffen darllen ei nofel: Marged.Mae wedi cymryd sawl mis i mi ei orffen, fel yr oeddwn yn disgwyl o edrych ar maint y nofel! Dwi ddim yn un am ddarllen nofelau cymareg gan eu bod yn dueddol o fod yn drwm. Ond nid felly mo'r nofel yma. Mi lwyddish i ddarllen hanner y nofel mewn un penwythnos yn Lerpwl. Dim ond diogrwydd a diffyg awydd...

Teledu ganol dydd via Wierdo February 28th, 2007 at 16:19

Dwi'n eistedd yma o flaen y teledu yn byw bywyd i'r llawn. Ddim yn codi tan amser cinio, prin yn gadael y ty oni bai am i fynd allan i feddwi, yn treulio'r diwrnod cyfan o flaen sgrin. Boed hwnnw yn sgrin deledu neu gyfrifiadur (neu'r ddau yn yr achos yma).Mana drefn dyddiol sydd yn helpu rhoi trefn i'r diwrnod. Neibys, Doctors a Diagnosis Murder. Wedyn ambell i raglen wahanol fel Sudo-q, Countdown a qavanna QC. Wedi gwylio sudo-q am y tro cyntaf erioed heddiw a sylweddoli ei fod o lot haws na beth sydd yn y papurau newydd gan nad oes gymaint o sgwariau (ar y mwyaf, 6x6 yw'r grid yn sudo-q yn hytrach na'r 9x9 arferol). Derbynniaf, dyw'r cwestiynnau ddim ynhawdd iawn, gan nad yw fy ngwybodaeth gyffredinnol mor wych na hynny. Er gwaethaf hyn, dwi'n hanner ystyried ceisio bod ar y gyfres...

Blog bersonnol via Wierdo February 26th, 2007 at 21:21

Fel mae'r teitl yn awgrymu, ma'r blog yma yn mynd i fod yn un personnol iawn. Dwi fel arfer yn cadw petha' felma i fy hun, ond am rhyw reswm, dyw sgwennu yn fy nyddiadur heb gael hwn oddi ar fy meddwl. Sgwennu can fysa'r opsiwn arall wrth sgwrs, ond sgin i ddim ysbrydoliaeth gerddorol, a fysa fo ddim yn gwneud can dda iawn bethbynnag.Weithiau mana betha' yn f'ypsetio. A pan ma hyn yn digwydd, ma'r byd ar ben. Allai ddim peidio crio, allai ddim gweld yr ochr olau, ac i mi mae biahfio fel plentyn newydd golli tegan yn gwbwl iawn. Dyna'r unig beth i'w wneud.Wrth sgwrs, wrth edrych yn ôl wedyn, dwi'n teimlo'n wirion. Fel ffwl. A dwi'n gaddo y wnai weld be sydd yn digwydd i mi'r tro nesa; gweld mai hormons yn unig sydd yn gwneud i mi or-ymateb yn y fath ffordd.A phan ddaw'r tro nesa, dwi'n...