Derbyn anrheg am yr eildro via Blog Dogfael
Derbyniais anrheg heddiw yr oeddwn i wedi ei derbyn unwaith o’r blaen dros ddeng mlynedd yn ôl. Yn 1996 roedd cyfaill annwyl wedi rhoi anrheg i mi, sef copi o lyfr James Nicholas ar Waldo Williams yn y gyfres Bro a bywyd. Roeddwn i wedi dwlu ar y llyfr ac wedi’i ddarllen a’i ail-ddarllen drosodd a thro. Roedd yn ddiddordeb i mi oherwydd fy nghysylltiad i â Waldo, Mynachlog-ddu a Sir Benfro. Yn ychwanegol at hynny dyma efallai y peth agosaf at fywgraffiad Waldo sydd ar gael. Ond am ryw reswm fe aeth y llyfr ar goll. Roeddwn i wedi credu ei fod ar goll ym Mhlas-yn-Dogfael – ar ryw silff, neu mewn rhyw gwpwrdd lle nad oeddwn i yn medru ei weld – ond ar ôl chwilio a chwilio roeddwn i wedi ildio. Credwn nad oeddwn yn mynd i ddod o hyd iddo eto hyd nes y byddwn yn symud ac i ddweud... Llwyddiant i Gymro via Blog Dogfael
Sanhedrin via Blog Dogfael
Dwi newydd wrando ar Gwilym Owen yn adolygu’r wasg wythnosol ar raglen Post cyntaf BBC Radio Cymru ac mae un cwestiwn wedi codi yn fy meddwl: oes ‘na gymal yng nghytundeb Gwilym Owen gyda’r BBC sy’n golygu ei fod yn gorfod cynnwys y gair sanhedrin mewn pob cyfraniad? Mae’n ymddangos felly i mi gan ei fod wedi defnyddio’r gair unwaith eto y bore ‘ma. Efallai ei fod yn gwneud hynny fel rhan o gêm wyrdröedig gyda’i gyfeillion yn y byd darlledu. Ond diolch amdano, oherwydd mae’n debyg taw dim ond Gwilym Owen a’i ffans sy’n gwybod beth yw ystyr y gair erbyn hyn ac yntau yw’r unig un sy’n ei ddefnyddio’n gyson.
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhanna hwn...
Morfablog 2001 - 2008 via Morfablog
Mae saith mlynedd yn hen ddigon, ond yw hi?
Mae byd y we Gymraeg, a’r we ehangach, wedi newid sut gymaint yn y ddwy, tair blynedd ddiwethaf i wneud blog fel hyn teimlo’n hen ffasiwn, ac yn stodgy, braidd.
Bydd blog newydd cyn bo hir, gyda ffocws newydd. Bydd y dolenni di-dôr dal yn cyrraedd del.ico.us, [...]...
Bag ysgwydd newydd via Blog Dogfael
Mae fy mag ysgwydd wedi torri oddi ar fy ymweliad â Brwsel dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd ac ers hynny dwi wedi bod yn cario fy mhwts arian, camera, llyfr nodiadau, &c. o gwmpas mewn sach archfarchnad o Frwsel y gellir ei hail-ddefnyddio. Ond roeddwn i’n gweld eisiau fy mag ysgwydd yn fawr ond wedi methu dod o hyd i siop yn Aberystwyth a oedd yn darparu rhai i’r ddau ryw. Bues i mewn sawl siop ond roedd y bagiau i gyd yn rhy ferchetaidd, hyd yn oed i fi! O’r diwedd fe fues i’n chwilio ar y we a dod o hyd i fagiau a wneir gan gwmni Jost o’r Almaen. Penderfynais fuddsoddi mewn bag ysgwydd bychan du mewn cynfas yn y gyfres Gobi. Dyma sut mae’n ymddangos ar wefan y cwmni – y lliw yn y llun yw ‘Oliv’, ond dwi wedi cael... Mwy fyth o deledu via Blog Dogfael
Er mawr gywilydd imi dwi newydd wylio rhaglen deledu arall. A hithau’n dymor y Garawys dylwn i fod yn osgoi temtasiynau o’r fath, ond mae arlwy S4C y dyddiau hyn yn gorfodi rhywun i wylio. Heno roedd ‘na raglen am Jennie Eirian Davies yn cael ei darlledu o dan y teitl syml Jennie (Cambrensis). Roeddwn i’n gwybod fod y rhaglen ar y gweill ers tipyn gan fod yr actores oedd yn portreadau Jennie Eirian yn y rhaglen, Rhian Morgan, wedi dweud wrtha i ei bod hi’n mynd i wneud y gwaith pan ddaeth hi i fyny i Aberystwyth i fynd i’r Llyfrgell Genedlaethol i wneud darllen cefndir amdani. Ni chefais fy siomi gan berfformiad Rhian Morgan; er nad oedd yn ceisio ei dynwared yn union dwi’n credu ei bod wedi llwyddo i gyfleu y person oedd Jennie Eirian Davies. Fe... Methu cysgu via Blog Dogfael
Offeren requiem y Tad John FitzGerald via Blog Dogfael
Heddiw fe fues i yn ngwasanaeth coffa, neu offeren requiem, y Tad John FitzGerald. Fe wnes i ysgrifennu pwt am John pan bu farw ‘nôl ddiwedd mis Tachwedd 2007. Cynhaliwyd ei angladd yr ochr draw i Lundain, yn Aylesford, swydd Caint. Dyna gartref Urdd y Carmeliaid ym Mhrydain ac yn draddodiadol dyna lle y caiff holl aelodau’r urdd eu claddu. Ond yr oedd John hefyd yn bendant perthyn i Gymru ar ôl yr holl flynyddoedd y treuliodd yn gweinidogaethu yma. Yr oedd hefyd yn perthyn i’r Gymru Gymraeg yn benodol fel rhan allweddol o genhadaeth yr Eglwys Babyddol i siaradwyr Cymraeg yn ail hanner yr C20.
Roedd Eglwys Gatholig Rufeinig Mair Arglwyddes yr Angylion a Gwenfrewi yn llawn ar gyfer yr offeren. Fel y disgwyl roedd llawer iawn o babyddion Cymraeg amlycaf Cymru yno yn y... Merched y Wawr, Llanfarian via Blog Dogfael
Dydd Mercher (2008-01-09). Heno fe fues i’n annerch cyfarfod o Ferched y Wawr yn Llanfarian, ger Aberystwyth. Roeddwn i wedi cael gwahoddiad ers misoedd i ddod yno er mwyn siarad am ddathlu’r flwyddyn newydd. Fe wnes i siarad wrth gwrs am y traddodiad yng Nghwm Gwaun o gadw’r Hen Galan, 12 Ionawr. Mae’r arfer hwn yn dyddio yn ôl i’r hyn a ddigwyddodd yn 1752 pan fabwysiadwyd calendr Grigor yn hytrach nag un Iŵl. Golygodd hynny golli diwrnodau o’r calendr swyddogol, ond mynnodd y werin oedd yn grediniol fod rhywun wedi dwyn y dyddiau oddi arnynt i barhau i ddathlu’r gwyliau ar yr hen adeg draddodiadol – ar 12 Ionawr yn achos Dydd Calan.
Cefais groeso twymgalon gan yr aelodau yn Llanfarian ac fe wnaethon nhw wrando yn astud ar yr hyn oedd gennyf... Hunanoldeb y blogiwr via Blog Dogfael
Mae ‘na lawer o bobl sy’n credu taw dim ond esgus am hunan-hyrwyddiad hunan-ganolog ac egotistaidd yw gweflog. Ac er mwyn profi’r beirniaid hynny’n gywir dyma 12 hunan bortread y tynnais i yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth heno gan ddefnyddio’r camera ar fy ffôn symudol.
Rhagor o luniau o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Note: You can rate this post by visiting the site.
Rhanna hwn... Erthygl am John Fitzgerald yn Golwg via Blog Dogfael
Roedd ‘na erthygl am John FitzGerald yn y cylchgrawn Golwg yr wythnos hon. Doedd hi ddim yn erthygl hir iawn, ond yr hyn oedd yn ddiddorol am yr erthygl oedd sylwadau Daniel Huws oedd yn cael eu dyfynnu fel rhan o’r erthygl. Mae pawb yn gwybod fod John, ar ôl bod yn Aberystwyth am ddeugain mlynedd, wedi symud i Lanelli yn ôl penderfyniad ei urdd. Roedd llawer o’r rhai oedd yn adnabod John wedi credu i hynny fod yn anodd ac roedd Daniel Huws yn cadarnhau hynny.
Pan orfodwyd ‘y Tad Fitz’ i adael Aberystwyth, roedd pobol leol yn protestio ond, yn ôl Daniel Huws, roedd y ffordd yr ymatebodd yr offeiriad yn nodweddiadol ohono.
“Roedd John yn ddig,” meddai, “ond wnaeth o ddweud, ‘mi gymerais fy llw i fod yn aelod o’r Urdd ac mae bod yn ufudd yn rhan o’r...
Anrhegion Nadolig cynnar via Blog Dogfael
Dwi wedi cael fy anrhegion Nadolig cyntaf eleni, sef dau far o siocled o’r Almaen. Dwi’n ofni fy mod hefyd wedi’u hagor a’u bwyta – roedden nhw’n flasus dros ben. Roedd y siocled yn arbennig am ei fod wedi’i lapio mewn papur gyda golygfeydd o Mannheim yn yr Almaen arnynt. Roedd un yn dangos Schloss Mannheim a’r llall yn dangos y Mannheimer Wasserturm. Diolch Dr WVD!
Note: You can rate this post by visiting the site.
Rhanna hwn... Goian bego, John Fitzgerald via Blog Dogfael
Ddydd Iau fe glywais fod John Fitzgerald, neu Y Tad John Fitzgerald O.Carm, wedi marw ac fe gadarnhawyd hynny ddoe. Bu farw’n weddol sydyn, ac fe ddaeth yn dipyn o sioc i glywed y newyddion. Ond mae’r tristwch wedi’i gymysgu gyda llawenydd gan fy mod yn gwybod am ffydd gadarn John a’i dystiolaeth bendant a chyson fod angau wedi’i orchfygu gan fuddugoliaeth Iesu. Mae’n ‘na atgofion melys hefyd am ŵr a oedd yn gwbl echreiddig a chwbl normal ar yr un pryd. Des i adnabod John wedi dod i fyw yn Aberystwyth ac yn arbennig felly oherwydd ein diddordeb cyffredin mewn Basgeg. Cefais bron i bymtheng mlynedd o’i gymdeithas ac i ni oedd yn byw yn Aberystwyth fe welwyd ei golli pan symudodd i Lanelli rhyw bedair blynedd yn ôl, ond nawr mae’r... Cadair ar y stryd yn Aberystwyth via Blog Dogfael
Mae unrhyw un sy’n adnabod Dogfael yn dda yn gwybod taw ‘rhagfarn’ yw ei gyfenw. Mae ‘na bethau mewn bywyd sy’n fy nghythruddo’n lân, pethau y dylen i sylweddoli fod bywyd yn llawer yn rhy fyr i wneud hynny. Dyma restr fer iawn o rai o’r pethau hynny:
cynorthwyydd wedi’i sillafu cynorthwy-ydd;
trafod patios a ffenestri dwbwl;
criced;
seiclo y ffordd anghywir ar hyd stryd unffordd;
ymchwilwyr o’r cyfryngau yn credu bod dweud ‘ti’ yn arwydd o gyfeillgarwch;
banciau sy’n cynnig benthyciadau i rywun sydd ond wedi llwyddo talu ei orddrafft rhag ofn i’r stad o beidio â bod mewn dyled fod yn or-ddeniadol.
Ond does dim sy’n fy nghythruddo yn waeth na’r arfer o osod ‘pethau’ ar y stryd i gadw... Cwis yr Adran Gymraeg 2007 via Blog Dogfael
Llynedd fe ges i’r pleser o gael gwahoddiad i drefnu cwis ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf yr Adran Gymraeg. Digwyddodd yr un peth eleni eto a wn i ddim am y myfyrwyr a’r staff oedd yno, ond mae’n rhaid imi ddweud fy mod wedi mwynhau mas draw. Mae rhywbeth yn gyffrous am gwrdd â myfyrwyr sy’n dechrau ar eu gyrfa yn y coleg; mae rhai yn nerfus ac ychydig bach yn swil, ond maen nhw i gyd yn llawn menter ac antur wrth i bob dydd ddod â phrofiad newydd. Dwi’n gobeithio felly nad oedd eu profiad ohonof fi yn ormod iddyn nhw. Roedd nifer dda o’r staff yno gan gynnwys dau oedd wedi fy nysgu i pan wnes i astudio Cymraeg flynyddoedd maith yn ôl bellach. Y goron ar y noson i mi oedd cyfle i sgwrsio gydag un neu ddau o fyfyrwyr, ac unwaith eto roeddwn wrth fy... Sylwadau yn cael eu cymedroli via Morfablog
Sori am hyn, ond mae rhywun sy wedi’i wahardd o maes-e, nawr wedi troi ei sylw at y blog ‘ma. Dw i wedi dweud wrtho fe troeon na fydda i’n gadael iddo fe bostio negeseuon yma, ond mae’n dal i wneud, sy jyst gwastraffu amser ein dau.
Get a blog,......
Ow via Morfablog
Bron â bod 10 mlynedd yn ôl i’r diwrnod, bues i wrthi symud ma’s o’m fflat yng Nghaerdydd. Cario bocs o lyfrau lawr stâr i’r fan o’n i wedi’i fenthyg am y dydd, wne si golli’r stâr ola a throi fy migwrn de yn wael iawn. Dw i ddim yn cofio poen fel ‘na o’r [...]...
Teimlo ychydig yn well via Blog Dogfael
Mae’n rhaid fy mod i’n teimlo’n well gan fy mod wedi gweld rhywbeth heddiw a wnaeth fy nghythruddo i’r fath raddau fel fy mod wedi anghofio am fy annwyd. Wedi tri diwrnod yn y gwely yn yfed fy ‘Lemsip’ generig o Superdrug a lemwn a mêl mewn dŵr poeth fe wnes fentro mas i’r byd mawr ac i’r gwaith. Erbyn amser cinio roeddwn i bron ag ildio, ond dyma gadw i fynd tan ddiwedd y dydd. Roeddwn i’n teimlo braidd yn wan, ond wrth gerdded yn ôl i Blas-yn-Dogfael dyma fi’n gweld rhywbeth ar y stryd a wnaeth imi sylweddoli fod ‘na bethau pwysicach i boeni amdanynt na’m hannwyd i. Roedd rhywun wedi gosod côn traffig yno er mwyn cadw lle iddo’i hun, fel petai’n berchennog ar y stryd yn ogystal â’r tŷ. Dim... Fandaliaeth via Blog Dogfael
Dwi ddim am swnio fel darllenydd y Daily mail, ond roedd gweld beth welais i fore Sul diwethaf (2007-07-08) yn dipyn o sioc, ac yn fy ngwneud i deimlo’n grac. Roedd rhywun neu rywrai wedi cymryd un o’r addurniadau blodeuog chwaethus oedd ar strydoedd Aberystwyth a cheisio ei daflu trwy ffenest siop goffi y Caban. Pam? Diawlineb – alla i ddim meddwl am unrhyw reswm arall. Efallai ei fod ymddangos yn ’sbort’ ganol nos, ond yng ngolau bore dydd doedd dim i’w weld ond fandaliaeth noeth.
Rhagor o luniau o fandaliaeth yn Aberystwyth.
Note: You can rate this post by visiting the site.
Rhanna hwn... Bedydd a chonffyrmasiwn via Blog Dogfael
Mae ‘na un hanes dwi wedi bod yn disgwyl am wythnosau i’w adrodd ar Flog Dogfael, sef hanes y gwasanaethau bedydd a chonffyrmasiwn a gynhaliwyd yn Eglwys y Santes Fair yn ddiweddar - ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf. Nid ydym yn cael gwasanaethau bedydd yn aml iawn, ond roedd cael pump o bobol yn cael eu bedyddio yr un pryd yn hynod iawn. Oherwydd fod pedwar ohonyn nhw wedi gofyn am gael bedydd trochiad, yn hytrach na thaenelliad, roedd yn rhaid inni gynnal y gwasanaeth yn adeilad Eglwys S Mihangel yn y plwyf sydd â bedyddfa addas ar gyfer y gwaith. Fel rhywun a fagwyd o fewn i’r traddodiad Bedyddiedig mae bedydd i mi yn cael ei gysylltu gyda phenderfyniad unigolyn i fod yn ddisgybl i Iesu a’r dymuniad i’w ddilyn yn gryf iawn. Mae llawer mwy i sacrament... Pleserau dirgel via Blog Dogfael
Tra roeddwn i yn yr Ysgol Haf ym Mangor fe gefais gyfle i fwynhau un o’m pleserau dirgel, sef crwydro o gwmpas “tŷ” rhywun arall yn pipo o gwmpas ac yn gweld beth welwn i. Oherwydd yr Ysgol Haf roedd hi’n bosib mynd i mewn i rai ystafelloedd na fyddai ar agor fel arfer. Un o’r rheiny oedd Ystafell y cyngor. Treuliais ryw hanner awr yn mynd o bortread i bortread ac yn eistedd yn y gadair hon a’r gadair arall. Dyna ichi Syr Wynn Wheldon, yr Athro Eric Sunderland a’r Ustus William Mars-Jones – pob un ohonyn nhw wedi cyfrannu yn eu ffordd eu hunain i fywyd ein cenedl.
Dwi’n credu taw’r tro olaf imi fod yn agos i Ystafell y cyngor ym Mangor oedd dros bum mlynedd ar hugain yn ôl pan roedd y coleg yn ferw oherwydd ymgyrchu Undeb Myfyrwyr Colegau... Edrych i mewn i fy llygaid fy hun via Blog Dogfael
Dyma un arall o’r ffotograffau hynny sydd wedi fy nilyn trwy fy mywyd. Tynnwyd y llun mewn stiwdio yn Aberteifi fis Awst 1961 (dwi’n credu) i nodi fy mhen blwydd – roeddwn i’n un flwydd oed ar y pryd. Dwi’n cofio edrych ar y llun hwn droeon gyda fy mam ac fe fyddai hi wastad yn adrodd yr hanes amdana i yn gwrthod bod yn llonydd a taw’r unig ffordd y gellid fy ngwneud i eistedd yno’n dawel oedd rhoi ei phwrs arian imi chwarae gydag e. Yr hyn sy’n nharo i am y llun hwn pan dwi’n edrych arno yw’r ffordd y mae llygaid pob un yn edrych i mewn i’r camera ac o’r herwydd yn edrych yn syth i mewn i lygaid y syllwr. Rydyn ni’n ei wneud pob tro yr ydym yn edrych ar ffotograff o ni’n hunain, ond mae edrych i mewn i fy... Ffotograff o briodas fy rhieni via Blog Dogfael
Mae ffotograffau yn bwerus. Mae pob ffotograff yn rhewi amser, ond fel arfer dyw hynny ddim yn bwysig, Fel arfer, does dim ots os gafodd llun ei dynnu ddwy awr, dau ddiwrnod, neu ddeufis yn ôl. Ond gyda rhai lluniau mae’n gwneud byd o wahaniaeth. Ffotograff fel ‘na yw hwn. Dwi’n siŵr fod ffotograffau o’r fath yn rhan o fywydau pawb. Dyma lun fy nhad a’m mam adeg eu priodas. Bu farw fy mam dros bum mlynedd ar hugain yn ôl a’m tad dros bymtheg mlynedd yn ôl. Ac eto pan dwi’n edrych ar y llun hwn mae’r ddau yn fyw. Dwi wedi edrych arno droeon ers imi gael ei fenthyg gan fy mrawd i’w sganio, a bod tro dwi’n edrych arno mae dagrau yn dod i’m llygaid. Dwi ddim yn boichen, ond mae ‘na ddagrau.
Un o’r rhesymau am y... Esgidiau newydd via Blog Dogfael
Efallai i’r normal yn ein plith mae mynd mas i brynu dillad a phethau tebyg yn bleser pur. Cyfle i fynd o siop i siop yn edrych ar y nwyddau a chymharu prisoedd a gwneud y dewis doeth. I’r annormal, a dwi’n cyfrif fy hunan yn un o’r rheiny yn bendant, mater o raid yw prynu pethau felly ac mae hynny’n medru bod yn drafferth. Byddaf yn prynu fy nillad o siopau arbenigol trwy’r post, ond heddiw fe fues i’n prynu esgidiau yn Aberystwyth. Fel arfer byddaf yn eu prynu yn siop Clarks yn y Stryd Fawr, a hynny am ddau reswm. Yn y lle cyntaf maen nhw’n cynnig gwasanaeth Cymraeg heb ei ail yn ystod yr wythnos (ar y penwythnos bydd myfyrwyr yn gweithio yno ac felly mae’n fwy o hap a damwain os ydych chi’n cael rhywun sy’n siarad... Polperro, Totnes a Dartington via Morfablog
Lluniau Flickr o’r penwythnos diwetha.
Cawson ni benwythnos penigamp gyda theulu Philippa. Nos Wener gyda ei chwaer, ei merch hithau, a’i theulu ifanc hithau, sydd i gyd yn byw ym Mholperro, Cernyw. Wedyn ddydd Sadwrn i Totnes, Dyfnaint, i gwrdd â chwaer arall Philippa, ei phartner a’i phlant, ar gyfer Darlith Coffa Bina Gibson, sef mam [...]...
Fy nhroli siopa via Blog Dogfael
Heddiw fe fues i mas yn gwario arian a’r peth mwyaf a brynais i oedd troli siopa. Dyma’r tro cyntaf imi brynu troli siopa ond fe es i am un o’r goreuon. Er bod trolïau siopa yn cael eu cysylltu gyda hen wragedd gyda sgarffiau ar eu pennau mae ‘na resymau digon ymarferol dros gael un. Erbyn hyn mae siopau bwyd ac anghenion eraill bob dydd yn symud yn bellach ac yn bellach o ganol y dref yn Aberystwyth. Dwi’n ei gweld hi’n dipyn o daith i gario bagiau trymion o siop Lidl neu Somerfield yn ôl i Blas-yn-Dogfael ac felly dyma feddwl pa ddatrysiadau posib oedd. Os ych chi’n gwario digon fe fydd Somerfield yn fodlon dod â’r negeseuon i’ch cartref, ond mae’n rhaid cynllunio hynny’n ofalus ac weithiau pan fyddwch chi’n... Hynodrwydd Hammill via Morfablog
(Nid mwy o’r hen rwtsh yma, siwri, Nic?)
Dyma ni nôl eto; mae bywyd â blas tipyn bach mwy dwfn arno ar hun o bryd, gan fod Philippa yn yr ysbyty adennill ei nerth ar ôl llawdriniaeth ddoe. Mewn hanner awr, bydda i ar fy ffordd i Fronglais i’w gweld.
A’r bore ‘ma, dyma CD newydd Peter [...]...
Lefelo i fyny via Morfablog
Es i ar glorion y stafell molchi y bore ‘ma, a ches i’r newyddion drwg am y penwythnos bendigedig.
Yn lwcus iawn, daeth hyn yn y ffrwd RSS.
Well i mi weithio ar INT, hefyd, a pheidio yfed a bwyta cymaint. Byddai cael set iach o ystadegau cyn i mi gyrraedd lefel 40 yn syniad da....
Hunanladdiad yn y rhithfyd via Morfablog
Fy enw i yw Nic, a dw i’n gaeth i gemau cyfrifiadurol.
Heno, dw i wedi dileu fy nghymeriad yn Myd Crefft Rhyfel, a rhoi’r disgiau i Philippa i roi i Oxfam. Dw i ddim yn gwybod unrhyw ffordd arall o dorri fy nghaethiwed. Wrth i mi chwarae’r gêm ‘na, dw i wedi colli diddordeb ym [...]...