Welsh Blogs.com


Llythyr i’r Pedair Tudalen via Blog Rhys Llwyd June 4th, 2008 at 14:07

Mae'r Pedair Tudalen, sef pedair tudalen cyffredin y tri papur enwadol wythnosol wedi cyhoeddi llythyr o'm heiddo i wythnos yma. Gan y tybiaf mae bychan iawn yw nifer darllenwyr y blog sydd wedi tanysgrifio i'r Goleuad, Y Tyst neu Seren Cymru dyma gyhoeddi'r llythyr yma hefyd. Gosod her ac nid beirniadu oedd diben y llythyr ond rwy'n barod am "frosty responce" ys dywed y Sais:Annwyl Olygydd, Cynhyrfus yn wir oedd clywed yr Annibynwyr yn ddiweddar ar donfeddi'r BBC yn beirniadu Esgobaeth Tŷ Ddewi am ddiffyg dwyieithrwydd yn eu caffi a'u canolfan groeso newydd. Mwy cynhyrfus byth oedd clywed yr Annibynwyr eto fyth yn galw ar Eglwys Loegr i ymddiheuro am ferthyru John Penry, ein John Penry ni, nol yn 1593. O roi fy mhen ar y bloc maen debyg y buaswn yn cymryd ochr yr Annibynwyr yn y ddau...

Ar y Diwrnod hwn: Gorffennaf 2 via Blog Rhys Llwyd July 2nd, 2007 at 23:22

image Gorffennaf yr ail, diwrnod diddorol. Ar y diwrnod hwn yn 1644 y digwyddodd Brwydr Marston Moor – un o frwydrau enwocaf a mwyaf arwyddocaol Rhyfel Cartref Lloegr. Wedi i'r Seneddwyr drechu'r Brenhinwyr nepell o ddinas Efrog roedd y Seneddwyr yn rhydd, wedi i'r Brenhinwyr a oroesodd y frwydr ffoi i'r de, i gipio dinas Efrog cadarnle olaf y Brenin yn y Gogledd. Dyma frwydr arall lle gwelwyd Oliver Cromwell yn dod i amlygrwydd – llwyddodd i gyfeirio ei reng ef yr holl ffordd o amgylch y Brenhinwyr gan eu taro o'r cefn a rheng Fairfax yn eu taro o'r blaen. Maen siŵr ei bod hi wedi bod yn uffern ar y ddaear, yn llythrennol, i'r Brenhinwyr y diwrnod hwnnw. Ar y diwrnod hwn hefyd yn 1853 y dechreuodd Rhyfel y Crimea wrth i Rwsia ymosod ar Dwrci.Ond mae yna bethau cadarnhaol i'w dweud am y...

Pamffledi’r Piwritaniaid via Blog Rhys Llwyd June 27th, 2007 at 04:50

Dwi ddim wedi sôn ar y blog am fy ngwaith ymchwil ers tro. Felly, gan wybod bod fy nhiwtor yn darllen y blog o dro i dro, dyma sôn am yr hyn dwi wedi bod yn darllen dros yr wythnosau diwethaf. Dwi, o'r diwedd, wedi gorffen cropian drwy gyfrolau sychion Thomas Richards a bellach wedi symud ymlaen i edrych beth sydd gan haneswyr eraill i ddweud am y cyfnod Piwritanaidd yn ogystal ac edrych ar weithiau'r Piwritaniaid eu hunain – ffynonellau gwreiddiol hynny yw. Gair am y rheini i ddechrau.Roedd y Piwritaniaid yn deall yn iawn beth oedd grym y gair printiedig. Dyna oedd asgwrn cefn y symudiad i ddweud y gwir sef gallu y werin bobl i edrych ar yr ysgrythurau drostynt hwy eu hunain a dod i argyhoeddiadau yn annibynnol o unrhyw Offeiriad neu awdurdodau Eglwysig. Yng ngeiriau Christopher...

Sadwrn Slobaidd via Blog Rhys Llwyd May 20th, 2007 at 11:29

image Dwi wedi cael diwrnod hollol ymlaciol heddiw, neu fel y byddai Mam yn disgrifio'r diwrnod; “Rhys, ti jest di bod yn slob heddiw.” Weithiau maen rhaid i chi gael diwrnod o beidio mynd i nunlle a pheidio gwneud dim byd o bwys yn toes? Dwi wedi bod yn cael ychydig o nostalgia heddiw drwy chwarae gemau cyfrifiadur – dwi byth yn cael cyfle i 'chwarae' ar y cyfrifiadur yn aml (er mod i ar y cyfrifiadur yn gwneud rhywbeth bob munud o'r dydd) ond pan dwi yn cael cyfle dwi'n gallu mynd yn hooked – chwarae am dridiau solet yna peidio cyffwrdd a gem am fisoedd. Ar hyn o bryd dwi yng nghanol y tridiau solet ond cyn y penwythnos yma doeddwn ni heb gyffwrdd a gemau ers cyn y Nadolig. (Dyna fy ymwadiad allan o'r ffordd rhag ofn fod fy nghariad neu fy nghyfarwyddwr ymchwil yn darllen hwn!)Y gem...

Annwyl Ioan Matthews via Blog Rhys Llwyd February 13th, 2007 at 07:00

Llawer un wedi cwyno fod y blog wedi bod yn dawel yn ddiweddar. Dwi di bod reit brysur rhwng gwahanol bethau. Y Piwritaniaid yn fy nghadw'n brysur rhan fwyaf o'r dydd a digon o bethau erill mlaen hefyd. Dwi'n trio helpu Menna cymaint fedrai yn y gwaith paratoi ar gyfer y rali dydd Sadwrn (dewch!) - dwi'n helpu i ffilmio a torri fideo ddogfen fer ar ran UMCA i chwarae yn y rali. Wrth gwrs, unwaith bydd hi'n barod fe rof hi fyny ar y blog i chi weld hefyd. Gig cyntaf Kenavo ers misoedd lawer nos Wener felly bydd rhaid meddwl paratoi rywfaint ar gyfer honno hefyd. Felly ar y cyfan wythnos brysur ac felly heb amser i sgwennu postiad difyr dim ond esbonio pam nad oes amser gyda fi roi postiaid difyr!Ond dyma rywbeth bach difyr i chithau sy'n dilyn yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg. Yn dilyn...

Bangor a Vavasor Powell via Blog Rhys Llwyd January 30th, 2007 at 22:20

Dros y penwythnos fuesi lan ym Mangor ym Mhrotest Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd. Roedd rhyw 150 yna a rhaid mi ddeud mae dyma'r brotest fwyaf lwyddiannus i mi ei fynychu gan y Gymdeithas ers y blynyddoedd. Wedi i drafodaethau gyda chwmni Morrisons dorri i lawr fe benderfynwyd eu targedu gyda phrotest. Yn ddiddorol ddigon dywedd y rheolwr "We don't have to provide welsh stuff, we are not oblijed by law to do so - your argument is with the Welsh office therefore" A'r Llywodrarth sy'n dweud nad oes angen newid y ddeddf gan y gwnaiff cwmniau cyhoeddus fel Morrision ddarparu'n ddwy-ieithog allan o ewyllys da - hurt.Isod wele fideo you tube o gasgliad o'r lluniau dynesi pan i lawr mewn lobi yn y Cynulliad cyn 'dolig ac yna lluniau o'r Brotest ddydd Sadwrn. Rhaid cael fy nanell...