Welsh Blogs.com


Sul y Maer, Aberystwyth 2008 via Blog Dogfael October 28th, 2008 at 21:52

image Roedd dydd Sul yn ddiwrnod arbennig yn Aberystwyth, sef Sul y Maer. Fel arfer bydd hyn yn digwydd fis Mai neu Fehefin, ond oherwydd ‘amgylchiadau’ roedd yn rhaid i’r dathliad gael ei ganslo. Yn y diwedd fe wnaeth y Cyng Sue Jones-Davies gael ei dewis i fod yn faer Aberystwyth am y flwyddyn 2008-09 ac felly cynhaliwyd y seremonïau sy’n gysylltiedig gyda chreu’r maer yn ddiweddarach na’r arfer. Fore Sul roedd dwy seremoni yn digwydd. Yn gyntaf roedd gorymdaith ddinesig o Neuadd y Dref o gwmpas prif strydoedd Aberystwyth wedi’i harwain gan y Seindorf Arian ac yn cynnwys y maer, cynghorwyr a chynrychiolwyr o fudiadau a chymdeithasau’r dref. Yna yn ail, yn dilyn yr orymdaith cynhaliwyd gwasanaeth byr i nodi fod y Cyng Sue Jones-Davies wedi...

Adam Price AS yn Aberystwyth via Blog Dogfael October 26th, 2008 at 22:27

image Nos Wener diwethaf roedd ‘na gyfarfod arbennig o gangen Aberystwyth a Phenparcau o Blaid Cymru yng nghanolfan Merched y Wawr. Roedd dau wedi dod i siarad sef Adam Price, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ac ymgeisydd seneddol Ceredigion, Penri James. Fe roddodd Adam Price arolwg o’r sefyllfa economaidd a’r ffordd allan o’r argyfwng presennol. Roedd ei ymdriniaeth yn feistrolgar, ond fel un nad yw’n deall cymaint â hynny am economeg mae’n rhaid imi gyfaddef nad oeddwn yn deall popeth yr oedd yn ei ddweud. Un o’r pethau allweddol yn ei gyflwyniad oedd yr angen am fuddsoddiad cyhoeddus mewn projectau mawr er mwyn creu swyddi ac er mwyn ceisio atal chwalfa economaidd. Roeddwn i’n rhyw hanner gobeithio y buasai’n sôn am ail-agor...

Polau piniwn Beaufort via blogMenai October 17th, 2008 at 19:13

image Mae fy nghyfaill Ordovicius wedi cynhyrchu tri phost tros y diwrnod neu ddau diwethaf yn ymdrin phol diweddar Beaufort sy'n ymdrin a bwriadau pleidleisio pobl yng Nghymru. Gellir eu gweld yma, yma, ac yma. Ymddengys i Sanddef gael oriau o hwyl di niwed gyda'r Excel. I dorri stori hir yn fyr mae canfyddiadau'r pol fel a ganlyn ymysg pobl sy'n dweud eu bod yn debygol o bleidleisio:Etholiad Cynulliad, Llafur 35%, Plaid 25.7%, Toriaid 19.8%, Democratiaid Rhyddfrydol 12.1%.Etholiad San Steffan, Llafur 38.7%, Plaid 18.3%, Toriaid 23.9%, Democratiaid Rhyddfrydol 12.6%.Ag ystyried perfformiadau diweddar y Blaid Lafur yn etholiadol bydd y canfyddiadau hyn yn gryn ryddhad iddynt. Roedd eu perfformiad yn yr etholiadau lleol eleni yn wirioneddol drychinebus, ac mae'r canrannau uchod yn awgrymu...

Cynhadledd Plaid Cymru 2008 via Blog Dogfael September 21st, 2008 at 21:46

image Dim ond wrth imi ffonio Sky TV neithiwr y sylweddolais i nad ydw i wedi dweud dim am gynhadledd Plaid Cymru a gynhaliwyd yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf. Rydyn ni ym Mhlas-yn-Dogfael yn derbyn ein teledu digidol trwy Freestat from Sky ond am ryw reswm roedd rhywbeth wedi mynd o’i le ar ein cerdyn gwylio. Y rheswm imi gael fy atgoffa o gynhadledd Plaid Cymru oedd am fod y wraig a atebodd y ffôn yn Freestat from Sky wedi dweud ei bod hi’n eistedd mewn swyddfa yn Dunfirmline. Wrth geisio gwneud sgwrs tra’r oedd hi’n gwirio rhyw fanylion amdanaf ar gyfrifiadur reit araf dyma ofyn pa mor agos yr oedd i etholaeth yr isetholiad. Roedd hi’n gwybod yn iawn fy mod i’n siarad am isetholiad Gleann Rathais (Glenrothes); felly mae’n rhaid fod y peth yn...

Isetholiadau Cyngor Tref Aberystwyth via Blog Dogfael September 19th, 2008 at 00:26

image Roedd heno’n noson brysur arall. Roedd dau isetholiad yn cael eu cynnal ar gyfer Cyngor Tref Aberystwyth – un yn ward Rhediol, a’r llall ym Mhenparcau. Roedd un wedi’i achosi gan ymddiswyddiad un o gynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol, a’r llall yn dilyn marwolaeth aelod annibynnol. Roedd y gorsafoedd ar agor tan 10.00pm ac wedyn roedd y cyfrif yn digwydd yn Neuadd Cadlanciau’r Môr yn ward Rheidol. Roedd y noson yn un dda i Blaid Cymru unwaith eto gan iddi gipio sedd Penparcau, ac fe gadwodd y Dem Rhyddiaid eu gafael ar sedd Rheidol. Ymgeisydd Plaid Cymru ym Mhenparcau oedd Owain Jones, a Sandra Oliver oedd yn chwifio’r faner dros Blaid Cymru yn Rheidol. Dyma’r canlyniadau: Penparcau Owain Jones PLAID CYMRU 171 LLAFUR 143 LIB DEM 46 Rheidol...

Pedwar egwyddor craidd Coleg Ffederal Cymraeg wedi ei esbonio via Blog Rhys Llwyd August 12th, 2008 at 12:35

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (4) via Blog Dogfael August 7th, 2008 at 06:09

image Wedi rhedeg trwy’r glaw o’r Senedd i Adeilad y Lanfa i weld yr offeryn statudol cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol ei awdurdodi roeddwn i’n barod am fy nghinio, ac felly hefyd fy nghyfaill RO. Roedden ni wedi bwriadu yn wreiddiol mynd mas o’r ddinas am ginio, ond yng nghanol y glaw – ac oherwydd inni dreulio mwy o amser o lawer yn crwydro’r Senedd nag yr oeddem wedi’i fwriadu yn wreiddiol – fe gawsom ni ginio mewn bwyty Pizza Express gerllaw. Roedd y lle yn edrych yn dawel yn y glaw, ond wrth inni eistedd yno fe wnaeth hwnnw beidio ac yn sydyn ymddangosodd torf ar ôl torf yn chwilio am fwyd ac yn crwydro o gwmpas gan ddod â bywyd i’r ardal. Wedi cinio roedd gennym un lle arall i’w weld. Bellach mae’n rhaid i’r rhai...

Hirwaun Mothers’ Union Visit National Assembly via Hirwaun Online August 6th, 2008 at 09:22

Plaid Cymru AM Chris Franks welcomed the Hirwaun Mothers’ Union to the National Assembly in Cardiff Bay. Over 500,000 visitors have visited the National Assembly last year, according to the latest report by National Assembly for Wales Commission. Chris Franks said: “I was very pleased to welcome Hirwaun Mother’s Union to the Senedd. More and more citizens [...]...

Cwrs y Byd? via Blog Dogfael July 18th, 2008 at 20:48

image Ydy ymddiswyddiad Rhodri Glyn Thomas fel Gweinidog Treftadaeth yn rhoi ystyr newydd i’r frawddeg “Cwrs y Byd”? Gwaeth o lawer na Chwrs y Pharo! Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Y dathlu yn parhau via Blog Dogfael July 12th, 2008 at 01:00

image Pedair awr ar hugain yn ddiweddarach a dwi’n dal i fod yn llawn cynnwrf wedi canlyniad yr isetholiad yn ward Rheidol gydag Aled Davies o Blaid Cymru yn cipio’r sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Fel mae’n digwydd dwi’n byw yn ward Rheidol ers deng mlynedd a mwy a dyma’r tro cyntaf inni fod â chynghorydd sir Plaid Cymru. Yn ail roedd yn fuddugoliaeth nodedig mewn ward lle mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn gryf iawn yn y gorffennol. Wrth gwrs roedd popeth wedi mynd yn eu herbyn y tro hwn – yn cynghorydd blaenorol wedi dewis ymddiswyddo oherwydd trosedd ryw, maer Aberystwyth yn ymddiswyddo oherwydd na chafodd ei dewis yn ymgeisydd, a’r ymgeisydd a ddewiswyd yn gweithio yn Llundain am bedwar diwrnod yr wythnos. Ar ben hyn i gyd roedd...

Dogfen hanesyddol via Blog Dogfael July 12th, 2008 at 01:08

image Dyma’r papur pleidleisio ar gyfer yr isetholiad cyngor sir yn ward Rheidol a enillwyd gan Aled Davies o Blaid Cymru, 10 Gorffennaf 2008. Roedd yn rhaid imi ddefnyddio’r gwreiddiol i bleidleisio! Ond dwi’n falch imi wneud copi fel swfenîr o’r digwyddiad hanesyddol hwn yng ngwleidyddiaeth Aberystwyth. Bellach Plaid Cymru sy’n dal tair o’r chwe sedd yn ardal Aberystwyth a Phenparcau, y Dem Rhyddiaid â dwy, ac un aelod annibynnol. Cyn etholiad Mai 2008 dim ond un aelod cyngor sir oedd gan Blaid Cymru yma. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Buddugoliaeth! via Blog Dogfael July 10th, 2008 at 23:57

image Aled Davies o Blaid Cymru, cynghorydd sir newydd ward Rheidol, Aberystwyth Dwi’n gwybod bod fy mlog wedi bod yn dawel iawn dros yr wythnos neu ddwy a aeth heibio.. Y rheswm am hynny wrth gwrs yw fy mod wedi bod yn brysur yn gwneud pethau eraill. Un o’r pethau hynny oedd bod yn rhan o’r tîm yn gweithio dros Aled Davies yn isetholiad cyngor sir ward Rheidol. A dwi newydd glywed fod yr holl waith a wnaeth Aled a’i gefnogwyr wedi dwyn ffrwyth. Mae Plaid Cymru wedi cipio sedd cyngor sir Rheidol oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd y sedd yn arfer bod yn un cwbl ddiogel i’r Dem Rhyddiaid, ond ddim bellach. Dyma’r canlyniad. Aled Davies PLAID CYMRU 271 Alec Dauncey LIB DEM 252 Carol Ann Kolczak ANNIBYNNOL 98 Richard Boudier LLAFUR 36 Luke Evetts TORI...

Jane Hutt yn ateb y llythyr agored am Goleg Ffed Cymraeg via Blog Rhys Llwyd July 8th, 2008 at 21:41

Maen dda adrodd fod Jane Hutt, y Gweinidog Addysg, wedi ateb y llythyr agored gan yr academwyr ar fater Coleg Ffederal Cymraeg. Dyma oedd gan Sonia Davies (Swyddog Polisi Addysg Uwch), ar ran Jane Hutt, i ddweud mewn ymateb:“Diolch am eich llythyr diweddar at y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, yn nodi eich safbwyntiau ar nodweddion Coleg Ffederal Cymraeg. Gofynnwyd i mi eich ateb.Rwy'n nodi'ch awgrymiadau i gael cyfansoddiad annibynnol a strwythur statudol, ac yn nodi pa mor bwysig yn eich tyb chi yw cael Coleg Cymraeg ar sawl safle. Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi'r camau nesaf yn fuan tuag at gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Cymru'n Un i sefydlu rhwydwaith Coleg Ffederal Cymraeg. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith y mae'r Grŵp Sector Addysg Uwch...

Hynt a helynt darlithio yn Undeb yr Annibynwyr via Blog Rhys Llwyd July 4th, 2008 at 22:28

Fuesi lawr yn Abertawe heddiw yn rhoi'r ddarlith hanes yn Undeb yr Annibynwyr. Fel un sydd wedi fy magu mewn eglwys annibynnol nad sy'n aelod o'r Undeb roedd hi'n agoriad llygad gweld yr Undeb ar waith, ond trafodaeth at rywbryd eto yw hynny! Y testun heddiw oedd, sypreis sypreis, R. Tudur Jones a Phlaid Cymru. Swmp y ddarlith oedd fy nhraethawd hir gradd, mae e ar gael i ddarllen YMA (PDF) i unrhyw un a diddordeb. Fe'm harweiniwyd gan yr Ysbryd Glan i ddefnyddio'r ddarlith i herio yn ogystal a chyflwyno'r hanes moel am Dr. Tudur. Dyma oedd fy sylwadau clo, maddeuwch y llaw fer:Casgliadau a'r Her HeddiwLle mae hyn yn ein gadael ni heddiw yn 2008? Pa wersi y gellid ei dysgu o hanes a syniadaeth Dr. Tudur? Eleni rydym ni'n coffau deng mlynedd ers marwolaeth R. Tudur Jones. Llawer wedi newid...

Cyflwyno deiseb i Jane Hutt ar fater Coleg Ffederal Cymraeg via Blog Rhys Llwyd July 1st, 2008 at 22:51

Wrth i ni ddisgwyl cyhoeddiad Dydd Iau (03/07/08) gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglyn â pholisi Llywodraeth "Cymru'n Un" o Goleg Ffederal Cymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno deiseb gyda 1,000 o enwau i'r Gweinidog heddiw yn amlinellu'r hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor graidd Coleg Ffederal Cymraeg. Bydd y ddeiseb hefyd yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad.Dywedodd Rhys Llwyd (Fi!), Swyddog Ymgyrch Coleg Cymraeg, Cymdeithas yr Iaith:"Credwn y gellid defnyddio'r pedair egwyddor yma fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir i wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Credwn fod yn rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:(i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol, (ii.) Siarter a...

We Don’t Need a Corporation to Raise a Chicken or Vote via Aberdare Blog June 23rd, 2008 at 13:15

image Adam Price, Plaid Cymru’s election campaign co-ordinator, sent a mailshot to Plaid Cymru supporters two months ago asking “Are you on Facebook?”. Fortunately, we are not. Here’s why … Facebook is an American corporation. It exists to make a pile of money. That is the purpose of a corporation. It makes money by providing what is dubbed a ’social networking service’ and saturating users of such a service with advertising. Nowadays, Welsh politicians of all parties bandy corporate brand names as if they held talismanic political properties. It is an absurd and exploitative relationship. Why would we surrender our privacy to a commercial proxy to become “involved” with Plaid (or any other Party) ? That is not a means to engage in...

Coleg Ffederal Cymraeg - rhaid achub ar y cyfle nawr via Blog Rhys Llwyd June 21st, 2008 at 09:59

Yn dilyn cyfarfodydd ddoe (ni ddywedaf ymhle na gyda phwy oherwydd rwy'n parchu preifatrwydd y cyfarfodydd) rwy'n teimlo fel bod yn rhaid dweud gair am Goleg Ffederal Cymraeg eto fyth.Gan ddisgwyl cyhoeddiad buan gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglŷn a pholisi Llywodraeth Cymru'n Un o Goleg Ffederal Cymraeg carwn dynnu eich sylw at yr hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor craidd Coleg Ffederal Cymraeg. Gellid defnyddio'r pedwar egwyddor yma wedyn fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir tuag at wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol: (i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol, (ii.) Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch...

Rhyddid a Hunanlywodraeth yw’r asgwrn cefn a’r ffydd Gristnogol yw’r sbeinal cord via Blog Rhys Llwyd June 18th, 2008 at 16:35

Fe ddoes ar draws llythyr difyr a phwerus tu hwnt heddiw yn yr archifau. Llythyr ydyw oddi wrth R. Tudur Jones at Gwynfor Evans. Mae yna dri peth ysgytwol sy'n sefyll allan i mi:1. Yn gyntaf beirniadaeth RTJ o duedd y blaid tua diwedd yr wythdegau i goleddu "sosialaeth". Ddim bod RTJ yn wrth-sosialaidd ac yn Dori, ddim o gwbl, roedd RTJ yn hytrach yn credu mewn cydweithrediaeth, neu'r drydedd ffordd. Maen trafod hyn ym mharagraff cyntaf y llythyr.2. Dibyniaeth a chred lwyr RTJ ym mhenarglwyddiaeth Crist cyn unrhywbeth arall, gweler hyn yn yr ail baragraff.3. Cred ddiysgog RTJ fod tynged wleidyddol ac ysbrydol Cymru yn dod law yn llaw. Gwelir hyn yn y dair paragraff olaf.4. Beirniadaeth gwbl ddi-flewyn-ar-dafod RTJ o'i enwad ef yr Annibynwyr oherwydd dylanwad (i.) traddodiaeth sy'n ymylu...

Maer newydd Aberystwyth via Blog Dogfael June 16th, 2008 at 21:49

image Cafodd Sue Jones-Davies ei hethol yn faer Aberystwyth heno, yn dilyn wythnosau o ansicrwydd. Nid dim ond yn San Steffan neu ym Mae Caerdydd mae ‘na bethau cyffrous yn digwydd. Heno yr oedd Cyngor Tref Aberystwyth yn gorfod trafod y tro diweddaraf ym mywyd gwleidyddol y dref wythnos ers i Lorrae Jones-Southgate ymddiswyddo fel maer. Yn eironig ddigon y dirpwy-faer, aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, oedd yn y gadair ar gyfer y drafodaeth ar y sefyllfa. Roedd gan bob un ohonom gopi o lythyr y cyn-faer yn ein llaw wrth inni wrando ar y ddadl fer iawn ar y sefyllfa. Mynegodd y cynghorydd a oedd wedi cynnig ei henw yn y cyfarfod diwethaf o’r cyngor ei siom gyda’r hyn oedd wedi digwydd a’n bod ni erbyn hyn yn chwilio am ei holynydd. Condemnio y modd yr oedd...

Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg? via Blog Rhys Llwyd June 13th, 2008 at 23:20

Dyma beth yw Coleg Ffederal Cymraeg:1. Statws statudol fel sefydliad addysg uwch â chyfansoddiad annibynnol.2. Siarter annibynnol yn nodi ei gylch gorchwyl, gan gynnwys addysgu ac ymchwil, a darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru-gyfan.3. Llif arian annibynnol, yn hytrach na derbyn cyfran o gyllid addysg uwch Saesneg. Yn hyn o beth, galwn ar y llywodraeth i sicrhau llif arian £20 miliwn fan leiaf, £15 miliwn yn ychwanegol at yr hyn a addawyd yn eich cynllun a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol a fyddai’n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg yn ogystal ag un coleg penodol fel bod gan y coleg gorff o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ynddo ac yn teimlo perchnogaeth drosto. Ond yn ôl cynnig bydd o flaen cynhadledd Plaid Cymru mis...

Cenedlaetholdeb Gristnogol: ateb dadl “hen ferchetan” via Blog Rhys Llwyd June 11th, 2008 at 22:47

Ar y blogiad yma yn trafod Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones fe adawodd hen ferchetan y sylwad diddorol a heriol canlynol:Allaim gweld unrhyw gyslltiad o gwbwl Rhys. Doesna ddim cysylltiad amlwg rhwng Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb - mae'r syniad fod yr hen athiestaid na wedi pylu y gefnogaeth i genedlaetholdeb yn nonsens.Rhydd i bawb ei ddehongliad ond ni all neb sydd ond wedi gwario cyn lleied a phum munud yn astudio Hanes Cymru wadu fod cysylltiad cryf os nad an-wahanadwy rhwng Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb yng Nghymru. Cymer er enghriafft yr olyniaeth yma sydd yn cael ei chyfri fel un olyniaeth o Genedlaetholdeb Gymreig:Dewi Sant>John Penry>Griffith Jones>Michael D. Jones>Emrys ap Iwan>Saunders Lewis>Lewis Valentine>J.E. Daniel>Gwynfor Evans>R. Tudur JonesMaen nhw oll yn...

Plaid Cymru a moesoldeb Gristnogol via Blog Rhys Llwyd June 11th, 2008 at 13:28

image Yn archifau Dr. Tudur bore me dois ar draws llyfr nodiadau gyda anerchiadau ac areithiau o'i eiddo mewn llaw fer a draddododd mewn ralîau a chyfarfodydd Plaid Cymru yn ry 1950au. Dyma fy ffefryn i:Nid rhywbeth a dyfodd dros nos yw bwyd cenedl ond tyfiant araf dros y cenedlaethau. Y mae gwin y gorffennol wedi ei gostrelu yn ein harferion, a'n hiaith a'n dull o fyw. Ac os collir y gwin hwn collir rhywbeth na ellir byth ei ail gynhyrchu. Y peth tristaf ynglŷn â Chymru ar hyn o bryd yw'r perygl enbyd i'r cwbl yma fynd ar goll. A hynny oherwydd y gwrthodir inni'r rhyddid teg i fynegi cyfoeth ein traddodiad. Atelir ni ymhob rhyw fodd... Beth allwn ni ei wneud? Sylwch mai cwestiwn moesol yw hwn, cwestiwn ynglŷn â'n hagwedd at fywyd dyn ar y ddaear, at gymdeithas a dyfodd dros lawer o...

Gwleidyddiaeth ddiddorol Aberystwyth via Blog Dogfael June 10th, 2008 at 21:11

image Mae’n siŵr ddigon fod llygaid y byd ar ragetholiadau ac etholiad arlywyddol y Taleithiau Unedig, ond dylai rhywun gadw rhyw gilolwg ar yr hyn sy’n digwydd yn Aberystwyth? Wrth i’r byd gwleidyddol ddechrau paratoi am yr haf trwy dawelu ychydig ar ôl etholiadau’r cyngor sir ddechrau Mai mae’n ymddangos fod popeth yn digwydd yn y dref. Dechreuodd y cwbwl gydag ymddiswyddiad Eric Griffiths fel cynghorydd sir ward Rheidol oherwydd iddo gael ei arestio a derbyn rhybudd am drosedd rhyw gyda phlentyn o dan oed cysynio. Yn dilyn ei ymddiswyddiad fe bennwyd isetholiad ar gyfer 10 Gorffennaf ac felly fe aeth y pleidiau gwleidyddol ati i ddewis eu hymgeisyddion. Plaid Cymru oedd y cyntaf; nos Iau diwethaf fe ddewison nhw y cynghorydd tref Aled Davies fel eu hymgeisydd...

Deiseb ar-lein am Goleg Ffederal Cymraeg via Blog Rhys Llwyd June 9th, 2008 at 09:32

Coleg Ffederal CymraegGalwn ar Lywodraeth y Cynulliad i gadw at addewid cytundeb ‘Cymru’n Un’ o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:1. Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol2. Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru3. Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a chyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono.Byddai unrhyw beth llai na chyfuniad cyflawn o’r uchod yn torri’r addewid. Galwn ar y llywodraeth i ail-ystyried eu cynlluniau os nad yw’r uchod yn rhan ohonynt.Rho glec YMA i arwyddo'r...

Isetholiad Rhediol, Aberystwyth via Blog Dogfael June 4th, 2008 at 21:50

image Mae’r ymgyrch wedi dechrau mewn gwirionedd yn yr isetholiad cyngor sir yn ward Rheidol yn Aberystwyth. Fel y gŵyr pawb bellach fe ymddiswyddodd cynghorydd Democrataidd Rhyddfrydol y ward o fewn mis i’w ethol ar ôl iddo gael ei arestio gan yr heddlu a derbyn rhybudd. Mae unrhyw isetholiad yn gynhyrfus wrth gwrs, ond yng Ngheredigion mae’r cyngor wedi rannu bellach rhwng 19 o gynghorwyr Plaid Cymru a 22 o gynghorwyr ‘Annibynnol’, Rhyddfrydol a Llafur sy’n ffurfio’r glymblaid sy’n rhedeg y cyngor. Felly gallai newid o un sedd fod yn arwyddocaol iawn. Neithiwr bu aelodau Plaid Cymru allan ar y stwmp yn dosbarthu taflenni yn y ward ac fe lwyddwyd i gyrraedd bob tŷ bron. Mae’n bwysig i’r neges gael ei throsglwyddo gan fod gan y...

The Severn Pillows of Wisdom via No Good Boyo June 3rd, 2008 at 10:40

Back from a bracing week of clouds and tooth decay in Wales, I have the latest news and developments so you don't have to.1. The government in Cardiff has decided that the English name of the country will henceforth be spelled !Wales!. The idea is to make people think we are not only musical, but a musical. This ought to bring the pink pounds pouring in, and give our homophobe community something to do since the last gays in the villages left to be something in the London media.2. In order to overcome the North-South divide, the regions of Wales are to be renamed as follows: North Wales coast - The RhylvieraRest of North Wales - Mid WalesMid Wales - Middlewales, in order to make the Tolkien-cultists infesting Machynlleth feel at home.South-West Wales - Ireland (Tenby will be called Galway...

Beth oedd ‘plan b’ Dyddiol Cyf? via Blog Rhys Llwyd May 31st, 2008 at 09:22

Er i Dyddiol Cyf. gyhoeddi yn fuan iawn, wedi cyhoeddiad Rhodri Glyn Thomas mae dim ond £200,000 ychwanegol byddai ar gael i ddatblygu'r wasg Gymraeg, fod y cynlluniau am bapur dyddiol wedi eu rhoi o'r neilltu fe wnaeth tîm Dyddiol Cyf roi 'plan b' at ei gilydd a gwneud cas am yr arian y gwaneth Golwg ennill yn y diwedd. Roeddw ni wedi bod yn ceisio dyfalu beth oedd 'plan b' ers tro - pan oeddw ni yn gweithio iddyn nhw nid oedd neb, wrth reswm, yn trafod 'plan b' oherwydd nid oeddem ni'n meddwl y byddai Gweinidog, o Blaid Cymru o phob plaid, yn torri ei addewid o ddarparu moddion ariannol i sefydlu papur dyddiol.Ar eu blog ddoe fe ddatgelodd Dyddiol Cyf beth oedd eu 'plan b' aflwyddiannus, dywedant:Rydym yn naturiol yn siomedig bod ein cynllun ni wedi’i wrthod - cynllun cyffrous gydag...

Cynhadledd Prospect 2008 a phethau eraill via Blog Dogfael May 29th, 2008 at 21:45

image Mae’r dyddiau’n diflannu a finnau a chymaint i’w adrodd ar y blog a dim amser i’w wneud. Roeddwn i’n bwriadu dweud ychydig am gynhadledd flynyddol fy undeb llafur, Prospect, yn Torquay, ond os na wna i hynny cyn bo hir mae’n edrych yn debyg y bydd yn mynd yn angof. Fe es i lawr i Torquay ar trên gyda dau o’m cyd-aelodau. Mae’n daith o ryw 7 awr i gyd o Aberystwyth i Torquay ac mae’n rhaid newid dwywaith – yn Birmingham Stryd Newydd a Newton Abbot. Roeddwn yn aros mewn gwesty braf ar lan y môr ac yn cynadledda gyda’r dydd yn yr English Riviera Centre. Er ei fod yn swnio fel ‘gwyliau’ dwi’n ofni nad yw cynhadledd undeb yn ddim byd o’r fath. Cynadledda trwy’r dydd, gan gynnwys cyfarfodydd...

Golwg yn curo Dyddiol Cyf. am yr arian i ddatblygu’r wasg via Blog Rhys Llwyd May 29th, 2008 at 13:47

Mae newydd gael ei gyhoeddi mae cynnig Dylan Iorwerth a Golwg oedd yn fuddugol yn y tendar am y £600,000 (£200,000 y flwyddyn am 3 blynedd) i ddatblygu'r Wasg Gymreg. Rwy'n eithriadol o siomedig i gais Ned Thomas a Dyddiol Cyf fethu yn arbennig gan gofio mae gwaith a gweledigaeth Ned Thomas a'r tîm sy'n gyfrifol fod yna arian ychwanegol yna o gwbl. Mae'r diolch i ddyfalbarhad Ned a'r tîm a neb arall ond ymddengys, nawr, na fydd dim materol i ddangos am yr holl waith caled. Yn bersonol mae fy nyled a fy edmygedd o waith Ned yn enfawr, er i'r BYD fethu gweld golau dydd fel arwr bydd enw Ned yn cael ei gofio i bob Cymro gwerth ei halen am byth yn awr, arwr! Rwy'n gobeithio y bydd Dylan Iorwerth a thîm Golwg yn fodlon cario mantell gweledigaeth Ned yn anrhydeddus yn awr. Rwy'n deall fod...

Plaid Cymru yn jerimandro tuag at Ewrop? via Blog Rhys Llwyd May 29th, 2008 at 08:28

image Mae Dyfrig Jones (Golygydd bARN) ar ei flog 'answyddogol' yn datblygu i fod yn aelod mainc gefn tra effeithiol i Blaid Cymru yn fy nhyb i. Mae Dyfrig fel y fi a llawer o'm cymfeillion yn parhau i fod yn aelodau o'r Blaid ond wedi llawn ddeall erbyn hyn fod rheolau'r gêm wedi newid. Mae dyddiau amddiffyn y Blaid doed a ddelo "er budd y genedl" wedi hen basio a hynny oherwydd fod y Blaid bellach mewn llywodraeth. Anghyfrifol, an-nemocrataidd ac yn sicr ang-Nghristnogol, a dweud y lleiaf, yw amddiffyn unrhyw Blaid doed a ddelo os yw'r Blaid honno mewn llywodraeth ac yn hynny o beth rwy'n gwerthfawrogi safiad ac arweiniad Dyfrig yn arbennig felly gan ei fod yn newyddiadurwr blaenllaw hefyd yn nhraddodiad anrhydeddus Alwyn D. Rees.Yr achos diweddaraf i Dyfrig godi yw'r busnes yma o jerimandro...