Welsh Blogs.com


Pedwar egwyddor craidd Coleg Ffederal Cymraeg wedi ei esbonio via Blog Rhys Llwyd August 12th, 2008 at 12:35

Jane Hutt yn ateb y llythyr agored am Goleg Ffed Cymraeg via Blog Rhys Llwyd July 8th, 2008 at 21:41

Maen dda adrodd fod Jane Hutt, y Gweinidog Addysg, wedi ateb y llythyr agored gan yr academwyr ar fater Coleg Ffederal Cymraeg. Dyma oedd gan Sonia Davies (Swyddog Polisi Addysg Uwch), ar ran Jane Hutt, i ddweud mewn ymateb:“Diolch am eich llythyr diweddar at y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, yn nodi eich safbwyntiau ar nodweddion Coleg Ffederal Cymraeg. Gofynnwyd i mi eich ateb.Rwy'n nodi'ch awgrymiadau i gael cyfansoddiad annibynnol a strwythur statudol, ac yn nodi pa mor bwysig yn eich tyb chi yw cael Coleg Cymraeg ar sawl safle. Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi'r camau nesaf yn fuan tuag at gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Cymru'n Un i sefydlu rhwydwaith Coleg Ffederal Cymraeg. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith y mae'r Grŵp Sector Addysg Uwch...

Cyflwyno deiseb i Jane Hutt ar fater Coleg Ffederal Cymraeg via Blog Rhys Llwyd July 1st, 2008 at 22:51

Wrth i ni ddisgwyl cyhoeddiad Dydd Iau (03/07/08) gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglyn â pholisi Llywodraeth "Cymru'n Un" o Goleg Ffederal Cymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno deiseb gyda 1,000 o enwau i'r Gweinidog heddiw yn amlinellu'r hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor graidd Coleg Ffederal Cymraeg. Bydd y ddeiseb hefyd yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad.Dywedodd Rhys Llwyd (Fi!), Swyddog Ymgyrch Coleg Cymraeg, Cymdeithas yr Iaith:"Credwn y gellid defnyddio'r pedair egwyddor yma fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir i wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Credwn fod yn rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:(i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol, (ii.) Siarter a...

Coleg Ffederal Cymraeg - rhaid achub ar y cyfle nawr via Blog Rhys Llwyd June 21st, 2008 at 09:59

Yn dilyn cyfarfodydd ddoe (ni ddywedaf ymhle na gyda phwy oherwydd rwy'n parchu preifatrwydd y cyfarfodydd) rwy'n teimlo fel bod yn rhaid dweud gair am Goleg Ffederal Cymraeg eto fyth.Gan ddisgwyl cyhoeddiad buan gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglŷn a pholisi Llywodraeth Cymru'n Un o Goleg Ffederal Cymraeg carwn dynnu eich sylw at yr hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor craidd Coleg Ffederal Cymraeg. Gellid defnyddio'r pedwar egwyddor yma wedyn fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir tuag at wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol: (i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol, (ii.) Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch...

Coleg Ffederal Cymraeg, nid bwrdd (arall) plis Cymru’n Un via Blog Rhys Llwyd May 27th, 2008 at 19:54

Cynhelir Cynhadledd i'r Wasg am 3pm Mercher 28/5 yn uned Cymdeithas yr Iaith ar Faes Eisteddfod yr Urdd Byddwn yn datgan fod pryder gwirioneddol y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cefnu ar ei addewid i sefydlu Coleg Cymraeg, sy'n rhan sylfaenol o Gytundeb "Cymru'n Un". Yn union fel y mae perygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau gan gwmnïau preifat mawr i'w hesgusodi o anghyfleustra Deddf Iaith newydd, y mae hefyd berygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau Sefydliadau Addysg Uwch i beidio a newid y statws quo trwy sefydlu Coleg Cymraeg grymus. Yn hytrach na Choleg Cymraeg aml-safle gyda'r holl rym a chyllid i sicrhau darpariaeth lawn o addysg uwch Gymraeg trwy'r sefydliadau ac yn ein cymunedau, y mae perygl na bydd ond cwango bach i di-nod i rannu cyllid bach ychwanegol i sicrhau...

R. Tudur Jones Vs Cledwyn Hughes via Blog Rhys Llwyd May 10th, 2008 at 19:07

image Fe gododd safiad y rhan fwyaf o eglwysi ar gwestiwn ymreolaeth i Gymru erbyn y saithdegau y cwestiwn o briodoldeb i'r eglwysi a'i harweinwyr ymhél a gwleidyddiaeth. Onid creu rhwyg o fewn yr eglwys fyddai sgìl effaith gwneud safiadau a datganiadau gwleidyddol o'r fath? Wel dyma oedd cwestiwn miniog Cledwyn Hughes i R. Tudur Jones a'r cwestiwn a daflwyd yn ôl at yr Ysgrifennydd Gwladol gan R. Tudur Jones. Mae'r ddadl i'w gweld mewn ysgrif yn dwyn y teitl Yr Ysgrifennydd, Y Blaid a'r Eglwysi a gyhoeddwyd yn rhifyn mis Hydref 1967 o'r Ddraig Goch, papur Plaid Cymru. Fe feirniadodd Cledwyn Hughes Bleidwyr am ddod a gwleidyddiaeth i mewn i'r Pulpud ac mae R. Tudur Jones yn ymateb drwy gymharu ei eiriau gyda geiriau o eiddo Hanns Kerrl, Gweinidog Materion Crefyddol llywodraeth Hitler. Mae...

Deddf Iaith di-ddanedd: Cymru’n Un yn methu ETO via Blog Rhys Llwyd May 8th, 2008 at 09:49

Cyhoeddiad anhygoel o siomedig arall gan Rhodri Glyn-Thomas heddiw ynghyl a pa gwmniau/asiantaethau fydd yn dod mewn i'r Ddeddf Iaith Newyd yn cael eu tynnu fewn i'r Ddeddf Iaith bresennol - ag eithrio eithriadau prin fel y Post Brenhinol ac o bosib y Loteri Genedlaethol nid yw rhain yn gwmniau/asiantaethau mae Cymry Cymraeg yn gwneud gyda nhw dydd i ddydd fel dyweder Tesgo, Cwmniau Ffôn Symudol, Banciau y Stryd Fawr ayyb...Er enghraifft bydd disgwyl i Fanc Lloegr gydymffurfio nawr OND dwi'n siwr mae dyna'r banc sydd a'r nifer lleiaf o gwsmeriaid sy'n Gymry Cymraeg i gymharu a dywed HSBC, Lloyds ayyb... siomedigaeth arall fan hyn o addewidion Cymru'n Un yn toddi ffwrdd.Y rhestr:Asiantaeth Gwella Plismona Cenedlaethol Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd Awdurdod y Diwydiant Diogelwch...