
Tydwi ddim yn ffan o bel droed, ddim hydynoed chydig bach. Tydwi ddim yn ffan o real Madrid, ddim o gwbwl. Ond pan aethom ni i Estadio Santiago Bernabeu, mi wnes i wir fwynhu. Mi oedd hi'n ddiwrnod hyfryd, mi oedd y tour yn ddiddorol a doedd na ddim rhaid dilyn rhyw berson diflas o gwmpas; roedden ni'n gallu mynd ar ein cyflymder ni'n hunain. Mi oedd y trophy room yn anferth! Yr unig beth drwg sgin i'w ddweud am y profiad yw fod y siop yn lot fawr iawn rhu ddrud (gwirioneddol ddrud - mi oedd beiro yn costio 7ewro!)Pnawn dydd Sadwrn mi wnaethom ni rywbeth gwirion gwirion iawn. Mi aethom ni am dro i'r parc, yn Madrid, ym mis Gorffennaf, am 2 o'r gloch. Mi oedd hi'n chwilboeth! Mi grwydro'n ni gysgodion y parc yn eu cyfanrwydd mi gredaf, dim ond yn mentro i'r haul pan fo wir angen a bryd...
Jamborii! via Wierdo April 29th, 2007 at 21:20
Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd jambori, ond mi oedd yn ennyn rhyw fath o deimlad od o waelod fy mol, teimlad o aros ac o blentyndod a fu. Mi oedd y jambori yn cael ei gynnal fel rhan o wythnos UMCA i gasglu arian at elusenau. Mi oni wedi clywed si pan yn feddw yn ystod yr wythnos fod na gastell neidio am fod yno, ond falla mai breuddwyd meddw oedd hwnnw wedi bod!Brthbynnag, dyma ddoe yn cyrraedd yn blyri ac yn hyngofyr fel arfer ar ol y gig Cowbois noson gynt. A dyma ni off i'r cae uwchben Pantycelyn. Wir yr, hwn di un or diwrnoda gora i mi gael ers dipyn! Mi oedd na gastell neidio, mi oedd hin braf, mi oedd na farbeciw, mi oedd na gemau o rownderi a pel droed a mi oedd na ffrindiau. Mi neshi fwynhau fy hun lot. Wedyn rth sgwrs mi oedd rhaid mynd allan.Dyma y peth gorau i mi erioed...
Fel ddywedodd nain ffrind i mi; ma bobl ifanc dyddia yma bob amser yn un o dri "B" - Bored, blinedig neu brysur! Mi bwyntiodd fy ffrind allan gyda llaw mai gyda "p" mae prysur yn cychwyn, ond dim ots, mae'n wir. Dwi wedi bod trwy pob un o'r rhain yn y 24 awr dwetha.Mi oedd ddoe yn ddiwrnod prysur....i fod bethbynnag. Mi oedd rhaid i mi wneud gwaith yn y bore. Ni lwyddish i hyn. Wedyn mi oedd gin i ddarlith. Ni lwyddish i fynd i'r ddarlith oherwydd fy mod yn ddiog. Ond achos fod gin i dros awr i dreulio wedyn yn gwneud dim, mi oeddwn wedi diflasu. Ond gwell hynny na darlith unrhyw ddydd. Wedyn i fyny i gyfarfod a fy ngrwp (sydd rwan yn ddwy ohonam ni gan fod un wedi diflannu a'r llall wedi bygro i ffwrdd i ffrainc) i wneud ychydig or gwaith. Lawr i'r dre am mbach o siopa, rygbi, a wedyn...
Ma fy nghariad newydd ofyn i mi am fy "hot-list". h.y. pa "celebrities" dwin meddwl sydd yn hot-stuff. Hyd yn hyn, ma gin i David Tennant. A fo, yn amlwg. Ond rwan dwi'n sdyc. Ma'n hollol gwbwl wirion. Dwi'n gwybod nad ydwi'n sylwi ar bobl lot ond man rhaid mod i'n gallu meddwl am fwy na jesd David Tennant? Och. Ym....Reit. Gadewch i mi fod yn methodical. Pa ffilmiau dwi'n hoffi?Marx Brothers: hehe. na. Neb yn hot stuff yn fana. Er mi oedd zeppo yn reit olygus! Ond ddim rili i miSliding Doors. John hannah. Ia. Oce. Rhif Dau i'r rhestr! Braidd yn hen, ond ddim mor hen a Zeppo!!!Truman Show: Neb yn fana.Lord of the rings: meh. Aragorn amwni...ond eto, mehDwi byth yn gallu cofio ffilms. Neshi edrych trw IMDB a bob dim ac oni methu meddwl! Cerddoriaeth? Seth Lakeman. Naish. And look....a...