
Mae Radio Amgen yn dathlu ei benblwydd yn 5 oed. Dyma engrhaifft wych o ddefnydd effeithiol o dechnoleg i gael diwylliant amgen Cymraeg at gynulleidfa byd eang. Islaw mae llun 'clawr' i gyd-fynd âg darllediad wythnosol. Roeddwn i'n ffan anferth o Lego tra'n blentyn felly dwi'n hoff iawn o'r llun yma.Mae'r llun wedi ei gynnal ar wefan Zooomr. Dwi wedi creu cyfrif arno ar ôl darllen post ar Sbwriel*spot. Dwi eisioes yn defnyddio Flickr ac yn meddwl ei fod yn wasaneth gych, ond hoffwn weld beth all Zooomr gynnig am ddau reswm:1. Yahoo, sy'n berchen ar Flickr, a dwi'n teimlo'n rhagrithiol yn talu £12 y flwyddyn iddyn nhw wedi iddynt roi manylion personol i awdurdodau Tseina, tra dwi'n annog eraill i foicotio Nestle2. Mae Zooomr yn awyddus iawn i leoleiddio eu gwefan, felly gall fod ar...