Mi ddoth y rhaglen 'Pawb a'i Farn' i Lannau Mersi wythnos yma am y tro cyntaf erioed, i ganol dinas Lerpwl yn y neuadd San Sior. Ces i'r profiad o fod yn y cynulleidfa gyda tua cant o bobl eraill, gan cynnwys Cymry'r ardal, myfyrwyr o Brifysgolion Lerpwl ac ambell i ddysgwr siwr o fod. Roedd yr ymweliad i'r neuadd (er dim ond rhan ohono) yn werth y taith byr i Lerpwl, adeilad dwi heb ymweled â hi o'r blaen mae gen i gywilydd cyfadde! Wedi blynyddoedd o waith adnewyddu, cawsom ni i gyd ein syfrdanu wrth cerdded trwy drysau trwm yr ystafell cyngherdd. Yna, yng nghanol y stafell safodd set Pawb a'i farn, un sy'n fel arfer mewn canol rhai canolfan hamdden di-nod yn ôl Dewi Llwyd cyflwynydd y cyfres. Wedi sgwrs bach a chyflwyniad gan 'rheolwr llawr' a rownd o gwestiynau gan Dewi er...
Dwi’n gwybod fy mod yn adrodd hanes fy ngwyliau haf yn ddarniog iawn, ond mae cymaint o bethau eraill i sylwi arnynt y dyddiau hyn. Ddoe, er enghraifft, cynhaliwyd angladd Ray Gravell ym Mharc y Strade, Llanelli. Y peth agosaf i angladd wladol i’w chynnal ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol gyda’r Prif weinidog Rhodri Morgan yn arwain y digwyddiadau. Roedd hwn yn ddigwyddiad nad oeddwn i’n medru cofio ei debyg o’r blaen, ac yn gasgliad eclectig o sumbolau cyfoethog o’n cenedligrwydd a’n hunaniaethau cenedlaethol amrywiol. Mewn rhyw ffordd, fel y dywedodd Rhodri Morgan ei hun, roedd Ray Gravell yn cyfuno y ffrwd genedlaetholgar (a nodweddir gan wleidyddiaeth Plaid Cymru, Cymdeithas yr iaith Gymraeg, a mudiadau eraill) gyda’r ffrwd...
Mi ges i, fel sawl arall, fy syfrdanu y bore 'ma gan adolygiad y newyddion o farwolaeth Ray Gravell. Er does gen i fawr o gof am Ray fel chwaraewr Rygbi, buodd lais cyfarwydd i mi dros nifer o flynyddoedd o wrando ar Radio Cymru. Wedi dweud hynny, yn y dechrau cyntaf, ni allwn i ddeall llawer o'i tafodiaeth Sir Gâr, ond ges i fawr edmygedd at safon ei Gymraeg, a'r Cymreictod hawddgar, digas a sefyllodd amdanhi. Gwilias Wedi 7 y heno 'ma, lle gafodd cynnwysion i gyd y rhagle eu neilltuo er mwyn talu teyrnged emosiynol i'r dyn mawr o Fynydd y Carreg.Dwi'n cofio cwpl o flynyddoedd yn ôl, ro'n i'n cymryd rhan mewn rhaglen 'Taro'r Post' ar Radio Cymru fel aelod y 'Fainc'. Un o'r pynciau y dydd digwydd bod i wneud â Rygbi, ac wrth rheswm un o'r cyfrannwyr ar y pwnc honno oedd Ray...