Mae llawer yn meddwl bod fy safbwyntiau gwrth-archfarchnad yn eithafol braidd. Er mod i'n mynd i'r gangen Somerfield weithiau, dwi'n tueddu gwenud y mwyafrif o'm siopa mewn siopau annibynnol lleol i mi. Dwi'n gwneud hyn am sawl rheswm, sef er mwyn cadw busnesau bychain lleol i fynd, am fy mod yn credu mewn amrywiaeth a tydi popeth ddim yn rhatach mewn archfarchnad o bell ffordd. Dwi wrth gwrs yn anhapus iawn gyda'r modd mae archfarchnadoedd yn trîn eu cyflenwyr a'r ffordd mae'nt yn hoff o herio dymuniadau awdurdodau leol a chanolog. Ond y prif bryder sydd gyda fi yw am y dyfodol. Dwi ddim yn meddwl mod i'n gor-ddweud, ond fe all fod gan y cwmnau mawrion benderfynnu pa bethau y cawn a chawn ni ddim brynnu. Syml medde chi, "dos i siop arall sydd yn gwerthu beth ti eisiau", dyna wedi'r...
Mae nifer y blogiau sy'n ymateb i waharddiad blogiau gan filiwnydd wedi cyrraedd 302:Curious Hamster, Pickled Politics, Harry’s Place, Tim Worstall, Dizzy, Iain Dale, Ten Percent, Blairwatch, Davide Simonetti, Earthquake Cove, Turbulent Cleric, Mike Power, Jailhouse Lawyer, Suesam, Devil’s Kitchen, The Cartoonist, Falco, Casualty Monitor, Forever Expat, Arseblog, Drink-soaked Trots (ac un arall), Pitch Invasion, Wonko’s World, Roll A Monkey, Caroline Hunt, Westminster Wisdom, Chris K, Anorak, Mediawatchwatch, Norfolk Blogger, Chris Paul, Indymedia, Obsolete, Tom Watson, Cynical Chatter, Reactionary Snob, Mr Eugenides, Matthew Sinclair, The Select Society, Liberal England, Davblog, Peter Gasston Pitch Perfect, Adelaide Green Porridge Cafe, Lunartalks, Tygerland, The Crossed Pond,...
Neithiwr yn y Senedd Ewropeaidd siaradodd Tom Wise ASE am gyhuddiadau Craig Murray yn erbyn Alisher Usmanov mewn araith. Mwy o gefndir ar flog yr Albanwr Mr Eugenides ac ar flog y Sais England Expects.Yn y cyfamser, mae Boris yn...
Mae nifer y blogiau o Brydain sy'n protestio dros ryddid barn arlein yn dal i dyfu:Curious Hamster, Pickled Politics, Harry’s Place, Tim Worstall, Dizzy, Iain Dale, Ten Percent, Blairwatch, Davide Simonetti, Earthquake Cove, Turbulent Cleric, Mike Power, Jailhouse Lawyer, Suesam, Devil’s Kitchen, The Cartoonist, Falco, Casualty Monitor, Forever Expat, Arseblog, Drink-soaked Trots (ac un arall), Pitch Invasion, Wonko’s World, Roll A Monkey, Caroline Hunt, Westminster Wisdom, Chris K, Anorak, Mediawatchwatch, Norfolk Blogger, Chris Paul, Indymedia, Obsolete, Tom Watson, Cynical Chatter, Reactionary Snob, Mr Eugenides, Matthew Sinclair, The Select Society, Liberal England, Davblog, Peter Gasston Pitch Perfect, Adelaide Green Porridge Cafe, Lunartalks, Tygerland, The Crossed Pond,...

Mae Matt Wardman wedi creu botymau Cymraeg fel y gall blogwyr Cymraeg ymuno â'r protest yn erbyn cau blogiau Craig Murray, Bloggerheads, Bob Piper a Boris JohnsonHyd yma mae dros 220 o flogiau yn y DU wedi ymuno â'r ymgyrch dros ryddid barn, ac mae llwyth o flogiau gweddill y byd hefyd yn rhoi eu sylw ar y...
Erbyn hyn mae yna dros 190 o flogiau Prydain sy'n cyfeirio at y newyddion am Mr Usmanov a Craig Murray - dyma'r rhestr, diolch i Chicken Yoghurt a Westminster Wisdom.Curious Hamster, Pickled Politics, Harry’s Place, Tim Worstall, Dizzy, Iain Dale, Ten Percent, Blairwatch, Davide Simonetti, Earthquake Cove, Turbulent Cleric, Mike Power, Jailhouse Lawyer, Suesam, Devil’s Kitchen, The Cartoonist, Falco, Casualty Monitor, Forever Expat, Arseblog, Drink-soaked Trots (and another), Pitch Invasion, Wonko’s World, Roll A Monkey, Caroline Hunt, Westminster Wisdom, Chris K, Anorak, Mediawatchwatch, Norfolk Blogger, Chris Paul, Indymedia, Obsolete, Tom Watson, Cynical Chatter, Reactionary Snob, Mr Eugenides, Matthew Sinclair, The Select Society, Liberal England, Davblog, Peter Gasston...

Newydd ddarllen stori ar wefan newyddion y BBC am erlyn arweinwyr Plaid y Gymdeithas Ddemocrataidd (Demokratik Toplum Partisi, DTP) yn Nhwrci. Plaid Gwrdaidd yw’r DTP i bob pwrpas ac mae un o’i harweinwyr, Ahmet Turk, wedi’i ddedfrydu i chwe mis o garchar am alw’r arweinydd trefysgol Abdullach Ocalan yn “Mr Ocalan”. Yr wythnos diwethaf cafodd yntau ac un arall o arweinwyr y blaid, Aysel Tuğluk, eu dedfrydu i ddeunaw mis o garchar am ddosbarthu llenyddiaeth wleidyddol mewn Cwrdeg ar Dydd Rhyngwladol y Menywod 2006. Yn Nhwrci nid oes hawl dosbarthu llenyddiaeth wleidyddol ond mewn Twrceg. Cyn iddynt gael eu carcharu bydd yn rhaid i lys uwch gadarnahu eu dedfryd. Mae hyn i gyd yn digwydd wrth i’r cyn-arlywydd Kenan Evren awgrymu bod angen i Dwrci drawsnewid...

Mae hen dŷ cwrdd yr Undodiad yn y Stryd Newydd, Aberystwyth ar werth. Wrth fynd heibio iddo heddiw fe ddechreuais i ffantaseiddio am brynu’r lle a chreu yno fy enwad bach crefyddol fy hun. Er fy mod yn aelod ffyddlon yn yr Eglwys yng Nghymru mae ‘na rai pethau mae’n eu gwneud nad ydw i’n cytuno â hwy. Felly fe fyddai’n fy enwad bach i yn debyg iawn i’r Eglwys yng Nghymru ond yn gwneud popeth dwi’n credu ei bod hi yn ei wneud yn anghywir yn iawn. Yn anffodus fe fyddwn i wedi achosi rhaniad arall yn yr eglwys Gristnogol wrth wneud hynny. Ac wrth gwrs y broblem fawr wrth geisio creu eich eglwys berffaith eich hun yw bod eich amherffeithrwydd personol chi yn mynd i darfu ar unrhyw ymgais i gyrraedd at y nod hwnnw!
Mae’r un peth yn digwydd gyda...

Roedd ‘na erthygl ddiddorol yn y Guardian ddoe gan yr hanesydd Tristram Hunt. (Diolch i RO am dynnu fy sylw ati.) Mae’n trafod y diffyg parch a roir i lefydd arwyddocaol yn hanes ‘radicalaidd’ Ynys Prydain a’r cofebau, neu’r diffyg cofebau, i’r digwyddiadau hynny. Caiff digwyddiadau mawr y sefydliad eu cofio mewn ysblander, ond caiff hanes radical ei anwybyddu neu ei anghofio’n llwyr. Mae e’n nodi pum lle neu ddigwyddiad sy’n haeddu cofebau neu eu cofio yn well na’r ffordd y gwneir hynny ar hyn o bryd:
St Peter’s Fields, Manchester - Scene of the 1819 ‘Peterloo massacre’;
The National Covenant, Greyfriars Kirk, Edinburgh - Site of one of the most important documents in British history;
Epsom Downs...

Roedd ‘na erthygl ddiddorol iawn yn y rhifyn diweddaraf o’r New statesman gan y golygydd gwleidyddol Martin Bright o dan y pennawd ‘Ministers no speaky nothing’. Roedd yn dadlau taw’r rheswm fod y llywodraeth Lafur Newydd yn edrych tuag at y Taleithiau Unedig am ddulliau newydd o ddelio gyda throseddau yw am nad yw’r rhan fwyaf o weinidogion y llywodraeth yn siarad dim ond Saesneg.
In a speech in Bristol designed to launch a national debate on crime (yes, another one), the Prime Minister will say he is planning to extend “community courts” being trialled in Liverpool and Salford, which are designed to give local people a greater say in justice: yet another idea imported from the US.
In America there are nearly 700 prisoners for every...

Nid yr wythnos hon efallai yw'r wythnos orau i ddweud fy mod i wedi fy newis yn un o wardeniaid eglwys y Santes Fair, Plwyf Aberystwyth, ar gyfer y flwyddyn sy'n dod. Nage, nid gwneud yn siŵr nad oes neb yn parcio anystyriol tu fas i'r eglwys yw swydd warden! Mae warden yn gyfrifol am rannu arweinyddiaeth o fewn i'r plwyf gyda'r clerigion. Mae hefyd â'r gwaith o ofalu am les y clerigion yn ogystal â'r chynulleidfa. Fel arfer cysylltir y wardeiniaid â'r gwaith o edrych ar ôl yr adeiladau a gofalu bod y casgliadau yn cael eu gwneud, ac am agweddau ariannol ar fywyd eglwys neu blwyf. Dim ond y cam cyntaf yw cael eich dewis yn warden, rhaid nesaf cael eich derbyn i'r swydd. Bydd hynny'n digwydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan fydd holl wardeiniad yr ardal yn dod at ei gilydd i...

Oherwydd bod protestiadau torfol a rhai gwirioneddol ddifrifol wedi bod yn brin dros y blynyddoedd diwethaf mae fy ymwybyddiaeth i o beth sydd wedi bod yn digwydd yn gyfreithiol i rai o'n hawliau sylfaenol wedi bod yn brin. Wedi'r cyfan rydw i'n heddychwr sy'n credu bod bygwth pobol yn anghywir. Ond erbyn hyn mae heddychwyr yn gymaint o fygythiad i'r drefn fel bod deddfau terfysgol yn cael eu defnyddio i'w rheoli - dyna o leia oedd profiad yr henwr Walter Wolfgang pan fu mor anfoesgar â heclo Jack Straw yng nghynhadledd y Blaid Lafur llynedd.
Nos Wener diwethaf, fel rhan o benwythnos cyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bues i'n cadeirio cyfarfod ar y deddfau terfysgaeth sydd wedi'u pasio a'r mesur newydd sy'n dal i wneud ei ffordd drwy'r senedd yn Llundain a’u...

Mae Lloegr yn troi yn wladwriaeth heddlu yn raddol bach. Caiff pawb a phopeth eu hamau o fod yn fygythiadau diogelwch. Dyna ddigwyddood i mi ar y ffordd 'nôl o Lundain. Does dim angen imi ddweud wrth ddarllenwyr Blog Dogfael fy mod yn un sy'n hoff o gofnodi popeth dwi'n ei wneud gyda ffotograffau. Dwi wedi bod yn tynnu ffotograffau o bawb a phopeth ers dros deunaw mis bellach, ac am y tro cyntaf erioed fe orfodwyd imi ddileu rhai ffotograffau a dynnais yng ngorsaf Stryd Newydd Birmingham o bob man. Yr unig lun sy gen i yw RP yn mwynhau cwpanaid enfawr o goffi yn siop Ritazza ar yr orsaf. Doeddwn i ddim wedi tynnu lluniau cyffrous iawn a dim llun o neb oedd yn gweithio yno. Dyma'r hyn roeddwn i wedi'i dynnu:
y glwyd tu fas i dai bach y dynion (x2);
the Pasty Shop (x2);
siop W. H....

Digwyddodd y cwbl yn gymharol ddisylw. Un diwrnod doedd Crna Gora (neu, Montenegro) ddim yn bod, a thrannoeth roedd 'cenedl' newydd yn Ewrop. Dyna sut mae'r newyddion a'r papurau wedi bod yn adrodd hanes reffrendwm yn Crna Gora i adael conffederasiwn Serbia a Montenegro. Dim cyfeiriad yn ôl i hanes sy'n dangos taw dim ond llai na 100 mlynedd yn ôl y 'diflanodd' Crna Gora oddi ar fap Ewrop ar ôl bod yno am gannoedd o flynyddoedd. Beth sy'n ddiddorol yw sut mae'r peth yn cael ei dderbyn. Un diwrnod dim gwladwriaeth, y diwrnod nesaf mae 'na wladwriaeth newydd, ac mae bywyd Ewrop yn mynd yn ei flaen heb ryw lawer o gynnwrf. Mae'n ymddangos yn rhywbeth digon naturiol i ddigwydd. Trueni na fuasai'n dod yn rhywbeth cyffredin hefyd. Neithiwr fe wrandawais ar y gêm bêl-droed rhwng Cymru a...