Welsh Blogs.com


Codi’n fore i nos Awstralia via glas January 27th, 2008 at 09:01

image Dwi'n gwylio ffeinal dynion yr Australian Open yn stafell deledu'r Coleg ar hyn o bryd, rhwng Novak Djokovic a Jo-Wilfried Tsonga.Dwi'n hoff iawn o wylio chwaraeon ar y teledu boed yn bêl-droed (bûm yn gwylio Wigan 1 - 2 Chelsea ddoe), rygbi, tenis, dartiau neu unrhywbeth arall dan haul. Un o occupational hazards gwylio llawer o chwaraeon i'r fath raddau â dwi'n gwneud yw bod rhaid bod yn effro pan mae pawb arall yn cysgu. Dwi ddim fel arfer yn codi am 8 ar fore dydd Sul ond pan fydd gwylio 'digwyddiad' chwaraeon yn y fantol, fyddai allan o'r gwely ar amserau rhyfeddol.Criced o Awstralia a Sri Lanka, bocsio o Las Vegas, a'r Gemau Olympaidd o bob cwr o'r byd. Mae na ryw atyniad tuag at y teimlad 'roeddwn i yno'-aidd ynof i a dwi'n siwr mai hynny sydd wrth wraidd yr arferiad rhyfedd yma...

Post-arholiad 1: SFA yng Nghaerdydd via glas June 24th, 2007 at 22:30

Pwnc fy arholiad olaf oedd hanes America ers 1828 - y papur wnes i'r tymor diwethaf - ac fe aeth pethau'n olreit. Atebais i am progressivism, mewnfudo'n y 20au ac effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar hil. Y trydydd ateb oedd y gwanaf o bell ffordd - roeddwn i'n gwybod tipyn am effaith yr Ail Ryfel Byd ar densiynau hiliol ac am ethnigrwydd yn y 20au yn gyffredinol ond dim llawer am effaith uniongyrchol y rhyfel. O wel.Roedd na rai eraill yn y neuadd arholiad oedd yn gorffen eu gradd gan gynnwys y person oedd yn cerdded allan o mlaen i. Gorchuddiwyd y bachgen mewn siampên a silly string. Doedd dim byd mor egsotic yn aros amdana i, dim ond twr o lyfrau llyfrgell yn aros i'w dychwelyd. Roedd fy hwyl a sbri i yn digwydd y diwrnod wedyn.Ar ôl gweld yr edefyn yma ar maes-e, fe brynais i docyn i weld...

Tua’r Hanner via glas June 6th, 2007 at 23:14

Dwi yn fy ngwely yn barod ar ôl prynhawn a noson o ddiogi. Cefais i arholiad ar hanes gwleidyddol a chyfansoddiadol Prydain ers 1867 bore ma ac un ar hanes economaidd a chymdeithasol Prydain rhwng 1500 a 1750 ddoe. Chwe traethawd, chwe awr. Mae dau ar ôl gen i - boreau Llun a Mawrth. Fe aeth y ddau bapur diwethaf ganwaith gwell na'r cyntaf.Bore ma oedd fy hoff bapur - dyma lle mae hanes agosaf at wleidyddiaeth pur yng Nghaer-grawnt. Fe atebais i gwestiynau ar "Has oratory declined as an effective means of political communication?", "To what extent was did the Conservative ascendancy in the 1920s depend on the party's adoption of the pre-1914 Liberal programme?" a "How consistent with 'New Labour' ideology has Tony Blair's foreign policy been?" Pynciau tra ddiddorol.Roeddwn i'n...

McFly! Eto! via glas May 11th, 2007 at 00:25

Doedd y cyfnod yng Nghaer-grawnt rhwng dychwelyd o'r "Gogledd" a mynd adre am y Pasg ddim yn rhyw amser diddorol iawn. Fe ddechreuais i ar rywfaint o waith ond roedd tempo'r gwaith yn hamddenol iawn. Mae gen i fy stafell yn y coleg am 35 wythnos eleni, sy'n golygu fy mod i'n gallu aros ynddi drwy'r gwyliau os hoffen i. Does gan bawb mo'r cyfle na'r cymhelliad i aros yma tu allan i amser tymor. Flash! Bang! McFly ar y llwyfan!Fe alla i ddeall hynny'n hawdd. Mae Caer-grawnt yn le high pressure a weithiau mae dyn jyst eisiau dianc. O ymweld â fy annwyl chwaer am dair mlynedd cyn dod yma fy hun, dwi'n gyfarwydd gyda Chaer-grawnt o safbwynt gwahanol. I mi, mae Aberystwyth ar ei orau ym mis Medi - dim myfyrwyr, dim twristiaid - ac mae rhywbeth tebyg yn wir yma. Doedd dim cymaint â hynny o...

Eurovision via glas May 13th, 2007 at 20:20

Es i 'barti Eurovision' neithiwr. Roedd na rhyw ddau ddwsin ohonon ni'n gwylio yn stafell gyffredin un o hosteli'r Coleg ac roedd gan bawb ddigon i'w ddweud felly nes i ddim clywed llawer o'r caneuon mewn gwirionedd. Es i â chwpwl o boteli o Amstel, o'r Iseldiroedd, a Staropramen, o'r Weriniaeth Siec gyda fi. Wrth gwrs, doedd 'run o'r rhieny wedi llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol ... Mae rhai o'n ffrindiau yn hoff iawn o'r Eurovision. Bron iddi fynd yn ffeit go iawn rhwng dau ffrind dros sawl gwaith mae'r Deyrnas Unedig wedi bod yn fuddugol (pump, gyda llaw). Roedd llawer o waith cynllunio wedi mynd mewn i'r noson. I gychwn, roedd pawb yn dewis baner fechan ar hap ac yn mabwysiadu'r wlad honno. Rwsia oedd fy ngwlad i - tair merch mewn siwtiau du yn canu geiriau dodgy iawn (e.e rho...