Welsh Blogs.com


Swni yn sô troi’n lesbian i Fflur Dafydd via Wierdo August 28th, 2007 at 14:35

Amser maith maith yn ôl mewn cae rygbi yn y Wyddgrug mi roedd na gig. Mi roedd yna sawl gig a bod yn onesd. Chi'n cofio'r sdeddfod? Dwi'n gwybod mod i wedi bod yn ara deg yn postio gweddill hanesion fy sdeddfod ond ma'r laptop di marw fel dwi di deud eisioes a dwi'n blogio wan yn y gwaith gan mai hwn yw o bosib y diwrnod mwya diflas erioed. Dwin gwybod nad ydwi fod ar y wê yn y gwaith ond sgin i wir ddim byd arall i'w wneud blaw darllen; a mae'n anoddach smalio neud wbath arall tra'n darllen os oes rhywun yn cerdded i mewn.Bethbynnag, teitl y blog. Ie, wel, nos Wener y sdeddfod mi oedd Fflur Dafydd a'r Barf yn chwarae ac mi ddisgynnais mewn cariad llwyr gyd Fflur Dafydd. Mi oni'n hoffi'w cherddoriaeth hi bethbynnag, nid dyna ydwi'n ei feddwl yn yr achos yma. Mi ddisgynnais mewn cariad...

Richard via Wierdo August 13th, 2007 at 19:15

Mae gin i ffrind. Wel, ma gin i fwy nag un ffrind (wir yr), ond ma'r un dwi am son amdano yn un person (a chydig mwy). Mae Richard yn un sydd yn hoffi ei beint, a mbach yn enwog o fewn ein cylch bach ni am wneud pethau mbach yn wirion pan ma di meddwi. Er enghraifft, yn ystod eisteddfod Casnewydd fe aeth ar goll am noson. Y peth cyntaf mae'n cofio ydi bod mewn bwsh heb ei sbectol na'i ffon. Fe ddilynodd noson sgeri ond doniol i bawb arall o grwydro drwy gerddi bobl, cysgu ar y grass verge ar dual carrigeway a chuddiad rhag y bobl oedd yn mynd mewn i'r eisteddfod.Bethbynnag, mae wedi gwneud rhywbeth gwirion tebyg ers hynny yn reit aml! Pan gyrhaeddish i'r eisteddfod eleni mi oedd Richard yn goch. Doedd o heb allu dod i fy nol o'r car a'm helpu i gario petha at y campsait gan ei fod wedi...

Taid via Wierdo August 12th, 2007 at 17:34

Dwi wedi blogio sawl gwaith am taid, a ddylwn i drafod rywun arall am chenj, ond oedd yna deurnged iddo yn y babell Len ddydd Sul felly bydd rhaid i chi ddiodda clywed yr un hen stori eto (tihi, sori, methu helpu fy hun - i rai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd á thaid, mi sgwennodd taid gerdd or enwMi oeddo'n deurnged rili rili neis (ansoddeiriau cryf gin i does). Teulu f'wncl Aled oedd yn rhoi'r deurnged. Mi oedd na straeon rili neis am taid a dwi am ailadrodd rhai ohonyn nhw yma rwan.Pan oedd taid a nain wedi bod yn canlun ers ambell fis (ar ol cwrdd ar flaind dét) mi enillodd Taid y gadair mewn eisteddfod ddiwylliannol yng nghaer. Felly ffwrdd a'r ddau i'r eisteddfod. Fel ma eisteddfodau yn mynd, mi redodd popeth yn hwyr a ni gafodd taid ei gaderio tan wedi hanner nos. A dyna lle...

Ma hi’n bwrw yn y gegin via Wierdo August 1st, 2007 at 11:45

Pam o pam nad oes gin i ddim byd waterproof? Doedd gin i ddim côt felly mi fenthycais un tad f'annwylyd. Dydio ddim yn waterproof. Doeddwn i ddim yn disgwyl i convases fod yn waterproof a gwir i'r disgwyl, dydyn nhw ddim. Dyw hyd yn oed fy mhabell ddim yn waterproof!! (tydio ddim mor ddrwg a huna; ambell drip yn y rhan ganol) A dyma fi. Yn flin efo'r haul am fy neffro i mor gynnar ac yn flin efo'm mladder am wneud i mi godi. Dyma fi. Yn flin efo'r cyfuniad o fflip fflops a mwd - ddim oherwydd fod fy nhraed yn baeddu ond yn hytrach achos fod y fflip fflops yn fflipio ac yn fflopio mwd i fyny fy nillad glan. Dyma fi. Yn sogi ac yn fwdlud mewn pabell yn nolgellau am 10 o'r gloch y bore. Dyma fi. Wrth fy fflipin modd!!~~~xXx~~~Mi sgwennais i'r uchod bore sadwrn seshwn fawr ond dim ond wan...

Dydd Gwyl Dewi via Wierdo March 1st, 2007 at 00:44

Does dim angen i mi ddweud dim. Mae o wedi'w ddweud yn barod. Yma, ac yma.Mana crôl heno a'r thema yw "gwisg draddodiadol gymreig". Deni'n mynd fel derwyddon. Tihihihi!Osa rwyn yn cofio "sdeddfod sdeddfod" chydig o flynyddoedd yn ôl (dipyn go lew bosib) lle roedden nw'n canu "Yn yr orsedd, gewch chi wisgo dillad smart, yn yr orsedd,..." i diwn "in the navy"? Dwi ddim yn cofio mwy o'r geiria yn anffodus. Mi oeddo'n wych a dal yn running joke yn ty ni!Bethbynnag, Hwyl a...