Welsh Blogs.com


Graddio via Wierdo July 22nd, 2008 at 17:41

Dwi di graddio. Dwi wedi gwisgo'r het wirion a'r clogyn. Dwi wedi tynnu'r llun efo'r disgysgrif ffug. Dwi wedi tynnu miloedd o luniau eraill. Dwi'n raddededig.Ac yn wahanol i be oni'n meddwl pan oeddwn i'n fach, dwi ddim yn berson gwahanol nag yn hen. Dwi yr un hen fi, yr un mor ddiog, yr un mor wirion, yr un mor brĂ³c.Sydd ddim yn sypreis o gwbwl rili, gan mai dim ond lot o bres am ddim byd oeddo.Ar un llaw, mi oeddo'n ddwrnod neis - diwrnod allan efo'r teulu, lluniau neis i gofio'r diwrnod, a pryd bwyd hyfryd (ac anferth!) i orffen popeth!Ond ar y llaw arall? Mi oeddo'n ddrud iawn, yn ddiwrnod anhygoel o hir (cychwyn am chwarter i saith), ac i gyd er mwyn sefyll ar ben llwyfan am chydig o eiliadau yn nodio ar rhyw ddyn neu gilydd.Ond dyna ni, mae o drosodd rwan, ac er mod i wedi blino'n...

Prysurdeb via Wierdo July 8th, 2008 at 08:00

Wel, dyma fi unwaith eto, heb geiniog i'm enw a dim ond gwario i edrych ymlaen ato! Mewn gwirionedd, mae'r diffyg gwaith yn beth da ar y foment, gan fy mod mor an hygoel o brysur!Wythnos yma, dwi'n helpu dad efo'i lechi - ma'r amser o'r flwyddyn wedi cyrraedd ble mae o wedi cael ordor gin CADW a mana filoedd o lechi i'w oilio. Mae oilio llechi yn swydd ddiflas iawn iawn ac yn un o fy nghas bethau. Dwi'n cal coasters, yn eu rwbio mewn carped sydd yn damp efo linseed oil, rwbio'r llechi eto mewn carped sych, sdicio ffelt ar y cefn, rwbio'r ochrau yn y 2 garped a wedyn eu sychu gyda clwt sych. Eto ac eto ac eto.Ond dyna ni, dwi wedi dod adra o dy f'annwylyd am hanner awr wedi saith yn y bore i oilio llechi bore ma er mwyn gallu cael rhyw fath o hwyl bore ma.Wicend ma, ma angen dathlu...

Teledu ganol dydd via Wierdo February 28th, 2007 at 16:19

Dwi'n eistedd yma o flaen y teledu yn byw bywyd i'r llawn. Ddim yn codi tan amser cinio, prin yn gadael y ty oni bai am i fynd allan i feddwi, yn treulio'r diwrnod cyfan o flaen sgrin. Boed hwnnw yn sgrin deledu neu gyfrifiadur (neu'r ddau yn yr achos yma).Mana drefn dyddiol sydd yn helpu rhoi trefn i'r diwrnod. Neibys, Doctors a Diagnosis Murder. Wedyn ambell i raglen wahanol fel Sudo-q, Countdown a qavanna QC. Wedi gwylio sudo-q am y tro cyntaf erioed heddiw a sylweddoli ei fod o lot haws na beth sydd yn y papurau newydd gan nad oes gymaint o sgwariau (ar y mwyaf, 6x6 yw'r grid yn sudo-q yn hytrach na'r 9x9 arferol). Derbynniaf, dyw'r cwestiynnau ddim ynhawdd iawn, gan nad yw fy ngwybodaeth gyffredinnol mor wych na hynny. Er gwaethaf hyn, dwi'n hanner ystyried ceisio bod ar y gyfres...