
Yn ddiweddar, yn Cristion ac hefyd ar fy mlog, rwyf wedi bod yn annog pobl i edrych tu hwnt i grefydd gyfundrefnol er mwyn ail-ddarganfod Cristnogaeth y Beibl ac ail ddarganfod Crist drostynt hwy eu hunain. Rwyf hyd yn oed wedi cyfeirio at ymadroddion beiddgar fel “Everyday people are leaving the Church and coming Back to God” yn ogystal â “Jesus – OK, Church – No Way!”. Rwyf wedi fy nghyhuddo o ddifrïo'r Eglwys lle mewn gwirionedd fy mwriad oedd herio a chwyldroi'r eglwys. Yn y blogiad yma felly fy mwriad yw tanlinellu o'r newydd beth yw'r eglwys a thanlinellu fod rhaid i ni ymroi i'n heglwysi mewn modd radical a graslon yr un pryd. Maen ystrydebol bellach i gyfeirio a chymharu'r Eglwys a McDonalds - dydy mynd i'r Eglwys ddim yn eich gwneud chi'n Gristion mwy nag y gwnaiff...

Darllenais y newyddion trist bore ma ar wefan y BBC fod Ama Sumani wedi marw. Ama oedd y ddynes a oedd yn derbyn triniaeth am ddealisis yn Ne Cymru ond oherwydd i'w visa hi ddirwyn i ben fe'i halltudiwyd gan Lywodraeth Prydain yn ôl i Ghana, gwlad lle na fyddai hi'n medru parhau a'r driniaeth. Ar y pryd fe holais Elvis Adjei, cyfaill i mi o Ghana sy'n gyd-warden gyda mi yn Neuadd John Morris Jones ym Mangor beth fyddai'n digwydd iddi ac fe ddywedodd yn blwmp ac yn blaen nol ym mis Ionawr, 'she'll die for sure.' Ond wrth gwrs nid yw cael gwaed ar eu dwylo yn ddim byd newydd i Lywodraeth Orllewinol Imperalaidd fel Prydain, maen rhan anatod o'i gwead ffiaidd satanaidd. Tybed gwasanaeth faint o ddoctoriaid a nyrsys o Gahana y mae'r NHS yn ei fwynhau ym Mhrydain? Mae'n ffieiddbeth fod Prydain...