Welsh Blogs.com


I ♥ Daf Iw - a straeon eraill via Blog yr Hogyn o Rachub August 4th, 2008 at 12:35

Mae rhai pethau sydd mor ofnadwy o randym a gwych fel y byddai’n anghywir peidio â’u rhannu. Ddoe oedd, o bosib yn ei gyflawnder, y diwrnod mwyaf randym yn fy mywyd. Dechreuodd wrth i mi a Ceren fynd i Sain Ffagan, gyda’i chwaer sef Glesni yr wyf hefyd yn gweithio gyda hi (helo Glesni!), cael cinio yno, ni ein tri (gallwch chi ddim dallt pa mor randym ydi hwnnw heb fod yno) i yfed alcohol a gwrando ar farddoniaeth yn y man ymladd ceiliogod. Doeddwn i ddim cweit yn dallt sut i hyn ddigwydd ac mi bendronais am ateb na chefais.Mi fethodd Ceren a fi’r bws yn ôl i ganol y dref, a bu’n rhaid i mi eistedd efo rhaw yng nghar Glesni, wrth i ni bigo i mewn i’r Halfway am beint. Yn y pen draw fi a Ceren oedd yno, wrth i bobl fynd a dod, a chan ganu Cân yr Orsedd mi wnaethom ein ffordd...

Mwydyn Mwstas via Blog yr Hogyn o Rachub February 18th, 2008 at 22:59

Pam lai...