Welsh Blogs.com


Etholiadau Lleol IX (Casgliadau+Llundain+Ron Davies) via Blog Rhys Llwyd May 3rd, 2008 at 09:23

image Dyna ni felly, etholiad arall drosodd, dyma grynhoi rhai o'r prif argraffiadau. GwyneddPlaid Cymru yn colli Gwynedd gyda unigolion blaenllaw fel Dafydd Iwan a Richard Parry Huws yn colli eu seddau oedd newyddion yr etholiad i mi. Er mod i'n credu fod Plaid Cymru yn haeddu ysgytwad dydw i ddim yn hollol gyfforddus gyda buddugoliaeth Llais Gwyendd oherwydd nad ydw i'n credu mewn single issue politics. Er enghriafft pwy yw arweinydd grwp Llais Gwynedd ar y cyngor nawr? Pwy fydd a'r mandad i arwain y trafodaethau am glymbleidio? Ydy Llais Gwynedd eu hunain yn gwybod yr ateb i hyn heb son am ni'r etholwyr yma yng Ngwynedd - y cwestiwn tymor hir fydd yn hofran uwch ben Gwynedd fydd hyn - a aeth y brotest rhy bell?Newyddion arwyddocaol arall yng Ngwynedd oedd bod Plaid Cymru wedi ennill tir mewn...

Etholiadau Lleol V (Sir Gar) via Blog Rhys Llwyd May 2nd, 2008 at 11:12

Canlyniadau Sir Gar yn dechrau dod trwyddo nawr - ar ddiwrnod da fe allai Plaid Cymru gipio'r cyngor yma. Argoeli yn dda hyd yma a sôn fod y Blaid wedi cipio dwy sedd gan Lafur yn Llanelli, seddi oedd arfer bod yn rai saff i'r Blaid...

Etholiadau Lleol VII (Sir Gar) via Blog Rhys Llwyd May 2nd, 2008 at 11:29

Newyddion ddim mor dda a hynny i Blaid Cymru nawr o Sir Gar. Ymddangos fod y Blaid wedi colli llawer o seddau o drwch blewyn er enghraifft:Rhydaman:Llafur - 457Plaid Cymru - 451Cynwyl Elfed:Llafur - 795Plaid Cymru (John Dixon) - 650Ddim y tro yma felly i gipio Sir Gar, trueni...