Welsh Blogs.com


Llawysgrifen via Blog yr Hogyn o Rachub August 12th, 2008 at 10:47

Dydw i ddim yn rhywun mor ddiflas â fy mod yn trafod hyn yn aml â neb ond un o’r pethau sydd gennyf i a’m ffrind dwyfol a rhyfedd Lowri Llewelyn yn gyffredin ydyw’r ffaith nad ydym yn hoff o Comic Sans. Dyma’r ffont i bobl drist sy’n meddwl eu bod yn crazy wrth ysgrifennu adroddiadau a thraethodau. Windings. Dyna ‘di ffwcin crazy; ceisiwch chi feiddio cyfieithu gan ei ddefnyddio, ond Comics Sans? Tai’m i glywed y lol ‘ma fwyach.Microsoft Sans Serif ydi fy hoff ffont i, wedi’i ddilyn gan Arial, er wrth ysgrifennu â’m llaw mae fy g a’m a yn union ‘run fath â Times New Roman.Sôn am ysgrifennu â llaw, ydach chi’n cofio yn ‘rysgol fach mai peth pwysicaf, yn ôl yr athrawon, y câi ei ddysgu i chi oedd sut i wneud llawysgrifen gysylltiedig? Fi ydi’r unig un...

.cym via Blog yr Hogyn o Rachub August 6th, 2008 at 12:16

Ai fi ydi'r unig un yng Nghymru gyfan sy'n meddwl bod .cym yn swnio'n erchyll ac y byddai rhywbeth fel .cmr yn fwy...

Afiachrwydd a’r Blewyn Dirgel via Blog yr Hogyn o Rachub July 31st, 2008 at 10:57

Mae haenau o afiach yn yr hwn fyd. Gall rhywun fod yn afiach oherwydd eu bod yn drewi, fel Haydn Blin. Gall rhywun feddu ar bersonoliaeth afiach, fel Dyfed Flewfran. Gall rhywun fod yn gwbl afiach eu naws, fel Lowri Dwd. Gallwch fod yn afiach o hiliol, sydd ryw haen yn uwch o hiliol nag wyf i, neu’n afiach o gas a thywyll eich gwedd. Gallwch fod yn afiach ddigon eich arferion, fel pan gafodd Ceren biso yn bin y golchdy yn Senghennydd. Na, nid wyf wedi anghofio.Mae’r afiach a wyf innau yn wahanol, ond fe’i cyrhaeddais neithiwr. Ers rhyw dridiau dwi wedi bod yn tagu llawer (sef pesychu i rai pobl ond tagu y bydda i’n ddeud, fel rhywun o Rachub a’i dafodiaith gref, gyfoethog) a heb ddeall pam. Mi gefais ryw ffisig ar ei gyfer ond ni wnaeth wahaniaeth, ac ni chysgais yn ddigonol...

‘Steddfod yn nesáu via Blog yr Hogyn o Rachub July 23rd, 2008 at 10:36

Smai? Ydw, iawn diolch yn fawr, ‘rhen fol yn chwarae fyny ond dyna ni. Chithau? Wela i. Ffyc off, felly.Ta waeth. Mae’r ‘Steddfod, wyddoch chi, yma ymhen tuag wythnos. Rŵan, fel y dywedais y llynedd, nid steddfodwr mawr mohonof, ond pan fydd y ‘Steddfod yn agos, fel y bu i mi yng Nghasnewydd, Bangor ac eleni yng Nghaerdydd, mi fydda i’n galw heibio i ddweud helo a chwilio am ffrîbis yn stondin Cymdeithas yr Iaith a gwneud pethau felly. I fod yn onest efo chi, fedra i ddim disgwyl eleni, achos dwi’n benderfynol o weld y cadeirio, sydd yn rhywbeth dwi byth wedi’i weld o’r blaen, ac eistedd ar y maes efo peint a byrger. Na phoener, ‘rhen Selwyn, feddwa i ddim ar y maes. Nid bardd mohonof.Pobl ryfedd ydi beirdd. Dydyn nhw ddim mor clîci â phobl y sîn roc Gymraeg (yr...

Pynciau’r Ysgol via Blog yr Hogyn o Rachub July 10th, 2008 at 11:53

Tua’r adeg hon ddeng mlynedd yn ôl roeddwn yn gorffen fy ail flwyddyn yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Roedd yn weddol amlwg i mi hyd yn oed bryd hynny nad oedd dawn gen i, ond am ysgrifennu, a’r ddawn honno nid mawreddog ydyw. Ta waeth, roedd hefyd yn amlwg erbyn hynny pa bynciau yr oeddwn yn dda arnynt a’r rhaid nad oeddwn cystal.Mae’n mynd heb ddweud mai fy nghas bwnc oedd chwaraeon. Dydi bod yn hogyn a chasáu gwneud chwaraeon yn yr ysgol achos eich bod chi mor ddiawledig o wael ar bob camp a chwaraeir ddim yn gyfuniad delfrydol a dweud y lleiaf. Pob gwers mi deimlais yn ofnadwy a gwneud unrhyw beth y gallwn i gael allan ohoni, ond yn amlach na pheidio gwneud cywilydd o’m hun efo pêl-droed neu griced fu’r hanes. Yn pwyso llai na naw stôn bryd hynny, gallwn ddychmygu nad oedd...

Y Byd Mawr Crwn via Blog yr Hogyn o Rachub July 9th, 2008 at 14:36

Wel helo ffrindiau. Heddiw, cawn dair wythnos werth o law mewn diwrnod, yn ôl y sôn. Am ryw reswm, nid yw hyn at fy nant. Wedi’r cyfan, mae’n fis Gorffennaf, ac mi ddylai fod heulwen. Dwi’n draddodiadwr rhonc a ddim yn hoffi pan nad ydi pethau fel y dylent fod.Ar brydiau felly caf ryw fân awydd i ddenig i rywle pell, ond prin y bydd hynny’n parhau. Dydw i ddim yn un am deithio na gwyliau. ‘Does yr un man yn y byd dwi isio mynd, dim dwisho gweld, a ‘does uffar o ddim y gall y byd mawr gynnig i mi na fedraf ei gael yng Nghymru. Heblaw am haf yn ystod yr haf.Wel, celwydd braidd ydi’r uchod. Mae’n wir nad ydw i’n licio teithio a ‘does fawr o ddim dwisho’i weld ond mae ambell i beth. Dwi wastad wedi bod isio gweld y Sffincs yn yr Aifft. Y broblem ydi dwi’n casáu...

Ffyc off Wimblingdon via Blog yr Hogyn o Rachub June 27th, 2008 at 10:13

Ha ha ha. Dwi newydd cael chwarddiad bach plentynaidd i mi’n hun o ddarllen rhai o’r amrywiol ffyrdd y daw pobl at y flog drwy peiriannau chwilio. Wele’r canlynol a deipiwyd i mewn i Gwgl yn bennaf: fampir sex any mackrel at Moelfre Helen Sbeit enwau babi Dai Llanilar caneuon La mamma di smalio bryn fôn carchar king prons P’un bynnag, a hithau’n ddiwrnod erchyll o ddiflas yng Nghaerdydd, mi obeithiaf yn llawn bod yr un peth yn digwydd yn Wimbledon draw wrth i’r gachwanciaeth llygru’r sianeli teledu. Mae’n gwbl iawn a chyfiawn i Ewro 2008 wneud hyn, wrth gwrs, gan fod pêl-droed cymaint gwell na thenis. Yn y gorffennol niwrol, pell, roeddwn i’n wych ar tenis. Dyna’r unig gamp, erioed, a oedd gennyf unrhyw ddawn ynddi. Er, cefais gerdyn cymeradwyaeth mewn rygbi...

Clwyfedig Fraich Ddirgel via Blog yr Hogyn o Rachub June 26th, 2008 at 13:43

Wn i yn ddiweddar dwi bron â bod yn mynd allan o’m ffordd i sarhau pawb mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, o lysieuwyr i Doris i bobl ddigartref i bobl sy’n ailgylchu. Dyma neges i chi (ond am y bobl ddigartref, nad oes mynediad i’r rhyngrwyd ganddynt, mi dybiaf):Ymlawenhewch. Dw i mewn poen.Am ryw reswm sy’n gwbl anhysbys i mi dw i ‘di tynnu rhywbeth yn fy mraich chwith ac mae’n wirioneddol, wirioneddol brifo heddiw. Dwi’n ei grymu ac yn rhoi mwythau iddo ond yn dal i gerdded o gwmpas megis fersiwn hynod ddel o Jeremy Beadle.Rŵan, wn i ddim sut ddaru hyn ddigwydd. Neithiwr, mi es gyda’m ffrind diserch, Ellen Angharad, i chwarae sboncen, ond defnyddio fy mraich dde ydw i wrth chwarae sboncen, neu chwarae unrhyw beth a dweud y gwir (moch). Hitia befo. Mi ddaeth i’r amlwg...

Y Gân Gylchdroi via Blog yr Hogyn o Rachub June 16th, 2008 at 14:09

Cân y funud ydi ‘O ble gest ti’r ddawn?’. Mae gan bawb wastad cân y funud y mae ganddynt obsesiwn â hi. Mae pawb yn hoff o’u cân y funud; mae’n ysbrydoli ac yn rhoi gwên i rywun, ‘blaw os rhyw Emo ydych chi a’ch bod chi’n gwrando am ryw lwmp o gân am hunanladdiad neu’i thebyg. Nid fy mod i’n gwybod beth ydi Emo, ond dwi’n gwybod taswn i yn un, mi fyddwn yn un hen.Rhywbeth arall, fodd bynnag, ydi’r Gân sy’n Cylchdroi yn eich Pen. Mi all hon fod yn unrhyw beth ac mae’n mynd ar nerfau rhywun fatha Sais cofiwch. Yr un diweddaraf i wneud ei thaith o amgylch fy mhen am ryw bythefnos oedd anthem genedlaethol Ffrainc.Y dacteg, yr unig dacteg, i gael y Gân Gylchdroi allan o’ch pen ydi ei chlywed yn ddidrugaredd o aml a dysgu’r geiriau. Go iawn. Ac ydi, mae...

Diwrnod ym Mywyd yr Enwog Syr Ian via Blog yr Hogyn o Rachub June 11th, 2008 at 13:21

Yn wahanol i sawl person dwi’n eu hadnabod, a hwythau gwyddant pwy ydynt, nid yw fy mywyd yn cylchdroi o amgylch teledu, er fy mod i’n ddiog ac yn treulio’r nosweithiau o flaen y cyfrifiadur a’r teledu a dim arall yn lle gwneud pethau fel ymarfer corff ac ysgrifennu’r Stori Fer dragwyddol anorffenedig ond ffwc o ddoniol serch hyn.Sôn am ddoniol dwi’n licio gweld pa fath o hiwmor sydd gan bawb, a sut fath o hiwmor y bydd rhywun yn ei gyfleu. Fydda i’n hoff o feddwl (yn gwbl gelwyddog) fod gen i hiwmor eangfrydig, ond a dweud y gwir hiwmor sy’n gyfuniad o fod yn swrreal, sarhaus a stiwpid-blentynnaidd sy gen i, sy’n cylchdroi o amgylch cymariaethau. Mae’n od mai Blackadder a Bottom yw fy hoff gomedïau, sy’n gwbl wahanol i’w gilydd, ond dwi methu er fy myw mynd i...

Y Siom a’r Caledi via Blog yr Hogyn o Rachub June 10th, 2008 at 11:17

Celwydd ni chewch. Gas gen i’r Iseldiroedd heddiw. Beth ydynt ond am Saeson acen wirion sy’n byw hanner milltir o dan y môr, wn i ddim. Dynesed cynhesu byd eang a distrywio’r melinau gwynt a’r tiwlips. Chwaled eu cawsiau a’u canals.Iawn, efallai bod dyheu am dranc cenedl braidd yn or-ymateb, ond p’un bynnag dwi’n ddig ar y diawl heddiw. Ym maes chwaraeon, dwi’n gollwr drwg a chwerw. Yr unig beth sydd o gysur i mi oedd, er gwaethaf colli 3-0, chwaraeodd Yr Eidal yn well na Ffrainc na Rwmania. Tra bo pizza, bo gobaith.O leiaf ei bod hi’n braf. Dwi’n tisian fel mong ond ta waeth, mae’r tywydd braf yn codi hwyliau’n ddi-ffael, fel y mae’r gaeaf, ond am y Nadolig, yn ddigon i dduo’r enaid i’r iselfannau, wel, isaf. Fodd bynnag, dwi’n byw ar gabaets a thatws ar...

Split Ends. Stori wir. via Blog yr Hogyn o Rachub June 4th, 2008 at 13:50

Roedd heddiw yn garreg filltir i mi. Am y tro cyntaf yn fy mywyd fe es i dorri fy ngwallt ben fy hun. Tair blynedd ar hugain ar y blaned drist a chrap hon a dyma’r tro cyntaf i mi gamu i mewn i siop drin gwallt a chael cneifiad. Anhygoel, a dweud y gwir.Wel lwcus i mi fynd, hefyd. Fel tua thri chwarter swyddogaethau’r byd, ‘sgen i ddim amser i bobl trin gwallt. Mae gen i lai o fynadd efo nhw pan maen nhw’n dechrau siarad am wallt, oherwydd ‘does gen i fawr o ddiddordeb mewn gwallt. Mi ddechreuodd siarad am wallt, fel y gallwch ddychmygu.“Lwcus,” dywedodd yn ei Saesneg hyllaf (sydd yn fawr o gamp efo Saesneg) “eich bod wedi dod yma. Split ends ydi 70% o’r gwallt hwn. Mis arall a fyddwn i methu â gwneud dim i chi. Ond mi allaf eich achub.”Ffug-chwarddais, oherwydd...

Hunansynfyfyrio via Blog yr Hogyn o Rachub May 14th, 2008 at 10:41

Mae’r Gogledd diawledig wedi llwyddo cydio ynof drachefn, ond fel ers cryn amser dydi’r grafanc hon ddim am ddiflannu’n hawdd: mae’n aros gyda mi ac yn gwneud i mi deimlo’n isel. Dydi’r amser ddim yn iawn i mi ddychwelyd, fi ydi’r un cyntaf i ddallt hyn, ond mae’r teimlad yn parhau ac yn fy llesgau’n ofnadwy.Ta waeth, mewn tua thair wythnos fydd Hogyn o Rachub (y flog, nid y fi) yn dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed. Rŵan, mae ‘na sawl peth sy’n peri dryswch i mi. Dwi isio mynd allan efo BANG mawr bryd hynny a chael parti ond dydi hynny ddim yn hawdd. A p’un bynnag, byddai mynd allan ar ôl pum mlynedd yn eithaf camp - dwi’n falch, mewn ffordd wyrdroëdig, mai dyma un o’r blogiau Cymraeg hynaf sy’n bodoli ar y we: dim ond Morfablog a Nwdls sy’n hŷn, dwi’n...

Yr Haf Hiraf yn Dyfod via Blog yr Hogyn o Rachub May 13th, 2008 at 13:26

Asu dwi’n oriog ar y funud, yn enwedig ers colli fy ffôn hyfryd iawn efo’i gerddoriaeth a’i luniau a phob math. Yn wahanol i bawb arall un oriog dwi yn y tywydd hwn beth bynnag, achos mae’n llygaid i’n cosi a’m gwddf yn gallu brifo’n eithriadol waeth bynnag faint a yfaf.Felly mi fues i’n gollwr a chreu grŵp Facebook. Wyddoch chi, un o’r rhai sy’n dweud COLLI RHIFAU ANGEN RHIFAU PAWB. Dim ond deg o bobl sy wedi ymuno. Mae o leiaf tri o’r rheiny eisoes efo fy rhif ddydd Sul newydd. O diar. Doeddwn i’m yn gwybod bod fy amhoblogrwydd wedi diosg a phydru i’r fath raddau (er, mi oedd gen i syniad go dda).Fyddai’m yn teimlo fel blogio yn ystod yr haf. Dwi’m yn teimlo y dylwn, a dwi’m efo’r un egni i fynd ar rants a, hyd yn oed, weithiau, dweud ambell i...

Dydd Gwener via Blog yr Hogyn o Rachub May 9th, 2008 at 11:09

Dydd Gwener. Beth all rhywun ddweud am y dydd hwn? Byddaf bob tro yn disgwyl gwyrthiau o ddydd Gwener, ac mae’n fy siomi’n ddi-ben-draw. Byddaf yn disgwyl i rywbeth anhygoel ddigwydd, a hwyl a sbri’r byd a’i manion bethau ddod i’m canlyn i ddathlu diwedd yr wythnos waith. Disgwyliaf adar yn dawnsio canu yn y coed a’r gwair yn sglein a chlywed chwerthin plant a geiriau mwyn cariadon, cofleidio cyfeillion a chanu a cherddi’n llu.Nid y fi ydi’r person mwyaf realistig, ni fedraf wadu hyn.Fodd bynnag, dwi’n disgwyl cynnwrf yn yr awel ar ddydd Gwener ond byth yn ei gael. Prin iawn ar ôl dechrau gweithio mae rhywun yn sylwi mai diwrnod arall ydi dydd Gwener a bod yn rhaid i rywun gweithio, er gyda chryn lai o frwdfrydedd ac ymdrech nac unrhyw ddiwrnod arall. Rhaid i rywun...

Ben Foel via Blog yr Hogyn o Rachub May 6th, 2008 at 09:00

Ew, dwi’m wedi bod atoch chi ers sbel, naddo? Roeddwn yn bwriadu rhoi dadansoddiad manwl o’r etholiadau cyngor cyn penderfynu nad oeddwn i wirioneddol isio gwneud hynny. Wel, roeddwn i isio, ond wnes i ddim, felly dyna ddiwedd ar hynny.Mi es ddoe i ben Foel. Mae’n bosib iawn mai ben Moel Faban ydi fy hoff le yn y byd i gyd; ‘doeddwn i heb fod am flynyddoedd felly mi es. Yr ochr draw i Foel ceir cwm diffaith, ond dwi wrth fy modd yno. Yr unig beth a glywch yno ydi brain a defaid, gweld y ceffylau gwyllt yn mynd ar eu busnes rhwng y carnau. Mae rhywbeth dwfn am heddwch y fan honno sy’n rhoi rhyw flas tangnefeddus i mi.Serch hynny, dim ond Saesneg sydd i’w chlywed ar uchaf gyrion Rachub erbyn hyn. Fedra’ i ddim disgrifio’r teimlad yn llawn i chi o glywed Saesneg yn y pentref....

Pensiwn via Blog yr Hogyn o Rachub April 29th, 2008 at 10:52

Hoffech chi glywed ystadegyn trist? Fydda’ i ddim yn ymddeol nes y flwyddyn 2052, sef pan fyddaf yn 68, sydd mewn 45 o flynyddoedd (mae gen i ddwbl beth yw fy oedran rŵan, i bob pwrpas, i ddal i weithio). Dwi’n meddwl bod hynny’n erchyll, fy hun. Heb sôn am feddwl am fyw mewn byd y bydd yn hollol estron i chi, pwy ddiawl sydd isio gweithio nes eu bod nhw’n 68 oed?Mae rhan ohonof yn rhywle sydd wastad yn meddwl nad lle dyn yw swyddfa neu floc neu rhwng muriau yn gweithio’n gaeth i drefn sydd ohoni. Mae rhan sy’n gweiddi’n groch am fod yn yr awyr iach ac wrth y môr a’r coed yn rhydd o ddesgiau a chyfrifiaduron. Gan ddweud hynny, mi wn yn iawn mi fi fyddai’r cyntaf i gwyno ar yr arwydd gyntaf o law mân neu pan y mae’n ddiawl o oer. Dydi hi byth yn peidio â’m...

Wythnos tan y 23 via Blog yr Hogyn o Rachub April 11th, 2008 at 11:05

Wythnos i ‘fory dw i’n dathlu fy mhen-blwydd. Wythnos i ‘fory mae’n rhaid i mi bwyso 11.6 stôn. Wythnos i ‘fory dw i am feddwi a gwneud bob math o bethau drwg a swnllyd nad ydi pobl dosbarth canol a chapelwyr yn hoff ohonynt. Ond mae amodau, ac elfen gref o betruster. Nid yw rhywbeth yn teimlo’n iawn.Dydw i ddim yn hoff o’r rhif 23. O fod yn 22, gall rhywun smalio ei fod yn 21 o hyd. Nid felly 23. Rŵan, dw i’n raddol gweld llawer o’m ffrindiau yn callio i raddau; licio arbed ychydig o arian, mynd allan am fwyd, sesiwns mawrion, gwyllt, anfoesgar yn diflannu cam wrth gam, a dw i’m yn licio. Ac mae rhyw ddisgwyl cyffredinol i rywun ddechrau callio rhywfaint ar yr oedran hwn. Dwi am wrthod, wrth gwrs, er gan deimlo y dylwn.Dydi bod yn 23 yn ei hun ddim yn fy...

Obsesiynau via Blog yr Hogyn o Rachub March 27th, 2008 at 11:08

Mi aeth y syniad o nofio fy heibio yn handi iawn. Os na wnaf rywbeth ar unwaith, heb oedi nac ystyried, mi a’i cyflawnaf. Os oedaf, meddwl a phwyso a mesur, prin y gwna’ i. Wn i ddim amdanoch chi, ond fel rheol dw i’n rhywun sy’n cael syniad i mewn i’w ben, yn mynd efo fo, ac yn diflasu wythnos yn ddiweddarach. Mae rhai pobl yn para gyda diddordeb neu hobi, neu obsesiwn, hyd eu hoes – dw i’n lwcus i bara mis.Ymhlith yr obsesiynau dw i wedi eu cael ar draws y blynyddoedd mae sgwids (sef ystifflog, môr lawes, twyllwr du neu bibwr – cymer hynny, Saesneg!), yr Eidal, hud tywyll, Pabyddiaeth, y Teulu Brenhinol, hetiau, Dafydd Wigley, The Sims a dysgu manion mewn ieithoedd Celtaidd, a fedrwch chi ddim dadlau bod hynny’n gymysgedd od (y byddai o bosibl yn bizza diddorol iawn)....

Dwisho byd yng Nghwmderi a churo’r Gamp Lawn via Blog yr Hogyn o Rachub March 14th, 2008 at 10:40

Drwy gydol yr wythnos cyn gêm Lloegr roeddwn i’n aflonydd ac yn methu gweithio a dw i ‘di bod yn eithaf tebyg i hynny'r wythnos hon, er bod yn rhaid i mi gyfaddef dw i’n bryderus pa mor anodd bydd cael peint gyda 250,000 o bobl eraill yn gystadleuaeth i mi.Dwi ‘di penderfynu nad ydw i’n licio’r celfyddydau. Iawn, dw i’n licio barddoniaeth, os Cymro ydw i felly mae hynny’n anochel. Ond mae orielau yn hen bethau diflas tu hwnt yn fy marn i. Dwi’n cael dim mwynhad o drempio rownd y lle yn edrych ar luniau, a gwaeth fyth eu dadansoddi. A’m noson annelfrydolaf (dyna ‘di gair) ydi treulio noson yn y theatr. Dw i’n un o’r bobl hynny y byddai’n well ganddynt fynd ar Facebook a gwylio Pobol y Cwm.Ar y funud dw i ‘i mewn i’ Pobol y Cwm. Dwisho credu mai Denzil...

S4C via Blog yr Hogyn o Rachub March 10th, 2008 at 11:49

Iawn, iawn gêm wych ac ati, ‘sdim pwynt i mi fynd drwy’r mosiwns yn dweud sut wnes i feddwi a pha mor wych ydi Cymru, achos mi fyddwch yn gwybod neu’n dyfalu neu’n amgyffred hyn oll yn barod. Meddwl am S4C o’n i.Yn tŷ fues i’n gwylio’r gêm efo Sion, a hynny ar S4C, mwy oherwydd fy mod i’n hoffi clywed HLlD yn dweud pethau fel ‘y deunaw stôn o Donga’ a phiso chwerthin ar hynny. Mae ‘na rhywbeth anfarwol o ddoniol am glywed ‘y gwŷr mewn gwyrdd’ a ‘Pharch Crôc’, ond efallai mai fy hiwmor syml i ydi hynny.Meddwl oeddwn i faint ydw i’n gwylio S4C, ac mi synnais fy mod i’n ei wylio yn eithaf defodol. Mi wnaf ymdrech go iawn i wylio pethau fel Codi Canu a Johnathan, oherwydd dwi’n eu mwynhau, a Phobol y Cwm ydi’r unig opera sebon dw i’n ei wylio’n...

Nodweddion Pennaf y Cymry via Blog yr Hogyn o Rachub March 5th, 2008 at 11:54

Nid yn anaml yr hoffwyf ddweud pethau mawrion, ac nid yn anaml i’r iaith Saesneg y cyfeirir y llid hwnnw ati. Yn wir, mor drahaus ydwyf ar y mater fel y byddaf yn datgan yn groch a phendant mai hen iaith gomon a hyll ydi’r Saesneg: hyll oherwydd ei seiniau di-nod a diflas a chomon oherwydd bod pawb yn ei medru. Does math o goethder na chelf yn perthyn iddi, yn fy marn onest i. Adroddir cyfrolau am y Saesneg y medr bron pob gwlad arall ei siarad yn well na’i wlad a roes enedigaeth iddi. Ond gwell i mi beidio â dweud mwy, neu bydd rhywun yn sicr am fy ngwaed.Ar ôl darllen Morfablog a gweld dolen i raglen Rob Brydon’s Identity Crisis fe’m synnwyd sut yr oedd ei ddirnadaeth o’r Cymry yn wahanol i ddirnadaeth y Cymry am eu hunain. Wyddwn i fy hun fyth y cawsom ein hystyried yn...

Tafarn leol via Blog yr Hogyn o Rachub February 28th, 2008 at 10:45

Wrth i Lowri Dwd ddod am ei gwyliau i Stryd Machen draw mae’n noson cwis dafarn yn y Cornwall. Bydd ambell un ohonoch yn gyfarwydd â thafarn y Cornwall, sef fy nhafarn leol, lle y byddwn yn mynd, ambell i waith, i chwarae’r cwis. A meddwi.Rŵan, dw i’n berson cwynfanllyd a phenodol pan ddaw at dafarndai. Ers i’r Siôr gael ei chymryd drosodd gan Saeson (a rhai dw i’m yn ffond iawn ohonyn nhw o ran hynny - nid fy mod i’n ffond iawn o Saeson fel arfer, chwaith) mae’r Tavistock yn hawlio’i lle dyledus felly fel fy hoff dafarn. Dw i heb fod yno ers blwyddyn a mwy bellach, ond mae’r ddelwedd berffaith ohoni’n parhau, a dw i’n ddigon bodlon aros â’r ddelwedd o’r lle. Roedd y Tavistock yn dafarn leol heb ei hail, ac yn aml iawn bydd fy nghalon yn canfod ei ffordd yn...

Rhestr Fer: Pethau Nad Wyf nac Eisiau Deall via Blog yr Hogyn o Rachub February 13th, 2008 at 14:06

Henffych ffieiddiaid, a diawl rydych chi’n ffiaidd heddiw! Rydw i, ar y llaw arall, yn golofn wen o hylendid a dilygredd.Serch hyn, dw i’n rybish. Mae’r bwriad gennyf o hyd gorffen y stori fer ‘ma dw i’n ei hysgrifennu, cyn symud ymlaen i’r un nesaf, ac mae gen i ddigonedd o syniadau. Mae rhywbeth arall yn dod i’r fei o hyd, fel gorfod nôl bwyd neu fynd allan neu wylio rhaglen angenrheidiol neu lanhau’r tŷ. Pair hyn i mi feddwl fy mod yn ddiog, ond am y ffaith bod yn rhaid gwneud y pethau uchod cyn gweld os ydw i ‘di cael neges Facebook (sydd fel arfer gan Dyfed neu Lowri Dwd). Angen blaenoriaethu dw i.Prin fis yn ôl roeddwn yn y Gogledd ac yno y byddwn drachefn yr hwn benwythnos, yng nghanol y mynyddoedd hynafol a’r dyfroedd llithrig, llon. Ac, yn anffodus, bydd yn...

Tafarn, Cwmni Da a Phengwins via Blog yr Hogyn o Rachub January 30th, 2008 at 13:46

Yng Nghaerdydd mae’r haul yn codi ac mae hynny yn ei hun yn gwneud i mi wenu’n wirion. Na, hoffwn i mo’r tywydd poeth, ond mae’r tywydd braf yn mynd i ddyfnion noethaf y galon. Dw i’n gwybod mai mis Ionawr ydyw, ond yn fwy na fûm o’r blaen erioed dwi’n erfyn i’r tywydd hafaidd ddyfod.Dyna’r broblem efo Cymru. Mae’r tywydd yn gyffredinol, wel, cachlyd. Cael gwyliau i fynd dramor yr adeg hon o’r flwyddyn y dylem; mae’n od bod pobl yn mynd yn yr haf pan mae’r haul yn penderfynu dod allan.Soniem yn ddiweddar am fynd i Fflorida am wyliau yn yr haf. Ar ôl fy mrwdfrydedd cychwynnol dw i ‘di penderfynu nad ydw isio. Un rheswm ydi nad oes ‘na ddim yn Fflorida i mi. Mae’n boeth, dw i’n casáu torheulo, a dw i’n casáu nofio, sy’n rhywbeth y mae pawb yn ei...

Ionawr. Casáu Ionawr. via Blog yr Hogyn o Rachub January 9th, 2008 at 10:46

Eisiau yw gwraidd dioddefaint: un o hanfodion Bwdhaeth. Coeliwch ai peidio (a mwy na thebyg na wnewch), dw i’n eithaf cryf fy ffydd a’m Cristionogaeth, i’r fath raddau na fyddaf yn cytuno â chrefyddau eraill, a wastad efo rhyw deimlad ym mêr fy esgyrn y dylwn fod yn Babydd (wn i ddim pam hynny). Fodd bynnag, mae’r Bwdhyddion wedi taro’r llygad ar ei phen ac yn hoelen eu lle gyda’r dywediad uchod. A dydi’r flog hon ddim yn trafod chwaraeon a chrefydd, maen nhw’n llawer rhy beryg.Ers gwneud yr adduned na fyddaf yn mynd allan i feddwi ym mis Ionawr dw i wedi syrthio i mewn i dwll o ddigalondid, ac o ystyried nad yw traean y mis wedi mynd rhagddo, nid peth da mo hyn. I raddau helaeth iawn mae fy mywyd yn cylchdroi o amgylch cymdeithasu, a’r llai y byddaf yn cymdeithasu, yr...

Y flwyddyn a fu via Blog yr Hogyn o Rachub December 18th, 2007 at 10:45

Tuag yr amser hwn o’r flwyddyn byddaf, yn draddodiadol, yn edrych dros yr hyn a fu yn flwyddyn i mi. Rŵan, os cofiwch, os cymeroch sylw, sy’n annhebygol, roedd y llynedd yn eithaf annifyr ar y cyfan, wedi gorffen bod yn fyfyrwyr (ydw, dw i DAL i hiraethu, ac mi fyddaf am byth) a chwalu ‘mhen glin. Ond wyddoch chi beth? Dw i’n meddwl y bu eleni yn well o lawer.Doedd dechrau’r flwyddyn yn ddi-waith yn mynd o amgylch amgueddfeydd efo Kinch ddim yn arwydd da, ‘does dadl (ni chredaf y byddai dechrau unrhyw flwyddyn efo Kinch yn un da waeth bynnag y gweithgaredd). Ond mi ges waith yn eithaf sydyn, a chael hyfforddiant, a llwyddo, a gwella fy Nghymraeg yn eithriadol. Iawn, dydi fy Nghymraeg i ddim yn berffaith, ond mae meddu ar iaith dda yn rhywbeth i fod yn falch ohono, tydi?Heb na...