Dwi newydd anfon fy nghlawr llyfr cyntaf bant i'r wasg. Clawr ar gyfer cyfieithiad Saesneg o lyfr Cymraeg Huw John Huws ydy e: 'Amazing Lives' sef cyfieithiad o 'Am bobl' - llyfr yn rhoi hanes bras 100 o Gristnogion enwog. Dwi ddim wedi dylunio clawr cymhleth a sgleiniog, dim ond un syml ond un sydd dal am ddenu'r llygad... gobeithio.Dylunio Rhys Llwyd - proffesiynnol a...
Dwi wedi cael iPhone ers wythnos nawr, dwi ddim wedi sgwennu adolygiad ar y blog 'to oherwydd fyddai ddim yn ei ddefnyddio fel ffôn tan ar ôl steddfod gan fod chydig o wythnosau gyda fi redeg allan ar fy hen gontract gyntaf. Ond un peth sydd wedi fy nharu yn barod ydy'r diffyg rhwydwaith ffôn symudol 3G yng Nghymru. Fe gew chi signal da ar hyd coridor yr M4, signal yng Nghanol tre Bangor a chanol tre Aberystwyth ac hefyd ardal eang ym Meirionydd ac Eifionydd rhwng Penrhyndeudraeth draw i Grigieith am ryw reswm! Ond heblaw am hynny chew chi ddim lwc o gwbl. Edrychwch ar y map isod sy'n dangos y rhwydwaith 3G yng Nghymru:Yna cymharwch y rhwydwaith yn Lloegr i gymharu a'r rhwydwaith dros Gymru yn yr ail fap isod:Dwi'n ffodus mod i'n treulio y rhan fwyaf o fy amser ym Mangor ac Aber lle...

Dwi wedi bod yn dylunio'r flyer cyntaf i ŵyl Llanw 2009 p'nawma:Yn chwilio am ddylunydd? Dylunio Rhys...
Dwi wedi bod yn gwneud lot o waith dylunio dros y penwythnos, ddoe a bore ma; y rhan fwyaf mewn paratoad i waith llawer o fudiadau i'r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Bore ma dwi wedi bod yn dylunio Crys-T i'r Gorlan, mi fydd mynnychwyr ffyddlon y Gorlan wedi hen arfer gyda'r crys-t thematic blynyddol y mae'r staff yn gwisgo. Thema'r Gorlan eleni ydy Datguddiad 21 a'r syniad am nef a dear newydd sy'n rhydd o unrhyw ofid a phoen. Dyma'r dyluniad/drafft cynta o'r crys-t wnes i weithio arno bore ma:Gwefan y GorlanGwefan fy ngwaith...

Fe glywesi am y blog difyr yma rhai dyddiau yn ôl, Photoshop Disasters, dyma oedd rhai o fy ffefrynau i:Mawredd mawr eisteddwch i lawr mae rhywun wedi dwyn fy nhrwyn llaw:Gyrru ar hyd y gwair i'r garêj?:Defnydd o'r teclyn clonio yn logo eiconig...
Dwi ddim yn cofio os ydw i wedi cyfeirio at y fideo yma o'r blaen ond maen un o fy ffefrynau. Ali G yng Nghymru, mwynhewch:...

Dwi wedi bod yn defnyddio Twitter ers llai nag wythnos nawr ond mae'n cydio'n barod. Eisioes dwi wedi bod yn defnyddio gwefannau sy'n updêtio eich statws Twitter a Facebook run pryd. Yn gyntaf fe fuesi yn arbrofi gyda www.hellotxt.com ond bellach dwi wedi setlo i ddefnyddio www.ping.fm . Mae ping.fm dal yng nghyfnod beta (hy profi) ond os hoffech ei arbrofi a'i ddefnyddio yng nghyfnod beta defnyddiwch y côd "letmeping" i gofrestru.Dwi hefyd wedi bod yn arbrofi gyda rhagleni penddesg i redeg Twitter. Y cyntaf wnes i drio oedd TwitterPost, rhaglen hyll ofnadwy felly peidiwch trafferthu gyda hwn. Ond bore ma des i ar draws un bach llawer gwell sef Twhirl. Medrwch weld o'r screen grab uchod sut y bo'r rhaglen yn eistedd yn daclus ar eich pen ddesg - maen gweithio mewn ffordd nid anhebyg i...
Dyma un o fy hoff emynau cyfoes ar hyn o bryd Ysblander Frenin Nef (The Splendor of the King) gan Chris Tomlin. Recordiad o fand addoli Llanw ydyw - nid yw safon y sain yn y fideo yn dda o bell ffordd ond gobeithio y bydd yn rhoi rhyw syniad i chi o'r emyn.YSBLANDER BRENIN NEF,Mawredd sy’n Ei wedd,Gadewch in lawenhau, dewch i lawenhau,Mae’n gwisgo golau purMae’n treiddio’r tywyll-dirSy’n crynu’n sŵn Ei lais, yn crynu’n sŵn Ei lais.Mor fawr yw ein Duw,cenwch fryMor fawr yw ein Duw,fe welwn niMor fawr, mor fawr yw ein Duw.Fe saif o oes i oes;Mewn grym teyrnasa’n ddoethO’r dechrau a hyd byth, dechrau a hyd bythYn Drindod, Ef yw’r Tad,Y mab a’r Ysbryd GlânY llew a’r oen yn un, y llew a’r oen yn un.Enw’r uchaf Un,Haedda’n mawl i gydFe ganwn niMor fawr yw ein...

Fe wnes i ddal ton Twitter braidd yn gynnar rhai misoedd yn ôl a bryd hynny nid oedd dim o fy nghyfeillion yna. Ond penwythnos yma fe ddarganfyddais fod rhai o fy ffrindiau yn ei ddefnyddio bellach felly dwi wedi dechrau ei ddefnyddio.Mae'n debyg mae Twitter yw'r Facebook nesaf, maen rhyw fath o wasanaeth sydd hanner ffordd rhwng 'update status' Facebook a Blogio. A'r hyn sy'n ei wneud yn cwl yw fod modd diweddaru eich statws wrth anfon neges destun o'ch ffon yn ogystal a clywed am ddiwedderiadau cyfeillion i chi ar eich ffon (maen rhaid i chi optio mewn i hyn, syn gneud sens oherwydd dy chi ddim am wybod beth mae pob un ffrind yn neud bob un munud o'r dydd!) Mae e am ddim. Wedi i chi ddechrau cyfri rydych chi'n medru gweld pwy yw eich "followers" ac hefyd gweld pwy ydych chi yn...
Penwythnos yma mi fydda i yn mynychu Cynulliad Oedolion Ifanc (COI) yn Annibynwyr ar y thema: "Dewch i addoli, dathlu, mwynhau'r cymdeithasu, rhannu gwybodaeth a thrafod defnydd Cristnogol o'r dechnoleg newydd!" Oce nid thema oedd hwna, ond dyna oedd y tag line ar Facebook i'r digwyddiad. A dyma, yn fras, beth fydd rhaglen y penwythnos:Nos Wener7.00 Croeso, defosiwn (Rhodri, Hawys ac Andras a’r band!)7.20 Torri’r Iâ (Hawys)8.00 Blogio’n enw’r Iôr (Dafydd Tudur) (Wedi’i ddilyn â thrafodaeth/ cyfnod o weddio)Dydd Sadwrn10.00 Defosiwn ac Addoliad (Andras a'r Band)10.30 Coffi11.00 Beibl.net/Gobaith i Gymru (Arfon Jones) Trafodaeth11.45 Tystiolaethau Digidol a'r Emerging Church (Rhys Llwyd) Trafodaeth i ddilyn12.30 Cinio2.00 Trafodaeth gyffredinol ar yr hyn y gellid ei wneud yn...

Pan wnes i brynnu fy Mac cyntaf dair blynedd yn ôl roeddw ni wedi fy mopio yn llwyr, roedd yn fyd cwbwl wahanol ac fel rhywun sy'n truluio oriau bob dwrnod (yn bennaf oherwydd natur fy ngwaith) ar y cyfrifiadur roedd newid o Windows i Mac mewn ffordd fe newidiodd fy mywyd. Dair mlynedd yn ddiweddarach dwi dal yn defnyddio yr yr cyfrifiadur ac mae e dal i deimlo fel defnyddio peiriant newydd sbon! Prin y byddai defnyddwyr Windows yn medru dweud hynny dair mlynedd ar ôl prynnu eu cyfrifiadur nhw. Ond maen rhaid i mi gyfaddef nad ydw i a gymaint o sêl (zeal) dros Apple ag oeddw ni a hynny oherwydd, mwy na thebyg, mod i wedi dod i gymryd yr holl brofiad yn ganiataol. Ond ar ôl bod adre a gwneud ambell i beth ar laptop Windows Mam dwi wedi cofio o'r newydd pa mor ryfeddol well ydy...
Mae'r Gymraeg ar agor i gael ei gyfieithu! :-)Mae'n broses fawr sydd ar hyn o bryd dim ond gyda 84 o bobl yn rhan o'r prosiect er fod miloedd o Gymry Cymraeg ar Facebook. Os nad ydych chi ffansio gwneud unrhyw gyfieithu yna peidiwch a phoeni oherwydd yr hyn sydd angen ydy defnyddwyr i bleidleisio ar y cyfieithiadau gorau fydd yn cael eu derbyn ac fe all bawb wneud hynny. Ar hyn o bryd mae'r 133 o dermau craidd wedi eu cyfieithu ond maen rhaid i ni gael pobl i bleidleisio dros y termau i'w derbyn yn swyddogol cyn mynd ymlaen i gyfieuthu y cymal nesaf sy'n 20,000 o frawddegau!! Felly ymunwch yn y dasg - wnaiff pleidleisio dros y 133 term dechreuol ddim cymryd mwy na 15 munud i chi.Ewch yma, a dewisiwch Cymraeg i helpu gyda'r...

Ers rhai wythnosau nawr dwi wedi bod yn defnyddio Zattoo sef gwasanaeth teledu byw ar y we. Maen wasanaeth rhad ac am ddim ac maen gwbl gyfreithiol. Yr unig anfantais yw fod ansawdd y darllediad ddim yn dod yn agos i ansawdd digidol neu deledu lloeren eto ond maen debyg nad oes gan y rhan fwyaf o bobl gysylltiad bandllydan ddigon sydyn i ddelio gyda ansawdd uwch ar hyn o bryd beth bynnag. Mae'r gwasanaeth hwn yn un arloesol oherwydd fod gyda mi bellach yn fy fflat fynediad i sianeli digidol fel BBC Three a News 24 er fod fy nheledu confensiynol wedi methu pigo fynny signal analog da heb son am ddigidol (er mod i'n byw hanner canllath, yn llythrennol, o un o brif ganolfannau darlledu BBC Cymru!).Ymysg y sianeli sydd ar Zattoo ar hyn o bryd mae BBC1,BBC2, BBC2 Wales (+London, Scotland...
Does gyda fi ddim sat-nav (cyfarwyddiadau lloeren?) a dwi ddim yn bwriadu cael un, ond bues i mewn car ble roedd llais John Cleese yn rhoi'r cyfarwyddiadau, gyda elfen comedi ("bare left, beaver right!" a rhyw lol felly). Dwi ddim yn siwr pa mor synhwyrol yw hyn, a dwi'n siw byddai'r jôc yn eich blino ar ôl ei glywed - wel unwaith.Ta waeth, heddiw mae Luistxo'n adrodd hanes y ffaith bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers iddo lunio rhestr e-bostio Basgeg, a sut daeth y rhestr yma'n sbardun i nifer o ddatblygiadau ar-lein Basgeg eraill a'i argyhoeddi o bosibiliadau'r rhyngrwyd fel teclyn cyfathrebu a chymdeithasol. Erbyn hyn mae gan Eibar, ei dref enedigol, wefan blogio/gymundedol bywiog (nid yn rhy anhebyg i syniad gwefannau Lleol i Mi y BBC, ond ei fod cachlwyth yn well ac yn...

Heddiw mae pris iPhone o O2 wedi gostwng o £269 i £169 - mae'n parhau i fod rhy ddrud i mi gan mod i'n gwsmer ffyddlon i Three mae nhw'n cynnig yr HTC TyTN II (gwerth £400) a'r Nokia N95 (sydd gwerth tipyn hefyd) i mi am ddim ar gytundeb tipyn mwy cystadleuol na chytundeb O2 i'r iPhone. Fodd bynnag fe adawodd rhywun sy'n gweithio i O2 neges anhysbys ar flog technoleg y BBC heddiw yn dweud:O2 has only secured a 1 year deal with apple - i work in head office for O2 - We have been forced to try and sell around 50,000 Iphones by June 1st or the contract will be open to the next biggest bidder (Vodafone or T-Mobile). I can confirm after June 1st and the release of the new Iphone it will be FREE on an 18month contract for the 8gb or £99.99 for the 16gb, the new Iphone is set to feature a...

Maen cymryd tipyn o gyts i ddefnyddiwr Apple Mac gyfaddef nad yw popeth yn berffaith. Dwi wedi bod yn ddefnyddiwr Mac ers bron a bod tair mlynedd bellach ac mae popeth wedi bod yn rhedeg fel oriawr nes i mi osod Leopard, system weithredu ddiweddaraf Apple, yn ddiweddar. Dros y penwythnos fe wnes i ail-osod Leopard yn gyfan a dileu popeth oddi ar fy nisg galed a nawr mae popeth yn iawn unwaith yn rhagor... wel iawn heblaw am un peth. Ers i mi fuddsoddi mewn cyfarpar ffilmio fideo digidol yn ddiweddar ar gyfer datblygu y virtual church Cymraeg cyntaf dwi wedi bod yn golygu llawer o fideo. Wrth gwrs nid yw cluniaduron yn enwedig rhai tair mlwydd oed wedi ei cynhyrchu er mwyn eu defnyddio fel stiwdios golygu fideo sgrin lydan ac felly er fod y PowerBook bach dal yn saethu o gwmpas tasgau bob...
Mae llawer o flogwyr yn gwneud defnydd mawr o'i blogiau i rannu doleni i'r gwefanau diddorol y maen nhw wedi bod yn syrffio yn ddiweddar. Felly dyma son am ddau wefan ddifyr dwi'n ymweld a hwy yn aml y dyddiau yma.Yn gyntaf, Blog "DOT.Life" y BBC sef blog gohebwyr technoleg y BBC, Rory Cellan-Jones a Darren Waters. Mae pobl sydd yn fy adnabod yn dda yn gwybod nad ydw i'n sterioteip o'r fath o berson sy'n ymddiddori â diwinyddiaeth a hanes yr Eglwys ac rwy yr un mor hoff o gadjects a thechnoleg fodern ac ydw i o gyfrolau Methodistiaid y Bedwaredd Ganrif a'r Bymtheg! Fel y bydde chi'n disgwyl gan ohebwyr technoleg maen nhw'n defnyddio'r dechnoleg ar-lein diweddaraf ar y blog megis darlledu byw drwy ddefnyddio video-phone yn y postiad yma.Yr ail wefan yw TV-Links, dim byd newydd meddech...
Mae’r defnydd o ffurf HD (manylder uwch yw’r term safonol sydd gan S4C) wrth ffilmio rhaglenni yn dod yn fwy cyffredin er fod y costau yn uwch. Mae rhai pobl yn dilorni’r dechnoleg (fel arfer y bobl hynny sydd ddim yn gallu fforddio teledu HD) gan ddweud nad yw’r llun yn well na DVD cyffredin.
Fe brynais i deledu HD 37″ yr haf diwethaf a doedd dim rhaid gwario ffortiwn, ond does gen i ddim ffynhonnell o raglenni HD heblaw o’r cyfrifiadur. Felly dwi wedi bod yn islwytho rhaglenni HD o’r rhyngrwyd a mae’n hawdd gweld ansawdd uchel y llun. Prynu chwaraewr Blu-ray fydd y cam nesa nawr fod y fformat hwnnw wedi ennill y frwydr.
Sylwais i fod y gyfres newydd Natur Cymru ar S4C wedi ei ffilmio mewn HD. Ar hyn o bryd does gan S4C ddim modd i...
Darllenais i stori yn y Western Mail heddiw (a nifer o bapurau eraill) am ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn datblygu dyfais sydd ‘100 gwaith cyflymach na band llydan’. Mae’n amlwg fod yr erthygl wedi dod yn syth allan o ddatganiad gwasg, fyddai wedi ei sgrifennu gan rhywun yn yr adran farchnata, am fod yr erthyglau ymhob papur reit debyg. Ychydig iawn o newyddiadurwyr sy’n trafferthu deall yr hyn mae nhw’n sgrifennu amdano, fel sy’n amlwg wrth ddarllen papurau y dyddiau yma neu gwefan newyddion y BBC er enghraifft.
Ychydig iawn o fanylion technegol pendant sydd yn yr erthygl. Fel ddwedodd Scotty, “ye cannae change the laws of physics”, felly sut mae’r ddyfais anhygoel yma’n gweithio? Ar ôl ychydig o gwglo fe ddes i ar draws...

Dwi’n gwybod nad oes dim byd yn fwy diflas na gwrando ar rywun sy’n falch o’u hunain yn clochdar eu llwyddiannau’n ddi-baid. Ond dwi’n ofni taw dyna dwi’n mynd i wneud. Dwi mor falch o fy llwyddiant technolegol dros y penwythnos fel fy mod i am i bawb glywed amdano. Mae gen i hen liniadur araf sy’n ymddangos yn fwy araf byth am fod un o sustemau gweithredu Microsoft Windows arno yn tagu’n gyson. Felly mewn ymgais i roi bywyd newydd yn y peiriant fe benderfynais lwytho un o fersiynau o’r sustem weithredu Linux arno yn lle Windows. Gan ei fod yn beiriant reit hen fe ddewisais i lwytho Xubuntu, fersiwn ysgafnach o’r enwog Ubuntu. Felly dyma lwytho’r cyfan i lawr o’r wefan, llosgi CD gyda’r feddalwedd a’i...
Nid oedd angen dyfalu pa grwp fyddai'r un mwyaf amhoblogaidd ar Facebook...

Mae pawb sy'n fy adnabod i yn gwybod am fy hoffter heintus o feddalwedd a chaledwedd Apple rhagor na Microsoft a chwmniau PC's. Mae gen i PowerBook G4 yn ogystal ac iPod Video ond hyd yma dydy fy myddin o offer a theclynau Apple heb ehangu tuag at fy mhoced ac at fy ffon eto. Mewn gair, nid oes iPhone gennyf! Dwi'n sicr yn bwriadu achub peth arian er mwyn budsoddi mewn un tro nesaf y bydd fy nghytundeb ffon yn dod i ben ond yr hyn wnaeth fy nal yn ol tro yma oedd cytundebau drud O2, sef yr unig rwydwaith sy'n rhedeg yr iPhone hyd yma. Ar hyn o bryd dwi'n defnyddio Nokia E61 ar Three ac yn talu £40 y mis, am hynny dwi'n cael 750 munud, 250 txt a Rhyngrwyd 3G unlimited (dim ond 2G sydd ar gael ar yr iPhone ar hyn o bryd, mae 3G yn gynt o lawer) . Nid oedd cytundebau O2 ar gyfer yr iPhone...
Dyma son am ddau flog newydd Cymraeg dwi wedi dod ar eu traws yn ddiweddar. Y ddau gan Gymry da o'r Wladfa fe dybiaf, Tad a Mab - Peladito a'i Dad El Jefe. Maent o ddiddordeb arbennig i mi gan fy mod yn ymchwilio i fywyd a gwaith aelod arall o'u teulu sef El Jefe Grande. Doleni:Anturiaethau PeladitoBywyd Caled El JefeHyd y gwn i ni yw'r ddau flog yma wedi cofrestru gyda Aran eto er mwyn ymddangos ar y...

Mae fy nghath i wedi newid ei sbotiau heddiw, fe drodd y Teigr yn Leopard. I chi sy'n parhau am ryw reswm i ddefnyddio Windows XP neu Vista gwell fydda i mi esbonio. Mathau gwahanol o gathod y mae Apple yn galw eu sustemau gweithredu, Puma (10.1), Jaguar (10.2), Panther (10.3), Tiger (10.4) a'r diweddaraf Leopard (10.5). I ddefnyddwyr Windows mae system weithredu newydd yn ddigwyddiad an-aml iawn, llynedd rhyddhawyd Windows Vista ond cyn hynny roedd defnyddwyr Windows wedi bod yn styc gyda XP ers 2001. Tra bod defnyddwyr Apple wedi mwynhau anwesu'r holl gathod roedd defnwyddwyr PC's yn sownd yn syllu allan o'r un hen ffenestr ddiflas.Mae'r cysyniad o osod sustem weithredu newydd ar gyfrifiadur yn gysyniad hollol estron i ddefnyddwyr PC oherwydd ni fydd bywyd oes unrhyw PC yn medru goroesi...

Ydych chi wedi cychwyn defnyddio BBC iPlayer? Sustem ar-lein am ddim ydyw gan y BBC sy'n eich galluogi i ail-wylio (neu am y tro cyntaf os colloch y gwreiddiol!) y rhan helaeth o raglenni'r BBC gafodd eu darlledu dros y saith diwrnod diwethaf. Mae S4C wedi bod yn cynnig rhyw fath o wasanaeth tebyg, S4C Gwyliwch eto, ers rhyw flwyddyn ond dwi'n meddwl fod sustem a meddalwedd iPlayer y BBC yn well - maen sicr yn llwytho yn gynt. Byddai'n fanteisiol i S4C dwi'n meddwl drosi i ddefnyddio system fwy tebyg i iPlayer y BBC. Dwi'n meddwl fod hwn yn ddatblygiad pwysig oherwydd maen anorfod y bydd mwy a mwy o gyfryngau yn troi i ddosbarthu dros bandllydan yn hytrach nag analog a lloeren. Yn fy fflat i does dim signal teledu analog da ac nid oes signal digidol o gwbl felly mae fy sefyllfa yn fy...
Rhan o brosiect graddio Jelte van Geest pan oedd o yn Academi Dylunio...
Sut i ail-lenwi i-Pod efo nionen.Diolch i...
Mae’r dyn wnaeth rhoi fy swydd cynta i fi wedi cychwyn gwefan newydd. Dwi’n siwr fod y syniad wedi bod yn ei ben ers y 90au ond dim ond nawr mae wedi mynd ati o ddifri (fe gofrestrwyd y parth ynghyd a nifer eraill tebyg yn 1999). Fel mae’n digwydd gwrddes i cyn gyd-weithiwr ar y trên wythnos dwetha’ a’i gwmni e sydd wedi gwneud y gwaith technegol.
Mae walescymru.com yn cynnig rhestrau o fusnesau, bwytai, llefydd i aros yng Nghymru ac yn y blaen. Does dim byd newydd yn hynny a mae nifer o wefannau yn gwneud yr un peth yn barod. Drwy’r llwch hud ‘gwe 2.0′ wrth gwrs mae’n bosib ail-ddyfeisio y math yma o wefan drwy gael y defnyddwyr i greu’r cynnwys, graddio a gwneud sylwadau. Mae dyluniad y wefan yn cyfateb a be mae rhywun yn...
Dw'i wedi creu Radio Sanddef ar Last fm, ac wedi ei osod ar y blog yma hefyd. Gyda dros 900 o ganeuon, yn Gymraeg, Saesneg, Sbaeneg, Almaeneg, Islandeg, Gwyddeleg, Basgeg, Galisieg a Llydaweg....