Ma gen i rwan ffrwd ar FriendFeed. Ma’n un ffrwd RSS o’n Fflicr, Twitter, YouTube, Blog, Delici.o.us a StumbleUpon ar gyfer eich porwr ffrydiau RSS…os da chi that way inclined......

Cofnod dda fan hyn ar flog y cwmni gwe Cymreig Sequence am hanes y cyfrifiadur Cymreig - Dragon 32 - a gafodd ei gynhyrchu ym Mhort Talbot. Roedd gan fy ffrind i, Hywel, un. Dwi’n cofio chwara Hunchback (fideo isod) arno fo yn ei dŷ o a meddwl :
ma ZX Spectrum 48k Rolant yn loads gwell na hwn…
Ac yn wir dyna oedd ei hanes. Parhaodd y Speccy a threngodd y Dragon. Sy’n biti, achos fasa’n wych tasa ni wedi llwyddo i ddatblygu diwydiant meicro-dechnoleg llewyrchus ym Mhort Talbot. Cwm silicon Cymru mewn byd paralel efallai?
Hunchback...

Twitter Nwdls
Dwi di dechra Twitran, neu meicro-flogio. Tweet tweet. Rhyw fath o anfon updates i griw bach o bobol erill o be dwi’n neud, meddyliau, neu links bach di-hid. Agorais i gyfri nôl ym mis Awst ond do’n i ddim yn dallt y pwynt bryd hynny.
Gawn ni weld pa mor hir barith o. Ar hyn o bryd ma’n reit ddifyr. Ddim cweit yn dallt y pwynt o jest twitran cofiwch, ma blogio’n llawer mwy boddhaol o’r ochr sgwennu a darllen, a dwi ddim yn gweld pwynt o gwbl mewn darllen tweets pobol ti’m yn nabod. Ella bo fi dal heb cweit ei dallt hi......

Forkd. Rhwydwaith rhannu ryseitiau. Woo!
Jest angen di-wifr yn y tŷ rwan i gael llapllop yn y gegin…
[Beta/Feta - hehe!]......
Annwyl Syr,
Cwestiwn sy’n fy mygio, a sdim syniad gen i be di’r ateb. Ac yn rhyfedd iawn dwi’n methu ffeindio fo trwy Gwglo.
Er enghraifft, pan mae rhywun yn chwilio am y string Bwrdd Yr Iaith Gymraeg, mae Rwdls Nwdls yn dod yn 5ed, uwchben gwefan y BBC a gwefan Llywodraeth y Cynulliad, sydd yn gorfod cael llawer mwy o page views na fi ac yn sicr o fod yn crybwyll Bwrdd yr Iaith Gymraeg llawer mwy na fi hefyd.
Ar ben hyn mae Gwgl yn dod o hyd i gofnodion blog yn aruthrol o sydyn, daeth rhywun i fy mlog ar chwilio “Valleywood” prin oriau ar ôl i mi ei flogio. Ydi blogiau’n cael eu indexio’n gynt na gwefannau eraill? Dio rwbath i neud efo pings?
Yr eiddoch yn coffiwsd,......

Darllenais lawer erthygl da ym mhapur heddiw gan gynnwys y reportage gwych ar Cocaine yn Guinea Bissau ond roedd dwy wnaeth i fi bendroni.
Yn gyntaf Charles Leadbetter, “meddyliwr” technolegol, yn trafod sut mae cydweithio ar y we yn creu fford newydd o greu. Rwan dydi Wicipedia ddim byd newydd, ond oes yna ffyrdd y gallwn ddefnyddio’r modelau yma o gydweithio ar y we o fewn cyd-destun Cymru? Ydi o yn ei hanfod yn ddibynnol ar critical mass anferth (mewn un iaith h.y. Saesneg) ac ymwybyddiaeth eang o’r ddyfais cydweithio ei hun (yn golygu marchnata o ryw fath) neu ydi’r model yn gallu gweithio ar ffurf lot mwy cyfyng. Yn amlwg mae o, ond y cwestiwn ydi beth allwn ni ei ddefnyddio fo i’w wneud yng Nghymru?
Mae Hywel Williams AS wedi bod yn flaengar yn...

Mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n
ystyried rhyddhau peth o’r cynnwys BBC Jam sydd mewn ieithoedd brodorol…a all gael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau cyfredol y BBC
A be? Mae o wedi cymryd blwyddyn iddyn nhw sylweddoli nad oedd yna unrhyw impact marchnad negatif o gynhyrchu adnoddau dysgu Cymraeg gwych gyda arian y ffi drwydded. Bôls dy Daid.
I roi chydig o gefndir, fe benderfynodd Ymddiriedolaeth y BBC atal gwasanaethau addysg BBC Jam nôl ym mis Mawrth 2007 oherwydd fod y diwydiant adnoddau meddalwedd addysg ehangach wedi gwneud cwynion fod y BBC yn gystadleuaeth anheg yn y farchnad.
Rwan, mi allai rhai sydd gyda bent marchnad rydd ddweud fod hyn yn wrth-gystadleuol, ond fe benderfynwyd atal gwaith ar yr holl gynnwys BBC Jam yn...
Dwi newydd sdicio teclyn bach newydd ar y blog sydd dwi’n gobeithio am fod o ddefnydd i ddarllenwyr.
Wrth ymyl pob dolen - fel hon - fe welwch chi bybl siarad bach. Wrth hofran drosto cewch weld rhagolwg o’r dudalen dwi’n dolennu iddi.
Mae o chydig yn intrusive efallai, ond dwi’n meddwl ei fod yn handi. Os da chi isio ei droi o ffwrdd gallwch chi wneud hynny drwy glicio ar yr opsiynau yn nghornel uchaf dde y ffenest sy’n agor fyny.
Os da chi’n ei gasau o yna nai gael gwarad ohono......

Hoelen. Pen. Taro.
gan......

Mae Sianel Amgen Cymru yn dal i fynd o nerth i nerth ar YouTube, a dwi’n siwr y gellir deud rwan taw hwn yw y prif le i wylio fideos Cymraeg ar y we.
Mae ‘na lot o sdwff da wedi cyrraedd yno’n ddiweddar, yn arbennig y fids cerdoriaeth. Un peth sydd ddim yno rhyw lawer yn y Gymraeg o’i gymharu â gweddill DyDiwb ydi blogiau fideo personol. Un theori gen i ydi os ma gynnoch chi ego digon mawr i’w fwydo yna fe wnewch chi drio cyrraedd y gynulleidfa fwyaf posib a fideo blogio yn Saesneg. Neu efallai ein bod ni gyd jest yn rhy shei…
Ond mae Uned5 wedi cychwyn darlledu blogiau fideo personol gan gynnwys yr isod gan Mari Lovgreen sef y 500fed fideo. Efallai ei fod yn addas gan ei fod yn dangos sut mae YouTube rwan yn cael ei ddefnyddio gan bob math o...
Tour de France Live Tracker 2007 - Ubilabs
Gwychder. Un o’r troeon cynta i fi weld mashup, web 2.0 thingy yn gweithio’n wirioneddol dda. Sa’n dda cael ffrwd teli byw o ITV yn gongol r’un pryd ddo. Sa hwnna rili yn roi nipl ar y deth.
[jolch, eNewyddion!]...
Dau flog gwerth eu crybwyll sy’n trafod Technoleg a’r we gyda gogwydd Cymreig (ond yn Saesneg er eu teitlau Cymraeg):
Datblogu - blog Dr Daniel Cunliffe o Brifysgol Morgannwg. Boi sydd wedi bod yn sgwennu am y we a’r Gymraeg ers blynyddoedd. Blog difyr.
eNewyddion - blog newydd - pinc - plaen....
Sori musus Nwdls, ond rhaid i fi wneud cyfaddefiad. Dwi dal mewn cariad efo un fodan o nghorffenol! Ma na dal le bach i’r Björksan annwyl yn y nghalon.
O’n i ama taw fel hyn fasa hi wedi i mi weld ei albym newydd, Volta, yn y siop a cherdded-redeg adre’n prin gallu dal fy nghyffro i wrando arno’n ofalus. Wrth weld dyluniad hyfryd a gofalus y pecyn yn agor o mlaen roedd hi ond yn cadarnhau’r hyn roeddwn i’n meddwl cynt - mae hi’n Dduwies.
Mae’r fideo yma’n cael yr un effaith arnai a Pluto ac Army of Me (fersiwn ar y cyd gyda Skunk Anansie). Tingls fyny a lawr y nghefn efo gwefreiddioldeb y ddynes yma sydd mor ddychmygus, dewr a heriol.
Ma’r gân, yn ôl cyfweliad Jools â hi, yn annog yr Ynysoedd Faroe (neu’r...
Mae gan Mei Gwilflog newydd. Mae’n ddu, yn sci-fi ac yn SECSI!
Ffaac, raid i fi fynd allan yn amlach. Dwi newydd alw blog yn secsi, a nes i gyffroi’n lân wrth i ni gael delivery o ffacin water butt neithiwr…
Ta waeth am fy issues gyd a throi mewn i Good Lifer, ma cip ar flog Mei yn dangos be gellir ei wneud gyda chydig o addasu CSS creadigol. Dwi wedi bod yn meddwl ers tipyn fod fformat blogiau yn hollol ddiflas erbyn hyn ac fod rhaid bod ffyrdd mwy deniadol o ddangos cynnwys a chyfuno mathau gwahanol o gynnwys ar y dudalen, gan gwneud darllen blogiau yn brofiad mwy pleserus.
Erbyn hyn mae llawer o flogwyr yn cyfrannu at sawl gwefan gymdeithasol lle mae ffrydiau RSS neu API, a dwi’n gweld yr angen i gael un man deniadol lle gellir cydgasglu’r rhain. Un...
Rhai pethau eraill o’r Steddfod…
- lluniau Eisteddfod2006
- lawnsiwyd tecstio darogan Cymraeg [predictive tecsting ‘lly]…biti nad ydi Vodafone yn gadael i fi lwytho’r meddalwedd…
- cafwyd llawer o geisiadau i ddisgrifio’r maes a’r pafiliwn ond y gorau oedd “mochyn tethog wedi ei chladdu wysg ei chefn mewn cat litter tray anferth”
- bûm yn stiward mew gig Bryn Fôn - roeddwn yn teimlo ychydig yn fudr wedyn, a dim jest effaith y llwch oedd hynny. Ond roedd gweld y gwragedd canol oed plys yn ffrîcio allan mewn gorfoledd yn werth pob eiliad. Da chi’n gwbod fod nhw’n deud fod fflap adain pili pala fan hyn yn achosi daeargryn yn China?…wel, o weld anferthedd a nifer y badans oedd yn bownsio oddi ar y llawr...

Dwi wedi gweld teclyn bach difyr draw ar flog Suw (mae hi wastad y cynta i arbrofi efo petha cwl fel hyn!) sydd yn galluogi darllenwyr y blog i adael sylw llais/sain i’r gofnod.
Ocê, mae hyn yn arbrawf rwan i weld os mae hyn yn gweithio felly peidiwch a bod yn shei, anfonwch neges llais ata i os mae ganddoch chi feicroffon ar eich PC. Os ma’n gweithio yna falle wna i gadw hwn fel opsiwn ar gyfer postiadau yn y dyfodol…
Y cwestiwn am heddiw ydi…be oedd uchafbwynt y Steddfod i chi? Ac os nad oeddech chi yno…be oedd y rheswm dros beidio mynd i’r Steddfod?
Cliciwch ar y cwmwl glas isod i adael neges…...

Wel, jiawl. Ges i ddim cyfle i sgwennu cofnod o’r maes fel y bwriad ond oedd na wastad ryw ffrigin sbrog yn chwara gem ffwtbol ar pc’s Maes-D ac erbyn witsiad roedd hi’n amsar symud mlaen i’r cyfarfod/dangosiad/darlith/protest/lawnsiad/peint nesa.
Steddfod dda iawn ar y cyfan. Mi a’th Pictiwrs yn reit dda, yn arbennig dydd Gwener ond sonia i am hynny a’r agwedd ffilmia o’r Steddfod draw fan’co. Debyg taw’r uchafbwynt arall oedd, wel, ista’n y bar, cyfarfod pobol a joio bandia (er mod i wedi methu’r bys ergo methu’r gig nos Iau *grwgnach*). Roedd hi’n dda iawn cyfarfod pobol yn y blog-gwrdd ddydd Sadwrn hefyd, a diolch yn fawr i Gymdeithas Meddalwedd Cymraeg am ein lletya ni a rhoi digon o win i iro...

Rydyn ni wedi penderfynu trefnu y blog-gwrdd Cymraeg cyntaf eleni, er mwyn cyfarfod rhai o gyd-flogwyr y rhithfro, a thrafod yn anffurfiol (iawn!) unrhywbeth sy’n ymwneud â blogio yn y Gymraeg.
Os da chi’n blogio, neu’n cadw gwefan Gymraeg, dewch draw am sgwrs!
Dydd Sadwrm 12fed Awst. 2pm. Pabell Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg.
Mae trafodaeth ar rai o’r pethau o bosib y byddwn yn eu trafod draw fan hyn....

Edge Case yw blog Saesneg Conn Ó Muíneacháin, y boi a gychwynodd y podcast Gwyddeleg cyntaf flwyddyn yn ôl, ac sydd yn ysgrifennu am flogio a thechnoleg yn y papur newydd dyddiol Gwyddeleg Lá.
Dwi’n edrych mlaen at y dydd pan gawn ninnau golofn dechnoleg Gymraeg yn ein papur newydd dyddiol y flwyddyn nesaf…dwi’n siwr buasai digon o ymgesiwyr i’w sgwennu...
Mae na fwnci bach wedi bod yn deud helo ar y blog a’m pwyntio at ei e-gerdiau ar wefan Dyluniau Digidol.
A wir, ma’n nhw’n dda iawn!...
blinkx - chwilotwr fideo newydd sy’n gludo clipiau at eu gilydd i ffurfio un ffrwd o fideo....
Jest i chi gael gwybod (a wir, ma’n bur debyg na fydd o ddiddordeb i’r rhan fwyaf ohonoch chi) dwi wedi dechrau cyfri del.icio.us, lle i gadw ‘bookmarks’ fel mod i ddim efo un set o bookmarks yn gwaith ac un ar y pc adra, a mod i’n gallu ffeindio be dwisio’n hawdd drwy tagio’r cofnodion. Hefyd, mi fydd yn sdopio fi flogio rhai petha dibwynt jest er mwyn cofio amdanyn nhw, pan awn nhw ar goll ymhell lawr y blog beth bynnag.
Do’n i ddim wir yn gweld y pwynt tan rwan, ond dwi’n ei weld o’n dod yn reit handi....
Mae Bwrdd Yr Iaith newydd lawnsio rhaglen sy’n galluogi pobol sydd yn defnyddio Windows XP yn y Gymraeg i newid i’r fersiwn Saesneg yn hawdd. Llai o esgus fyth i gael system weithredu yn y Gymraeg rwan....
New Review of Hypermedia and Multimedia: Minority Languages, Multimedia and the Web
Dwi ddim yn gwybod os odi hwn ond ar gael i fi am fy mod i o fewn y Brifysgol, ond os ddim, mae yna ddigon i gnoi cil drosto i bobol sydd â diddordeb a’r Gymraeg ar y we.
Wedi ffeindio hwn drwy Google Scholar, sy’n gadael i chi chwilio am waith ymchwil yn unig. Ffab!
Dyma erthygl ymchwil ar gerddoriaeth pop Cymraeg er enghraifft!...
De-Maskyn chwarae “Gwyllt” yn fyw yn y Cavern Club (MySpace de-mask)
Dim ond hwn a sdwff Chris Cope sydd yno o dan y tag Cymraeg ar hyn o bryd. Pwy sydd am lwytho ffilmiau fyny yno te?
Y peth gwych ydi y gallwch chi embed-io y fieos ar eich gwegfannau (fel mae Chris wedi gwneud) gan ddefnyddio eu bandwidth nhw.
Testar gen i yn dod fyny wap…...
YouTube - Pretty Shitty
Ffilm fer dda iawn chwrae teg (heblaw am y diwedd od) am Porth yn y Rhondda gan Emma Jane Richards. Mae hi hefyd wedi cyfarwyddo ffilm fer dda ar y cynllun Screen Gems o’r enw Two Dragons.
Dyma ei gwefan bersonol sy’n cynnwys rhagor o’i ffilmiau.
Mae YouTube yn edrych yn hynod, hynod gyffrous....

Mae asiantaeth newyddion amgen Llydaw wedi lawnsio podcast sain a fideo ar gyfer newyddion ac ati.
Mae’r wefan yn adrodd llawer o newyddion ynglyn â chenedlaetholdeb Llydewig a’r ymgais i roi tegwch a pharhad i’r iaith yno.
Rhowch glec yma i wylio fideos o brotestiadau diweddar yn erbyn dirywiad oriau yn narllediadau lleol Llydaw....
Mae’r mudiad ieuienctid Gwyddelig Na Gael Óga wedi lawnsio ymgyrch decst i gael tecstio dyfalog/proffwydol ar gyfer ffonau symudol yn yr iaith Wyddeleg.
Pob lwc iddyn nhw! Edrych mlaen i’r dydd pan allai gael o yn Gymraeg....