Welsh Blogs.com


Coleg Caerwrangon, Rhydychen via Blog Dogfael October 12th, 2008 at 21:11

image Roedd y cyfarfod roeddwn ynddo yn cael ei gynnal mewn gwesty ar gyrion Rhydychen. Gwesty modern a chymharol newydd (neu o leiaf wedi’i adnewyddu) oedd hwn wedi’i adeiladu o gwmpas a chan addasu hen ysguboriau – felly roedd y lle yn drofa o goridorau ac ystafelloedd bychain. Yn y rhan o’r gwesty lle roeddwn i’n aros roedd yr holl ystafelloedd yn cario enwau colegau Prifysgol Rhydychen – fel mae’n digwydd roeddwn i’n aros yn ystafell Coleg Caerwrangon. Dwi ddim yn siŵr a oeddwn i wedi clywed sôn am y coleg cyn hyn. Ond o beth dwi’n deall bellach mae’n goleg hynafol, er na chafodd ei sefydlu yn ei ffurf bresennol tan 1714, ac yn alma mater i Adrian Hastings, Rupert Murdoch a Rusell T Davies ymhlith eraill. Gorffennodd y cyfarfod am ryw...

Rhydychen via Blog Dogfael October 9th, 2008 at 18:32

image Dwi’n ysgrifennu’r cofnod hwn ar Flog Dogfael yn bell o Blas-yn-Dogfael. Dwi ar hyn o bryd yn aros tros nos ar gyrion dinas Rhydychen. Dwi yma i gyfarfod yn ymwneud gyda fy ngwaith. Dwi’n bell o ganol y ddinas felly dwi ddim yn credu y bydd unrhyw gyfle i chwarae’r twrist. Un o’r rhesymau dros ddweud hyn yw er mwyn canmol y gwasanaeth trenau. Es i ar y trên o Aberystwyth (Arriva Trenau Cymru), gan newid yn Wolverhampton, i Rydychen (CrossCountry) yn gwbl ddidrafferth. Roedd y trenau ar amser ac roedd ‘na le i eistedd arnyn nhw. Wrth gwrs, gall y daith yn ôl yn wahanol ac er fy mod i’n gobeithio cyrraedd yn Aberystwyth erbyn rhyw 9.30pm mae’n debyg taw ar y trên olaf y byddai’n cyrraedd yno mewn gwirionedd – dwi’n gobeithio...

Dw i ddim yn hoffi bod yn sâl. via castell tywod September 16th, 2008 at 03:50

Dw i ddim wedi bod yn blogio llawer y dyddiau yma; dw i wedi bod yn sâl gyda rhyw annwyd neu haint yn y sinuses neu rhywbeth, a dw i wedi bod yn flinedig neu y brysur dros ben, yn dibynnu ar y dydd. Newyddion gwych: cyhoeddwyd erthygl ardderchog am y Cwrs Cymraeg gan Emma Reese, ar y BBC. Llongyfarchiadau Emma! Roedd hi'n hyfryd cofio'r wythnos fendigedig 'na. Mewn newyddion eraill: mae fy mam yn yr Eidal ar hyn o bryd, yn Florence yn dysgu (fel athrawes) tan ddiwedd mis Tachwedd. Basai hi'n hapus taswn i'n gallu ymweld â hi yno, ond mae tocynnau awyren yn ddrud iawn, iawn. Dyn ni'n arbed arian er mwyn teithio i Brydain yn 2009 ac efallai i Sbaen hefyd--mae Rob yn bwriadu cynnig am sabbatical. Cawn ni...

Gwyliau yn Norwich 2008-08-20 (1) via Blog Dogfael September 7th, 2008 at 15:29

image Efallai y dylwn ddweud taw fy hoff gydymaith i ar gyfer teithio yn Lloegr yw’r Blue guide: England gan Ian Ousby. Bydda i’n defnyddio’r degfed argraffiad (1989) a brynais yn 1992. Dwi wedi cael gwerth fy arian o’r gyfrol. Yn y lle cyntaf bydda i’n ei defnyddio fel llawlyfr ymarferol pan yn ymweld â lle go iawn. Ond yn ail bydda i’n defnyddio’r gyfrol fel cyfrwng rhithiol i deithio’r rhannau hynny o Loegr nad ydw i wedi ymweld â hwy eto neu i ddwyn ar gof y llefydd hynny lle’r ydw i wedi bod. Ers penderfynu dod i Norwich dwi wedi darllen y cofnod am y ddinas drosodd a throsodd. Pan dwi’n dweud fod y Blue Guide yn gydymaith perffaith nid yw’n sôn am ble i fwyta, ble i aros, neu lle mae’r clybiau nos hoyw gorau mewn...

Gwyliau yn Norwich 2008-08-19 (1) via Blog Dogfael September 1st, 2008 at 21:07

image Codais i’n fore iawn; mae’n rhaid bod y daith wedi bod yn foddion ennyn cwsg iachus gan fy mod ar fy nhraed ychydig cyn 6.00am yn teimlo fel ebol. Doeddwn i ddim yn disgwyl i DML na RO i fod ar eu traed, felly fe dreuliais beth amser yn darllen cyn mynd ati i ysgrifennu fy mlog am y dydd. Erbyn iddi ddod yn agos i ryw 8.00am roeddwn i wedi dihysbyddu popeth y gallwn ei wneud yn y fflat heb achosi sŵn a tharfu ar bawb arall. Felly dyma mynd allan a cherdded tuag at y safle bysus ar gampws y brifysgol. Felly am ryw 8.45am roeddwn i’n sefyll yng nghanol dinas Norwich. Roedd yr haul yn braf ac fe wnes i dipyn bach o chwilio o gwmpas. Nid oedd cymaint â hynny o amser gen i, gan roedd yn rhaid bod yn ôl yn The Village erbyn 11.00am er mwyn dechrau ar ein taith. Ond fe fues...

Gwyliau yn Norwich 2008-08-19 (2) via Blog Dogfael September 1st, 2008 at 21:10

image Pan ddes i yn ôl i’r fflat roedd RO a DML yn ymbaratoi i ymadael, ac ar ôl cwpanaid o goffi bant â ni ar ein taith. Neu o leia dyna roedden ni’n ei fwriadu. Wrth edrych o ffenest y fflat, wrth ddisgyn ar hyd y grisiau, fe sylwais i fod un o olwynion car RO wedi’i chlampio. Panig, panig, panig! Wedi cyrraedd y cerbyd gwelsom fod ‘na nodyn ar y car yn dweud am nad oedd gennym awdurdod i barcio yn The Village ein bod yn agored i gael ein clampio. Roedd y nodyn wedi’i amseru tua rhyw 9.30am. Erbyn 11.15am roedd y car wedi’i glampio ac roedd yn rhaid ffonio’r ddesg ddiogelwch er mwyn ein dad-glampio. Cymerodd hynny ryw hanner awr i gyd. (Dim dirwy i’w thalu diolch byth). Roedd y brifysgol ar fai gan fy mod i wedi holi wrth gofrestru a oedd...

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-09 via Blog Dogfael August 31st, 2008 at 23:25

image Yn wahanol i’r arfer daeth fy eisteddfod i ben ddydd Sadwrn. Fel arfer bydda i’n aros tan fore Sul, ond eleni roedd pethau’n wahanol. Felly roedd hi’n dipyn o sioc i weld DML a DJP yn ymadael am yr eisteddfod fel arfer a finnau ac RO yn pacio yn barod i fynd am adref. Roedd hi’n bwrw glaw unwaith eto ac felly doedd dim llawer o chwant ymweld ag unrhyw le ar y ffordd adref. Ond dywedodd RO y carai fwrw golwg dros siop lyfrau Borders yn Llantristant ac felly dyna a wnaethpwyd yng nghanol y glaw. Wedi cinio yn y caffi yn y siop dyma ddychwelyd i Aberystwyth trwy’r Rhondda a’r canolbarth. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Gwyliau yn Norwich 2008-08-18 (1) via Blog Dogfael August 31st, 2008 at 23:45

image Diwrnod hir o deithio heddiw wrth inni fynd o Aberystwyth i Norwich. Mae’n siŵr fod y daith hon gyda’r hiraf y gellir ei gwneud yn union ar draws Ynys Prydain – hynny wrth aros bron â bod ar yr un llorwedd heb wyro i’r gogledd na’r de. Doedd dim llawer o ddewis ynglŷn â bod yn hamddenol am y daith. Roedd rhyw 400 km i’w deithio ac felly os am wneud hynny mewn golau dydd, hyd yn oed ganol Awst, roedd yn rhaid cadw ati. Cychwynnais i ac RO o Aberystwyth am ryw 10.00am – gydag RO yn gyrru a finnau’n nafigadu - gan alw heibio i Langadfan i gasglu DML ar y ffordd. Fel dywedais yr oedd yn rhaid inni fod yn weddol ddisgybledig am y teithio felly fe wnaethon ni yrru ymlaen hyd amser cinio pan wnaethon ni aros yn Bridgnorth am ryw 1.00pm. Er taw dim ond...

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (5) via Blog Dogfael August 7th, 2008 at 09:46

image Beth ydych chi’n ei wneud pan ei bod yn bwrw glaw yng Nghaerdydd? Mynd i Gaerffili i weld a yw hi’n bwrw yno. Wel o leia dyna beth benderfynon ni ei wneud. Roeddwn i am weld Capel a Phlas Watfford ar gyrion Caerffili oherwydd ei gysylltiad gyda’r Methodistiaid cynnar. Ond doedd dim pall ar y glaw. Er inni deithio’n araf mewn tagfa draffig trwy ganol Caerdydd yn y glaw i gyrraedd Caerffili, roedd hi’n bwrw gormod i feddwl dod mas o’r car i edrych am y capel. Roedd yn dipyn o siom, ond wedyn roeddwn i yn y car ac yn gymharol sych o’m cymharu gyda’r trueiniaid oedd yn crwydro maes yr eisteddfod mae’n siŵr. Mae glaw mewn amgylchiadau fel hyn yn medru bod yn dorcalonnus. Doedd gen i ddim byd pwysig yr oedd yn rhaid i’w wneud, ond...

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (2) via Blog Dogfael August 7th, 2008 at 05:44

image Rhyw ddwy flynedd yn ôl bues i yng Nghaeredin a’r pryd hynny cefais gyfle i ymweld â Senedd yr Alban yn Holyrood. Roedd hwnnw’n brofiad gwych, ond er nad oedd cymaint o ffws yn cael ei wneud yn y Senedd yng Nghaerdydd, rhaid dweud fod y pleser o weld y siambr a’r ystafelloedd pwyllgora a chyfarfod yn fwy i mi. Mae’r adeilad yn un trawiadol, ac mae’r ffaith fod y gwleidyddion wastad ar y lefel isaf gyda’u etholwyr yn cerdded uwch eu pen, yn sumbolaidd iawn. Nid yw’n adeilad mor fawr na mawreddog ag yw Senedd yr Alban – dim ond siambr ac ystafelloedd pwyllgora sydd yma o’u cymharu â’r cymhlethdod adeiladau roedd yn cael eu codi yn yr Alban – ond mae ei arwyddocâd cymaint yn fwy. Roedd ‘na adeilad yng Nghaeredin yn barod a...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (8) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 11:05

image Roeddem ni wedi bwriadu galw heibio i Bethesda’r Fro a’r Bont-faen wedi cinio, ond roedd hi’n edrych fel petai’n mynd i fwrw glaw. Ond cyn gwneud dim o hynny roeddwn wedi addo mynd i lan y môr i ddangos pa mor agos oeddem ni i’r arfordir. Un o’m hoff lefydd i yw Aberddawan a’r ffordd gul i lawr yno trwy bentref bach Silstwn. Ni chawsom ein siomi, er ein bod yn mwynhau’r olygfa yng nghysgod hen bwerdy Aberddawan. Wrth inni grwydro yno roedd y cymylau’n tywyllu a’r glaw yn dechrau pigo. Ond cyn troi yn ôl am Gaerdydd dyma fynd ymlaen i brif ddinas y Fro, sef y Bont-faen i weld y gofeb sydd yno i Iolo Morganwg. Petai’r tywydd wedi bod yn sych byddwn i’n bendant wedi mynnu fod y cyfeillion yn dod heibio i Egwys y Grog...

Gwibdaith i’r Fro 2003-08-03 (7) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 09:00

image Wrth inni ddod mas o’r Old Swan Inn fe welson ni fod torf fechan wedi ymgasglu’r tu fas i Neuadd y Dref. Roedden nhw i gyd wedi’u gwisgo yn barchus ac yn eu plith rai yn cario baneri. Fel mae’n digwydd roeddem ni wedi dod i Lanilltud Fawr ar y dydd Sul pan roedd gwasanaeth sifig yn cael ei gynnal yn yr eglwys i nodi penodi maer newydd. Roedd pawb bron yn gwisgo cadwyn neu fedal neu’n cario baner. Roedd hi’n rhyfedd i weld y dorf yn ymgasglu a’r byd fel petai’n mynd heibio iddynt. Doedd neb yno yn gwylio’r hyn a oedd ar ddigwydd heblaw am ddau blismon a ni’n pedwar. Eto i gyd roedd y ddefod yn bwysig iawn i’r rhai oedd yn rhan o’r peth. Roedd y gwasanaeth yn dechrau am 3.00pm yn Eglwys Illtud Sant, ac felly am 2.50pm...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (3) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:03

image Er y gallwn i fod wedi aros yn Llan-fair am oriau, roedd gennym nodau eraill i’w cyflawni, a llefydd eraill Ioloaidd i ymweld â hwy. Erbyn hyn roedd rhai yn galw am eu cinio, ond cyn troi tuag at Lanilltud Fawr i chwilio am le i fwyta, roedd yn rhaid galw heibio i Drefflemin. Roeddwn i’n gwybod fod ‘na gofeb yn yr eglwys yno i Iolo Morganwg. Mae rhywbeth braidd yn chwithig mewn codi cofeb i Iolo, yr arch-ryddfrydwr a’r undodwr, mewn eglwys oedd ar y pryd yn rhan o’r sefydliad, ond mae’n dda bod ‘na rywbeth gweladwy i nodi cysylltiad y dyn rhyfeddol gyda’i gynefin. Does dim rhyw lawer yn Nhrefflemin ond yr eglwys ac ychydig o dai. Roedd drws yr eglwys wedi’i gloi, ond daeth DJP o hyd i Court Cottage o fewn munudau a chawsom ni’r...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (4) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:07

image Fe aethon ni i Lanilltud Fawr ar gyfer ein cinio, gan fwyta mewn hen dafarn, The Old Swan Inn, gyferbyn â Neuadd y Dref. Yn ôl y plac ar y wal roedd y lle’n dafarn cyn i’r Esgob William Morgan ddechrau meddwl am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf o brif nodweddion Llanilltud Fawr yn dyddio o gyfnod cynnar hanes Cymru gan gynnwys clas Illtud Sant (6ed ganrif) a oedd yn ganolfan i ddysg a fyddai wedi’i disgrifio fel ‘prifysgol’ mewn oes ddiweddarach. Bellach y cyfan sydd ar ôl o holl ogoniant y gorffennol yw’r adeiladau, oherwydd o ran bywiogrwydd mae’r pentref (neu dref) yn teimlo yr un mor dawel a digyffro â’r rhan fwyaf o Fro Morgannwg. Wrth deithio o Drefflemin i Lanilltud Fawr roedd yn rhaid inni deithio...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (5) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:10

image Dywedodd DJP ei fod wedi cyfarfod â rhywun ar faes yr eisteddfod ddydd Sadwrn oedd yn darllen Blog Dogfael ac yn siomedig nad oedd lluniau o siopau Spar yn ymddangos yn gyson ar y blog bellach. Diolch byth fod Spar lleol Illtud Sant yn dal i sefyll yn Llanilltud a bod gyrrwr y car yn ddigon cydymdeimladol gyda fy sefyllfa i aros i mi dynnu llun. Fel mynach Celtaidd mae’n siŵr y buasai Illtud wedi ymatal rhag bwyta cig ac felly roedd yn rhaid gadael y rhan fwyaf o’r pasteiod i fod, ond dwi’n siŵr ei fod yn ddiolch fod Spar yn cynhyrchu ei pasteiod caws a winwns eu hunain. Pa saig rheitiach i sant? Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (6) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:42

image Roedd tafarn The Old Swan Inn yn ddigon cyfeillgar a chartrefol. Roedd y byrddau a’r cadeiriau wedi’u gwasgu’n weddol agos at ei gilydd yn y bar, ond roedd y staff yn ddigon serchog a’r bwyd yn flasus dros ben. Dwi ddim yn un am y cinio dydd Sul traddodiadol – cafodd fy nghyfeillion un yr un – ond fe ddewisais i’r cig mochyn a’r peth gorau am fy mhryd i oedd y sglodion. Roedden nhw’n frown ac yn greisiog ar y tu fas ac yn hyfryd feddal ar y tu fewn. Dim ond canmol oedd fy nghyfeillion hefyd. Lle gwerth galw ynddo os yn Llanilltud ac yn chwilio am rywle i gael bwyd. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (1) via Blog Dogfael August 5th, 2008 at 18:20

image Dwi’n siŵr y dylwn i fel eglwyswr da fod wedi bod yn y Pafiliwn ar y maes y bore ‘ma er mwyn gwrando ar bregeth Archesgob Cymru a’i apêl ar i’n gofal dros ein hunaniaeth Gymreig a’r Gymraeg beidio â gwneud ni yn bobol gul yn mynnu cau rhai allan nad ydyn ni’n credu eu bod nhw’n “Gymry go iawn”. Ond dwi’n ofni taw ar y radio y gwnes i wrando arno’n pregethu, yn gywir fel yr ydw i ers blynyddoedd, yn y car ar y ffordd i grwydro ychydig ar fro’r eisteddfod. Rhaid cyfaddef ein bod ni wedi mynd ychydig tu hwnt i’r fro honno heddiw wrth inni droi ein golygon tuag at Fro Morgannwg a rhai o’r llefydd oedd yn gysylltiedig gydag Iolo Morganwg ei hun. DML oedd wedi sôn i ddechrau am ei ddymuniad i ymweld â Threfflemin,...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (2) via Blog Dogfael August 5th, 2008 at 18:29

image Wedi brecwast hamddenol fe wnaethon ni groesi’r ddinas a mynd tuag at y Bont-faen a’r Fro. Cyn dod i’r Bont-faen ei hun dyma droi oddi ar y ffordd fawr a thrwy Sant Hilari tuag at Llan-fair, neu St Mary Church. Roeddwn i wedi ymweld â’r fan hon ryw ugain mlynedd yn ôl er mwyn gweld peth o waith llaw Iolo ei hun a oedd wrth ei alwedigaeth yn saer maen. Pentref bychan tawel yw Llan-fair sy’n dwyn enw yr eglwys gyda’i thŵr trawiadol yn ei ganol. Prin nad oedd neb yn symud yno wrth inni groesi’r parc ger yr eglwys. Roedd y drws yng nghlo, ond wrth inni grwydro o gwmpas y fynwent dyma wraig yn sylwi arnom ni ac yn gofyn a oeddwn i am weld y tu fewn. Atebodd y pedwar ohonom fel côr llefaru ein bod am wneud. Ac felly fe aeth hi yn ôl i’r tŷ i...

Eisteddfod yn y ddinas (1) 2008-08-02 via Blog Dogfael August 3rd, 2008 at 06:39

image O’r diwedd dwi’n cael cyfle i ysgrifennu pwt ar gyfer y blog. Am amryw resymau dwi wedi bod yn hynod brysur dros yr wythnosau diwethaf; yn rhy brysur i droi at ysgrifennu’r blog yn gyson. Dwi’n siŵr i Oscar Wilde ddweud unwaith os yw rhywun yn rhy brysur i flogio ei fod yn rhy brysur! Unwaith eto dyma Wilde yn dod yn weddol agos at y gwir. Un broblem sydd gen i ar hyn o bryd, sef nad ydy hi’n bosib imi osod lluniau ar y blog gan imi adael y weiren hanfodol ym Mhlas-yn-Dogfael. Felly bydd y lluniau yn dilyn… rhywbryd. Gadewais Aberystwyth i fynd i’r brif ddinas am ryw 1.30pm ddoe. Roedd fy nghyfaill da RO yn rhoi lifft i mi a fy nhrugareddau. Eleni roeddwn i wedi ceisio bod yn fwy gofalus na’r arfer o ran yr hyn roeddwn yn ei gludo ar draws...

Gwidbaith arall i ogledd Powys via Blog Dogfael May 10th, 2008 at 19:49

image Ddydd Llun diwethaf, gŵyl y banc Calan Mair, cefais gynnig gwibdaith i ogledd Powys gan gyfaill, sef DJP. Gadawsom Aberystwyth cyn 1.00pm a bwyta cinio yng nghanolfan ymwelwyr Cwm Nant yr Arian. Wedyn aethon ni ymlaen i Drefaldwyn a threulio cwpwl o oriau yno cyn gwneud ein ffordd yn ôl trwy Ddyffryn Banw i Aberystwyth. Wrth fynd trwy Dyffryn Banw fe wnaethon ni alw yn nghartref mam DML a chael DML yno yn mwynhau gofal a chariad. Wedyn fe ddaeth e gyda ni yn ôl i Aberystwyth. Rhagor o luniau o’n taith i Drefaldwyn a Dyffryn Banw. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhanna......

Brwsel unwaith eto via Blog Dogfael April 7th, 2008 at 07:48

image Dim ond nodyn bach byr yw hwn i ddweud fy mod i ar fy ffordd i Frwsel y bore ‘ma. Dwi’n gadael Aberystwyth ar y trên 9:27am gan newid yng ngorsaf Birmingham Stryd Newydd a chyrraedd Llundain Euston erbyn 2:00pm. Wedyn mae’n rhaid inni ddisgwyl tan 4:35pm i’r trên Eurostar am Frwsel adael St Pancras Rhyngwladol. Erbyn hyn mae’n cymryd ychydig o dan dwy awr i deithio i Frwsel, felly fe fyddwn ni’n cyrraedd yno erbyn 7:30pm (amser Brwsel). Rydyn ni’n aros mewn gwesty heb fod yn bell o ganol y ddinas, yn agos i’r lle wnes i aros rhyw ddwy flynedd a hanner yn ôl – hanner ffordd rhwng gorsaf Brwsel Zuid a’r canol. Nid yw’n westy pum seren, ond dwi’n gobeithio y bydd yn ddigon cyfforddus i’r tri ohonom ni – finnau, RO...

Mynd ar wyliau - o’r diwedd! via CymryMPLS March 12th, 2008 at 18:43

image Mi fydd Ellan a fi'n mynd ar wyliau i Sanibel Island, Florida 30fed Mawrth i 6ed Ebrill. Dw i ddim yn hoff iawn o wyliau i lefydd poeth fel arfer, ond mae'r gaeaf hwn wedi oerach nag arfer a dan ni wedi cael llond bol o'r oerni. Beth bynnag, dan ni'n edrych ymlaen atyn nhw. Cadwch eich llygaid allan am fideo newydd o...

Wikipedia ar Multimap via Gwenu dan Fysiau January 18th, 2008 at 16:10

image Pan yn chwilio am gyfarwyddiadau, dwi unai'n defnyddio multimap neu Google maps, mae'r ddau yn wych. Sylwais heddiw bod multimap rwan yn danogs erthyglau Wikipedia. Dwi'n gweld hwn yn ddefnyddiol iawn pan yn paratoi i ymweld â rhywle newydd. Mae'r llun isod yn dangos canol Caerdydd sydd ag ambell i erthygl, ond sbiwch ar hwn o ganol...

Ymweld ag Aalst (1) via Blog Dogfael December 27th, 2007 at 18:38

image Dydd Sul (2007-12-23). Heddiw roeddwn i wedi cael gwahoddiad i ymweld â dinas Aalst. Bydd darllenwyr cyson Blog Dogfael yn gwybod fy mod yn adnabod cwpwl o bobol yn Fflandrys – daethon nhw i’r Eisteddfod Genedlaethol fis Awst ac fe es i ac RO i’r IJzerbedevaart yn eu cwmni rhyw bythefnos yn ddiweddarach. Liesbeth a’i chwaer Sieglinde oedd wedi fy ngwahodd i Aalst. Er bod Liesbeth yn gweithio yn ysbyty’r brifysgol yn Leuven, o Aalst y daw’n wreiddiol ac mae ei theulu yn dal i fyw yno. Mae ei chwaer Sieglinde yn astudio twristiaeth a hamdden mewn coleg ym Mechelen ac roedd hi wedi addo bod yn dywysydd personol imi am y dydd. Cychwynnodd y daith braidd yn annisgwyl. Roeddwn wedi cerdded o Roberts-Jonesstraat i fyny i safle Cavell lle’r oedd hi’n...

Ymweld â Sint-Genesius-Rode via Blog Dogfael December 27th, 2007 at 17:25

image Dydd Sadwrn 2007-12-22. Mae maestrefi unrhyw ddinas yn weddol debyg i’w gilydd – mae’n dibynnu ar gyfoeth y lle a’r lleoliad mae’n wir – ond ar y cyfan maen nhw’n debyg o normal. Felly fe ddylwn i fod wedi bod yn barod ar gyfer fy ymweliad â Sint-Genesius-Rode; hynny yw, fe ddylwn i fod wedi bod yn barod i ddisgwyl dim byd allan o’r cyffredin. Ond roeddwn i wedi creu rhyw ddarlun yn fy meddwl o sut le fyddai’r pentref hwn ar gyrion Brwsel. I’r rhai sy’n gyfarwydd â Blog Dogfael a’i obsesiwn gyda ffiniau ieithyddol Gwlad Belg, ond dydd ddim yn rhannu ei ddiddordeb, dyma’r lle i chwilio am safle arall sy’n fwy diddorol. Sint-Genesius-Rode yw un o’r chwe chymuned o gwmpas Brwsel lle mae’r frwydr...

Aberystwyth i Frwsel mewn deg awr ar y trên via Blog Dogfael December 20th, 2007 at 21:24

image Wel, dwi wedi cyrraedd Brwsel a dwi’n ysgrifennu’r blog ar fy ford frecwast. Y peth gwych am heddiw oedd fod popeth wedi mynd yn iawn – yr holl daith o’i chychwyn hyd nes cyrraedd Robert-Jonesstraat, Ukkel heno. Cychwynnodd y daith mewn ffordd rhyfeddol. Roeddwn i wedi archebu tocynnau trên ymlaen llaw er mwyn eu cael ychydig yn rhatach ac am y tro cyntaf roedd hynny’n golygu sedd gadw o Aberystwyth i Birmingham Stryd Newydd, yn ogystal ag o fan ‘ny i Lundain. Dyma fi’n eistedd yn y sedd mewn cerbyd digon gwag, ond roedd hi’n amlwg fod rhywun wedi bod yn y sedd drws nesaf. Ar ôl rhyw funud neu ddwy dyma ddyn ifanc (iawn) yr olwg yn dod ac yn gofyn am gael mynd i’r sedd drws nesaf. Roeddwn i’n methu peidio â bod yn Gymreig a...

Ydy Anthony Hopkins wedi cael swydd newydd? via CymryMPLS December 5th, 2007 at 17:37

image Taith bws tiwrist yng Nghaerdydd Originally uploaded by pioneer herbert Dyma llun o daith Ellan a fi y llynedd yng Nghaerdydd. Mae bob tro dan ni'n mynd i lle newydd mae Ellan yn hoffi mynd ar bws tiwist am dro. Felly, pan oedden ni yng Nghaerdydd dan ni'n mynd ar taith fel hynny. Roedd ein tywyswr* yn tebygu Anthony Hopkins. *guide dw i isio...

Stwff am Venice via castell tywod December 1st, 2007 at 21:43

Mae'n flin 'da fi mod i mor ddiog, ond dyna fe. Rwyt ti'n gallu darllen tipyn bach am ein taith i'r Eidal ar fy mlog Saesneg. A gobeithio pan fydd mwy o amser rhydd 'da fi (pryd? pryd??) postiaf i rhywbeth yn Gymraeg hefyd. Ar hyn o bryd mae pentwr o lyfrau ar fy llawr yn aros i fi eu darllen nhw ar gyfer y gwobrau Cybils, felly...dim llawer o amser i wneud unrhywbeth arall, fel, ym, ysgrifennu blogiau. A dweud y gwir dw i ddim wedi bod mewn tymer dda i ysgrifennu o gwbl, achos fe ges i bedwar rejections yn y tair wythnos gynt. Wel, dyna fywyd yr...

Yn ol o’r Eidal via castell tywod November 22nd, 2007 at 00:10

Nodyn bach i ddweud bod tua hanner o fy lluniau o'r Eidal ar Flickr ar hyn o bryd. Byddaf yn rhoi y weddill ar-lein cyn bo hir, gobeithio heno neu yn y bore. Diolchgarwch hapus! (Rhaid i fi orffen tacluso'r ty cyn i'r Cinio Mawr...

Gwyliau Awst 2007-08-26 (3) via Blog Dogfael November 18th, 2007 at 06:23

Roedd y draffordd o Frwsel tua’r gorllewin, yr A10, yn un o’r traffyrdd mwyaf syth i fi gofio bod arnynt. Mae iddi enw arall gan ei bod hi’n rhan o’r rhwydwaith Ewropeaidd a ddynodwyd gan Gomisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig, sef E40. Hon yw’r ffordd Ewropeaidd hiraf. Mae’n cysylltu Calais yn Ffrainc gyda Ridder yn Kazakhstan, dros 8000 km i ffwrdd. I wneud hynny mae’n teithio trwy’r gwladwriaethau canlynol: Wlad Belg, yr Almaen, Gwlad Pwyl, Wcráin, y Ffederasiwn Rwsiaidd, Uzbekistan, Turkmenistan, a Kyrgyzstan. Mae’n ymestyn bron â bod at y ffin gyda China. Dyma’r dinasoedd mae’r ffordd yn eu cysylltu o’r gorllewin i’r dwyrain: Calais - Oostende – Brugge - Gent - Brussel – Leuven - Liège -...