S4C mewn manylder uwch via daflog
Dyw e ddim yn syrpreis mawr, ond mae Channel 4/S4C wedi ennill slot ar gyfer teledu HD ar Freeview.
Beth sydd ddim yn amlwg yw sut y bydd S4C yn darlledu ei fersiwn nhw yn Nghymru yn ogystal a C4 - heblaw ein bod ni’n mynd nôl i’r hen ffordd o ‘opt-owts’ rhanbarthol. Wrth gwrs fe fyddai’n gwneud synnwyr i gael C4 HD a ‘S4C MU’ ar loeren hefyd erbyn yr amser hynny.
Fe wnaeth Tinopolis lot o ffys rhai blynyddoedd yn ôl fod eu cyfleusterau darlledu yn HD er nad oedd unrhyw fodd o ddarlledu rhaglenni fel Wedi 3 a Wedi 7 yn y fformat yna. Ydyn ni wir yn barod ar gyfer Angharad Mair mewn......
Yr Egg Heads via Blog yr Hogyn o Rachub
Da ydi’r hen Eggheads. Yna fyddan nhw am 6 yn siarp bob noson o’r wythnos yn dallt popeth, a minnau yna gyda nhw’n aml yn eithriadol o falch, bron yn wenfflam fy ngorfoledd fy mod bron bob tro yn cael y cwestiynau hanes yn gywir, a dwi’n eithaf sicr yn dal i ddisgwyl cael un ar y celfyddydau’n gywir.Dwi ddim cweit yn siŵr pam fy mod yn hoffi’r rhaglen hon gymaint, nac yn siŵr pam fod cymaint o bobl eraill yn ei hoffi chwaith. Wrth gwrs, dwi’n un o’r bobl hynny sy’n licio dangos ei fod yn glyfar drwy ddweud llwythi o ffeithiau di-bwrpas a bod yn feddylgar a sylwgar, ond ar yr un pryd mae’n gas ganddo bobl ddeallusol, glyfar. Hynny ydi, pobl ddeallusol, glyfar go iawn, nid y math o berson sy’n darllen y Bumper Book of Useless Information cryn dipyn yn fwy nag y...
BBC Cymru oddi ar yr awyr via daflog
Wel mae hyn yn esbonio pam fod sianeli’r BBC wedi diflannu o Freeview heddiw. O’n i’n dechrau poeni fod rhywbeth wedi digwydd i fy mocs digidol am fod pob sianel BBC wedi eu nodi yn ’scrambled’. Er dwi ddim yn deall pam y ddylai problem yng Nghymru effeithio sianeli fel BBC News.
Mae’n ddefnyddiol iawn fod hi’n bosib gwylio’r sianel newyddion ar y we (ac yn fuan, sianeli eraill y BBC hefyd). Mae’r sianeli lawr ers 3 awr nawr felly mae’n rhaid nad yw’r broblem yn hawdd i’w ddatrys. Mae’r sianeli analog dal ar yr awyr ond wrth gwrs mi fydd y rhain yn cael ei troi i ffwrdd yn 2009-2010. Mae’n siwr fydd yna nifer o gwestiynau i’w gofyn ynglyn a’r drafferth, yn enwedig pam nad oes system wrth gefn...
Gwyliau yn Norwich 2008-09-19 (8) via Blog Dogfael
Roedd ‘na un rheswm arall pwysig dros ymweld â Thetford. Er gwaethaf y ffaith fod y dref ddegau o filltiroedd o’r môr dyma Walmington-on-Sea y gyfres deledu comedi sefyllfa Dad’s army. O 1968 tan ganol y 1970au ffilmiwyd degau o rifynnau o’r gyfres boblogaidd yma. I nodi hyn, rhywbeth sy’n denu llawer mwy o ymwelwyr i’r dref na chofeb Tom Paine, mae’r bwrdd croeso lleol wedi cyhoeddi pamffled i alluogi twristiaid i ymweld â lleoliadau o gwmpas y dref lle ffilmiwyd y gyfres.
Bodlonodd y tri ohonom ni ar fynd i weld y Guidhall lle ffilmiwyd rhifyn yn 1972, ‘Time on my hands’, lle’r oedd peilot Almaenaidd yn hongian o’i barasiwt o dŵr cloc Neuadd y Dref yn Walmington. Yn y rhifyn gwelir y platŵn yn mynd i mewn i’r... Byw yn yr Ardd, er nad wyf via Blog yr Hogyn o Rachub
Am y tro cyntaf erioed neithiwr mi wyliais Byw yn yr Ardd ar S4C. Wn i ddim pam y gwnes wneud hyn. Credaf i Keeping Up Appearences ddod i ben ar UKTV Gold, sydd y math o raglen y bydd rhywun yn ei gwylio o bryd i’w gilydd, yn benodol ar b’nawn Sul efo pen mawr.Dydw i ddim yn gwybod beth a wnaeth i mi ddechrau gwylio. Nid garddwr mohonof, ac yn wahanol i un cyfaill penodol nid wyf yn honni’r ffasiwn beth. Yn wir, mae cefn gardd Stryd Machen yn frith o chwyn a gwlithod a phryfaid, a phrin iawn y bydda i’n treulio amser yno yn y tywydd hwn. Pan oeddwn fachgen, roedd pethau’n wahanol ac roeddwn yn hoff o dyfu pethau yng ngardd Nain, ond diflannodd yr awydd wrth i mi dreulio’r penwythnosau yn crwydro stryd Pesda yn gwneud ffyc ôl.Wn i ddim beth a ddisgwyliais – ro’n i’n...
Meddwi’n Babyddol a Dragon’s Den via Blog yr Hogyn o Rachub
Daeth sawl cyfnod ac eiliad i’m rhan pan ddywedais na fedrwn i droi yn unigolyn rhyfeddach, ond yn ddiweddar mae fy nhuedd i olrhain alcohol gydag obsesiwn mewn bod yn Babydd yn dro od, a dweud y lleiaf. Maent yn bethau rhyfedd i'w cyfuno, ond dwi'n llwyddo gwneud, rhywsut. Bob tro y byddaf yn feddw, dwisho bod yn Gatholig. Ydi hynny'n naturiol?Dwi wedi hen gyrraedd y cam yn fy mywyd lle nad ydw i’n adnabod fy hun yn chwil. Y peth gwaethaf ydi’r ffaith nad ydi fy ffôn lôn yn cadw nodau bodyn a anfonwyd yn ei gof, felly nid yn anaml y bydda i’n cael negeseuon yn dweud “ffyc off” neu “hahaha” y bore wedyn, a heb fath o syniad pam.Prin iawn y proffwydais y byddwn byth yn dweud hyn, ond mae’r tueddiad tuag at yr absẃrd ac od hyn yn fy chwildod yn peri i mi feddwl y dylwn...
Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (6) via Blog Dogfael
Er gwaetha’r glaw mae ‘na un llygedyn o heulwen wedi tywynnu i mewn i’n bywydau yn Neuadd Buddug. Mae brwydr y sianel wedi’i hennill! Wedi inni ddychwelyd o borfeydd gwlyb Caerffili fe aeth RO ati i weld beth oedd ar y teledu, ac O ryfeddod! ar sianel 15 roedd S4C Digidiol yn ei holl ogoniant. Dwi’n teimlo braidd yn euog am hyn gan nad oeddwn i wedi bod yn rhan o’r frwydr o gwbl, na neb arall yn fflat B1. Yn hytrach na chreu ffws roeddem ni wedi bodloni ar wrando ar Tocyn wythnos gyda Beti George. Ond mae ‘na lot o bobol yr eisteddfod yn aros yn Neuadd Buddug a rhai ohonyn nhw yn bobol ddigon bolshi. Dwi’n cymryd taw un ohonyn nhw a fartsiodd lawr at y groesawfan a mynnu’r hawl i weld ei sianel ei hun yn ei wlad ei hun. A diolch byth... Eisteddfod yn y ddinas (4) 2008-08-02 via Blog Dogfael
Ymgyrch i integreiddio fampirod via e-clectig
Mae yna ymgyrch sylweddol ar-lein wedi ei anelu at integreiddio fampirod i'r byd dynol. Er ei fod wrth gwrs yn ymgyrch sy'n hysbysebu cyfres deledu newydd, dylai pawb sydd â diddordeb mewn rhedeg ymgyrchoedd ar-lein - gan gynnwys ymgyrchoedd gwleidyddol - gymryd yr amser i edrych arno.
Gelwir y fath ymgyrch yn ymgyrch masnachu firaol sydd hefyd yn Gêm Realiti Amgen. Mae tactegau'r ymgyrch...
Clwyfedig Fraich Ddirgel via Blog yr Hogyn o Rachub
Wn i yn ddiweddar dwi bron â bod yn mynd allan o’m ffordd i sarhau pawb mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, o lysieuwyr i Doris i bobl ddigartref i bobl sy’n ailgylchu. Dyma neges i chi (ond am y bobl ddigartref, nad oes mynediad i’r rhyngrwyd ganddynt, mi dybiaf):Ymlawenhewch. Dw i mewn poen.Am ryw reswm sy’n gwbl anhysbys i mi dw i ‘di tynnu rhywbeth yn fy mraich chwith ac mae’n wirioneddol, wirioneddol brifo heddiw. Dwi’n ei grymu ac yn rhoi mwythau iddo ond yn dal i gerdded o gwmpas megis fersiwn hynod ddel o Jeremy Beadle.Rŵan, wn i ddim sut ddaru hyn ddigwydd. Neithiwr, mi es gyda’m ffrind diserch, Ellen Angharad, i chwarae sboncen, ond defnyddio fy mraich dde ydw i wrth chwarae sboncen, neu chwarae unrhyw beth a dweud y gwir (moch). Hitia befo. Mi ddaeth i’r amlwg...
Dim pêl-droed, gormod o Big Brother via Blog yr Hogyn o Rachub
Y llynedd ni wyliais Big Brother rhyw lawer. Yn wir, cyfres y llynedd oedd y cyntaf i mi beidio â’i gwylio. Mi wyliais y dechrau a cholli diddordeb yn raddol wrth i bethau fynd rhagddynt. Eleni, mae pethau fwy neu lai’r un peth. Dwi wedi gwylio ambell i raglen ond heb fawr o ddiddordeb, er mi a’i gwyliaf pan nad oes dim byd arall ar y teledu, a fu’n wir neithiwr a minnau’n cael withdrawl symptoms oherwydd y diffyg pêl-droed.Yn wir, dw i ddim yn or-hoff o’r un o’r timau yn y pedwar olaf. Cefnogwn i ddim mo’r Almaen, yn enwedig oherwydd bod dau o’m ffrindiau gorau yn gwneud, ond pwy ddiawl sy’n cefnogi’r Almaen eniwe wn i ddim. Dwi byth, byth wedi licio Twrci, a hynny fwy na thebyg achos dw i’m yn dallt pam eu bod nhw’n chwarae ym Mhencampwriaeth Ewrop tra bod...
Come Dine With Me… via Blog yr Hogyn o Rachub
Sôn am deledu (mi wnes ddoe i raddau, dylech ddarllen yn amlach, gyfeillion) mae nos Iau yn arbennig iawn. Iawn, mae gêm heno (sef Croatia a’r Almaen os nad ydych yn dilyn y pêl-droed) yn dod â dŵr i’m dannedd (dyna ‘di ffwcin dywediad a hanner) ond mae gan nos Iau un temtasiwn anferthol na allaf ei hanwybyddu (na fy ffrind gwirion Ceren Roberts; nid yn anaml y seilir ein hamser gyda’n gilydd o amgylch y gwychder hwn). Efallai ei bod yn hysbys i chi yn barod. Efallai nad ydych wedi clywed amdani o’r blaen, wn i ddim. Ei henw yw Come Dine With Me. Dyma raglen wychaf y bocs ar hyn o bryd.Os nad ydych yn gyfarwydd â’r fformat, beth sy’n digwydd ydi bod pedwar person yn mynd o amgylch tai ei gilydd, gan goginio ar gyfer ei gilydd, nes bod pawb wedi gwneud hynny. Maen...
Pen-blwydd Priodas Hapus i Fi! via castell tywod
Ein seithfed pen-blwydd priodas ydy heddiw. Yn ffodus, does dim "seven-year itch" oherwydd ein bod ni gyda'n gilydd bron 12 mlynedd (!!). Mae Rob wedi cynllunio rhyw fath o waithgaredd sy'n syndod am y noson. Gwraig ofnadwy ydw i--cynlluniais i dim byd.
Mae angen mawr arnaf astudio yn galed iawn cyn y Cwrs Cymraeg--dw i ddim wedi bod yn astudio o gwbl ar wahân i ddarllen blog neu ddwy. Wel, dw i wedi bod yn gwylio'r gyfres deledu "Torchwood," sy'n cael digon o bobl Gymreig...y nifer mwyaf o acennau Cymraeg dw i erioed wedi gweld ar sianel deledu...
Dau glasur o ddyfyniad gan sylwebwyr ITV heno via Blog Rhys Llwyd
Dau glasur o ddyfyniad gan sylwebwyr ITV heno:"Will it be double Glazing for the Glazers tonight?""The Red flag WILL be flying in Moscow tonight"Chwarae teg (i'r sylwebwr ffraeth hynny yw nid i Fanceinion Unedig o'r... Gwrw Hw yn dweud Twdl-ŵ via e-clectig
Russel Davies ar lansiad ail gyfres Torchwood eleniMae Mae RT Davies yn gadael Doctor Who. Bydd yn dal wrth y llyw am y bedair episod arbennig a fydd yn cael eu darlledu yn 2009, ond fe fydd Steven Moffat yn arwain pumed tymor y gyfres yn 2010.Does dim dwywaith amdani fod Davies wedi bod yn llwyddiannus yn ei ymdrech i ailwampio'r gyfres, yn ogystal â rhoi Caerdydd ar y map. Ond o ran dawn greadigol, mi fydda' i yn rhoi Torchwood o flaen Doctor Who bob tro. Gwendid y Doctor ydy'r ffaith ei bod fel rhaglen yn gyfyngedig i gynulleidfa deuluol. Nid felly Torchwood, cefnder aeddfed tywyll y gyfres wreiddiol. Gall Torchwood gystadlu â chyfresi tebyg o'r UDA unrhyw ddydd, (fyddwn i yn ei chymharu â chyfresi Joss Whedon, dyn a fydd -mae'n ymddangos- yn gweithio gyda BBC Wales a thîm Doctor...
Wyt ti’n defnyddio Zattoo? teledu byw am ddim ar y we via Blog Rhys Llwyd
Ers rhai wythnosau nawr dwi wedi bod yn defnyddio Zattoo sef gwasanaeth teledu byw ar y we. Maen wasanaeth rhad ac am ddim ac maen gwbl gyfreithiol. Yr unig anfantais yw fod ansawdd y darllediad ddim yn dod yn agos i ansawdd digidol neu deledu lloeren eto ond maen debyg nad oes gan y rhan fwyaf o bobl gysylltiad bandllydan ddigon sydyn i ddelio gyda ansawdd uwch ar hyn o bryd beth bynnag. Mae'r gwasanaeth hwn yn un arloesol oherwydd fod gyda mi bellach yn fy fflat fynediad i sianeli digidol fel BBC Three a News 24 er fod fy nheledu confensiynol wedi methu pigo fynny signal analog da heb son am ddigidol (er mod i'n byw hanner canllath, yn llythrennol, o un o brif ganolfannau darlledu BBC Cymru!).Ymysg y sianeli sydd ar Zattoo ar hyn o bryd mae BBC1,BBC2, BBC2 Wales (+London, Scotland... I’d do anything… fasw ni ddim via Blog Rhys Llwyd
Mae Menna, fel pob merch maen siŵr, wedi dotio gyda'r gyfres 'I'd do anything' – y gyfres ar y BBC i ganfod y Nancy nesaf. Mae Tara Bethan, ein Tara ni (!), allan wrth gwrs ond mae diddordeb Menna yn y rhaglen yn parhau. Ond wrth gwrs rhan o ffenomenon gyffredinol y byd darlledu yw'r gyfres ddiweddaraf yma oherwydd yn perthyn i'r un categori y mae'r rhaglenni canlynol: Pop Idol, X Factor, Stricktly Come Dancing, Dancing on Ice, Fame Academy ac wrth gwrs cyfresi fel I'd do Anything ac How do you find a girl like Maria. Fe ymddengys mae dyma yw big hitters y diwydiant teledu ar hyn o bryd gyda'r BBC ac ITV yr un fath. Maen rhaid mae apel rhagleni o'r fath yw'r cyfuniad od o berfformio a chystadlu, dyma yw'r peth mawr, y peth diweddaraf ar hyn o bryd ym myd teledu Anglo-Americanaidd.Ond... Aeddfed â phosibilrwydd am drychineb via Arth sy'n Dawnsio
Mae rhywbeth am yr ymdrech cydweithredol hwn yn taro fi fel syniad drwg. Efallai taw dim ond fi sy'n teimlo hynny. Petai'r defaid yn canu am ddiffygion yr Iddewon, rydw i'n siwr y byddai Saunders Lewis wedi ei...
The Passion, BBC a’r hyn a gyflawnodd Iesu via Blog Rhys Llwyd
Dros y flwyddyn diwethaf 'dy ni wedi gweld gwleidyddion fel Gordon Brown a David Cameron yn mwynhau iwfforia mis-mêl gwleidyddol un diwrnod, a'r diwrnod nesaf yn plymio i waelodion y polau piniwn wedi i rhyw sgandal dorri ar y newyddion. Ond does 'run gwleidydd dros y flwyddyn diwethaf wedi gweld y ffasiwn newid agwedd o fewn amser mor fyr ag y wynebodd Iesu wythnos y Pasg. Gychwyn yr wythnos gorymdeithiodd yn fuddugoliaethus i fewn i Jerwsalem gyda'r torfeydd yn gweiddi: 'Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd, yn Frenin Israel!' (Ioan 12:13) ac erbyn diwedd yr wythnos roeddent yn bloeddio â chynddaredd 'Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef' (Ioan 19:15). Ond dim ond yn arwynebol y gellid mewn gwirionedd cymharu cwymp Iesu o boblogrwydd cyhoeddus â chwymp... S4C ac aitsh di via daflog
Mae’r defnydd o ffurf HD (manylder uwch yw’r term safonol sydd gan S4C) wrth ffilmio rhaglenni yn dod yn fwy cyffredin er fod y costau yn uwch. Mae rhai pobl yn dilorni’r dechnoleg (fel arfer y bobl hynny sydd ddim yn gallu fforddio teledu HD) gan ddweud nad yw’r llun yn well na DVD cyffredin.
Fe brynais i deledu HD 37″ yr haf diwethaf a doedd dim rhaid gwario ffortiwn, ond does gen i ddim ffynhonnell o raglenni HD heblaw o’r cyfrifiadur. Felly dwi wedi bod yn islwytho rhaglenni HD o’r rhyngrwyd a mae’n hawdd gweld ansawdd uchel y llun. Prynu chwaraewr Blu-ray fydd y cam nesa nawr fod y fformat hwnnw wedi ennill y frwydr.
Sylwais i fod y gyfres newydd Natur Cymru ar S4C wedi ei ffilmio mewn HD. Ar hyn o bryd does gan S4C ddim modd i...
Mwy fyth o deledu via Blog Dogfael
Er mawr gywilydd imi dwi newydd wylio rhaglen deledu arall. A hithau’n dymor y Garawys dylwn i fod yn osgoi temtasiynau o’r fath, ond mae arlwy S4C y dyddiau hyn yn gorfodi rhywun i wylio. Heno roedd ‘na raglen am Jennie Eirian Davies yn cael ei darlledu o dan y teitl syml Jennie (Cambrensis). Roeddwn i’n gwybod fod y rhaglen ar y gweill ers tipyn gan fod yr actores oedd yn portreadau Jennie Eirian yn y rhaglen, Rhian Morgan, wedi dweud wrtha i ei bod hi’n mynd i wneud y gwaith pan ddaeth hi i fyny i Aberystwyth i fynd i’r Llyfrgell Genedlaethol i wneud darllen cefndir amdani. Ni chefais fy siomi gan berfformiad Rhian Morgan; er nad oedd yn ceisio ei dynwared yn union dwi’n credu ei bod wedi llwyddo i gyfleu y person oedd Jennie Eirian Davies. Fe... Caeth i’r teledu? via Blog Dogfael
Mae’n fisoedd bellach ers imi i bob pwrpas rhoi’r gorau i edrych ar y teledu yn rheolaidd. Ac mae hynny wedi bod yn brofiad rhyddhaol iawn. Roeddwn i wedi dod i’r casgliad fod teledu yn lladd y dychymyg ac yn pydru’r meddwl. Ond yn raddol dros y mis diwethaf dwi wedi dechrau teimlo fy hun yn cael fy nhynnu yn ôl i mewn i grafangau’r cyfrwng a dwi’n gorfod amau a oeddwn i’n gywir am effaith teledu ar berson. A’r rheswm dros hynny yw fod S4C yn darlledu dwy gyfres sy’n wylio gorfodol a gwych. Un o’r cyfresi hynny yw Teulu (Boomerang) – fe wnes i gamgymeriad o’r blaen yn galw’r gyfres yn Y teulu. Dwi newydd fod yn gwylio’r rhaglen ddiweddaraf heno. Sôn am drofa emosiynol! Mae’r gyfres yn wych. Anodd... Dim Cwsg Tan Cwrlwys via daflog
Dwi’n mwynhau gwylio y gyfres Your Channel ar Aitsh Ti Fi Cymru Wêls ITV1 Wales sy’n edrych nôl ar 50 mlynedd o ddarlledu annibynnol yng Nghymru. Roedd y sioe ddiwethaf yn edrych ar ‘oes aur’ y sianel yn yr 80au pan roedd digon o arian ar gael i’r darlledwr (neu o leia’ roedd e’n oes aur i mi, gan fy mod i’n blentyn ar y pryd).
Mae digon o glipiau difyr wedi ymddangos yn y rhaglenni yn cynnwys nifer o raglenni Cymraeg HTV. Os ydych chi eisiau gweld rhaglenni llawn o’r gorffennol mae nifer ohonyn nhw ar wefan ITV Lleol Cymru.
Yr un gorau o’n rhan i yw Miri Mawr! Synnwch wrth weld Geraint Jarman yn blaco lan mewn perfformiad hynod wleidyddol anghywir o ddyn indiaidd. Syfrdanwch gyda’r dechnoleg chwyldroadol chroma-key. Ac...
Ail-ddarlledu Dirgelwch via Rwdls Nwdls
Trenflogio via Wierdo
Yn aml iawn pan dwi ar drenau (neu amryw o sefyllfaoedd cyhoeddys eraill) dwi'n creu rhyw fath o fyd ffantasi i fi fy hun.Mae'r byd yma bron union yr un peth bob tro.Mae'n dechrau gyda bachgen. Mae'n rhaid iddo fo fod yn fy ngwynebu neu dio'm yn gweithio. Ma'n llygid ni'n cwrdd am hanner eiliad a dyna fi off yn syth i fyd ffantasi ffilmiau. Dau berson ar dren yn cwrdd ac yn disgyn mewn cariad. Fflyrtio, penegliniau'n taro, llygaid yn cwrdd.A mi wn yn iawn fod gin i gariad a mod i ar y ffordd i'w weld o felly mae disgyn mewn cariad ar y ffordd yno yn anghyfleus iawn ond does gan fy ffantasi ddim byd i'w wneud efo bod yn hapus efo John neu beidio. Y rheswm dwi'n cal y ffantasis hyn ydi achos mod i'n darllen gormod ac yn gwylio gormod o deledu. A dwi'n methu dechra perthynas. maethu'r dod i...
Mae Phoo Action yn dod via Morfablog
Braf clywed gan The Beat bod BBC Three wedi wneud rhaglen gwerth ei gwylio, am unwaith. Sawl gwaith maen nhw’n ymddangos pennodau Two Pints a’r ffycin Hustle ‘na mewn wythnos?
Ta beth, Phoo Action yw enw’r bastad, addasiad o gyfres wnaeth Jamie Hewlett i’r Face nôl yn y dydd. Ro’n i’n ffan mawr stwff Hewlett pan [...]...
Y BYD, Byd a’r Bedwar, Marc Jones a’r BBC via Blog Rhys Llwyd
Mae'r stori am Y BYD yn parhau i ddatblygu ar y cyfryngau amgen (blogs, maes-e ayyb...) ond mae'r stori yn gwbl segur o safbwynt diflas y BBC – nid yw'r BBC wedi newid nac adrodd ar y diddordeb sydd wedi codi yn dilyn camgymeriadau golygyddol y Byd ar Bedwar o anghofio nodi fod Marc Jones y sylwebydd “niwtral” bellach yn gweithio i Blaid Cymru. Ac wedyn beth am rôl Aled Eurig? Tro diwethaf i mi ddod ar ei draws oedd yn 'steddfod Abertawe 2006 bryd hynny roedd e'n gweithio fel cynghorydd i Dafydd Ellis-Thomas, ydy e dal yn y swydd honno? Os ydyw a wnaeth y Byd ar Bedwar unrhyw ymdrech i gyfathrebu hyn i'r gwylwyr? Dwi ddim yn dweud nad oes hawl gan bobl a vested intrest leisio barn ar bethau, ddim o gwbl, ond mae hawl gan y gwylwyr wybod beth yw'r vested intrest hynny er mwyn iddyn...
Pobol y Chyff via Blog Rhys Llwyd
Un o'n modern-classics ni fel Cymry Cymraeg heb os oedd y rhaglen deledu Pobol y Chyff. Roeddw ni'n fach iawn pan y darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol a hynny ddiwedd yr wythdegau/ddechrau'r nawdegau ond mae cof plentyn gennai o hyd. Cymaint oedd dylanwad y rhaglen fel ei fod wedi effeithio ar ein geirfa ni feln teulu - er enghriafft mae fy nheulu i'n galw remote control y teledu yn "twiglydd" sef y cyfieithiad Cymraeg a fathodd y Brodyr Frank ar y sioe. Maen gyfieithiad gwych ac maen parhau. Yr rhifyn gyda Dafydd El fel gwestai sy'n sefyll allan i mi - roedd y gan, sef addasiad o My Sweet Lord gan George Harrison, yn wych! Dafydd El yn cael ei bortready fel Budah yn y fideo and the rest - roedd en hollol wych. Buasw ni wrth fy modd os y byddai S4C/Sain yn rhyddhau DVD o'r rhagleni yma -...
Y Teulu via Blog Dogfael
Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog, ac nid wrth y rhaglen gyntaf y mae beirniadu cyfres deledu, yn arbennig felly cyfres ddrama. Ond, dyna dwi am wneud! Fe wnes i weld y rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd ar S4C nos Sul, Y teulu (Boomerang). Mae’r ddrama hon wedi’i gosod yn Aberaeron, Ceredigion, gyda bywyd bob dydd meddygfa yn gefndir iddi. Fel y dywedais dwi ddim yn gwybod a oes dim sy’n fwy anodd i’w wneud na’r rhaglen gyntaf mewn cyfres. Mae disgwyliadau’r gwylwyr yn arbennig o uchel ac mae’n rhaid iddynt ddeall rhywfaint o pwy yw pwy a beth yw eu perthynas gyda’i gilydd. Ar ben hyn i gyd mae’n rhaid gosod naws yr holl gyfres ac sicrhau fod diddordeb yn cael ei ennyn yn y cymeriadau a/neu’r sefyllfa(oedd) fel bod yr ail...