Wncwl John o Geneva a'r teulu draw wythnos yma ac wedi pasio hen luniau o'r teulu i mi. Maen nhw'n hen rai o ddechrau'r Ungeinfed Ganrif, rhai o'r Bedwaredd Ganrif a'r bymtheg. Hollol anhygoel.Fy hen hen hen Famgu a Tadcu:Fy hen hen Mamgu gyda fy hen hen hen Famgu:Llun priodas fy hen Famgu ac Wncwl Trefor, Mamgu yw'r groten fach draw ar y dde. Y gweinidog yw Nantlais Williams yr Emynydd, un o arweinwyr Diwygiad 04-05.Tynnwyd y llun yma yn y Bedwaredd Ganrif a'r Bymtheg, dydy ni ddim yn siwr pwy yn union yw'r plant OND mae nhw'n sicr yn perthyn i ni oherwydd fod y ferch fach run spit ag Elain fy...
Graddio via Wierdo July 22nd, 2008 at 17:41
Dwi di graddio. Dwi wedi gwisgo'r het wirion a'r clogyn. Dwi wedi tynnu'r llun efo'r disgysgrif ffug. Dwi wedi tynnu miloedd o luniau eraill. Dwi'n raddededig.Ac yn wahanol i be oni'n meddwl pan oeddwn i'n fach, dwi ddim yn berson gwahanol nag yn hen. Dwi yr un hen fi, yr un mor ddiog, yr un mor wirion, yr un mor bróc.Sydd ddim yn sypreis o gwbwl rili, gan mai dim ond lot o bres am ddim byd oeddo.Ar un llaw, mi oeddo'n ddwrnod neis - diwrnod allan efo'r teulu, lluniau neis i gofio'r diwrnod, a pryd bwyd hyfryd (ac anferth!) i orffen popeth!Ond ar y llaw arall? Mi oeddo'n ddrud iawn, yn ddiwrnod anhygoel o hir (cychwyn am chwarter i saith), ac i gyd er mwyn sefyll ar ben llwyfan am chydig o eiliadau yn nodio ar rhyw ddyn neu gilydd.Ond dyna ni, mae o drosodd rwan, ac er mod i wedi blino'n...
Gwyliau via Wierdo July 15th, 2008 at 20:58
Dydym ni heb fod ar ein gwyliau fel teulu cyfan ers ni fynd am benwythnos hir i'r Gelli rhyw 3 neu 4 mlynedd yn ol. A doedd hynny ddim yn wyliau teulu go iawn: yn lle campio fel oedden ni wedi bob tro o'r blaen, aros mewn ty oedden ni. Oedd ddigon teg am 3 noson, ond dal yn wahanol iawn i'r arfer. Mi dreulion ni lot o amser mewn siopau llyfrau, a lot o amser yn gneud jigso. Hyfryd.Ond ers hynny, dim. Dim cynnig, dim noson yn yr un gwersylla, dim. Dwi'n ama fod hyn yn bennaf oherwydd fod gin i frawd bach sydd yn rél tínejyr, er gwaetha'r ffaith ei fod o yn 19 bellach. Peidiwch a camddallt, mae o lot gwell nag oeddo, ond dydio ddim yn fy nhrawo i fel rhywun fysa'n mynd ar ei wyliau efo mami a dadi a chwaer mawr ddim mwy. Sydd yn sbwylio'r hwyl i mi tydi?A gan nad ydyn yn mynd fel teulu ar...
Dwi wedi ystyried sawl gwaith symud y blog yma i wordpress. Dwi ddim yn siwr iawn pam, ond ma'n swnio fatha syniad da. A'r gobaith yn y dyfodol ydi cael un cyfeiriad we sydd yn lincio i wefan lle mana ddewis os mai'r blog yma ta'r un saesneg dechi'n cyraedd.Swish.A mi benderfynnais fod wan yn amser da i wneud hyn, gan fod gin i dros yr haf i'w wneud o, ac yn ogystal a hyn, dwi yn ceisio gwneud y blog yn fwy "anonomous" cyn dod yn athrawes. Chos dwi ddim ffansi cael un o fy nisgyblion yn darllen am fy "drunken escapades" fel petai.Yn anffodus, dydio ddim yn gweithio felna.Tro dwetha i mi drio, mi lwyddish i gyraedd nunlla gan nad oeddwn i yn gallu ffindio nunlla i fy hostio am ddim. Chos dwim yn dallt.Ond troma mi oni'n meddwl mod i wedi'w dallt hi; wedi cael y syniad gora erioed. Gofyn i...
S'mae cyfeillion,Ymddiheuriadau am ddiffyg o gofnod blog ohona i, ond dw i 'di bod yn brysur iawn efo di-waith a phryder am iechyd fy nhad. Mi fydd dydd Sul ei benblwydd o. Mi fydd ei bod yn wythdeg un oed. Pythefnos yn ol, mi gaeth o trawiad bach (sut dach chi'n deud mini stroke?). Felly, pawb yn fy nheulu yn pryderu amdano fo. Dydd Sul diwetha roedd fy nith fawr yn graddio o'r brifysgol. Pawb yn falch iawn ohoni hi a roedd fy nhad yn medru fynd i'r seremoni. Roedd o'n hapus i fynd i weld ei wyres yn graddio.Wel, dim ond nodyn bach ohona...

Mae cofnodi hanes ein teulu'n rhywbeth hoffwn ei wenud, yn enwedig fel dwi'n mynd yn hyn a gyda'r rhai sy'n golygu cymaint i mi (a sy'n gwbod yr atebion) yn mynd yn hynach fyth. Mae gan fy nhad deulu reit fawr yn, enwedog o ochr ei dad ef, ond maen't i gyd yn byw ochrau Dyffryn Ardudwy, felly dwi ddim yn eu hadnabod cystal a hoffwn. Dwi newydd ddod ar draws gwefan sy'n gwenud creu coeden deulu yn hawdd dros ben. Enw'r wefan yw www.geni.com.Ond nid dim ond deiagram syml mae'n gallu wneud. Wrth glicio ar pob unigolyn, gallwch osod eullun, cofnodi dyddiad a man geni a marw pob un, manylion galwedigaeth ac hefyd dyddiad priodi. Gallwch fynd mor bell wedyn nodi pwy oedd yn bresenol yn y briodas a chynnwys lluniau. Chi wedyn yn gallu gweld 'llinyn amser' ar gyfer unigolion.Dim ond aelodau...

Mae’n fisoedd bellach ers imi i bob pwrpas rhoi’r gorau i edrych ar y teledu yn rheolaidd. Ac mae hynny wedi bod yn brofiad rhyddhaol iawn. Roeddwn i wedi dod i’r casgliad fod teledu yn lladd y dychymyg ac yn pydru’r meddwl. Ond yn raddol dros y mis diwethaf dwi wedi dechrau teimlo fy hun yn cael fy nhynnu yn ôl i mewn i grafangau’r cyfrwng a dwi’n gorfod amau a oeddwn i’n gywir am effaith teledu ar berson. A’r rheswm dros hynny yw fod S4C yn darlledu dwy gyfres sy’n wylio gorfodol a gwych. Un o’r cyfresi hynny yw Teulu (Boomerang) – fe wnes i gamgymeriad o’r blaen yn galw’r gyfres yn Y teulu. Dwi newydd fod yn gwylio’r rhaglen ddiweddaraf heno. Sôn am drofa emosiynol! Mae’r gyfres yn wych. Anodd...
Ie, yn lle astudio Cymraeg fel merch fach dda, dw i'n dysgu Sbaeneg. Dw i'n cymryd dosbarth gyda fy ngwr a chwpwl o ffrindiau. Dw i'n gallu siarad tipyn bach o Sbaeneg yn barod--mae fy llys-dad yn dod o Costa Rica, a mae modryb 'da fi sy'n dod o Mecsico yn wreiddiol. Dw i'n gallu deall yn eitha da, ond dw i ddim yn gallu ateb yn dda iawn, a does dim llawer o eirfa 'da fi o gwbl. Ond mae'n bwysig iawn a defnyddiol iawn gwybod Sbaeneg yn California, felly...
O leiaf, yfory bydda i'n sgwrsio yn Gymraeg gyda ffrind i fi, Brenda--dyn ni'n ail-ddechrau ein sgyrsiau ffôn. Dw i i fod i siarad am fy nhaith i'r Eidal ym mis Tachwedd. Pob lwc i fi!!
Mewn newyddion eraill, nawr mae hi'n bosib cofrestru ar y Cwrs Cymraeg 2008 - Cwrs y Rhosyn Gwyllt yn Iowa. Ydw i wedi sôn yn ddiweddar, mod...

Mae'n anodd weithiau deall hiwmor y briodferch ifanc. Heddiw gafodd hi syniad ei bod hi eisiau cael ei chwiorydd dal yng Nghymru, a taw ffordd gorau i wneud hyn byddai Ya-Ya briodi dyn lleol.Ar hyn, dyfeisiodd hi syniad rhyfedd o hysbysebu ei chwaer fel mail-order bride (priodferch-archebwyd-trwy'r-post?) ar fy mlog (gwneuthum hyn ar fy mlog Saesneg). "It'll be funny," meddai hi. "I want to see what people will say.""Uhm, the internets are full of nutjobs," meddwn i. "They'll probably take it seriously."Ond mynnodd Rachel tynnu lluniau o'i chwaer er mwyn y blog beth bynnag. Dweud gwir, maent yn ddoniol -- yn enwedig yr un a rhois yn y cofnod hwn. Mae'r olwg archub-trwy'r-post yn berffaith yma. Mae'n scary, bod yn onest. Gellir dychmygu'r llun hwn ar wefan gydag enw an-dychmygus fel...
Mae'r chwiorydd-yng-nghyfraith yn yma o hyd. Felly treuliaf fwyafrif o'm hamser lan y crisiau, darllen a chlustfeinio ar sgyrsiau'r briodferch ifanc a'i chwiorydd. Roeddwn newydd gwrando arnyn nhw siarad am briodas Rachel a fi, a sut mor anodd y bu oherwydd ei rhieni.Roedd rhieni Rachel yn hollol erbyn ein priodas oherwydd nad oeddwn i'n (ac nid ydw i'n) Mormon. Ceisient nhw rwystro ein priodas trwy wrthod talu am bethau, ac yn dweud wrth Rachel y roedd hi'n siom i'w theulu, ac yn mynnu y byddent dorri hi o'u hewyllys, ac yn y blaen ac yn y blaen. Bihafient nhw fel rhieni mewn Regency romance neu rywbeth.Priododd Rachel a fi beth bynnag. Priodasem ni yng ngardd gefn rhieni Rachel yn St. George, Utah, oherwydd chawsom ni ddim arian ar gyfer cynnal y briodas rhywle arall, ac oherwydd...
Rydw i wedi cyrraedd yng nghylch llai uffern -- mae chwiorydd y briodferch ifanc yn ymweld â ni ar hyn o bryd. Nid ydw i eisiau swnio'n greulon gan ddweud hynny, maen nhw'n ferched hyfryd. Ond pan ddaw'r briodferch ifanc a'i chwiorydd gyda'i gilydd... O, diawl.Siaradan nhw'n uchel -- ar ben eu lleisiau -- am oriau. Neithiwr, roedden nhw'n siarad hyd 3 yn y bore. Dyna oeddwn i, yn ceisio cysgu ond nad allwn oherwydd o dro i dro crynai'r tŷ gyda ffrwydrad o'u chwerthin.Mae'r chwiorydd-yng-nghyfraith yn yma am bythefnos. Anfonwch help (a chwrw), os gwelwch yn dda. Wedi dweud hyn, mae'n neis i gael nhw yma. Roedd y briodferch ifanc yn teimlo hiraeth cryf am ei theulu tros y misoedd diwethaf. Ni allaf ei hachosi chwerthin mor uchel, mor bur, mor lawn o lawenydd â phan mae hi'n gyda'i...

Gallai rhywun dybio taw dyna fyddai uchafbwynt ein hymweliad â’n hetifeddiaeth ddiwydiannol ac ôl-ddiwydiannol. Ond roedd gwell i ddod sef pentrefi Sandycroft, Queensferry (Y Fferi Isaf), Mancot, Shotton a Chei Connah. Creadigaethau digon diweddar yw’r llefydd hyn, gyda nifer ohonynt wedi’u codi adeg y Rhyfel Mawr fel anheddau ar gyfer gweithwyr yn y ffatrïoedd oedd yn cyflenwi arfau. Dyna oedd hanes Mancot, pentref a gynlluniwyd gan adran dai y Weinyddiaeth Arfau, Ministry of Munitions, rhwng 1916-1918. Ac o’r herwydd gwelir eglwysi a chapeli newydd dros y lle i gyd. Roedd Eglwys S Ethelwold yn edrych yn ddiddorol iawn ar ochr y ffordd, ond doedd dim amser i ymweld â hi. Ym Mancot roedd yr Eglwys Bresbyteraidd yn drawiadol iawn. Gyda’r eglwysi ceir...
Newydd weld hyn ar flog John Shelley - toriad papur a roddwyd iddo fe ar ei daith i Fongolia’n ddiweddar:
Mae John yn dweud yn sylwadau’r blogiad:
Incredibly he just pulled these paper-cuts out of an envelope, completely unprotected. This one in particular was very bent and tangled - I flattened them between the pages of a [...]...
Bues i'r gogledd am noson er mwyn mynd i weld nain yn yr ysbyty. Fe gafodd hi godwm tua 5 wythnos yn ôl a thorri ei chlun, ac fe gafodd lawdriniaeth i osod pin yn ei chlun. Gwelais i hi rai diwrnodau wedi'r lawdrinaieth a doeddwn heb ei gweld ers hynny. Roedd hi'n edrych yn well y tro yma, ond roedd yn dal yn ffwndrus ofnadwy. Hyd yn oed cyn iddi ddisgyn, doedd hi ddim yn gallu cerdded bron oherwydd ei phengliniau, ac mae hi fwy neu lai'n ddall. Does dim rhaid dweud nad oes ganddi fywyd hawdd iawn, nac fy mam druan chwaith sy'n edrych ar ei hol. Ta waeth, roedd nain yn 93 oed ddoe, ac roedd Inffyrmari Dinbych ble mae nain yn aros ar hyn o bryd yn 200 oed hefyd ar yr un diwrnod.Tra ar y tren, dyma fi'n darllen 2 rifyn diwethaf o'r Faner Newydd nad oeddwn wedi cael cyfle i'w darllen,...
Nid ydw'n blogio fel dylwn y dyddiau hyn. Mae milodfa o bethau'n mynd trwy fy mhen, felly mae'n anodd i fi eistedd i lawr ac ysgrifennu. Mae fy nhad-cu'n marw. Mae e wedi bod mewn ysbyty am dair mis a nawr mae'r meddygon yn siarad am ei dynnu rhag cynnal bywyd (life support). Mae fy nhad yn lawr yno yn Texas yr wythnos hon er mwyn siarad am y peth gyda'i frawd a'r meddygon.The great equalizer yw marwolaeth. Daw i bawb. Ond ni wneir y sefyllfa hon yn haws gan y ffaith honno. Ysgrifennais am fy nhad-cu yn niweddar ar fy mlog Saesneg, sut defnyddia iaith gymysglyd o'r hipster a'r dyn Gorllewin Texas. Atgoffodd fy nhad fi neithiwr am ymadrodd arall a anghofiais gyfeirio ato yn y post hwnnw. Yn lle na "god damn it," dwedai Papa, "garden seed."Garden seed. Fel hyn rydw i'n teimlo. Rydw i'n...
Dechreuais waith ar fy llyfr heddiw, o'r diwedd. Bydd y llyfr hwn yn y Gymraeg, ac na fydd unrhyw un yn ei ddarllen, ond published books are for sell-outs, man. Hwn yw'r llyfr y siaradais amdano ar ddydd Iau, am fy mhrofiadau Cymreig. Rwyf yn gweithio ar fraslun ohono ar hyn o bryd, felly nad oes unrhyw beth diddorol i fi dweud amdano eto.Rwyf wedi bod yn teimlo hiraeth cryf y dyddiau hyn am fy ffrindiau a phethau yn ôl yn yr UDA. Yn enwedig rwyf yn colli fy mrawd ifanc, Jon. Efallai rwyf wedi siarad o'r blaen am sut gweithiodd fy rhieni oriau hir pan roedd Jon a fi'n ifanc, felly roedd gorfod arnaf i'w fagu. Oherwydd hyn, roedd perthynas rhyngom ni'n dau'n ddirdynedig weithiau. Roeddem ninnau'n dechrau bod yn agos iawn tros y blynyddoedd diwethaf ac wedyn symudais yma. Roeddwn yn...
Dyma un o fy hoff ffotograffau o fy mam. Fe’i tynnwyd rhywbryd yn 1951 pan roedd fy mam yn gweithio yn Llundain. Gyda fy mam yn y llun mae ei dwy chwaer: fy mam sydd ar y dde, ar y chwith mae Edna, ac yn y canol Martha Mary. Roedd y tair ohonyn nhw wedi [...]...

Ar un adeg roedd lluniau o’r awyr o’ch cartref yn beth ffasiynol iawn ac yn aml iawn buasai pobol yn eu danfon at ei gilydd fel cardiau cyfarch. Anfonwyd y llun hwn o fferm Middlepool, Pentywyn atom ni gan fy modryb, Anti Lil a’i gŵr, Wncwl George. Dwi’n credu ei fod yn dyddio o ganol y 1960au. Am ychydig flynyddoedd ddiwedd y 1960au buaswn i’n mynd i aros gyda fy modryb ym Middlepool am ryw wythnos yn ystod gwyliau’r haf. Roedd yn brofiad rhyfedd oherwydd roedd Middlepool o dan y Landsker (yn Sir Gaerfyrddin) a Saesneg siaradai pawb yno, heblaw am fy Anti Lil. Dwi’n cofio’r gwyliau hynny nawr gyda lot fawr o hiraeth. Doedd neb fel petaen nhw’n poeni rhyw lawer beth roeddwn i’n ei wneud. Roedd gan Lil a George ddau fab, Huw ac...

Mae ffotograffau yn bwerus. Mae pob ffotograff yn rhewi amser, ond fel arfer dyw hynny ddim yn bwysig, Fel arfer, does dim ots os gafodd llun ei dynnu ddwy awr, dau ddiwrnod, neu ddeufis yn ôl. Ond gyda rhai lluniau mae’n gwneud byd o wahaniaeth. Ffotograff fel ‘na yw hwn. Dwi’n siŵr fod ffotograffau o’r fath yn rhan o fywydau pawb. Dyma lun fy nhad a’m mam adeg eu priodas. Bu farw fy mam dros bum mlynedd ar hugain yn ôl a’m tad dros bymtheg mlynedd yn ôl. Ac eto pan dwi’n edrych ar y llun hwn mae’r ddau yn fyw. Dwi wedi edrych arno droeon ers imi gael ei fenthyg gan fy mrawd i’w sganio, a bod tro dwi’n edrych arno mae dagrau yn dod i’m llygaid. Dwi ddim yn boichen, ond mae ‘na ddagrau.
Un o’r rhesymau am y...
Mae’n edrych yn debyg fod pob gwyliau teulu yr un fath. Pan oeddwn i’n fach ac yn mynd i gampio efo mam, dad a’m mrawd, mi oedden ni’n cyrraedd tua amser tê (cyn gynted a sydd bosib bethbynnag) ac yn codi’r dent. Wedyn mi oedd yr ail ddiwrnod yn un diog bob amser; mynd i’r swyddfa twristiaeth ac ymlwybro o amgylch yr ardal gyfagos. Llun o’r afon oedd yn rhedeg trwy’r pentref Rhywbeth tebyg sydd yn digwydd wythnos yma yn Ffrainc. Neithiwr, mi gyrhaeddom ni tua hawdi wyth a setlo mewn. Heddiw, mi gerddom ni yn ara deg o amgylch pentref Hesdin. Mae’n bentref prydferth iawn âg afon yn rhedeg trwyddo ac Eglwys yn ei ganol yn ogystal a neuadd y dref impresif iawn. Tu mewn eglwys St Saulve yn Montreuil Ma pobman wedi cau ar dydd Sul yn Ffrainc wrth sgwrs a...
Teulu via Wierdo May 7th, 2007 at 15:39
Priodas Taid a Nain: Y ganfed briodas yn Eglwys Corris, 4ydd Ebrill 1950 Dwi, fel amryw o bobl erill yn falch iawn o fy nheulu. Dwi wedi bod erioed. Dwi'n cofio pan oeddwn i'n fach, mi oni am farddoni fel taid a mi onin cal cryn lwyddiant (yn fy marn bach bersonnol i) tan oeddwn i'n rhyw 12 oed. Wedyn mi ath y ddawn i rywle er fod yr awydd i sgwennu dal yn bodoli yn fy mlogiau ac fy nghaneuon. Yn wir, taid sydd wedi ysbrydoli'r blog yma gan mod i newydd orffen darllen ei nofel: Marged.Mae wedi cymryd sawl mis i mi ei orffen, fel yr oeddwn yn disgwyl o edrych ar maint y nofel! Dwi ddim yn un am ddarllen nofelau cymareg gan eu bod yn dueddol o fod yn drwm. Ond nid felly mo'r nofel yma. Mi lwyddish i ddarllen hanner y nofel mewn un penwythnos yn Lerpwl. Dim ond diogrwydd a diffyg awydd...
Dw i’n credu mod i wedi sgwennu am fy nghefnder pell John Shelley yma o’r balen, ond mae e newydd ddod yn ôl mewn cyswllt â fi, gan ei fod e wedi ail-afael yn y gwaith o olrhain ei achau. Ein hachau, hynny yw. Mae e wedi anfon copi o erthygl am fy hen daid [...]...
DADS CYMRAEG - cyfle i chi tadau ymarfer eich Gymraeg tra bo'r plant yn chwarae. 10:00 - 12:0029.4.07SHINE, Heol Goatmill, Merthyr Tudful£1 bant o mynediad i...

Dwi newydd ddechrau darllen cyfrol a gyhoeddwyd rhyw fis neu ddau yn ôl. Yn Annwyl D.J.: llythyrau D.J., Saunders a Kate (Y Lolfa) mae Emyr Hywel wedi golygu detholiad o’r ohebiaeth rhwng tri o brif lenorion Cymru – Saunders Lewis, Kate Roberts a D. J. Williams(Abergwaun). Ond roedd y tri hefyd yn ogystal â bod yn llenorion yn weithredol yn wleidyddol ac mae hyn i’w weld trwy eu llythyron. Mae’r golygydd wedi gwneud ymchwil ar fywyd a gwaith D J Williams ac fel ffrwyth yr ymchwil hwnnw y daeth y gyfrol hon i olau dydd. Mae ‘na ryw sôn bod cofiant i D J Williams ar y ffordd hefyd; dwi’n bendant yn edrych ymlaen i hynny yn eiddgar iawn. Yn ddiweddar mae’r gweisg wedi bod yn brysur yn cyhoeddi bywgraffiadau nifer o blith y genhedlaeth gyntaf o...

Dyma ffoto o fi'n ceisio esbonio wrth fy mam sut i ddweud "Llanilltud Fawr." Fel ceisio esbonio Cymraeg wrth wal ydy hynny. Dyma pam nad ydw'n blogio ers wythnos. Byddaf yn ôl yn...

Newydd gael sioc wrth ddarllen straeon diweddaraf o wefan newyddion y BBC. Cliciais ar y teitl rhyfedd, Lluniau potel i chwilio am ddêt, a gweld llun Iwan fy nghefnder yn hwrio ei hun ar ochr poteli llefrith.
Dwi'n ceisio cysuro fy hun mai mond gwneud hyn i hyrwyddo cwmni cydweithredol Calon Wen y mae Iwan, gan ei fod yn gyfarwyddwr arno. Er, mae Iwan yn digwydd bod yn sengl ar hyn o bryd ac yn uffern o foi, felly os ydych yn ferch ac yn Ffansio Ffarmwr, byddwch yn wallgo i beidio ag ymweld â pishyn.com.
*nid llun Iwan sydd ar y poteli yn y llun, ond fo sy'n dal y botel yn erthygl y BBC.
doniolwch, pishyn.com, rhithfro, teulu, calon wen
Generated By Technorati Tag Generator...