Welsh Blogs.com


Madrid, Hufen ia, a sdeddfod [rhan 3] via Wierdo September 10th, 2008 at 20:47

image Tydwi ddim yn ffan o bel droed, ddim hydynoed chydig bach. Tydwi ddim yn ffan o real Madrid, ddim o gwbwl. Ond pan aethom ni i Estadio Santiago Bernabeu, mi wnes i wir fwynhu. Mi oedd hi'n ddiwrnod hyfryd, mi oedd y tour yn ddiddorol a doedd na ddim rhaid dilyn rhyw berson diflas o gwmpas; roedden ni'n gallu mynd ar ein cyflymder ni'n hunain. Mi oedd y trophy room yn anferth! Yr unig beth drwg sgin i'w ddweud am y profiad yw fod y siop yn lot fawr iawn rhu ddrud (gwirioneddol ddrud - mi oedd beiro yn costio 7ewro!)Pnawn dydd Sadwrn mi wnaethom ni rywbeth gwirion gwirion iawn. Mi aethom ni am dro i'r parc, yn Madrid, ym mis Gorffennaf, am 2 o'r gloch. Mi oedd hi'n chwilboeth! Mi grwydro'n ni gysgodion y parc yn eu cyfanrwydd mi gredaf, dim ond yn mentro i'r haul pan fo wir angen a bryd...

Madrid, Hufen ia, a sdeddfod [rhan 2] via Wierdo September 1st, 2008 at 13:36

Yn ol hud a lledrith y wê, bob dydd Sul yn Madrid, ma un o flea markets mwya Ewrop yn cael ei gynnal. Yn ogystal ag ar ddydd sul, ar wyliau cyhoeddus mae'r farchnad ar ddydd Gwener hefyd. Drwy lwc mi oedd hi'n wyl cyhoeddus ac yn ddydd Gwener tra'r oeddem ni yn Madrid.Doedd o ddim yn edrych i mi fel yr un mwya yn Ewrop o bellffor; bosib ei fod o'n fwy ar ddydd Sul, dwnim. Ond mi wnaethom ni fwynhau crwydro (a gwario mbach) cyn cerdded drwy'r dre (yn dŵrists amlwg efo'n map a'n camerâu) yn chwilio am Gran Via. Ar y ffordd mi sdopion ni am siocled a churros. Hyfrytwch!Crwydro'r dref, gweld y palas (oedd yn anferth!) cyn mynd am bryd bwyd mewn bwyty bach hyfryd oedd yn cynnig digonedd o ddewis llysieuol.Dyna un o'r problemau mwyaf am fynd dramor pan yn llysieuol; ffindio llefydd sydd yn...

Madrid, Hufen ia, a sdeddfod [rhan 1] via Wierdo August 2nd, 2008 at 19:08

(ma hwn am fod yn flog hir felly mi rannai o mewn i bits bach blasus)Tro cynta ar awyren. Dyna'r lle oeddwn i, yn eistedd, hanner ffordd rhwng ofn a gorfoledd. Ofn oherwydd fod f'annwylyd a'i fam yn ofn, ac mae'n anodd eistedd rhwng dau berson heb deimlo m'bach o'u teimladau nhw hefyd. Ofn hefyd, gan nad ydi darn mawr trwm o fetel i fod i allu hedfan. Gorfoledd gan fy mod yn hedfan am y tro cyntaf. Gorfoledd gan fod y peth mor wirion o amhosib. Gorfoledd gan fy mod ar y ffordd i Madrid hefo f'annwylyd a'i deulu.Mi gyrhaeddom ni tua 6 nos Iau, a dal y metro i'r apartment. Heblaw am y gwahaniaeth iaith wrth ordro'r ticedi, mi oedd o mor anhygoel o syml teithio o gwmpas Madrid. Yn bleser hefyd. Mi oedd yr apartment yn fach ond yn neis iawn iawn.Balconi a bob dimAr ol setlo mewn, mi athon ni...

Prysurdeb via Wierdo July 8th, 2008 at 08:00

Wel, dyma fi unwaith eto, heb geiniog i'm enw a dim ond gwario i edrych ymlaen ato! Mewn gwirionedd, mae'r diffyg gwaith yn beth da ar y foment, gan fy mod mor an hygoel o brysur!Wythnos yma, dwi'n helpu dad efo'i lechi - ma'r amser o'r flwyddyn wedi cyrraedd ble mae o wedi cael ordor gin CADW a mana filoedd o lechi i'w oilio. Mae oilio llechi yn swydd ddiflas iawn iawn ac yn un o fy nghas bethau. Dwi'n cal coasters, yn eu rwbio mewn carped sydd yn damp efo linseed oil, rwbio'r llechi eto mewn carped sych, sdicio ffelt ar y cefn, rwbio'r ochrau yn y 2 garped a wedyn eu sychu gyda clwt sych. Eto ac eto ac eto.Ond dyna ni, dwi wedi dod adra o dy f'annwylyd am hanner awr wedi saith yn y bore i oilio llechi bore ma er mwyn gallu cael rhyw fath o hwyl bore ma.Wicend ma, ma angen dathlu...

Pet Peeves via Wierdo June 16th, 2008 at 17:33

Ers cyrraedd adra ma'na lot o betha wedi dechrau fy ngwylltio gormod. Digon teg gwylltio ond ddim cweit gymaint ag ydwi. Digon teg trafod y gwylltio hyn â phobl erill ond ddim ei drafod eto ac eto ac eto. Felly dyma eu trafod mewn blog a cheisio cael eu gwared o'm mhen: er fy mwyn i a fy nheulu.BysusMae'n ddiogn o boen i orfod dal bys i bobman bethbynnag ond dwin shwr ei fod yn anoddach yng ngharmel. Does dim bysiau ar ddydd Sul nag ar wyliau'r banc fell dim penwythnosau i ffwrdd heb fod yn barod i gerdded 2 filltir adra. Ond dwi i raddau wedi derbyn hyn, jesd abowt.Ond mae'r ffaith fod fy mysiau i gyd yn mynd drw bob man a nunlla yn fy nghorddi i yn llwyr. Dwin gwybod fod rhaid i'r bysiau fynd drwy'r llefydd yma, fel y mae rhaid yddyn nhw fynd trw Carmel, ond tydwi ddim eisiau bod arnyn...

Ffrainc - Diwrnod 3 - Adar via Wierdo April 3rd, 2008 at 22:52

Heddiw mi aethom ni i warchodfa adar. Sydd yn beth ddigon dewr i mi yn fy marn i gan mai adar yw un o fy ofnau mwyaf. Ond wedi dweud hynny, doeddwn nhw ddim yn hedfan o gwmpas rhyw lawer, heb son am fflapio yn fy nwyneb! Tydio ddim yn ffobia o bellffordd (er ma' f'annwylyd yn ffobia pan ma'n sdyrbio ar fywyd o ddydd i ddydd a dwi'n dueddol o gadw i ffwrdd o adar pan yn bosib); yr unig phobia dwi di gal erioed ydi disgyn am yn ol a dwi wedi concro hwna i raddau helaeth...ish.Eeeeniwe, gwarchodfa adar. Mi sylwais heddiw cyn lleied dwi'n gwybod am adar. Mi oedd pawb arall yn pwyntio adar allan ac yn eu henwi yn syth. A finna yna efo binoculours wedi'w menthyg, ar gora oni'n gallu'w wneud oedd mynd "ylwch, aderyn". Mi welais i lot o adar ond peidiwch a gofyn i mi pa rai oedden nhw! Mi oedd na...

Ffrainc- Diwrnod 1 - Ffawd via Wierdo April 3rd, 2008 at 20:44

Tydwi ddim yn credu mewn ffawd. Tydwi ddim eisiau i fod yn gwbwl onest; ma'r syniad yn fy nychryn i; dwi'n hoffi meddwl mai fi sydd yn dewis fy nyfodol ac nid rhyw gyfarfod yn y goruchaf.Ond ar ól diwrnod fel ddoe mae credu mewn ffawd yn dod yn haws. Mi oedd hi wir yn teimlo fel nad oedden ni yn fod i ddod i Ffrainc, mi oedd na rhyw bwer yn rhywle yn ein herbyn.Mi ath y daith rhwng West Brom yn well na'r disgwl; dim eira na traffic pasg yn arafu'n taith. Mi oedd hynny'n golygu wrth sgwrs ein bod yn eistedd yn Dover am awr a hanner. Pen ol sgwar ta be?!Ar ol awr a hanner mi ddywedodd rhywun fod y llong wedi canslo. Felly mi oedd rhaid darganfod ffordd arall i Ffrainc. Mi oedd Bolougne a Calais wedi cau felly roedd rhaid hwylio i Dinkirk oedd rhyw hanner awr ychwanegol o yrru yn Ffrainc.Mi...

Bywyd via Wierdo March 16th, 2008 at 12:40

Ma'n edrych fel mod i'n catch-up blog eto. Chenj.Ond dion ddim i gyd wedi bod yn feddwi troma. Gaddo.Lle i ddechra? P'thefnos yn ol mi gymerais ran yn y relay-for life i godi arian i Cancer Research UK. Timoedd o rhwng 8 a 15 yn cerdded am 24 awr heb stopio gydag oleia un person o bob tim ar y trac ar un pryd. Mi oedd na 7 ohonom ni gan fod un person yn sal. Gadewch i mi ddeutha chi, dydio ddim mor hawdd a ma'n swnio. Mewn theori dim ond 3-4 awr oedd rhaid i bawb gerdded yr un ond mi oedd hi mor oer a gwyntog mi oedd hi'n well cerdded! Erbyn tua hanner ffordd roedd pawb yn brifo drostynt - pengliniau, pherau, traed. Mi ath y nos ei hun yn ddigon cyflym gan fod pawb yn gwneud awr ar ben eu hunain a'r gweddill yn trio cysgu drwy'r miwsic mawr.Ond oh, roedd hi'n wyntog. Mi roeddwn i'n poeni...

Long Taim No sbici via Wierdo June 18th, 2007 at 19:31

Oni'n cerdded rownd Caernarfon heddiw efo'r gwen fwya ar fy ngwyneb. Mi onin edrych fatha ffwl manic. Duw a ŵr pan oni mor hapus. Diwrnod da yn y gwaith bosib? Wedi blino lot yn rewm posib arall. Mi oni di bod yn edrych ar luniau o fy ffrindiau a fi wedi gwisgo fyny fel condoms a mi ddoth huna a gwen i'ng ngwyneb. Rheswm arall posib yw mod i di cal cynnig mynd i Iwerddon fo genod gwaith. Ma'n od, dwi'n aml yn teimlo fel mod i'n tarfu ar bawb arall gan mod i mond yno am bythefnos a dipyn. Ond eto, un cynnig i fynd i Iwerddon a dwi ar ben y byd. Ydwi angen ffitio i mewn gymint a huna? Gai weld os ai.O helo gyda llaw! Na, dwi heb ddiflannu i berfeddion y byd go iawn am byth, dwi dal yma. Ers y blog dwetha, dwi di: dathlu fy mhenblwydd yn 20 gyda drinc tawel a fy ffrindiau (nathy nw jibio...

Diwrnod 4 - Gwynt a Lluniau via Wierdo April 3rd, 2007 at 10:49

Mi oedd hi wedi bod mor braf ddoe, mi oedden ni wedi bwriadu mynd i lan y môr heddiw. Mi gychwynnom ni o’r tŷ am tua 9 a mi oedd hi’n eitha’ braf ond oer iawn; lot o wynt. Ond ffwrdd a ni i Le Touqet bethbynnag. Wedi’r cyfan, dim ond 9 o’r gloch oedd hi, mi oedd hi siwr o gnesu cyn amser cinio. Mi gyrhaeddom ni ac mi oedd hi dal yn oer. Ddigon braf, ond gwyntog ac oer. Tra oedd yr “oedolion” yn chwilio am le gwell i barcio lle nad oedd rhaid talu, mi oedd y “plant”, John a mi yn chwarae pel droed. Fi a Iwan yn erbyn Carys a Gareth (cefnder a cyfneither John) gyda John yn chwarae gôl. Andros o gêm. 10-9 iddyn nhw. Gem agos a shatryring. Nid llun o’r gem ei hun oedd hwn, ond dyna ni. Mae’n rhyfedd peido bod yn un o’r “plant”. Mana 9 ohona ni ar y...

Diwrnod 3 - Mynwentydd via Wierdo April 2nd, 2007 at 10:30

Dim ond un Memorial sydd yn bodoli I’r Royal Air Corps. Yng nghanol y rhyfel byd cynta newidwyd yr enw i Royal air force. Mae’r memorial yn Arras yn un sydd yn anodd iawn i’w ffindio (mi oedd i ni bethbynnag); mi dreuliom ni gryn dipyn o amser yn chwilio amdano! Ond mi oedd werth yr ymdrech. Mi oedden ni’n chwilio amdano gan fod un o ffrindiau nain a taid John wedi gofyn iddyn nhw chwilio am berthynnas iddyn nhw (dwin meddwl mai brawd tad un ohonyn nhw). Mi oedd y person yma wedi marw ar y diwrnod y newidiodd eu teitl. Felly, er ei fod wedi treulio ei hol amser yn gwasanaethu i’r royal air corps, mae o wedi ei restru o dan y royal air force. Llun o’r memorial yn Arras Ma’ teulu John wastad yn mynd o amgylch sawl mynwent, ac yn poeni fod hynny’n ddiflas i mi. Beth...

Diwrnod 6 - Hanner awr wedi 9 via Wierdo April 5th, 2007 at 11:48

Ma’ hi’n hanner awr wedi naw y bora wedyn (a dwi’n meddwl pa ddyddiad nai roi ar hwn? Ydwi’n rhoi hwn ar y wê fel petawn i’n blogio ddoe fel arfer, ta ydwi’n cal 2 flog heddiw? Cewn weld.) a dwi’n falch. Oni’n dechra ama nad oedd y bore byth am gyrraedd yn iawn. Dwi’n effro ers tua hanner awr wedi pump. Mi geisiais i droi a throsi fy ffordd i gysgu tan tua hawdi chwech neu 7 cyn rhoi gif-yp. Mi dreulish i hanner awr go dda yn trio setio chwaraewr mini-disg John i fyny yn y tywyllwch. Wedyn gorwedd ar fy nghefn yn gwrando ar Stereophonics yn methu troi rhag tisian ac yn methu anadlu dan annwyd. Not a happy bunny. Fel oeddwn i’n disgyn i gysgu, mi redodd batri’r chwareuwr allan a bipian yn uchel yn fy nghlust a fy neffro. Disgynnais i gysgu am rhyw hanner awr cyn codi...

Diwrnod 5 - Pysgod via Wierdo April 4th, 2007 at 10:57

Pan yn cynllunio beth oedden ni am wneud bob dydd tra yn Ffrainc, mi oedd marchnadoedd yn helpu. Pryd a lle oedden nhw, dyna lle oedden ni am fod hefyd. Dyna pam ddewision ni fynd i Boulogne heddiw; y farchnad. Doedd o ddim cystal ag oeddwn i’n disgwyl. Er ei fod yn un ddigon mawr; mwy na’r rhai dwi wedi bod iddyn nhw yn ôl adra bethbynnag, doedd na ddim digon i mi ei weld yno. Dim ond lot o fwyd a diod oedd yna. llysiau, caws, llysiau, cig, caws, cig. Lot o hwyl bethbynnag. Ma’na un yn y dref lle ma’r ty fory, dwi’n obeithiol fydd hwnnw’n well! Mi brynodd John flodau i mi. 10 o rosod. Nausicaa wedyn. Wel, dyma i chi brofiad wnes i fwynhau lot fawr iawn. Mi oedd yr aquarium wedi’w gynllunio yn dda iawn; lot o sections gwahanol a lot o atmosffer. Goleadau a synnau...

Diwrnod 7 - Disgyn i’r Haul via Wierdo April 6th, 2007 at 11:52

Ein diwrnod llawn ola yn Ffrainc. Beth i’w wneud? Mi oedd hi’n anhygoel o braf ond mi oedd angen pacio cyn y nos felly doedd dim amser gwneud dim rhu anhygoel. Y penderfynniad terfynnol oedd i fynd nôl i Montreuil am chydig. Mi oedd hi mor braf mi dreulion ni gryn dipyn o amser tu allan y citadel yno yn chwarae. Pel droed a Badminton. John a Gareth yn chwarae badminton. Yn wych wrth sgwrs. Mi esi a John am dro trwy walia’r dref ac allan ochr arall a dechrau cerdded o gwmpas chydig. Mi oedd y syniad o antur wedi fy nhroi yn blentyn unwaith eto. Mi redais i, mi ddisgynnais i, mi griais i. Megis plentyn bach. Dwi heb ddisgyn ers blynyddoedd, ond dwi’n siwr fod henaint (ha!) yn golygu ei fod yn brifo lot fawr iawn mwy. Ma’ Saflon hefyd yn beth cas iawn. Pam, o pam fod...

Adra via Wierdo April 10th, 2007 at 11:59

A dyma fi. Dwi’n eistedd o flaen y teledu gyda gweddillion wy pasg wrth f’ochr. Dwi wedi dal fyny gyda’ng nghwsg i rhyw raddau a ma’n neis bod adra. Nain John efo chydig o’r siocled oedd i deithio yn eu car nhw. Welodd neb erioed gymaint o siocled a gwin yn cael ei sgwashio i mewn i gar. Mi oedd y car yn llawn ar y ffordd i Ffrainc, heb yr holl anrhegion. Ar y ffordd nol, mi oedd gennym ni yr un faint o petha gyda Siocled, gwin ac anrhegion (i ni’n hunain ac eraill) yn ychwanegol. Mi aethom ni i weld ffactori siocled fach ar y ffordd i Boulogne i ddal y gwch adra. Mi oedd yn fach, ond drud. Bag o siocled yn 9€! Mi brynish i far o siocled arferol a bar o siocled tywyll i mi a’n nheulu rannu (yn ara deg, mi dalish i 7€ amdanyn nhw). Wedyn i E. Leclerc;...

Trenflogio - trip o’r alban via Wierdo February 16th, 2007 at 11:17

Dwi wedi cael penwythnos anhygoel.Anghygoel o ddrud yn un peth. Yn cynnwys ticedi tren, hostel am 3 noson a ticed i gig nos sadwrn, mae'r penwythnos yma wedi costio £170 i mi. Ond, y ffordd dwi'n ei weld o, doedd gin i ddim pres bethbynnag, felly pa wahaniaeth ma gwario mwy yn mynd i'w wneud?!Mae'n bosib mai meddwl fel hyn sydd wedi achosi i mi fod yn y sefyllfa yma yn y lle cynta.Ond mae'r penwythnos yma wedi bod yn anhygoel ym mhob ffordd arall hefyd, dwi'n credu allai wastraffu dipyn go lew o'r dwyawr sgin i ar ól ar y tren i Birmingham yn sgwennu amdano!O'r eiliad gerddish i allan o'r sdeshon yng nghaeredin mi oni mewn cariad. Nid efo'r boi deiniadol iawn oedd digwydd bod yn cerdded heibio ond gyda'r dref. Mi oeddwn i'n caru pa mor hen oedd y dre a'i adeiladau, caru'r elltydd a'r...

Trenflogio - trip i’r Alban via Wierdo February 13th, 2007 at 19:26

Ma hi'n ugain munud i unarddeg; sydd ddim yn beth rhu dda ar y foment.Yn gynta, ma'n golygu fod gin i awr a hanner arall ar y fflipin tren ma. Dwi ddim yn meddwl y fysa fo mor ddrwg petai pob un ohona ni yn eistedd gyda'n gilydd ond mana ddau yn eistedd ym mlaen y tren a dau arall yn y cefn. Pob un ohonom ni ar wahan. Er fod y tri arall wedi bwcio'r ticedi gyda'i gilydd, chawso nw ddim moi rhoi mewn seti cyfagos. Gwirion. Felly, dyma fi yn eistedd ar ben fy hun. Dwin eistedd yn ymul merch sydd efo'r teulu o'm mlaen i. Ma hin ferch ddigon dymunol ond does dim llawer o sgwrs wedi bod wedi'r "helo" ac ati gwreiddiol. Dwi di cysgu am awr o'r daith 7 awr a mi ath y 3 cynta yn reit sydun. Ond erbyn rwan, dwi di diflasu'n llwyr.Yr ail reswm ma 10:40 mor ddrwg (er, main 10:50 wan!) ydi ei bod...