Welsh Blogs.com


Trenflogio via Wierdo February 16th, 2008 at 14:35

Yn aml iawn pan dwi ar drenau (neu amryw o sefyllfaoedd cyhoeddys eraill) dwi'n creu rhyw fath o fyd ffantasi i fi fy hun.Mae'r byd yma bron union yr un peth bob tro.Mae'n dechrau gyda bachgen. Mae'n rhaid iddo fo fod yn fy ngwynebu neu dio'm yn gweithio. Ma'n llygid ni'n cwrdd am hanner eiliad a dyna fi off yn syth i fyd ffantasi ffilmiau. Dau berson ar dren yn cwrdd ac yn disgyn mewn cariad. Fflyrtio, penegliniau'n taro, llygaid yn cwrdd.A mi wn yn iawn fod gin i gariad a mod i ar y ffordd i'w weld o felly mae disgyn mewn cariad ar y ffordd yno yn anghyfleus iawn ond does gan fy ffantasi ddim byd i'w wneud efo bod yn hapus efo John neu beidio. Y rheswm dwi'n cal y ffantasis hyn ydi achos mod i'n darllen gormod ac yn gwylio gormod o deledu. A dwi'n methu dechra perthynas. maethu'r dod i...

Trenflogio - trip o’r alban via Wierdo February 16th, 2007 at 11:17

Dwi wedi cael penwythnos anhygoel.Anghygoel o ddrud yn un peth. Yn cynnwys ticedi tren, hostel am 3 noson a ticed i gig nos sadwrn, mae'r penwythnos yma wedi costio £170 i mi. Ond, y ffordd dwi'n ei weld o, doedd gin i ddim pres bethbynnag, felly pa wahaniaeth ma gwario mwy yn mynd i'w wneud?!Mae'n bosib mai meddwl fel hyn sydd wedi achosi i mi fod yn y sefyllfa yma yn y lle cynta.Ond mae'r penwythnos yma wedi bod yn anhygoel ym mhob ffordd arall hefyd, dwi'n credu allai wastraffu dipyn go lew o'r dwyawr sgin i ar ól ar y tren i Birmingham yn sgwennu amdano!O'r eiliad gerddish i allan o'r sdeshon yng nghaeredin mi oni mewn cariad. Nid efo'r boi deiniadol iawn oedd digwydd bod yn cerdded heibio ond gyda'r dref. Mi oeddwn i'n caru pa mor hen oedd y dre a'i adeiladau, caru'r elltydd a'r...

Trenflogio - trip i’r Alban via Wierdo February 13th, 2007 at 19:26

Ma hi'n ugain munud i unarddeg; sydd ddim yn beth rhu dda ar y foment.Yn gynta, ma'n golygu fod gin i awr a hanner arall ar y fflipin tren ma. Dwi ddim yn meddwl y fysa fo mor ddrwg petai pob un ohona ni yn eistedd gyda'n gilydd ond mana ddau yn eistedd ym mlaen y tren a dau arall yn y cefn. Pob un ohonom ni ar wahan. Er fod y tri arall wedi bwcio'r ticedi gyda'i gilydd, chawso nw ddim moi rhoi mewn seti cyfagos. Gwirion. Felly, dyma fi yn eistedd ar ben fy hun. Dwin eistedd yn ymul merch sydd efo'r teulu o'm mlaen i. Ma hin ferch ddigon dymunol ond does dim llawer o sgwrs wedi bod wedi'r "helo" ac ati gwreiddiol. Dwi di cysgu am awr o'r daith 7 awr a mi ath y 3 cynta yn reit sydun. Ond erbyn rwan, dwi di diflasu'n llwyr.Yr ail reswm ma 10:40 mor ddrwg (er, main 10:50 wan!) ydi ei bod...