Welsh Blogs.com


Penwythnos osym via Wierdo June 23rd, 2008 at 18:19

Wel, nachi'r haf wedi dechra go iawn. Mi gyrhaeddish i adra ddoe wedi blino'n lan ac yn drewi dipyn go lew. Gwychder yr haf wedi cychwyn o'r diwedd.Dydd gwenerCael lifft lawr i Aberystwyth a wedyn parti pwnsh yn nhy newydd fy mrawd yno. Ma pynsh yn lethal. A minna yn downio gymaint a phosib gan modi'n trio arbed arian a doedd y pynsh ddim yn fy meddwi bethbynnag. Hynny yw tan i mi adael y ty i fynd i gig texas radio band yn yr Angel. Dau beint o siedr yn fana ac wedyn dwi jesd abowt yn cofio mod i wedi mynd adra i'ng ngwely ar ol gwario dim ond £10 (£5 o hwnw ar fynd i mewn i'r gig!).Dydd SadwrnBrecwast yn varsity er mwyn trio sobri ein designated driver. Yno trafod y planiau. Y plan gwreiddiol oedd cael tacsi i Llanrwst ac aros yn ty rhywun yn fana. Ond doedden ni methu cael tacsi....

Y Tywydd (nas bwriadwyd) via Blog yr Hogyn o Rachub February 19th, 2008 at 13:02

Twyllodrus ydyw’r heulwen. Mi ddaw honno i ddywedyd helo yn llawn addo cynhesrwydd ac mai dal yn ffwcin oer. Serch hyn, dw i ddim am drafod y tywydd efo chi. Petawn gyda chi’n bersonol, mae cyfle sylweddol y byddwn yn gwneud hyn, oherwydd ar lafar mi fyddaf yn trafod y tywydd, gan hoffi dywedyd pethau megis:“’Rargian mai’n oer”“Mae’r cythraul gwynt ma’n chwthu, ‘chan”“Uw, mi o’n glos echoddoe, ‘ndoedd?”ond, fel y gwelwch, yn ysgrifenedig felly nid yw’r tywydd yr un mor ddiddorol ag ydyw yn y byd go iawn. Ond pa drafodaeth bynnag ynghylch y tywydd sydd, mae’r geiriau “chwythu”, “gafael” a “braf” yn anochel am lithro i mewn i’r sgwrs.Hynny ydi, mae “chwythu” nid yn cyfeirio at y gwynt ond “Gwynt Mawr”, fel petai. Dyma dywydd dal dy...

Ma hi’n bwrw yn y gegin via Wierdo August 1st, 2007 at 11:45

Pam o pam nad oes gin i ddim byd waterproof? Doedd gin i ddim côt felly mi fenthycais un tad f'annwylyd. Dydio ddim yn waterproof. Doeddwn i ddim yn disgwyl i convases fod yn waterproof a gwir i'r disgwyl, dydyn nhw ddim. Dyw hyd yn oed fy mhabell ddim yn waterproof!! (tydio ddim mor ddrwg a huna; ambell drip yn y rhan ganol) A dyma fi. Yn flin efo'r haul am fy neffro i mor gynnar ac yn flin efo'm mladder am wneud i mi godi. Dyma fi. Yn flin efo'r cyfuniad o fflip fflops a mwd - ddim oherwydd fod fy nhraed yn baeddu ond yn hytrach achos fod y fflip fflops yn fflipio ac yn fflopio mwd i fyny fy nillad glan. Dyma fi. Yn sogi ac yn fwdlud mewn pabell yn nolgellau am 10 o'r gloch y bore. Dyma fi. Wrth fy fflipin modd!!~~~xXx~~~Mi sgwennais i'r uchod bore sadwrn seshwn fawr ond dim ond wan...

Dim glaw yn Aberystwyth via Blog Dogfael July 29th, 2007 at 23:03

Roedd heddiw’n ddiwrnod braf yn Aberystwyth a dim sôn am law. Felly wedi cinio a gwasanaeth yr hwyr fe fues i allan am dro ar y prom yn tynnu lluniau a gwneud fideos. Roedd yr Hen Goleg yn edrych yn arbennig o ogoneddus yn yr haul ac roedd y goleuni yn gwneud i garreg yr adeilad befrio. Roedd pobol yn cerdded ar y prom yn hamddenol ac yn mwynhau’r diwrnod braf. Dwi’n gobeithio y bydd hi’n para’n sych o leiaf dros gyfnod yr eisteddfod a’m harhosiad yn yr Wyddgrug. Rhagor o luniau o Aberystwyth yn yr haul. Note: You can rate this post by visiting the site. Rhanna hwn...

Glaw cadw draw via Blog Rhys Llwyd July 13th, 2007 at 03:16

image Dydy e ddim yn ffasiynol i sôn am y tywydd. Ond maen annodd peidio yr haf yma. Dwi'n synnu mod i hyd yn oed wedi galw'r cyfnod yma o'r flwyddyn yn haf. Roeddwn ni'n disgwyl ymlaen i gael mwynhau gwneud fy ngwaith ymchwil a darllen allan yn yr ardd - heb ddim byd arall yn mynd am sylw - jest fi a'r llyfr yn mwynhau yn yr haul. Breuddwyd gwrach oedd gobeithio gael Mehefin a Gorffennaf tebyg. A beth am weddill yr haf? Wel dydy penwythnos yma yn gwella dim. Glaw fory, cymylau dydd Sadwrn a mwy o law dydd Sul a dydd Llun (gweler y mapiau).Mae rhai wedi sôn fod yna 'heat wave' ar y ffordd erbyn dechrau Awst, wythnos yr Eisteddfod. Ddim yn ôl y dyn tywydd yn anffodus. Dyma'r mae'r BBC yn ei ddweud am ddiwedd Gorffennaf dechrau Awst:Some sunshine in the south: The Azores High may at last begin...

Spoted: Awyr Las via Blog Rhys Llwyd June 30th, 2007 at 02:42

image Newyddion da i ninau'r dewr sy'n mynd i wersylla ym Mhontrhydfendigaid...

Dilyn y glaw via Blog Dogfael June 16th, 2007 at 14:14

image Fe ddes i adref yn ddiogel o Swydd Efrog neithiwr, ond yn ôl a ddeallaf i roeddwn i wedi bod yno ar adeg un o’r stormydd glaw gwaethaf mae’r ardal honno wedi’i gweld ers blynyddoedd. Galla i gredu hynny’n ddigon hawdd. Yn ogystal â glaw roedd ‘na niwl hefyd. Ar y cyfan mae’n ymddangos ein bod ni wedi llwyddo i osgoi’r gwaethaf – roedd hwnnw un ai’n mynd o’n blaenau neu’r dilyn o’n holau. Dim ond mewn un man y gwnaeth y glaw, neu ei ganlyniadau, ein hatal a hynny’n weddol agos i adref yn y Borth. Roedd un o’r cwmni yn byw yno ac roedden ni’n mynd i fynd â hi adref. Dyma droi am y Borth yn Tre’r-ddôl ac wrth inni ddod yn agos at y cwrs golff yn y Borth sylwon ni ar arwydd bach di-nod yn dweud fod...

Glaw yn Lloegr via Blog Dogfael June 15th, 2007 at 14:24

Dwi’n ysgrifennu’r blog heddiw o ystafell ddarllen y Llyfrgell Brydeinig yn Boston Spa, gogledd Lloegr. Y gwaith sydd wedi dod â fi yma, ond dwi’n rhydd am awr tra bod y sawl sy’n rhoi lifft ‘nôl i mi i Aberystwyth yn cael cyfarfod arall. Mae’r lle hwn yn rhyfeddol. Ar ganol ystad ddiwydiannol ar gyrion pentref yng nghefn gwlad Lloegr ceir un o lyfrgelloedd mwya’r wlad. O ran nifer defnyddwyr, heddiw mae’n gwneud i lyfrgell gyhoeddus fechan mewn pentref glan môr yng Ngheredigion ymddangos yn brysur. Ond efallai taw’r rheswm dros hynny yw ei bod hi wedi bwrw glaw yn ddi-baid ers imi gyrraedd yma neithiwr. Bore ‘ma wrth deithio o’r gwesty i’r llyfrgell roedd yn rhaid mynd trwy dau lif dŵr eithaf dwfn. Roedd y bysus...

Jamborii! via Wierdo April 29th, 2007 at 21:20

Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd jambori, ond mi oedd yn ennyn rhyw fath o deimlad od o waelod fy mol, teimlad o aros ac o blentyndod a fu. Mi oedd y jambori yn cael ei gynnal fel rhan o wythnos UMCA i gasglu arian at elusenau. Mi oni wedi clywed si pan yn feddw yn ystod yr wythnos fod na gastell neidio am fod yno, ond falla mai breuddwyd meddw oedd hwnnw wedi bod!Brthbynnag, dyma ddoe yn cyrraedd yn blyri ac yn hyngofyr fel arfer ar ol y gig Cowbois noson gynt. A dyma ni off i'r cae uwchben Pantycelyn. Wir yr, hwn di un or diwrnoda gora i mi gael ers dipyn! Mi oedd na gastell neidio, mi oedd hin braf, mi oedd na farbeciw, mi oedd na gemau o rownderi a pel droed a mi oedd na ffrindiau. Mi neshi fwynhau fy hun lot. Wedyn rth sgwrs mi oedd rhaid mynd allan.Dyma y peth gorau i mi erioed...

Bored, Blinedig a Brysur! via Wierdo May 4th, 2007 at 12:58

Fel ddywedodd nain ffrind i mi; ma bobl ifanc dyddia yma bob amser yn un o dri "B" - Bored, blinedig neu brysur! Mi bwyntiodd fy ffrind allan gyda llaw mai gyda "p" mae prysur yn cychwyn, ond dim ots, mae'n wir. Dwi wedi bod trwy pob un o'r rhain yn y 24 awr dwetha.Mi oedd ddoe yn ddiwrnod prysur....i fod bethbynnag. Mi oedd rhaid i mi wneud gwaith yn y bore. Ni lwyddish i hyn. Wedyn mi oedd gin i ddarlith. Ni lwyddish i fynd i'r ddarlith oherwydd fy mod yn ddiog. Ond achos fod gin i dros awr i dreulio wedyn yn gwneud dim, mi oeddwn wedi diflasu. Ond gwell hynny na darlith unrhyw ddydd. Wedyn i fyny i gyfarfod a fy ngrwp (sydd rwan yn ddwy ohonam ni gan fod un wedi diflannu a'r llall wedi bygro i ffwrdd i ffrainc) i wneud ychydig or gwaith. Lawr i'r dre am mbach o siopa, rygbi, a wedyn...

Wel wir! via Wierdo February 8th, 2007 at 20:05

Nachi ddwrnod prysur. Dwi'n ddigon bodlon i'r eira doddi rwan, dwi wedi ei fwynhau i'r eithaf.Dwi wedi cal ambell i snowball fight. Dwi'n ofnadwy yn lluchio petha. Sgin i ddim nerth nag aim. Mi geshi hefyd belen eira yn fy llygad. Nath frifo. Ond mi geshi dal lot o hwyl!Wedyn i gae Pantycelyn i adeiladu dyn eira. Mi ydoedd anhygoel. Mi oeddo'n 9 troedfedd (7 heb ei het) , efo barf a mwstash a phopeth. Dewin eira ydoedd. Mi gafo ni rwyn oedd yn tynnu llunia i'r brifysgol yn tynnu ein llun ar ol ein gweld ni drw'r ffenestr.Wedyn i slejo. Mi ddarganfyddom ni (wedi poeni chydig nad oedd na gaeau ar allt yn Aber) gae gwych efo lot o gyd-sledwyr yna yn barod. A ffwrdd a ni ar ein 2 sled newydd. Mi oedd hin drafferth cerdded nol fyny allai ddeud.Felly, dwi wedi defnyddio'r eira i'r llawn a rwan...

Eira eira eira!!! via Wierdo February 8th, 2007 at 08:32

Eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira eira...

Mae’n bwrw eira via Blog Dogfael February 8th, 2007 at 07:44

Wrth imi agor drws Plas yn Dogfael i fynd i’r gwaith roedd popeth wedi newid, fel y dywedais. Mae wedi dechrau bwrw eira ac mae’r gwynt yn chwythu. Bant â fi i weld beth a ddigwydd....

Dim eira hyd yn hyn via Blog Dogfael February 8th, 2007 at 07:25

Ar ôl holl addewidion y rhai sy’n darogan y tywydd am eira heddiw mae’n rhaid imi gyfaddef taw’r peth cyntaf wnes wedi dihuno am 5.45am oedd ‘neidio’ mas o’r gwely (neu’r dynwarediad gorau y gallaf i ei wneud o ‘neidio’) er mwyn edrych i weld faint o drwch o eira oedd ar lawr. O fy siom! Dim eira o gwbwl. Dwi’n dal i edrych drwy’r ffenest wrth imi ysgrifennu hyn o flog, a dwi’n dal i ddisgwyl i weld un plufyn. Ond dwi’n byw mewn gobaith, oherwydd pan ddaw eira fe ddaw yn sydyn ac o fewn llai nag awr fel all y lle fod yn wyn. Er taw dim ond drwg yw eira mewn gwirionedd o ran diogelwch a anhwylustod, eto mae ei allu i barluso gwlad gyfan dros nos yn ein hatgoffa ni nad ydyn ni’n rheoli popeth eto. Mae angen...

Mae’n bwrw eira via Blog Dogfael February 8th, 2007 at 07:44

Wrth imi agor drws Plas yn Dogfael i fynd i’r gwaith roedd popeth wedi newid, fel y dywedais. Mae wedi dechrau bwrw eira ac mae’r gwynt yn chwythu. Bant â fi i weld beth a ddigwydd....

Eira via Wierdo February 7th, 2007 at 16:24

Tydwi ddim yn meddwl fod neb yn gallu dallt faint yn union dwi'n caru eira. Fy hoff dywydd, fy hoff swn, fy hoff. Dwi'n caru swn eira o dan draed. Dwi'n cofio sefyll ar eira cynta'r flwyddyn chydig o flynyddoedd yn ol a theimlo fy nghalon yn toddi. Mae wirioneddol yn fy ngwneud i'n hapus.Ma Aber yn lot rhu agos at y mor i gal eira fel arfer. Sydd yn sioc i'r sustem i rwyn sydd yn byw ar ochr mynydd yn Nyffryn nantlle. Dwi di arfer cal oleia dipyn bach o eira bob blwyddyn!Ond mana sî ar led fod na eira ar y ffordd.Mana ddipyn go lew yn cael ei ddisgwyl ym mhobman, sydd yn awgrymu fod na ddipyn, os nad mwy yn dod i Aber. Deni hydnoed di cal ebost gin y brifysgol yn ein rhybuddio i fod yn ofalus os oes na eira, ac i edrych ar y wefan bora fory i weld os oes darlithoedd.Och, dwin gwybod na...

Gwres Tŷ via Wierdo January 18th, 2007 at 14:23

Ma Huw yn chwarae gem ar y playstation lawr stair a sgin i ddim diddordeb yn ei wylio yn saethu bobl a marw. Eto. Felly dwi di dod i llofft. Dwi hefyd chydig bach yn flin fo pawb. Ma gwres y ty wedi bod ymlaen ers bnawn ddoe. Ma gwres fy ystafell i i ffwrdd a dwi wirioneddol yn ystyried agor y ffenesd am chydig i coolio'r lle i lawr. Dwi mond yn gwisgo top fo llewis tri chwarter (ddim siwmper) a ma pawb arall mewn siwmperi a phopeth. Felly pam mod i yn teimlo mor boeth ym mhobman? Dwi'n poeni am bres hefyd, sydd ddim yn helpu mwn, ond dwi wirioneddol yn boeth heddiw, ac allaim dallt sut di neb arall ddim yn teimlo run peth. Ydi hyn yn brawf o sut ma gwres canolog yn sbwylio'r corff?Nacydi siwr. Theori fach naiif gin fi di hwnnw. Mater o arfer ydio 'na'r cwbwl. Dwi'n byw mewn hen dy sydd...

Taith i Glasgow 2006-07-15 (1) via Blog Dogfael July 22nd, 2006 at 21:00

image Dwi wedi bod ‘nôl yn Aberystwyth ers dydd Mercher, ond dwi’n ofni nad ydw wedi bod â’r amser na’r egni i ddechrau adrodd hanes fy nhaith i Glasgow. Ond o’r diwedd dwi wedi cael rhyw awr neu ddwy yn rhydd ac wedi’u gosod o’r neilltu ar gyfer y gwaith. Roedd DJP wedi awgrymu y dylen i adael Aberystwyth yn gynnar fore Sadwrn er mwyn cael cymaint o amser â phosib yn Glasgow. Byddai hynny’n golygu gadael am 5.16am a chyrraedd Glasgow erbyn 1.10pm, sef taith o agos i wyth awr. Er hyfryted nifer o atyniadau’r ddinas, doeddwn i ddim yn meddwl ei bod hi’n werth yr aberth o godi mor gynnar fore Sadwrn. Yn ogystal bu’r diwrnod cynt yn un trwm iawn yn emosiynol, ac mae’n rhaid imi gyfaddef taw aros yn y gwely oedd y demtasiwn...

Poethdon via Blog Dogfael July 5th, 2006 at 12:45

image Dwi’n ofni taw’r gwres mawr yw fy esgus i am esgeuluso’r blog dros y dyddiau diwethaf. Roedd hi, ac mae’n dal i fod yn boethdon swyddogol mewn rhai ardaloedd, ond dwi ddim yn credu fod hynny’n wir am Aberystwyth. Dwi ddim yn gwybod a oedd hi’n ‘boethdon’ swyddogol yn Aberystwythroedd hi’n rhy dwym i fi feddwl, ac heb feddwl does dim blogio’n bosib. I rai bydd hynny’n swnio’n anghredadwy gan nad oes ôl llawer o feddwl o gwbwl ar y baldorddi hyn, ond galla’ i addo buasai pethau’n dipyn yn waeth heb feddwl. Y rheswm ‘mod i’n ffaelu meddwl oedd bod hi’n rhy dwym i gysgu, a heb gwsg dechau does dim gobaith cael y meddwl i weithio’n iawn. A oes ‘na gyfrinach ar gyfer cysgu mewn...