
Dwi’n ofni i ddweud fod dydd Mawrth wedi hala cymaint o ofn arna i fel fy mod wedi credu’r BBC pan ddywedon nhw fod mwy o law i ddod dydd Mercher ac heb fynd i faes yr eisteddfod. Nawr mae’r bobol sy’n fy adnabod i yn gwybod nad oes angen rhyw lawer i wneud imi gadw’n glir o’r maes, ond roedd y cof am y gwynt ar glaw yng Nghaerffili ddoe yn drech na mi ac felly fe fues i’n crwydro o gwmpas ardal Neuadd Buddug a bues i mewn yng nghanol y ddinas unwaith eto ar fws rhif 27.
Mae Neuadd Buddug (Victoria Hall) yn llety i fyfyrwyr a ddarperir gan gwmni preifat ond mae bron รข bod yn rhan o ddarpariaeth swyddogol y brifysgol. Mae’r cwmni yn darparu llety i fyfyrwyr mewn rhyw ddwsin o drefi a dinasoedd prifysgol ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol....