Damia via Wierdo October 28th, 2008 at 09:39
Mi oedd gin i flog ar y gweill. Mi oedd o'n mynd i fod yn gall, yn eglur, ychydig yn ddoniol (heb fod yn ormodol), ac yn gyffredinol wych.Ond, wele:http://www.isketch.net/Damia.Hwyl a...
Oni'n cerdded rownd Caernarfon heddiw efo'r gwen fwya ar fy ngwyneb. Mi onin edrych fatha ffwl manic. Duw a ŵr pan oni mor hapus. Diwrnod da yn y gwaith bosib? Wedi blino lot yn rewm posib arall. Mi oni di bod yn edrych ar luniau o fy ffrindiau a fi wedi gwisgo fyny fel condoms a mi ddoth huna a gwen i'ng ngwyneb. Rheswm arall posib yw mod i di cal cynnig mynd i Iwerddon fo genod gwaith. Ma'n od, dwi'n aml yn teimlo fel mod i'n tarfu ar bawb arall gan mod i mond yno am bythefnos a dipyn. Ond eto, un cynnig i fynd i Iwerddon a dwi ar ben y byd. Ydwi angen ffitio i mewn gymint a huna? Gai weld os ai.O helo gyda llaw! Na, dwi heb ddiflannu i berfeddion y byd go iawn am byth, dwi dal yma. Ers y blog dwetha, dwi di: dathlu fy mhenblwydd yn 20 gyda drinc tawel a fy ffrindiau (nathy nw jibio...
Diflasu via Wierdo May 9th, 2007 at 21:56
Pan oeddwn wrthi'n clirio fy llofft heddiw am y tro cynta ers tua dau fis, mi ddargynfyddish i ambell boster dr who oni wedi cal dros y pasg mewn papur newydd neu gan deulu f'annwylyd. Mi rois y posteri ar y wal ac wrth edrych o amgylch f'ystafell glan nawr, dwi'n dechra ama mod i'n mwy na licio doctor who. O be allaf i weld rwan, ma gin i 19 eitem dr who o amgylch yr ystafell. 10 poster neu lun, cerdyn post, plat dr who, tin dalek, remote control dalek, model David Tennant, infatable dalek (bach), dvd (cyfres 2), tegannau play mobil sydd fod yn doctor who (anrheg nadolig) a modelau bach sydd yn rhan o gem "warhammer-esque". Dydi hyn ddim yn cyfri'r poster dr who sydd lawr stair, y dvds o'r gyfres gynta sydd wedi'w menthyg na'r myg sydd gin i. Ma gin i hefyd ambell i fagazin. Newydd gofio...
Dyna faint gymerodd i fi a Richard olchi pob eitem o lestri oedd yn fudur heddiw. Richard yn golchi a minna'n sychu. Ma huna yn lot fawr iawn o lestri. Allai ddim teimlo'n hapus gan mod i'n gwybod y bydd rhaid gwneud yr un peth eto ymhen chydig ddyddiau. Ma llnau yn boen.Newyddion da o lawenydd mawr! Dwi wedi pasio un o'r arholiada onin meddwl oni di methu! Dwi mor hapus! By the skin of my teeth mind, ond ma pass yn ddigon da i mi heddiw. Gradd, shmadd.Dwi di ychwanegu lincs i'r comics dwi'n ei ddarllen ar yr ochr>>>>. Ma "Questionable Content" yn dda, braidd yn...emo falla? Dwnim, mana plot iddo fo felly mae o lot gwell os chi'n treulio oriau yn ei ddarllen o'r cychwyn mashwr. Mna ambell i un allwch chi werthfawrogi ar ben ei hun mashwr. "XKCD" yw'r gorau mashwr. Dyna lle odd y post...
Dwin meddwl mod i wedi cyrraedd fy llawn botensial. Ddim yn y petha' da dalltwch, ond waeth i mi farw ddim.Reit, dyna fi wedi dechra'r blog mewn ffordd neis a phositif, gai gario mlaen.Dwi wedi bodyn fwy "crazy" yn ddiweddar. Dwi'n reit fodlon cyfaddef mod i'n ditzy ac yn rhyfedd weithiau. Dwi'n siarad gyda fy hun yn aml, ac yn amlach fyth gyda "innanimate objects", dwi'n obsesive cumpulsive am rai pethau (ffyrc, cwpannau, switchis golau....) ond dydwi ddim yn cael fy adnabod fel person "crazy" (wel, ddim gen bawb ;) ) Ond y dyddia dwetha ma, dwi wedi bod mewn mwd gwirion iawn. Mae fel petai fod fy holl agweddau gwirion wedi gwaethygu. Dwi wedi bod yn siarad gyda fy hun ar bob cyfle bosib, wedi bod yn siarad a phopeth bosib. Enghraifft yw pan eshi neud brechdan menyn i'n hun dros y...