Welsh Blogs.com


Deano… via Clecs Cilgwri October 4th, 2008 at 09:59

Ces i syndod i glywed y newyddion bod Dean Saunders wedi derbyn yr her o ddod â Wrecsam yn ôl o'r sefyllfa amharchus o chwarae o flaen 800 o bobl mewn llefydd anhysbys megus 'Forest Green'(mae'n ddrwg gen i Forest Green ond lle?). Dim llai na sarhad ydy hi i glwb o statws Wrecsam, Clwb gyda hanes cyfoethog o guro timau mawr yng nghwpan yr FA, a chystadlu yn yr hen ail cyngor (Y 'championship erbyn heddiw) o flaen 15,000 mil o fobl yn rheolaidd, ... o'r gorau, dwi'n mynd pell yn ôl rwan.Ta waeth, mae'n ymddangos bod cyraeddiad 'Deano' wedi gweithredu fel ysbrydoliaeth go effeithiol i'r chwaraewyr druan, wrth i Wrecsam dod yn ôl nid unwaith ond dwywaith oddi cartef yn erbyn 'Green Forest' cyn gipio gôl yn y munud olaf i ennill 3-2. Mae Sanders wedi gorchymyn y tîm i sesiwn hyfforddi...

Wrecsam v ‘Rushden a’r Diamwntiaid’ via Clecs Cilgwri August 17th, 2008 at 07:46

Gallai realaeth bywyd yn y 'Sgwâr Glas' dechrau brathu heddiw os nad ydy Wrecsam yn dod adre gyda rhywbeth o 'Irthlingborough' (dyna esboniad syml i enw'r clwb..) sef lleoliad tîm enwog Rushden & Diamonds. Mae'r Diamwntiaid yn hedfan yn uchel wedi dwy buddigoliaeth, felly bydd gan Wrecsam talcen galed i greu canlyniad ym Mharc Nene, ond mae'n rhaid ni fyw mewn gobaith. Wedi colled siomedig i fyny yng Ngaer Efrog nos iau, mae'n rhaid i'r Ddregiau cadw'r momentwm er mwyn denu torf i'r gêm gartref nesa', nos iau yn erbyn Rhydychen. Gyda dwy gêm arall oddi cartref i ddod ym mis Awst, mae'n well iddyn nhw ail-danio'r fflamau yn reit...

y ddreigiau ar dan… via Clecs Cilgwri August 10th, 2008 at 22:36

Mi gafodd Wrecsam y cychwyn gorau i'w tymor cyntaf yn 'Uwchgyngrair y Sgwâr Glas'(neu'r conference) ddoe. Dioddefodd Stevenage cweir go iawn, ond falle yn fwy pendant na'r canlyniad 5-0 roedd y nifer o ffydloniaid wnath troi i fyny, yn agos iawn at bump mil! Mi fydd hyn, yn ogystal a'r sgôr codi ofn ar y timau sy'n ymweled â'r Cau Ras dros y wythnosau i ddod. Mae gen y cochion dwy gêm oddi gartref (yn dechrau nos iau yng Nghaer Efrog) i gadarnhau eu cychwyn disglair cyn croesawi Oxford (tîm dwi'n cofio yn yr hen 'First Division' yn eu dyddiau o dan ddylanwad pres amheus Robert Maxwell) i'r Cae Râs ar Awst 21ain. Erbyn hynny mi fydden ni'n gwybod os canlyniad 'ffrîc' yn unig mi welon ni dydd sadwrn! neu ddechreuad o ymgyrch go...

Eisteddfod 2007-08-09 (5) via Blog Dogfael September 26th, 2007 at 06:43

image Roedd teithio ffiniau siroedd Fflint a Wrecsam yn agoriad llygad oherwydd bod yr ardal mor wledig. O leia dyna’r argraff a gefais i wrth deithio yn ôl i gyfeiriad yr Wyddgrug o Goed-poeth. Wedi troi oddi ar yr A525 a mynd trwy Goed-poeth yr oedd yn rhaid i mi gael mynd trwy Frymbo, man geni’r ffotograffydd Geoff Charles. Pan anwyd Geoff Charles yno ddechrau’r ganrif ddiwethaf roedd y lle yn fwrlwm diwydiannol - ond ar ôl dringo i fyny i’r pentref o’r hyn a welwn i doedd dim ar ôl yno i ddangos hynny bellach. Yr unig gliwiau i’r gorffennol oedd ambell i ystâd ddiwydiannol a thafarn yn dwyn yr enw Miners’ Arms. Wedyn yn hytrach na mynd yn ôl ar y brif ffordd i’r Wyddgrug trwy Gefn-y-bedd a Chaergwrle fe aethom ni ar hyd dyffryn Afon...

Eisteddfod 2007-08-09 (4) via Blog Dogfael September 25th, 2007 at 07:28

image Wedi cael y kiełbasa doedd dim byd yn fy mhoeni mwyach, roeddwn i’n medru ymlacio a mwynhau fy hun. Roeddwn i wedi bod yn poeni ers dechrau’r wythnos na fyddwn yn llwyddo i ddod o hyd i’r kiełbasa oedd ei angen ar gyfer creu’r profiad Pwylaidd awthentig ar gyfer fy nghyd-eisteddfodwyr. Ond roedd hynny y tu ôl imi bellach wrth deithio o Wrecsam i gyfeiriad Rhosllannerchrugog. Roedd RO am weld y Stiwt, neu yn hytrach Plas Mwynwyr Rhos. Theatr a chanolfan gymdeithasol bellach, ond yn wreiddiol roedd yn ganolfan a godwyd gan lowyr yr ardal er mwyn rhoi cartref i’w gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Fe’i hagorwyd yn 1926 ond dros y blynyddoedd dirwyodd y lle wrth i’r diwydiant glo ddirywio ac yn 1977 fe’i caewyd. Deng mlynedd yn...

Eisteddfod 2007-08-09 (3) via Blog Dogfael September 25th, 2007 at 07:21

image Roedd sawl rheswm dros fynd i Wrecsam ddydd Iau, ond efallai’r un oedd yn pwyso fwyaf arna i oedd yr angen i ddod o hyd i selsig kiełbasa ar gyfer y stiw Bigos roeddwn i wedi bod yn ei goginio ers y noson cynt. Nid yw’n bosib gwneud Bigos heb kiełbasa, ond er chwilio a chwilio doeddwn i ddim wedi dod o hyd iddyn nhw. Roedd hynny’n dipyn o syndod gan fod ardal Sir y Fflint a Wrecsam wedi dod yn gartref i filoedd o Brwyliaid yn ôl beth mae pawb yn ei ddweud. Roeddwn i wedi clywed fod ‘na siop Bwylaidd yn Wrecsam ei hun, ond methu dod o hyd iddi wnes i. Bu RO a minnau’n crwydro’r dref am dipyn a galw ym marchnad y cigyddion ac mewn ambell i siop ac yna fe ddaethon ni ar draws marchnad fwyd awyr agored cwbl annodweddiadol o Wrecsam, roedd fel rhyw...

Eisteddfod 2007-08-09 (2) via Blog Dogfael September 19th, 2007 at 21:42

image Ble mae rhywun yn dechrau ar y gwaith o ddisgrifio Eglwys San Silyn, Wrecsam. Mae’r adeilad yn un rhyfeddol o ran maint am eglwys plwyf ac o ran cyfoeth y cynnwys. Ar bob llaw mae rhyw drysor neu fanylyn sy’n taro dyn. Fel mae’n digwydd llosgwyd yr adeilad yn 1463 ac fe ailadeiladwyd yr eglwys yn dilyn hynny. Dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg hefyd ychwanegwyd y tŵr sy’n cael ei ystyried fel un o saith rhyfeddod Cymru. Profodd yr adeilad dipyn o ddiffyg gofal yn yr ail ganrif ar bymtheg ond dyma’r adeg y bu Walter Cardoc yn gurad yn y plwyf ac y defnyddiwyd ei bregethu i argyhoeddi Morgan Llwyd. Daeth Llwyd yn ddiweddarach yn weinidog y plwyf yn agos i ddiwedd cyfnod y weriniaeth, ond bu farw o fewn ychydig amser i’w apwyntio. Dwi’n siŵr...

Eisteddfod 2007-08-07 (6) via Blog Dogfael September 11th, 2007 at 20:18

image Fel mae Lake Wobegone yn cuddio yn y plygiad yn y map gellid dweud fod Erbistog yn cuddio mewn tro yn afon Dyfrdwy. Ond roedd rhywbeth yn denu RO yno ac wrth inni droi oddi ar y ffordd fawr a mynd i lawr ac i lawr i lannau’r afon roedd dyn yn cael y teimlad na fyddai dim i’w weld. Dyna gamgymeriad. Yno ar lan y dŵr roedd tafarn y Boat ac Eglwys S Ilar. Roedd y diwrnod yn un gweddol dwym ac roedd yr afon yn pefrio yn yr haul. Roedd RO am alw heibio i dafarn y Boat, fe ddylen i fod wedi cytuno, ond roeddwn i am droi tuag at yr Wyddgrug er mwyn dechrau coginio swper. Wrth ysgrifennu’r hanesyn hwn dwi’n sylweddoli pa mor benstiff y galla i fod ar brydiau. Ddoe bu cyfaill yn ddigon powld â dweud hynny wrthyf – roeddwn i’n teimlo nad oeddwn yn haeddu’r...

Eisteddfod 2007-08-07 (5) via Blog Dogfael September 10th, 2007 at 23:36

image Fe wnaethon ni adael safle cofeb lladdfa Gresffordd a throi tuag at safle lladdfa arall, sef Bangor-is-y-coed. Yno yn y flwyddyn 613 OC y lladdwyd 1,200 o fynachod Cymreig o’r clas Celtaidd yn y fan honno gan y Saeson yn o dan arweiniad y brenin Aethelfrith o Northumbria yn dilyn buddugoliaeth dros Bowys ym mrwydr Caer. Dwi ddim yn siŵr faint o goel y gellir ei roi ar y niferoedd ond mae’n sicr fod rhywbeth wedi digwydd oherwydd fe arhosodd yn y cof. Erbyn heddiw mae’n rhaid croesi Ystad Ddiwydiannol Wrecsam i gyrraedd Maelor Saesneg a Bangor-is-y-coed. Gallai hynny swnio’n ddi-ramant iawn, ond mae ‘na ramant yn perthyn i’r ystad oherwydd mae gyda’r mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol ac yn Ewrop. Fe gychwynnodd y cyfan fel datblygiad o ffatrïoedd...

Eisteddfod 2007-08-07 (1) via Blog Dogfael August 17th, 2007 at 22:02

image Os na chefais fy nymuniad ddydd Sul roedd hi’n fater gwahanol ddydd Mawrth. Yn hytrach na mynd i’r eisteddfod roedd RO a minnau am fynd i grwydro ychydig yn Sir y Fflint a Sir Wrecsam. Nid fy mwriad i oedd gorfodi RO i fynd â mi i weld ein hetifeddiaeth, ond roeddwn i’n credu fy mod yn medru cynnig taith ddifyr a fyddai’n cwmpasu nifer o wahanol elfennau diddorol. Fel rhan o’r pecyn cyfan roeddwn i’n cael mynd i Shotton, Mancot a Glannau Dyfrdwy a dwi’n ddiolchgar i’m cyfaill am hynny. Dwi’n hoff o’r llefydd hyn am eu bod nhw’n wahanol, am fod pobol yn dueddol iawn o’u hanghofio a’u hanwybyddu, ond yn fwy na dim am eu bod ar y ffin. Ers yn blentyn mae ffiniau wedi’u fy nifyrru – ffiniau ieithyddol a...

Tymor arall drosodd, creisis arall drosodd. via Gwenu dan Fysiau May 13th, 2007 at 17:30

image Mond rwan dwi'n cael cyfle i lawrlwytho fy lluniau o'r gêm rhwng Wrecsam a Boston penwythnos diwethaf ble roedd yn rhaid i'r ddau dîm ennill i sircrhau aros yn y gyngrhair.Roedd dau flogiwr arall yno hefyd.Yn y cyfamser dyma fi'n chwilio am luniau o'r diwrnod ar Flickr, a darfod, rhain, rhain a rhain.Dyma fferfrynau o'r tri casgliad:Un cefnogwr am ddangos ei werthfawrogiad i Danny Williams mewn ffordd arbennig!Un cefnogwr yn methu erdych wrth i Wrecsam unioni gyda chic o'r smotyn. Y Kop yn orlawn ar gyfer y gêm gynrhair olaf o'i flaen yn ei ffurf bresenol cyn iddo gael ei ddymchwel yn yr haf.Llun hollol cawslyd gan Gary o'i gyd sylwebwyr ond un sy'n dod a gwên i'm gwyneb. Daeth Nic Parri allan efo un o'i berlau wedi'r gêm: "Gorffenodd Chris Llewelyn y gêm yn ei fest, ond fyddai'm...

Agos at y Dibyn.. via Clecs Cilgwri April 10th, 2007 at 08:16

Mae Clwb Peldroed Wrecsam yn sefyll yn andros o beryg at y dibyn wedi cwpl o ganlyniadau siomedig dros ben. Mae'n edrych fel brwydyr rhwngddyn nhw a 'Boston' ar hyn o bryd, efo Boston yn curo Macclesfield 4-1 ddoe a Wrecsam yn colli adre, er bod 'na siawns o Macclesfield yn cael eu tynnu lawr yn ol i'r ffrae ar ol y colled drwm 'na. Gallai mynd i'r ge^m olaf o'r tymor mae'n debyg.Dwi ddim yn cefnogwr brwd o Wrecsam fel 'nhad (a gath ei eni yn y dre), ond ges i 'mhrofiadau cyntaf o beldroed y cynghrair yna, yn y dyddiau Mickey Thomas a'r hen ail adran (y 'pencampwriaeth') erbyn hyn, felly fydd yn dristwch mawr i finnau hefyd i'w gweld nhw mynd allan o'r cynghrair. Gobeithiaf yn wir nad ydy hynny yn...

Y Dihangfa Mawr via Clecs Cilgwri May 6th, 2007 at 00:56

Wel llwyddodd Wrecsam i ddianc y cwymp allan o bel droed 'y cynghrair' trwy curo 'Y Pererinwyr' o Foston 3-1, ond nad ydy'r canlyniad hon yn adlewyrchu'r naw deg munud o'r gem mewn gwirionydd. Hanner amser, roedd Wrecsam yn colli 0-1 ac tasai'r gem i aros yr un sgor, mi fasai Wrecsam wedi bod yn chwarae yn y 'Conffrens' flwyddyn nesa. Mi darodd Wrecsam yn ol wedi i'r egwyl, ond cyn iddynt mynd ymlaen i sicrhau eu buddigoliaeth yn hwyr yn y gem, mi saethodd chwaraewr Boston dros y trawsbren o dua dwy medr allan. Ond dyna pel droed i chi ynde! gem sy'n gallu troi mor gyflym ac sy'n gallu creu y ffasiwn cyffro a welom ni y p'nawn yma. Mi aeth pawb ar y cae i ddathlu (er gwaethaf y rhybuddion di-pwrpas i beidio!) mewn golygfeydd anhygoel dwi heb weld yn y Cae Ras ers talwm. Roedd pawb...

Historical kits via Gwenu dan Fysiau June 27th, 2006 at 11:53

image www.historicalkits.com ble yn ogystal a chael llun o bob crys ers i glwb gael ei sefydlu mae hefyd hanes y clybiau. Uchod mae crys Wrecsam pan wnaethon nhw guro Aresenal yng nghwpan yr FA yn nhymor 91/92 a chrys Everton pan wnaethon nhw guro Man Utd yn rownd derfynnol y cwpan yr FA yn nhymor 95/96 (roeddwn yno!)pêl-droed, historicalkits, historical kits, hanes, history, wrecsam, wrexham, evertonGenerated By Technorati Tag...

Yfwch gwrw i helpu’r clwbDrink beer to help the club via Cochion Caerdydd June 2nd, 2006 at 12:17

image [Post in English]Er bod newyddion calonogol am berchenog newydd i'r clwb, mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn dal yn awyddus i godi arian i gynorthwyo'r clwb gyda costau ac hefyd i fuddsoddi yn y clwb fel bydd ganddynt ddylanwad fel cyfrandalwr yn y dyfodol. Dyma gyfraniad gall unrhywun (dros 18 oed wrth reswm!) wneud sef yfed dros y clwb.O ddatganiad i'r wasg:Wrexham Supporters Trust and the Jolly Brewer Microbrewery have combined to produce 2 new beers, one is names "Benno" after the 90's goal machine and the other is names "Tommy" after Wrexhams greatest centre forward Tommy Bamford.Oes oes gyda chi berthynas da gyda'ch tafarn lleol, beth am holi i weld os fyddent yn fodlon cael casgen neu ddwy?The lagers will go on sale around the [Wrexham] area on June 17th. Any pubs wishing to...

Drink beer to help save Wrexham FC via Smiling under Buses June 2nd, 2006 at 12:09

image Despite the good news regarding a new owner for the club, Wrexham Supporters Trust are still keen to raise more money to help the club out with running costs and also to invest in the club to secure influnece as shareholders in the future. Here's a contribution that anyone (over the age of 18 of course!) can make, which is having a drink for the club.From a press release:Wrexham Supporters Trust and the Jolly Brewer Microbrewery have combined to produce 2 new beers, one is names "Benno" after the 90's goal machine and the other is names "Tommy" after Wrexhams greatest centre forward Tommy Bamford.How about asking your local landlord/lady to see if he/she will take a keg or twelve?The lagers will go on sale around the [Wrexham] area on June 17th. Any pubs wishing to stock them should...

Yfwch gwrw i achub CPD Wrecsam via Gwenu dan Fysiau June 2nd, 2006 at 11:42

image Er bod newyddion calonogol am berchenog newydd i'r clwb, mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn dal yn awyddus i godi arian i gynorthwyo'r clwb gyda costau ac hefyd i fuddsoddi yn y clwb fel bydd ganddynt ddylanwad fel cyfrandalwr yn y dyfodol. Dyma gyfraniad gall unrhywun (dros 18 oed wrth reswm!) wneud sef yfed dros y clwb.O ddatganiad i'r wasg:Wrexham Supporters Trust and the Jolly Brewer Microbrewery have combined to produce 2 new beers, one is names "Benno" after the 90's goal machine and the other is names "Tommy" after Wrexhams greatest centre forward Tommy Bamford.Oes oes gyda chi berthynas da gyda'ch tafarn lleol, beth am holi i weld os fyddent yn fodlon cael casgen neu ddwy?The lagers will go on sale around the [Wrexham] area on June 17th. Any pubs wishing to stock them...