Welsh Blogs.com


Teimlo’n falch o fy hunan via Blog Dogfael February 4th, 2008 at 23:00

image Dwi’n gwybod nad oes dim byd yn fwy diflas na gwrando ar rywun sy’n falch o’u hunain yn clochdar eu llwyddiannau’n ddi-baid. Ond dwi’n ofni taw dyna dwi’n mynd i wneud. Dwi mor falch o fy llwyddiant technolegol dros y penwythnos fel fy mod i am i bawb glywed amdano. Mae gen i hen liniadur araf sy’n ymddangos yn fwy araf byth am fod un o sustemau gweithredu Microsoft Windows arno yn tagu’n gyson. Felly mewn ymgais i roi bywyd newydd yn y peiriant fe benderfynais lwytho un o fersiynau o’r sustem weithredu Linux arno yn lle Windows. Gan ei fod yn beiriant reit hen fe ddewisais i lwytho Xubuntu, fersiwn ysgafnach o’r enwog Ubuntu. Felly dyma lwytho’r cyfan i lawr o’r wefan, llosgi CD gyda’r feddalwedd a’i...