Prin llwyddais gyrraedd amcan o 5,000 gair yr wythnos hon. Dyna fy bare minimum i'w ysgrifennu mewn wythnos ond mae'n her y dyddiau hyn am ryw reswm.Efallai taw natur o'r hyn y rydw i'n ysgrifennu sy'n achosi gohirio. Tywyll yw'r 15fed bennod y llyfr hwn, ac mae'n gorfodi fi meddwl yn ôl ar adeg dywyll fy Mhrofiad Cymraeg. Un peth y rydw i wedi darganfod wrth ysgrifennu'r llyfr hwn yw bod gennyf lawer o chwerwdod a dicter tuag at y Gymraeg a phethau Cymreig. Daw nifer o'r teimladau hyn gan yr adeg honno.Gwyddwn eisoes nad oeddwn i'n hyrwyddwr mwyaf hyzahus (a), ond doeddwn i'n ymwybodol pa mor gryf yw'r teimladau. Wrth ysgrifennu weithiau gofynnaf o'm hunan a ddylwn i ddychwelyd i Minnesota ar ôl gorffen prifysgol. Erbyn hyn mynnaf y rydw i eisiau aros yng Nghymru -- gwneud gradd uwch...
A dweud y gwir, dwi ddim yn hapus gyda chynnydd fy llyfr erbyn hyn. Prin gallaf ddweud fy mod i'n ysgrifennu o ddifrif gyda word count fel hynny. Fy esgus yw nad ydw i wedi cael wythnos lawn eto er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu yn unig. Pythefnos yn ôl roeddwn i'n pryderu o hyd am arholiadau, a rhoed hanner yr wythnos hon i ddathlu pen-blwydd priodas gyda'r briodferch ifanc. Naw mlynedd rydym ni'n briod.Ŵn i ddim sut teimlaf am hynny -- naw blwyddyn. Uffach. Yn fuan iawn cyrhaeddaf y marc 10 blwyddyn ac wedyn does dim imi wneud ond treillio ar IllicitEncounters.com am dipyn ar yr ochr; yn trefnu cyfarfodydd dirgel gyda Sarra Elgan (oherwydd gwyddoch nad yw hithau'n hapus gyda hen Simon erbyn hyn -- mae eisiau arni am ddyn gyda llai o gig ar ei esgyrn).Ond yn y cyfamser mae gennyf y...

Mae'n anodd weithiau deall hiwmor y briodferch ifanc. Heddiw gafodd hi syniad ei bod hi eisiau cael ei chwiorydd dal yng Nghymru, a taw ffordd gorau i wneud hyn byddai Ya-Ya briodi dyn lleol.Ar hyn, dyfeisiodd hi syniad rhyfedd o hysbysebu ei chwaer fel mail-order bride (priodferch-archebwyd-trwy'r-post?) ar fy mlog (gwneuthum hyn ar fy mlog Saesneg). "It'll be funny," meddai hi. "I want to see what people will say.""Uhm, the internets are full of nutjobs," meddwn i. "They'll probably take it seriously."Ond mynnodd Rachel tynnu lluniau o'i chwaer er mwyn y blog beth bynnag. Dweud gwir, maent yn ddoniol -- yn enwedig yr un a rhois yn y cofnod hwn. Mae'r olwg archub-trwy'r-post yn berffaith yma. Mae'n scary, bod yn onest. Gellir dychmygu'r llun hwn ar wefan gydag enw an-dychmygus fel...
Mae'r chwiorydd-yng-nghyfraith yn yma o hyd. Felly treuliaf fwyafrif o'm hamser lan y crisiau, darllen a chlustfeinio ar sgyrsiau'r briodferch ifanc a'i chwiorydd. Roeddwn newydd gwrando arnyn nhw siarad am briodas Rachel a fi, a sut mor anodd y bu oherwydd ei rhieni.Roedd rhieni Rachel yn hollol erbyn ein priodas oherwydd nad oeddwn i'n (ac nid ydw i'n) Mormon. Ceisient nhw rwystro ein priodas trwy wrthod talu am bethau, ac yn dweud wrth Rachel y roedd hi'n siom i'w theulu, ac yn mynnu y byddent dorri hi o'u hewyllys, ac yn y blaen ac yn y blaen. Bihafient nhw fel rhieni mewn Regency romance neu rywbeth.Priododd Rachel a fi beth bynnag. Priodasem ni yng ngardd gefn rhieni Rachel yn St. George, Utah, oherwydd chawsom ni ddim arian ar gyfer cynnal y briodas rhywle arall, ac oherwydd...
Rydw i wedi cyrraedd yng nghylch llai uffern -- mae chwiorydd y briodferch ifanc yn ymweld â ni ar hyn o bryd. Nid ydw i eisiau swnio'n greulon gan ddweud hynny, maen nhw'n ferched hyfryd. Ond pan ddaw'r briodferch ifanc a'i chwiorydd gyda'i gilydd... O, diawl.Siaradan nhw'n uchel -- ar ben eu lleisiau -- am oriau. Neithiwr, roedden nhw'n siarad hyd 3 yn y bore. Dyna oeddwn i, yn ceisio cysgu ond nad allwn oherwydd o dro i dro crynai'r tŷ gyda ffrwydrad o'u chwerthin.Mae'r chwiorydd-yng-nghyfraith yn yma am bythefnos. Anfonwch help (a chwrw), os gwelwch yn dda. Wedi dweud hyn, mae'n neis i gael nhw yma. Roedd y briodferch ifanc yn teimlo hiraeth cryf am ei theulu tros y misoedd diwethaf. Ni allaf ei hachosi chwerthin mor uchel, mor bur, mor lawn o lawenydd â phan mae hi'n gyda'i...
Mae'r briodferch ifanc wedi ymuno Facebook. Ychwanegwch hi fel eich ffrind er mwyn hithau teimlo'n...
Os ydych yn ddysgwr (hynny yw, ydych wedi dysgu'r iaith hon ar ôl oeddech wedi "tyfu lan," yn lle na cael eich magu yn yr iaith), rhywbryd yn eich profiad dysgu mae hyn wedi digwydd ichi: hen ddyn (o Gaerfyrddin, yn arfer) yn dweud wrthych fod rhaid ichi ddefnyddio'r iaith bob dydd.Ie, no shit. Diolch am hynny, pops. Ac os ydych yn ddysgwr mae'n bosibl ydych wedi darganfod bod defnyddio'r iaith bob dydd yn anodd iawn -- yn enwedig os dewch o deulu a siarada'r Saesneg. Ac mae'n yn enwedig o yn enwedig anodd os ydych chi'n cael rhyw â rhywun sy'n siarad y Saesneg**. Oherwydd, yn fy myd i, â deyrngarwch i iaith yn syth allan o'r ffenest pan mae yna ryw yn y cwestiwn. Hyn yw fy mhrif anhawster gyda gwella fy Nghymraeg y dyddiau hyn -- nid oes Cymraeg yn fy ngwely. Ond bron i newid yw'r...
Peth hoffais am y rhaglen a gaiff ei darlledu ar nos Fawrth nesaf yw sut rhy'r argraff y nad yw'r stori wedi gorffen -- ceir teimlad bod y briodferch ifanc a fi'n symud ymlaen i heriau newydd. Mae hyn yn bortread gonest, yr wyf yn meddwl. Mae'r briodferch ifanc a fi'n byw yma ers blwyddyn, ond mae'r heriau'n parhau.Pasiodd y briodferch ifanc ei theory driving test heddiw. Yr ydym ni wedi bod yn defnyddio ein trwyddedau gyrru o'r Unol Daleithiau erbyn hyn, ond gallem ni eu defnyddio dim ond am flwyddyn. Er mae ganddi brawf behind-the-wheel i wneud o hyd, mae'n neis bod y briodferch ifanc wedi heibio'r rhwystr hwnnw. Bydd angen arnaf wneud yr un peth, ond mae rhaid i fi ganolbwyntio ar fy arholiadau yn gyntaf. Mae gennyf dair wythnos cyn fy arholiadau ac yn barod yr wyf yn...
Mae'r briodferch ifanc yn eithaf sâl heddiw, a gallaf teimlo fy hun yn dechrau i deimlo yr un ffordd. Sympathy pain yw hyn, efallai. Gobeithiaf. Bydd y tymor hwn yn digon anodd os dechreuaf yn hollol iach, felly nad ydw eisiau bod yn wael. Ond eisoes wy'n teimlo poen yn fy mhen a fy ysgyfaint.Aethom i Llanilltud Fawr ddoe i gerdded wrth y môr, ond bu Rachel yn rhy sâl i gerdded ym mhellach na St. Donat's (oddeutu 1 milltir gan Llantwit Beach). Bwriadasem mynd i dafarn Blue Anchor ond teimlodd rhy ddrwg ar gyfer hyn, hyd yn oed. Nawr mae'n lawr grisiau yn pesychu a nad ydw'n gwybod beth i'w wneud. Gŵr shit ydw yn yr ystyr hyn."Take some medicine," dwedaf."I did. It's not helping," dweda."Oh. Uhm. Want me to make you some hot chocolate?"Nad ŵn beth dylwn wneud. Gallaf coginio siocled...
Mae'r briodferch ifanc wedi penderfynu ei bod eisiau dysgu Cymraeg. Nawr, rhywle yn nghornel fy ymennydd, wy'n cofio rhywun yn dweud wrthyf y na ddylwn ddefnyddio "mae" mewn adeiladwaith brawddeg gyda "wedi." Ond nad ydw'n siŵr o ffordd arall i'w ddweud, "The child bride has decided she wants to learn Welsh."Efallai dylwn wybod, oherwydd tiwtor Rachel ydw. Yr oedd yn gobeithio mynd i ddosbarth cyngor ym mis Ionawr, ond gyda ei amserlen mae dim ond un cwrs y gallai wedi mynychu a mae'n llawn erbyn hyn. Felly byddaf yn ceisio ei dysgu tipyn o sylfaen yn yr amser rhwng nawr ac yr hydref, pryd bydd mwy o ddosbarthiadau ar gael (er enghraifft, dosbarth Canolfan Dysgu Cymraeg).Wrth gwrs, ei dysgaf dechrau brawddeg gyda "Wyf," ond wy'n nerfus am wneud gwaith digon da. Na fydd rhaid ei dysgu at...