Welsh Blogs.com


Cwrs y Byd? via Blog Dogfael July 18th, 2008 at 20:48

image Ydy ymddiswyddiad Rhodri Glyn Thomas fel Gweinidog Treftadaeth yn rhoi ystyr newydd i’r frawddeg “Cwrs y Byd”? Gwaeth o lawer na Chwrs y Pharo! Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Beth oedd ‘plan b’ Dyddiol Cyf? via Blog Rhys Llwyd May 31st, 2008 at 09:22

Er i Dyddiol Cyf. gyhoeddi yn fuan iawn, wedi cyhoeddiad Rhodri Glyn Thomas mae dim ond £200,000 ychwanegol byddai ar gael i ddatblygu'r wasg Gymraeg, fod y cynlluniau am bapur dyddiol wedi eu rhoi o'r neilltu fe wnaeth tîm Dyddiol Cyf roi 'plan b' at ei gilydd a gwneud cas am yr arian y gwaneth Golwg ennill yn y diwedd. Roeddw ni wedi bod yn ceisio dyfalu beth oedd 'plan b' ers tro - pan oeddw ni yn gweithio iddyn nhw nid oedd neb, wrth reswm, yn trafod 'plan b' oherwydd nid oeddem ni'n meddwl y byddai Gweinidog, o Blaid Cymru o phob plaid, yn torri ei addewid o ddarparu moddion ariannol i sefydlu papur dyddiol.Ar eu blog ddoe fe ddatgelodd Dyddiol Cyf beth oedd eu 'plan b' aflwyddiannus, dywedant:Rydym yn naturiol yn siomedig bod ein cynllun ni wedi’i wrthod - cynllun cyffrous gydag...

Golwg yn curo Dyddiol Cyf. am yr arian i ddatblygu’r wasg via Blog Rhys Llwyd May 29th, 2008 at 13:47

Mae newydd gael ei gyhoeddi mae cynnig Dylan Iorwerth a Golwg oedd yn fuddugol yn y tendar am y £600,000 (£200,000 y flwyddyn am 3 blynedd) i ddatblygu'r Wasg Gymreg. Rwy'n eithriadol o siomedig i gais Ned Thomas a Dyddiol Cyf fethu yn arbennig gan gofio mae gwaith a gweledigaeth Ned Thomas a'r tîm sy'n gyfrifol fod yna arian ychwanegol yna o gwbl. Mae'r diolch i ddyfalbarhad Ned a'r tîm a neb arall ond ymddengys, nawr, na fydd dim materol i ddangos am yr holl waith caled. Yn bersonol mae fy nyled a fy edmygedd o waith Ned yn enfawr, er i'r BYD fethu gweld golau dydd fel arwr bydd enw Ned yn cael ei gofio i bob Cymro gwerth ei halen am byth yn awr, arwr! Rwy'n gobeithio y bydd Dylan Iorwerth a thîm Golwg yn fodlon cario mantell gweledigaeth Ned yn anrhydeddus yn awr. Rwy'n deall fod...

Bethan Jenkins AC a’r BYD via Blog Rhys Llwyd February 26th, 2008 at 09:26

Y diweddaraf i daflu dwr oer ar brosiect Y BYD ydy Bethan Jenkins AC a hynny ar ei blog hi. Pan oedd Bethan yn gyd-ymgyrchwraig a mi (nid mod i yn tynnu fy mhwysau fel 'ymgyrchwr' dyddiau yma chwaith cofiwch) hi fyddai'r cyntaf i ymosod ar y llywodraeth am dorri addewid. Dyma'r peth diweddaraf i Bethan ddweud:Rhys- dydw i ddim yn erbyn cael papur newydd dyddiol i'r gymraeg, ond mae angen i ni edrych ar y opsiynau i weld beth sydd yn bosib. Does dim pwynt dechrau papur newydd heb y gwaith ymchwil ar bwy fydd yn ei ddefnyddio, a sicrhau bod digon o danysgrifwyr. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd y pwnc, ac yn hapus i gwrdd a phobl yn y sector i drafod hwn yn bellach. Mae fy nrws i yn agored o hyd.A dyma fy ymateb i nad sydd wedi ymddangos ar ei blog hi eto gan fod Bethan wedi troi 'message...

Cynog Dafis yn beirniadu’r Blaid via Blog Rhys Llwyd February 22nd, 2008 at 08:59

image Mae'n gyhoeddus bellach fod criw o Gymry blaenllaw sef Anna Brychan, Llinos a Cynog Dafis, Hywel Teifi Edwards, Meredydd Evans, Heini Gruffudd, Emyr Humphreys, Richard Wyn Jones, Gareth Miles, Jan Morris, Wynford Elis Owen a John a Luned Rowlands, wedi anfon llythyr agored at Rhodri Glyn Thomas yn ei gyhuddo o:fradychu ymrwymiad diamwys a wnaed yng nghytundeb Cymru'n Un y byddai'r Llywodraeth yn 'cynyddu'r cyllid a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur dyddiol Cymraeg'. Mae bradychu ymrwymiad maniffesto yn fater difrifol iawn ac yn codi cwestiynau sylfaenol ynghylch integriti gwleidyddol a dilysrwydd ymrwymiadau eraill - cyfredol ac i'r dyfodol.Cynog Dafis, yn ôl y sôn, yw'r pen-bandit tu ôl i'r symudiad diweddaraf yma. Fodd bynnag credaf ei bod hi'n...

Diwedd y Glymblaid plis via Blog Rhys Llwyd February 16th, 2008 at 02:39

Dwi'n meddwl ei bod hi'n amser i Blaid Cymru dynnu allan o'r glymblaid oherwydd dydy pethau ddim yn gweithio allan, ddim o gwbl. Dim papur dyddiol. Dim arian i sefydlu Coleg Ffederal. Beth fydd nesaf? Deddf Iaith di-ddanell maen siwr. Dwi'n meddwl mae'r cam mwyaf doeth fyddai i Blaid Cymru dynnu allan o'r glymblaid cyn gynted a phosib ac eistedd fel gwrthblaid a pharatoi i gicio Llafur mas 'for good' yn yr etholiad nesaf. Dwi ddim yn rhoi'r bai i gyd a'r y Blaid Lafur cofiwch, ddim o gwbl, wedi'r cyfan Gweinidog Plaid Cymru oedd a gofal dros wireddu'r papur dyddiol. Ond rwy'n meddwl y byddai pethau fymryn yn well gyda Phlaid Cymru yn arwain llywodraeth yn hytrach na bod yn gŵn bach.Llafur-Plaid: the dream is at an end. Mae'r hyn roeddw ni ac eraill wedi ei ofidio wedi digwydd. Rhaid cael...

Bunkum from y Byd via Aberdare Blog February 15th, 2008 at 13:32

The people behind Y Byd project had some not very nice things to say about Rhodri Glyn Thomas today. Dyddiol Cyf. the company behind the project to launch a Welsh language daily newspaper today published a News Release today attacking the Welsh Assembly’s Culture Minister. Rhodri Glyn Thomas’ decision not to give them the grant they wanted - around £1 million - to set up a daily Welsh language newspaper has irritated them. So they’ve hit back hard and low. They invoke the One Wales political agreement of 27th June 2007 between Labour and Plaid Cymru, claiming that Rhodri Glyn Thomas has reneged on a “promise” within that manifesto. And they claim (in Welsh) : Rydym fel cenedl yn haeddu papur dyddiol. Mae angen llais newyddiadurol ychwanegol ar Gymru er...

Mwy am bapur dyddiol Cymraeg a chwarae gyda geiriau via Blog Dogfael February 14th, 2008 at 23:56

image Y newyddion da yw fy mod yn gwybod bellach fod y Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, wedi bod yn darllen fy mlog. Wel, pan dwi’n dweud ei fod wedi bod yn darllen fy mlog, yr hyn dwi’n ei olygu mewn gwirionedd yw ei fod wedi darllen un cofnod, sef yr hyn yr ysgrifennais am ei benderfyniad i ychwanegu £200,000 i’r grant y mae’r Llywodraeth yn ei roi ar gyfer darpariaeth newyddion yn Gymraeg, gan gynnwys papur newydd dyddiol newydd. Y newyddion drwg yw na fyddai’n debygol o ddefnyddio ei sylwadau fel hysbyseb i’r blog. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud (diolch Hedd!). “Diddorol gan fod y Blogiwr yn gwbl anwybodus am fanylion cynllun busnes Dyddiol Cyf ac hyd yn oed yn fwy anwybodus am gyflwr y wasg brintiedig cyfrwng Cymraeg. RGT”...

Siom ynteu ddadrithiad? via Blog Dogfael February 8th, 2008 at 22:46

image Daeth cyhoeddiad y gweinidog treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, ddechrau’r wythnos hon yn dipyn o sioc i mi. Nid dyna’r hyn yr oeddwn wedi disgwyl ei glywed. Oherwydd gwaith caled cwmni Dyddiol Cyf., ac yn arbennig Ned Thomas, mae’r sylfaen wybodaeth sydd wedi’i gosod ar gyfer sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn un gadarn. Pan fo’r cwmni hwnnw’n awgrymu bod angen rhyw £600,000 o nawdd yn flynyddol i wneud y gwaith dwi’n fodlon derbyn hynny. Dwi’n siŵr nad oes ond ychydig o fentrau yn y Gymru Gymraeg sydd erioed wedi gweld cymaint o ragbaratoi a braenaru’r tir. A’r hyn yr oedd eu rhagbaratoi yn dangos oedd bod angen lefel benodol o nawdd ar gyfer sefydlu papur dyddiol. Dwi ddim yn gwybod rhyw lawer am eu cynllun busnes, a phe bawn...

Y BYD, Byd a’r Bedwar, Marc Jones a’r BBC via Blog Rhys Llwyd February 8th, 2008 at 01:25

Mae'r stori am Y BYD yn parhau i ddatblygu ar y cyfryngau amgen (blogs, maes-e ayyb...) ond mae'r stori yn gwbl segur o safbwynt diflas y BBC – nid yw'r BBC wedi newid nac adrodd ar y diddordeb sydd wedi codi yn dilyn camgymeriadau golygyddol y Byd ar Bedwar o anghofio nodi fod Marc Jones y sylwebydd “niwtral” bellach yn gweithio i Blaid Cymru. Ac wedyn beth am rôl Aled Eurig? Tro diwethaf i mi ddod ar ei draws oedd yn 'steddfod Abertawe 2006 bryd hynny roedd e'n gweithio fel cynghorydd i Dafydd Ellis-Thomas, ydy e dal yn y swydd honno? Os ydyw a wnaeth y Byd ar Bedwar unrhyw ymdrech i gyfathrebu hyn i'r gwylwyr? Dwi ddim yn dweud nad oes hawl gan bobl a vested intrest leisio barn ar bethau, ddim o gwbl, ond mae hawl gan y gwylwyr wybod beth yw'r vested intrest hynny er mwyn iddyn...

‘Y Byd’ i fod ar gael ar y we via Gwenu dan Fysiau June 5th, 2007 at 15:43

Cyhoeddiad ar flog Y Byd y bydd modd i danysgrifwyr ddarllen y papur newydd yn llawn ar y we.Bydd tanysgrifwyr yn derbyn y papur trwy gyfrwng eu siop leol, ac yn cael mynediad hefyd i ran arbennig o’r wefan lle bydd y papur cyfan yn ymddangos [fy mhwyslais], yn ogystal ag archif o’r papur. (bydd pawb arall yn medru darllen y wefan – ond nid y papur cyflawn) I’r rhai sydd yn dymuno derbyn y papur ar y we yn unig, bydd modd tanysgrifio am bris gostyngol. Bydd hefyd yn rhatach tanysgrifio iddo tros y we yn unig. Bydd tipyn o drafod am hyn dwi'n...

Helfa Drysor Y BYD (Eisteddfod)Y BYD Treasure Hunt (Eisteddfod) via Dysgwyr De Ddwyrain July 31st, 2006 at 17:26

Helfa DrysorDrwy’r wythnos, bydd Y BYD, mewn cydweithrediad â Maes D, yn cynnal ‘Helfa Drysor.’ Bydd yr helfa’n cynnig cyflwyniad i faes yr Eisteddfod i bobl sy’n dysgu’r Gymraeg ac sydd efallai’n ymweld â’r Eisteddfod am y tro cyntaf erioed. O ddilyn y cliwiau, bydd yr ‘helwyr’ yn cael eu tywys i nifer o stondinau diddorol - ac mi fydd gwobr i bawb sy’n cyrraedd pen y daith. Edrychwn ymlaen yn fawr at gwrdd â chi ar y maes! Dyddiol Cyf, Canolfan Mercator, Y Buarth, Aberystwyth, SY23 1NN(01970) 621998 - www.ybyd.com - neges@ybyd.comY BYD are organising a Treasure Hunt for Welsh learners throughout nest week at the Eisteddfod. Why not pop over to the stall and see.eisteddfod2006, eisteddfod, abertawe, swansea, y bydGenerated By Technorati Tag...