“Snoop” Doggy Dogfael via Rwdls Nwdls
Dwi’m isio teimlo fel bo fi’n meta-flogio’r Rhithfro mewn ffordd bogel arsyllol ond mae Dogfael wedi sgwennu cofnod blog gwych ar sut mae’n ceisio cael gwybodaeth gan Lywodraeth y Cynulliad ar y penderfyniad i roi swm (hollol annigonol yn fy marn i) i greu papur newydd dyddiol Cymraeg.
Os da chi heb ei ddarllen, darllenwch o da chi.
[sori am y teitl gwael...... Dau flog newydd (i fi) via Rwdls Nwdls
Cymraeg
Blog Answyddogol - blog Dyfrig Jones, golygydd Barn. Dechrau gwych, gwleidyddiaeth craff a chomics. Biwt!
Saesneg
No Good Boyo - ysblander swreal deallus Cymreig. Mae’n ddyrys ar y gorau, a dwi byth yn siwr os taw fi sy’m bod yn thic neu os dio’n gwneud sens drwy’r amser, ond pan mae’n bleser ei ddarllen beth......
gwely/gwe? via Rwdls Nwdls
Hoelen. Pen. Taro.
gan...... Cymanfa Youtube Cymru via Rwdls Nwdls
Gwyliwch y fideo am esboniad:
Fyddwch chi yno?...
500fed Fideo Sianel Amgen Cymru! via Rwdls Nwdls
Mae Sianel Amgen Cymru yn dal i fynd o nerth i nerth ar YouTube, a dwi’n siwr y gellir deud rwan taw hwn yw y prif le i wylio fideos Cymraeg ar y we.
Mae ‘na lot o sdwff da wedi cyrraedd yno’n ddiweddar, yn arbennig y fids cerdoriaeth. Un peth sydd ddim yno rhyw lawer yn y Gymraeg o’i gymharu â gweddill DyDiwb ydi blogiau fideo personol. Un theori gen i ydi os ma gynnoch chi ego digon mawr i’w fwydo yna fe wnewch chi drio cyrraedd y gynulleidfa fwyaf posib a fideo blogio yn Saesneg. Neu efallai ein bod ni gyd jest yn rhy shei…
Ond mae Uned5 wedi cychwyn darlledu blogiau fideo personol gan gynnwys yr isod gan Mari Lovgreen sef y 500fed fideo. Efallai ei fod yn addas gan ei fod yn dangos sut mae YouTube rwan yn cael ei ddefnyddio gan bob math o... Rwdls Nwdls - dros 1,000 cofnod!!! via Rwdls Nwdls
Gwylia a shdwff… via Rwdls Nwdls
Iow, dwi nôl o’r holidês yn Skopelos. Crynodeb:
Tiropita (pei caws), feta, plyms, prŵns (roedd rhain yn arbenigedd ar yr ynys), Mythos (cwrw Groegaidd), Tsipouro (gwirodydd o Skopelos), hethethetheth - scorchio (40C+!), snorclio (gweld Slywan Fôr Moray! Hollol amazing!), nofio (pwll plys traetha), trac ffarm nyts at y villa, darllen: Ffawd, Celwydd etc (ferigwdthingwir); Post Office - Bukowski (WOW!!); Melog (meh…); Cardiff Central (gwd); Edgar Allan Poe - casgliad straeon Pit & Pendulum etc (ym…diddorol).
Nid egsactli hapi rîdiing, fe glywaf chi, ond roedd angen marwolaeth, sataniaeth a sinigaeth drôl i wrthgyferbynnu a’r haul a hwyl.
Mewn newyddion arall…mae gwefan Pictiwrs wedi cael sawl enwebiad ar gyfer Gwobr Blogiau Cymru! Wel chwara teg...
Blogia Tech Cymreig via Rwdls Nwdls
Dau flog gwerth eu crybwyll sy’n trafod Technoleg a’r we gyda gogwydd Cymreig (ond yn Saesneg er eu teitlau Cymraeg):
Datblogu - blog Dr Daniel Cunliffe o Brifysgol Morgannwg. Boi sydd wedi bod yn sgwennu am y we a’r Gymraeg ers blynyddoedd. Blog difyr.
eNewyddion - blog newydd - pinc - plaen....
Blog Secsi Mei via Rwdls Nwdls
Mae gan Mei Gwilflog newydd. Mae’n ddu, yn sci-fi ac yn SECSI!
Ffaac, raid i fi fynd allan yn amlach. Dwi newydd alw blog yn secsi, a nes i gyffroi’n lân wrth i ni gael delivery o ffacin water butt neithiwr…
Ta waeth am fy issues gyd a throi mewn i Good Lifer, ma cip ar flog Mei yn dangos be gellir ei wneud gyda chydig o addasu CSS creadigol. Dwi wedi bod yn meddwl ers tipyn fod fformat blogiau yn hollol ddiflas erbyn hyn ac fod rhaid bod ffyrdd mwy deniadol o ddangos cynnwys a chyfuno mathau gwahanol o gynnwys ar y dudalen, gan gwneud darllen blogiau yn brofiad mwy pleserus.
Erbyn hyn mae llawer o flogwyr yn cyfrannu at sawl gwefan gymdeithasol lle mae ffrydiau RSS neu API, a dwi’n gweld yr angen i gael un man deniadol lle gellir cydgasglu’r rhain. Un...
Sianel Amgen Cymru: 250fed fideo via Rwdls Nwdls
Mae Sianel Amgen Cymru wedi cyrraedd ei 250fed fideo yn y dyddia dwetha.
Ma YouTube wedi mynd yn nyts yndo. A chwara teg, ma na betha gwych arno fo. Eitha da felly taw y 250fed fideo oedd Gorky’s Zygotic Mynci - 12 Impressionistic Soundscapes sydd yn rhan o’r VHS Banana, wnaethon nhw ryddhau ar Ankst mae’n debyg gan fod Emyr Glyn Williams yn rhan o’r cynhyrchiad. Ta waeth mae Fynci o’r Iseldiroedd wedi digideiddio’r holl fideo, a’i dorri lawr fesul cân i bawb gael y pleser o’i wylio.
Ac os nad ydi hyn yn ddigon, mae o wedi gwneud yr un peth ar gyfer y VHS Gorky’s “Jyst Fel Ffilms” hefyd.
Ysblennydd. Lej....
Micsamatosis ‘Dolig via Rwdls Nwdls
Mi gychwynnodd tafod_bach draddodiad llynedd (wel, wrth edrych nôl ar ei blogiad Nic gychwynnodd o…ddy Gwyneth Glyn of intyrgwê Cymraeg…tsk) gynnig mics Nadolig (ond nid yn angenrheidiol Nadoligaidd) i ddarllenwyr y blog, felly dwi am ddwyn y syniad am yr eildro a chynnig CD “Micsamatosis ‘Dolig” i bwy bynnag sy isio un. Dwi’m yn gaddo fyddan nhw’n ffresh, ond godrapia fyddan nhw’n rhoi gwên ar y’ch gwep.
Danfonwch he-bost efo’ch cyfieiriad at “rhodri dot apdyfrig at gmail dot com” a mi anfona i un atoch chi. Ella ddim erbyn dolig, ond mi ddaw ryw ben blantos.
Sa rywun di sylwi faint mor dawal ma blogia Cymraeg wedi bod yn ddiweddar? Ai dyma ddechrau’r diwedd ar gyfer blogia? Ydi pawb yn MySpace jynci? A...
Maes-e i lawr via Rwdls Nwdls
Dyma’r neges gan Nic:
Helo bobl,
Jyst neges sydyn i grwp ohonoch chi - mae gweinydd Dreamhost lle mae’r maes yn byw i lawr ar hyn o bryd - a felly mae morfablog i lawr hefyd. Ddim yn siwr pryd bydd yn ôl.
Mae’n bosib bydd yn broblem dros dro, ond mae hefyd yn bosibl bydd yn cymryd gweddill y dydd i’w sorto.
http://www.dreamhoststatus.com/ yw’r cyfeiriad i’w ledu.
Diolch yn fawr,......
Sgribls o’r Antarcting via Rwdls Nwdls
Os da chi wedi defnyddio eich diwrnodau gwylia haf i gyd, ac isio blas ar antur a byd hollol wahanol i Gymru fach yna ewch draw ar eich unwaith i flog dwyieithog Lowri Bowen, sydd yn sgwennu am ei phrofiadau fel meddyg yn yr Antarctig.
Fel y dywed ei thudalen wybodaeth mae hi o Sir Gâr yn wreiddiol ond wedi teithio’n helaeth ledled y byd ac ar ol mynd yn ffed yp efo’r NHS mi ddihangodd i ben eithaf y byd!
Ewch draw yno i ddarllen ei hanes a gadwch sylw iddi yn Gymraeg. Dwi’n siwr y bydd hi’n gwerthfawrogi sgwrs Gymraeg!...
Siarcod a Seigiau Steddfod via Rwdls Nwdls
Cofiwch fod y copi diweddaraf o Siarc Marw #4, y ffansîn diwylliant Cymraeg, yn cael ei lawnsio yn steddfod ‘leni. Ac yn arbennig y tro hwn mae CD yn dod gyda fo. £2.50 yn unig am gasgliad unigryw o diwns Cymraeg, a darlleniad da wrth wrando. Gallwch gael un ai o stondin Dan Y Cownter yn Steddfod, o Sebon neu drwy ebostio siarcmarw [malwen] yahoo [dot] co [dot] uk
A be fasa build up Steddfod erbyn hyn heb fwydlen Eisteddfod Dogfael. Swnio’n flasus iawn Dogs! Gallet ddweud “It’s the Dogs!”...
Mim Twm Llai via Rwdls Nwdls
Ma gynno fo flog.
Croeso i’r rhithfro Gai!...
Dal:Rhegi/Nawr - Prosiect Ffilm y Rhegiadur via Rwdls Nwdls
Be ddiawl medde chi?
Wel, mae hi fel hyn…yn ystod Eisteddfod Tyddewi saethodd Marc Evans ffilm ddwys o’r enw Dal:Yma/Nawr am hen hanes barddoniaeth Cymraeg…wrth ei wylio yn ddiweddar gan edmygu gwallt Gerallt Lloyd Owen am y canfed tro, daeth fflach o flaen fy llygaid…ymddangosodd ysbryd Y Parch. Rhys Jones, y bardd budr o’r Blaenau gynt, ac ysbrydoliaeth y Rhegiadur.
“Hei ti! Yr hen fflewjan lac,” dywedodd wrthyf “rwyf am i ti fyned allan a chynhyrchu ffilm gyffelyb â’r Dal:Yma/Nawr hwn i ddathlu gogoniant y Rheg Gymraeg, fel y gwnaeth yntau i farddoniaeth. Casgliad y penillion piws pennaf a blodeugerdd y frawddeg front fel petai. Dyma yw fy ngorchymyn!”
“Iawn,” me’fi yn syn “ond shifftia draw i’r chwith ‘chydig, dwi’n...
Cyfarfod penna’ malwen (blog.gwrdd/steddfod06) via Rwdls Nwdls
Rydyn ni wedi penderfynu trefnu y blog-gwrdd Cymraeg cyntaf eleni, er mwyn cyfarfod rhai o gyd-flogwyr y rhithfro, a thrafod yn anffurfiol (iawn!) unrhywbeth sy’n ymwneud â blogio yn y Gymraeg.
Os da chi’n blogio, neu’n cadw gwefan Gymraeg, dewch draw am sgwrs!
Dydd Sadwrm 12fed Awst. 2pm. Pabell Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg.
Mae trafodaeth ar rai o’r pethau o bosib y byddwn yn eu trafod draw fan hyn.... 100fed Fideo Sianel Amgen Cymru via Rwdls Nwdls
Mae grwp fideos DyDiwb Sianel Amgen Cymru wedi derbyn ei ganfed fideo!
Y Gweithdy Cymraeg ydi’r fid, gan neilwyn. Mae’n dangos saer wrth ei waith yn crefftu ratl o bren onnen. Ma’n wych gweld crefftwr wrth ei waith, rili. Mae’r miwsig yn rhoi naws hyfryd o gawslyd, fatha rhyw fideo addysgol o’r 80au - lle ffeindiais ti hwnna Neil?!...
100fed Fideo Sianel Amgen Cymru via Rwdls Nwdls
Mae grwp fideos DyDiwb Sianel Amgen Cymru wedi derbyn ei ganfed fideo!
Y Gweithdy Cymraeg ydi’r fid, gan neilwyn. Mae’n dangos saer wrth ei waith yn crefftu ratl o bren onnen. Ma’n wych gweld crefftwr wrth ei waith, rili. Mae’r miwsig yn rhoi naws hyfryd o gawslyd, fatha rhyw fideo addysgol o’r 80au - lle ffeindiais ti hwnna Neil?!...
jobs-cymraeg.com via Rwdls Nwdls
E-gerdiau Cymraeg via Rwdls Nwdls
Mae na fwnci bach wedi bod yn deud helo ar y blog a’m pwyntio at ei e-gerdiau ar wefan Dyluniau Digidol.
A wir, ma’n nhw’n dda iawn!...
Twf y Blogosffêr via Rwdls Nwdls
Ymddengys fod y Blogosffêr tua 60 gwaith yn fwy nag oedd o’n 2003, ac wedi i mi gyfri’n fras y nifer o flogiau Cymraeg byw sydd wedi cychwyn ers 2003, mae’r twf hyn yn cyfateb bron yn union.
Beth mae hyn yn dweud amdanom ni fel blogwyr Cymraeg? Wel, ein bod ni ddim cymaint â hynny tu ôl iddi o ran twf efallai (er, dydyn ni’n sicr ddim o’i blaen hi ychwaith), ond roedden ni sawl mlynedd tu ôl iddi yn cychwyn felly mae’r ffigwr y dylien ni fod arni o’i chymharu a blogio gwledydd gorllewinol eraill am fod yn llawer uwch. Yn nechrau 2003 dim ond tua 4 blog Cymraeg oedd yna (cywirwch fi os dwi’n rong…), pan oedd pobol wedi bod yn blogio ers blynyddoedd cyn hyn.
Mi fuasai’n ddiddorol cymharu hyn gyda gwlad debyg o ran maint a...
Sianel Amgen Cymru via Rwdls Nwdls
Fel ma siwr da chi wedi sylwi dwi di bod yn ffidlan efo neud fideos yn ddiweddar. A ffidlan ydi o a gyd a dweud y gwir, ond mae’n grêt cael rhywle i’w darlledu, ac sy’n rhoi’r gallu i chi eu dangos ar unrhyw wefan arall yn rhad ac am ddim.
Mae llawer o bobol erill wedi cychwyn llwytho sdwff mlaen i YouTube gan ddilyn esiampl Mr Cope felly dwi wedi creu grwp ar gyfer aelodau Cymraeg YouTube - Sianel Amgen Cymru - er mwyn i bobol gael rhannu eu fideos eu hunain a thynnu sylw pobol at fideos Cymraeg eraill sydd ar YouTube.
Mae 24 fideo yno yn barod yn amrywio o fids cerddoriaeth i glipiau teledu i fideo flogia. Edrych mlaen yn arw i weld be arall gaiff ei bostio yno yn y dyfodol.
Felly bachwch gamera digidol, ac mae gan bron i bawb un erbyn hyn hyd yn oed os...
Y Gymraeg mewn delweddau via Rwdls Nwdls
Y Gymraeg = jcortese: Llond ceg o ruddemau...
Cystadleuaeth! Ble mae Dogfael? via Rwdls Nwdls
Pwy yw’r gwr bonheddig hwn, yn ei lifrai smart sy’n addurno un o adeiladau Aberystwyth medde chi?
Wel, wrth gwrs neb arall ond ein blog-gyfaill Dogfael! A cherflun teilwng yw hefyd i feistr flogiwr y rhithfro!
Ond, pwy all ddyfalu lle yn union mae cerflun Dogfael yn y dref?
Mae gwobr o baned a chacen yn y Caban i’r ennillydd (wir yr!)…rhowch eich cynigion yn y blwch sylwadau o.g.y.dd.
Hela hapus i chi!...