Mae Gordon Brown wedi lansio gwefan newydd i 10, Stryd Downing. Mae’n llawn o ddanteision gwe-2.0 yn y dull ffasiynol, a mae’n debyg fod nhw wedi cael ychydig o drafferth yn fuan ar ôl y lansiad.
Beth sy’n ddiddorol yw’r faith fod nhw wedi rhoi ‘BETA’ ar y wefan, sy’n golygu yffach o ddim byd mewn gwirionedd, heblaw falle nad ydyn nhw wedi profi e ddigon. Mi fyddai’n bosib dweud fod arweinyddiaeth Brown o’r llywodraeth yn dal mewn ‘beta’ neu ar brawf hefyd - mae nhw’n dal i ganfod gwallau yn y ‘rhaglen’.
Mae gwallau o’r fath mewn meddalwedd yn dangos diffyg cynllunio o flaen llaw, neu diffyg profiad o wneud y gwaith. Mi fyddai meddalwedd sydd wedi ei ddatblygu dros gyfnod o 11 mlynedd yn llawn o...
aisiwêls via daflog June 16th, 2008 at 12:05
Wel mae icWales wedi newid ei enw i Wales Online heddiw. Be fydda nhw ddim yn dweud wrtho chi yw mai dyna yr enw gwreiddiol! Yn 1997 roeddwn i’n gweithio ar y fersiwn gyntaf o ‘Cardiff Online’ sef y wefan brawf gyda’r bwriad o’i ddatblygu i fod yn borth genedlaethol.
Ar y pryd, roedd pawb (yn y cyfryngau masnachol) yn credu mai’r dyfodol oedd creu gwefannau lleol i bob tref, felly roedd pawb yn prynu cannoedd o barthau fel ‘cardiffonline.co.uk’, ’swanseaonline.co.uk’, ‘cwmsgwtonline.co.uk’ ac yn y blaen. Mae’r BBC wedi gallu parhau gyda’r strategaeth o wefannau lleol mewn rhyw ffordd, am nad oes unrhyw ystyriaeth fasnachol. Ond o ran gwerthu hysbysebion, roedd e’n syniad gwael - mae’n well cael...

Ers rhai wythnosau nawr dwi wedi bod yn defnyddio Zattoo sef gwasanaeth teledu byw ar y we. Maen wasanaeth rhad ac am ddim ac maen gwbl gyfreithiol. Yr unig anfantais yw fod ansawdd y darllediad ddim yn dod yn agos i ansawdd digidol neu deledu lloeren eto ond maen debyg nad oes gan y rhan fwyaf o bobl gysylltiad bandllydan ddigon sydyn i ddelio gyda ansawdd uwch ar hyn o bryd beth bynnag. Mae'r gwasanaeth hwn yn un arloesol oherwydd fod gyda mi bellach yn fy fflat fynediad i sianeli digidol fel BBC Three a News 24 er fod fy nheledu confensiynol wedi methu pigo fynny signal analog da heb son am ddigidol (er mod i'n byw hanner canllath, yn llythrennol, o un o brif ganolfannau darlledu BBC Cymru!).Ymysg y sianeli sydd ar Zattoo ar hyn o bryd mae BBC1,BBC2, BBC2 Wales (+London, Scotland...
Copa’r Wyddfa ar Mapiau Google. Mae e hyd yn oed yn well yn Google Earth wrth hedfan o gwmpas y tirwedd 3D.
Dangos map yn......

Fe ddylai’r teitl gyfeirio at y blaned Mawrth wrth gwrs, am fod angen gwahaniaethu rhwng dyddiau’r wythnos, misoedd a’r planedau. Dyw BBC Cymru ddim wedi deall hyn eto, sy’n golygu fod nhw’n dangos pethau gwirion fel:...
Newydd sylwi fod hafan BBC Cymru wedi newid a brand “BBC Cymru’r Byd” wedi diflannu. Mae’r hafan newydd yn efelychu arddull prif hafan y BBC ond heb y nodweddion gwe 2.0. Mae’n eitha glan a defnyddiol ar y cyfan.
Dau bwynt bach ieithyddol - lle mae’r ‘Dydd’ wedi mynd yn y dyddiadau - ‘Dydd Iau, Dydd Gwener ayyb’. Ac o’n i’n meddwl ein bod ni wedi cael gwared ar y gair ‘arbed’ (save) ers sbel a’i newid i rywbeth mwy synhwyrol fel......

Mae yna gwmni cyfieithu mawr o Leeds sydd wedi bod yn destun trafod yn ddiweddar am eu bod wedi ennill cytundeb mawr gan fwrdd arholi o Gymru. Dwi’n meddwl mai’r gwaith yw cyfieithu papurau arholiad (o’r Gymraeg i’r saesneg) mewn maes eitha arbennigol er mwyn eu marcio.
Dwi ddim yn rhan o’r byd cyfieithu proffesiynol felly does gen i ddim llawer o wybodaeth am y mater, ond mae’n debyg fod y cwmni wedi ennill y cytundeb yn erbyn cwmni o Gymru drwy rhoi’r amcanbris rhataf. Ar ôl ennill y cytundeb roedd rhaid iddyn nhw nawr ffermio’r gwaith allan i gyfieithwyr llawrydd, sy’n arferol ond am bris llai na’r arfer.
Beth bynnag, trafod eu gwefan oedd fy mwriad i. Os ydych chi’n ymweld a’r wefan gyda porwr Cymraeg (h.y. un...
Mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi lansio gwefan newydd ar gyfer denu ymwelwyr i’r ardal. Fel arfer gyda gwefannau o’r fath mae yna fersiwn Cymraeg a Saesneg ond ychydig yn llugoer yw’r ymdrech a wnaed ar y fersiwn Cymraeg.
Mae e’n gawlach rhyfedd o gyfieithiadau safonol, diffyg cyfieithu, placeholder text (cy), cyfieithiadau munud olaf drwy TranExp e.e. “Breaks” = “‘n anhydwf doriadau”, “Weather” = “dywydd” , “Competitions” = “chydymgeisiau” (beth?!) a hyd yn oed wenglish traddodiadol - “cycling” = “cyclio”.
Heblaw y cyfieithu, dyw dyluniad y wefan ddim yn gweithio’n gywir yn Firefox, fel mae’n amlwg o’r dudalen flaen (ydi e wir yn bosib fod cwmni...
Mae llawer o flogwyr yn gwneud defnydd mawr o'i blogiau i rannu doleni i'r gwefanau diddorol y maen nhw wedi bod yn syrffio yn ddiweddar. Felly dyma son am ddau wefan ddifyr dwi'n ymweld a hwy yn aml y dyddiau yma.Yn gyntaf, Blog "DOT.Life" y BBC sef blog gohebwyr technoleg y BBC, Rory Cellan-Jones a Darren Waters. Mae pobl sydd yn fy adnabod yn dda yn gwybod nad ydw i'n sterioteip o'r fath o berson sy'n ymddiddori â diwinyddiaeth a hanes yr Eglwys ac rwy yr un mor hoff o gadjects a thechnoleg fodern ac ydw i o gyfrolau Methodistiaid y Bedwaredd Ganrif a'r Bymtheg! Fel y bydde chi'n disgwyl gan ohebwyr technoleg maen nhw'n defnyddio'r dechnoleg ar-lein diweddaraf ar y blog megis darlledu byw drwy ddefnyddio video-phone yn y postiad yma.Yr ail wefan yw TV-Links, dim byd newydd meddech...
Dyma wefan FreeRice lle allwch chi wella/ehangu/gloywi eich geirfa sisneg a chyfrannu i raglen fwyd y Cenhedloedd Unedig ar yr un pryd. Be sy’ angen arna i yw fersiwn Cymraeg o hwn - gwneud ychydig o ddefnydd o’r holl waith wnaed ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrhaeddais i lefel 45 a 5000 gronyn o......
Dwi’n mwynhau gwylio y gyfres Your Channel ar Aitsh Ti Fi Cymru Wêls ITV1 Wales sy’n edrych nôl ar 50 mlynedd o ddarlledu annibynnol yng Nghymru. Roedd y sioe ddiwethaf yn edrych ar ‘oes aur’ y sianel yn yr 80au pan roedd digon o arian ar gael i’r darlledwr (neu o leia’ roedd e’n oes aur i mi, gan fy mod i’n blentyn ar y pryd).
Mae digon o glipiau difyr wedi ymddangos yn y rhaglenni yn cynnwys nifer o raglenni Cymraeg HTV. Os ydych chi eisiau gweld rhaglenni llawn o’r gorffennol mae nifer ohonyn nhw ar wefan ITV Lleol Cymru.
Yr un gorau o’n rhan i yw Miri Mawr! Synnwch wrth weld Geraint Jarman yn blaco lan mewn perfformiad hynod wleidyddol anghywir o ddyn indiaidd. Syfrdanwch gyda’r dechnoleg chwyldroadol chroma-key. Ac...
Voksenlia via daflog December 20th, 2007 at 13:39
Dyma fideo treiglad amser hyfryd o Voksenlia yn Norwy. Yn hytrach na defnyddio camera gwe cyffredin mae nhw’n defnyddio camera digidol i gymeryd lluniau ansawdd uchel bob 25 eiliad. Dyma’r wefan lle allwch chi weld y lluniau a’r fideo diweddaraf a pori drwy’r archif luniau nôl i 2003....
Dyma fapiau cartwnaidd o’r 19eg ganrif yn portreadu gwledydd fel personoliaethau ystrydebol - Cymru fel ‘Owen......
Mae’r Cymry yn hoff iawn o siarad, o bwyllgora, ac o beidio mentro gyda unrhywbeth heblaw fod rhyw grant ar gael. Dyma saga trist Y Byd:
Tachwedd 2001 - Ymchwil ar sefydlu papur dyddiol Cymraeg
Ebrill 2002 - Papur dyddiol Cymraeg yn bosibilrwydd
Rhagfyr 2002 - Sefydlu Dyddiol Cyf i ddechrau codi arian
Ionawr 2004 - Papur dyddiol ‘mewn blwyddyn
Medi 2004 - Amheuon am bapur newydd Cymraeg
Tachwedd 2005 - Dim golwg eto o’r Byd
Mehefin 2006 - Swyddi: Y Byd yn ei le?
Tachwedd 2006 - Enwi golygydd y Byd
Ionawr 2007 - Papur dyddiol gam yn nes
Ebrill 2007 - Y Byd yn closio at gymuned
Mehefin 2007 - Y Byd yn closio at ddiwrnod mawr
Tachwedd 2007 - Papur dyddiol: ‘Methu dedlein’
Mae’n amlwg iawn mai academydd sydd wedi bod yn gwthio cynllun Y Byd, a nid...
Dwi newydd greu tudalen ar gyfer gwe-gamera sy’n edrych allan ar ganolfan ddinesig Caerdydd. Mae’r olwyn fawr yn rhan o atyniadau Gŵyl y Gaeaf yng Nghaerdydd fydd yn agor fory. Mae’r llun yn adnewyddu bob munud yn otomatig, ond mi fydd yr olygfa yn well ar ôl 7 o’r gloch pan fydd goleuadau’r swyddfa yn mynd allan.
Gwyliwch......
Yn ôl Wedi 7, mae merch o Gymru wedi cyrraedd 48 olaf cystadleuaeth arlunio Google i blant ysgol. Mae’n werth nodi fod ennillwyr yn cael eu dewis ymhob rhanbarth felly mae plentyn o Gymru ym mhob categori oedran. Fe allwch chi bleidleisio hefyd dros Gwyn Owen o fy hen ysgol sydd wedi ennill rhanbarth Cymru yn yr oedran 11-14......
Mae’r dyn wnaeth rhoi fy swydd cynta i fi wedi cychwyn gwefan newydd. Dwi’n siwr fod y syniad wedi bod yn ei ben ers y 90au ond dim ond nawr mae wedi mynd ati o ddifri (fe gofrestrwyd y parth ynghyd a nifer eraill tebyg yn 1999). Fel mae’n digwydd gwrddes i cyn gyd-weithiwr ar y trên wythnos dwetha’ a’i gwmni e sydd wedi gwneud y gwaith technegol.
Mae walescymru.com yn cynnig rhestrau o fusnesau, bwytai, llefydd i aros yng Nghymru ac yn y blaen. Does dim byd newydd yn hynny a mae nifer o wefannau yn gwneud yr un peth yn barod. Drwy’r llwch hud ‘gwe 2.0′ wrth gwrs mae’n bosib ail-ddyfeisio y math yma o wefan drwy gael y defnyddwyr i greu’r cynnwys, graddio a gwneud sylwadau. Mae dyluniad y wefan yn cyfateb a be mae rhywun yn...
Dwi wedi bod yn cymryd rhan yng nghyfnod prawf Archif y BBC, lle mae’n bosib gwylio rhaglenni o archif helaeth y BBC. Cyfyng iawn yw’r dewis sydd ar gael, nid yn unig oherwydd y gwaith o drosglwyddo’r rhaglenni i fformat ddigidol ond oherwydd y broblem o glirio hawliau. Mae fwy o bwyslais ar rhaglenni dogfen a newyddion oherwydd hynny ond mae esiamplau o bob math o raglenni teledu a radio o’r 1930au hyd heddiw.
Mae’r rhaglenni teledu yn ymddangos mewn sgwâr maint 320×240 picsel (fel Youtube) felly er fod hi’n ffordd ddifyr o gael cipolwg ar hen rhaglenni, nid yw mor addas ar gyfer profiad gwylio ‘trymach’ fel dramau. Nid dyna bwriad yr archif wrth gwrs ond mae’n debyg y bydd yr archif yn ddefnyddiol i fesur ac ymchwilio i pa...
Gwrandewch ar synau byd natur o amgylch y byd drwy wefan Wild Sanctuary (mae’n bosib cael ffeil KML er mwyn gweld y lleoliadau yn Google Earth/Maps).
Tra mod i ar y pwnc, pam fod lluniau lloeren (mewn gwirionedd, lluniau o awyren) Google mor wael ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru? Mae lluniau ansawdd uchel nawr ar gael ar draws Lloegr i gyd, ond dim ond mewn rhai ardaloedd poblog o Gymru, Alban a’r Iwerddon. Mae Google wedi dewis prynu’r lluniau o wahanol ffynhonnellau i greu clytwaith o luniau ond dwi’n gwybod fod nifer o gwmnïau masnachol wedi creu llyfrgell ‘lluniau o’r awyr’ ar gyfer gwledydd Prydain i......
…mae e mor gyffrous. Ydych chi wedi gweld yr hysbyseb reit greadigol gan Volkswagen sy’n defnyddio llais Richard Burton yn darllen pwt allan o Under Milk Wood? Mae yna wefan slic iawn hefyd, lle mae’n bosib chwilio am neu greu ‘deithiau’r nôs’ eich......
Porthddwl via daflog August 31st, 2007 at 13:17
Dwi’n eitha hoffi gwefan gymunedol ‘gwe 2.0′ Heddlu Gogledd Cymru. Mae’n edrych fel fod prif swyddogion a heddweision cymunedol yn cyfrannu i’r wefan. Yn anffodus felly, does dim cynnwys Cymraeg i’w weld yno, ddim hyd yn oed ar flog y prif gopyn (oedd ar gael yn Gymraeg yn wreiddiol dwi’n siwr).
O edrych ar yr ychydig o Gymraeg sydd ar y wefan, y gair wnaeth daro fi oedd ‘Porthol’. Pwy ddiawl sydd wedi cyfieithu hwn ‘te? Porth yw’r cyfieithiad arferol o ‘portal’, ond mae’n edrych fel petai rhywun wedi edrych yn ei Briws, gweld ‘porthol’, ac anwybyddu’r Anat sy’n golygu ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y maes......

Mae lansiad yr ymgyrch ‘Chwarae Dysgu Tyfu’ gan y Cynulliad yn enghraifft dda o sut i beidio trefnu ymgyrch aml-gyfrwng. Ni fydde’r hysbysebion teledu cawslyd ddim yn rhy ddrwg heblaw’r ffaith fod y fersiwn Cymraeg yn edrych fel petai e wedi cael ei ddybio’n wael.
Dyddie ‘ma, y cyfeiriad gwe yw’r peth pwysica mewn hysbyseb o’r fath, a mae nhw wedi dewis dangos chwaraedysgutyfucymru.gov.uk - sydd ddim yn bodoli, er y galle weithio. Mae angen y www ar y blaen i fod yn gywir. Hyd yn oed wedyn mae’r cyfeiriad yn anodd i’w gofio - wnes i gymryd tri cais cyn cael yr un iawn (a roedd hynny gyda’r fantais o allu edrych lan y cyfeiriad yn y DNS). Beth sydd yn bod gyda cymru.gov.uk/chwaraedysgutyfu ? Neu cymru.gov.uk/chdt ?...
Dychmygwch hyn. Rydych chi’n un o gynghorau lleol Cymru rhywbryd yn 2001, ac yn meddwl am sut i ddatblygu eich gwasanaethau ar lein. Mae gennych wefan syml yn barod ond mae’n amser apwyntio arbennigwyr allanol i ddatblygu un newydd sbon. Mae’r wefan yn cael ei gynllunio fel gwasanaeth dwyieithog, fel y dylai fod yn ôl deddf gwlad.
Rydych chi’n treulio blwyddyn yn datblygu a pharatoi’r cynnwys, cyn lansio’r wefan yn gynnar yn 2002, er nad yw’r cynnwys Cymraeg ddim ar gael eto. Dim problem - cuddiwch y botwm Cymraeg a fe fydd pawb yn hapus. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r safle Cymraeg yn lansio o’r diwedd.
Yn 2003, rydych chi eisiau datblygu ‘gwefan gymunedol’ am mai dyma ffasiwn y cyfnod (a mae yna grant bach handi o...

O dan y ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mae’n bosib gofyn am ddogfennau gael ei ryddhau gan yr Archifau Genedlaethol. Dyma ddarn bach diddorol o gofnodion cabinet (Ceidwadol) ym mis Chwefror 1953 o dan Churchill.
Mae’r cofnod yn trafod cynnig i ychwanegu at arfbais swyddogol Cymru, oedd wedi ei ddefnyddio ers 150 mlynedd. Mae barn Churchill (nid ffrind gorau Cymru) yn amlwg - “Odious design expressing nothing but spite, malice, ill-will and monstrosity.”. Cofnodir sylw gan Ll.G. (ie Lloyd George yw hwn, ond Gwilym Lloyd George, mab y cyn brif-weinidog, oedd wedi gadael y blaid Ryddfrydol a symud tuag at y blaid Geidwadol), lle mae’n nodi, yn deg - “We get no recognition in Union - badge or flags“.
Dyw’r cofnodion ddim yn hynod o fanwl ond fis yn...
Wyddoch chi mai Abertawe yw dinas wlypaf Prydain? (Oeddwn). Neu mai yng Nghymru y lladdwyd y blaidd olaf, yng Nghregina (Nag oeddwn, diolch am y ffaith hynod o ddiddorol hwn).
Mae hyn i gyd a llawer mwy yn y gyfrol Gwyddoniadur Cymru sy’n cael ei gyhoeddi mewn rhai misoedd. Nawr mae’n bosib archebu eich copi o flaen llaw ar wefan......
Mae Apple wedi cyhoeddi fod porwr gwe Safari nawr ar gael i systemau Windows. Wnes i rhoi cynnig arno neithiwr ar beiriant Windows weddol newydd, pwerus. Dwi ddim yn gwybod lle mae Apple wedi cael ei ffigyrau o, ond roedd Safari yn hynod o araf yn fy mhrofiad i. Roedd e fel petai’n llwytho popeth ar y dudalen cyn ei ddangos, oedd yn cymryd 5-10 eiliad.
Yn sicr roedd e llawer arafach na Firefox neu Internet Explorer ar yr un peiriant. Er fod IE ychydig cyflymach ar y cyfrifiadur, mae’n well gen i ddefnyddio Firefox sydd yn ddigon cyflym ac yn llawn nodweddion defnyddiol. O ran nodweddion, wnes i ddim gweld dim byd hynod o ddefnyddiol yn Safari i gymharu a Firefox.
Dwi’n dueddol o agor llawer o dabiau ar yr un pryd, sy’n bwyta cof. Dyma lle mae Firefox yn well yn fy...
Ydych chi erioed wedi meddwl am be mae’r pobl busnes na’n gwneud yn eu ciniawau (neu brecwastau) ‘rhwydweithio’?
Mae aelodau clwb ‘Working Lunch Wales’ wedi bod yn dysgu gwneud ychydig o hud a lledrith. Wele un o’r triciau sy’n cael ei berfformio gan ddau dyn busnes - tra bod un yn eistedd yn yr awyr gyda dim ond un goes ar y llawr, mae’r llall yn balansio ar ei gefn! Mae llun y pâr dawnus ar y dudalen yma (sgroliwch i lawr)....
Tra’n edrych am faner Catalonia bore ‘ma, fe wnaeth cyd-weithwyr ddod ar draws gwefan sy’n rhoi gwybodaeth am ardal Gogledd Catalonia, sy’n rhan o Ffrainc yn wleidyddol ond yn ieithyddol yn rhan o wledydd y Catalan.
Roedd y wefan yn edrych yn hynod o gyfarwydd i mi. Yn wir mae’r wefan yn gopi neu ddynwarediad o wefan wnes i weithio arno am flynyddoedd, sef hen wefan y Bwrdd Croeso. Mae nhw wedi newid graffeg y pennawdau gyda union yr un arddull a chadw’r dylunio yr un fath heblaw am y cynnwys a’r lluniau wrth gwrs.
Fe ddiflannodd y fersiwn yna o wefan y Bwrdd Croeso (nawr yn Croeso Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru) yng nghanol 2002, felly mae’n rhaid fod y dynwarediad Catalanaidd tua 5 mlwydd oed....
Cwpl o flynyddoedd yn ôl fe wnaeth y gwerthwyr tai Peter Alan ail-lansio ei gwefan. Alla’i ddim hawlio mod i wedi gweithio ar hwn rhyw lawer ond dwi’n gyfrifol am reoli ei gweinydd, sydd yn brysur tu hwnt. Mae 80% o’r traffig yn dod o’r canghennau ei hunan ond mae canran sylweddol yn dod o feddalwedd awtomatig neu ‘bots’ sy’n crafu’r wybodaeth er mwyn ei gynnwys mewn gwefannau arall.
Mae hyn yn ffordd amheus o gael ffynhonnell wybodaeth am ddim ond mae’n cael ei oddef am ei fod yn gallu gyrru traffig i’r wefan wreiddiol. Peth arall yw dwyn dyluniad gwefan yn gyfan, fel mae’r cwmni yma o Gaerdydd wedi wneud. Mae’n ddiddorol nodi fod graffeg botymau’r fwydlen wedi ei ddwyn o rywle arall, sef Fasthosts....
Fe wnaeth yr erthygl yma ddal fy sylw. Yn anffodus mae’r erthyglau yma yn cael ei cyflenwi i’r wefan gan Adfero, sydd yn eu tro yn golygu a chymysgu storïau o nifer o ffynonellau. Felly mae’n anodd dod o hyd i ffynhonnell wreiddiol y dyfyniadau. Dyma y brif ffynhonnell, stori ym mhapur newydd Prifysgol Abertawe.
Ta beth, mae’r eitem yn crybwyll fod 80,000 o bobl yng Nghymru sy’n ddall neu rhannol ddall a felly fod hi’n bwysig meddwl am adeiladu gwefannau sy’n hygyrch i’r dall. 80 mil, mae hynny’n lot ondywe! Wel, dim ond 2% o boblogaeth Cymru. Dychmygwch petai rhywun yn gwneud datganiad fel:
[Wales] has some 500,000 fluent or semi-fluent Welsh speakers, so designing websites with Welsh-language content is “well worth...