Welsh Blogs.com


Mwynhau gwleidydda via Blog Dogfael April 3rd, 2008 at 20:32

Dwi wedi newid fy meddwl am wleidyddiaeth. Yn lle troi fy nghefn ar y cyfan dwi’n dwlu ar wleidyddiaeth bellach. Pam? Am fy mod i newydd gwrdd â rhywun sy’n siarad Iseldireg a gafodd ei magu yn Fflandrys ac sy’n un o ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer Cyngor Tref Aberystwyth – cydymgeisydd gyda fi. Roeddwn i’n cwrdd gyda hi heno er mwyn tynnu ei llun ar gyfer y daflen a dyma fi’n dechrau ei holi am ei chefndir er mwyn ysgrifennu rhyw bwt bach amdani a’r hyn a ddysgais oedd ei bod hi wedi bod yn byw yn Westerlo, swydd Antwerpen yn Fflandrys o’r amser pan oedd hi’n ddwy a hanner hyd nes ei bod yn ddeng mlwydd oed. Roedd hi wedi dychwelyd i Fflandrys wedyn am gyfnod i weithio yn Gent ac wedi bod yn astudio hefyd ym mhrifysgol Leiden (yr...

Na i globaleiddio yn Aberystwyth! via Blog Dogfael February 18th, 2008 at 21:27

image Wel heddiw fe fues i mewn piced a phrotest tu fas i gaffi Costa Coffee yn Aberystwyth yn brwydro yn erbyn cyfalafiaeth ryngwladol a globaleiddio. Agorodd siop goffi Costa Coffee yn Stryd Fawr Aberystwyth heddiw. Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi trefnu piced trwy’r tu fas i’r siop a phrotest gyda siaradwyr amser cinio. Es i ar gyfer y brotest. Mae tri pheth yn benodol yn fy nghythruddo am y siop – dim arwyddion Cymraeg, dim cynnyrch lleol, a dim caniatâd cynllunio. Yr olaf sydd wedi cythruddo caffis bach annibynnol y dref. Does gan Costa ddim caniatâd i agor caffi, dim ond siop cymryd i ffwrdd. Ond dydyn nhw’n poeni dim am hynny gan fod ganddyn nhw’r adnoddau i ymladd unrhyw benderfyniad gan adran gynllunio’r Cyngor Sir yn eu herbyn. Felly wrth i...

Thomas Cook eto via Blog Dogfael June 13th, 2007 at 00:35

image Mae’r ymgyrch i gael cwmni Thomas Cook i newid eu polisi iaith yn dal i fynd yn ei blaen. Ddydd Gwener nesaf, 15 Mehefin 2007, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio tu fas i siop y cwmni ym Mangor. Os nad wyt ti’n siwr ble mae’r siop dylai’r map hwn fod o help. Dyma beth mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei ddweud. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gonsesiynau diweddaraf Thomas Cook trwy gyhoeddi ei bod am fwrw mlaen gyda’r brotest am 1pm Ddydd Gwener tu allan i siop y cwmni teithio ym Mangor. Dywed Is-gadeirydd Cyfathrebu’r Gymdeithas, Hedd Gwynfor: “Dyw Cymdeithas yr Iaith ddim yn gweld gwerth yn natganiad sarhaus Thomas Cook na byddant yn cosbi gweithwyr am siarad Cymraeg er eu bod yn dal i ofyn iddynt beidio a defnyddio’r...

DimeGoch.com - prynu Cymru yn ôl via Gwenu dan Fysiau June 12th, 2007 at 21:04

Wedi dod ar draws wefan dimegoch.com heddiw. Dwi'n meddwl mai cyd-ddigwyddiad yw hi bod yn cyd-fynd â'r newyddion am gwmni Thomas Cook yn gwahardd eu staff rhag siarad Cymraeg â'u gilydd.Dro ar ôl tro pan mae sôn am gyflwyno deddfau i sirchau hawliau Cymru Cymraeg i unrhyw fath o wasanaeth Cymraeg yng nghymru, ma'r gwrthwynebwyr yn dweud byddai cwmniau'n defnyddio'r Gymraeg yn wirfoddol petai pobl wir yn dymuno gwasanaeth Cymraeg. Mae gronyn o wirionedd yn hyn dwi'n cyfaddef, ond yn y pendraw, gyda nifer gynyddol llai o gwmniau'n cornelu sawl sector, mae'n gallu ni i ddewis a dethol yn mynd yn llai. Tydi hi chwaith ddim yn rhesymol disgwyl i unigolyn fynu gwasanaeth Cymraeg ar bod ymweliad â siop gwahanol - byddai'r daith siopa'n bofiad digon amhleserus. Hefyd, mae'n anodd fel...

Rhai sylwadau pellach ar brotest ‘Dim israddio Bronglais’ via Blog Dogfael July 8th, 2006 at 20:30

image Fe dynnais i nifer o fideos byr o brotest yn y castell ac yn cerdded i lawr y Stryd Fawr yn Aberystwyth. Ar y blaen roedd grŵp Samba yn cadw reiat ac yn bywiogi’r holl. Roedd hi’n ddiddorol iawn sylwi ar y manŵfrio gwleidyddol oedd yn digwydd yno. Roedd y Dem Rhyddiaid a Phlaid Cymru yn ceisio bod yn fwy anwleidyddol na’i gilydd ac ar yr un pryd yn bod yn wleidyddol iawn. Un peth sylwais i arno oedd yn ddiddorol, ond dwi ddim yn credu ei fod i’w weld ar y fideo, oedd y modd yr oedd ymgeisydd cynulliad y Dem Rhyddiaid, sy’n siarad Cymraeg, yn cysgodi yr aelod seneddol Dem Rhydd nad yw’n medru siarad Cymraeg, yn agos iawn. Nawr efallai bod esboniad cwbwl ddiniwed dros yr agosatrwydd hyn, ond i’m tyb roedd yn edrych ychydig yn rhy debyg i...

Protest ‘Dim israddio Bronglais’, Aberystwyth via Blog Dogfael July 8th, 2006 at 12:27

image Y bore ‘ma bues i mewn protest wedi’i threfnu gan ABer, grŵp sy’n ymgyrchu i gadw gwasanaethau hanfodol yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Mae ymgynghoriad ar droes a allai olygu israddio’r gwasanaethau yn yr ysbyty a gofyn i gleifion deithio i Gaerfyrddin neu’n bellach. Mae hyn yn effeithio gogledd Ceredigion, de Gwynedd a rhannau o ogledd Powys yn arbennig. Heddiw roedd rali a gorymdaith o’r castell hyd at Ysbyty Bronglais. Yn y castell roedd Elin Jones, AC yn siarad a’r aelod seneddol. Roedd yr orymdaith wedyn i fyny Heol y Wig, i lawr y Stryd Fawr ac i fyny Penglais hyd at fynedfa’r ysbyty lle roedd pobol eraill i fod i siarad. Rhaid imi gyfaddef na wnes i orymdeithio yr holl ffordd i’r ysbyty er mwyn dod ‘nôl at y...