Mae'n rhaid gen i bod Derwydd y Goban Las o Ynys Mon wedi torri rhyw fath o record wrth ymateb i fy meirniadaeth ohono. Dyma'r ymateb hiraf i mi erioed ei chael. Gellir gweld y feirniadaeth honno yma. Cyn mynd ymlaen mae'n debyg y dyliwn gynnig canmoliaeth lle mae'n ganmoliaeth yna'n haeddianol. Mae ei ymateb yn berthnasol i'r pwyntiau yr oeddwn i'n eu gwneud ac yn hollol rhydd o'r sterics, y myllio, y tantro a'r sylwadau personol sy'n nodweddu ymatebion ambell un sy'n derbyn berirniadaeth wleidyddol ar y blog hwn. Yr unig gwyn sydd gen i ydi pan mae'n dweud ar ddiwedd ei lith fy mod yn darogan clymblaid SNP / Plaid Cymru / Llafur. Mae'n amlwg o fy ngeiriad mai dweud ei fod yn un posibilrwydd oeddwn i. Serch hynny at ei gilydd mae'n ymateb aeddfed, a dyna pam 'dwi'n ymateb iddi gyda pheth...
Mi fydd y rhan fwyaf o bobl sy'n dilyn blogiau gwleidyddol Cymreig yn ymwybodol o ychwanegiad cymharol ddiweddar i'r teulu dedwydd - blog y Druid.Mae'r Derwydd yn rhyw gymryd arno ei fod yn ymladdwr annibynnol tros Ynys Mon, ond dydi o ddim yn cymryd rhyw lawer o ddarllen i weld mai blog sy'n cefnogi'r Blaid Geidwadol yw mewn gwirionedd. Ceir cymysgedd o ymysodiadau ar Blaid Cymru a'r Blaid Lafur tra'n gor fynegi cyfle'r Blaid Geidwadol mewn etholaeth sy'n eithaf anobeithiol iddynt. Mae'r ymysodiadau ar Lafur a'r Blaid yn amrywio o'r rhesymol i'r hysteraidd. Mae yna ambell i ymysodiad ar y Lib Dems hefyd. Ymddengys bod y ffaith bod ei hymgeisydd yn dod o Lanelwy a'i fod wedi gweithio mewn bar yn y gorffennol yn broblem sylweddol.Nodwedd arall o'r blog ydi'r defnydd o gobyligwc...

Croeso'n ol i Vaughan wedi ei absenoldeb maith, a diolch iddo am dynnu ein sylw at y ffaith bod y Toriaid wedi dewis ymgeisydd seneddol ar gyfer Ynys Mon -Anthony Ridge Newman.Os oes gennych ddiddordeb gallwch ddarllen yr hyn sydd ganddo i ddweud amdano'i hun yma.Mae'n amlwg bod Toriaid Ynys Mon efo cysylltiad agos efo llawr gwlad yr etholaeth. Horses for courses ydi'r term Saesneg 'dwi'n meddwl. Bydd yn ychwanegiad pwysig i'r math o ddelwedd mae'r Blaid Doriaidd Gymreig angen ei...
Er i Taro'r Post ar Radio Cymru amser cinio roi tegwch i ddwy ochr y ddadl am ddatblygu academi i beilotiaid "gwerth canoedd o filiynau o bynoedd" yn Y Fali, Môn mae'r stori fel ag y mae ar wefan y BBC ac hefyd ar y penawdau newyddion yn dangos bias llwyr tuag at Filwriaeth Prydain.Ar un golwg, ac un golwg yn unig y mae'r buddsoddiad yma yn newyddion da. Gwnaiff fe wnaiff ddod a swyddi ond nunelle yn yr adroddiad ar wefan y BBC y mae'r gohebydd yn gwneud ymdrech i esbonio mae dod a swyddi ynghlym a pheiriant rhyfel Prydain y mae'r datblygiad yma. Ydy'r BBC yn awgrymu bod pob swydd yn swydd dda de facto? Fel y dywedodd Guto Prys ap Gwynfor yn graff unwaith: mae Puteindra a'r diwydiant rhyw yn dod a gwaith i ardaloedd ond dydy hynny ddim yn golygu fod y gwaith a'r diwydiant yn iachusol ac...
Os ydych chi am fynd allan i gerdded haf yma ond ddim ffansi colli chwys ar lethrau Eryri beth am groesi'r bont i Fôn? Ffeindiodd Menna a fi lwybr bach quaint iawn yn dilyn yr arfordir yn ardal Molfre - difyr hefyd oedd tarro ar draws hen gapel o'r 12fed Ganrif, ar ddiwrnod brafiach braf fyddai wedi bola heulo ar draeth lligwy hefyd!...