Welsh Blogs.com


Diwrnod 1 - Ysbrydoliaeth via Wierdo March 30th, 2007 at 09:52

Edrych am yn ôl ar y gwch. Mae ‘na ambell i olygfa sy’n fy ysbrydoli i fwy na rai eraill. Mae hyn yn beth amlwg iawn i’w ddweud mae’n siwr. Mae sefyll ar gefn cwch yn edrych ar yr “wake” yn diflannu dros y gorwel yn un ohonyn nhw. Dyna lle’r oeddwn i’n sefyll ddoe ar y gwch i Ffrainc. Mi oedd yn hyfryd. Y gwynt yn chwipio o’ng nghwmpas a’r salwch môr yn cael ei adael ar ôl jesd tu allan i Dover. Mae gin i barch newydd at gapteiniaid Fferis. Doeddwn i erioed wedi sylwi o’r blaen pa mor brysur oedd y sianel rhang Prydain a Ffrainc. Ar un adeg, mi oedden ni’n gallu gweld 7 llong arall a hynny gyda’r gorwel yn agosach nag arfer oherwydd fod na ddipyn bach o niwl. Pob parch i’r Capten am “hwylio” drwy’r mor prysur gyda cannoedd o bobl o dan ei...

Teulu via Wierdo May 7th, 2007 at 15:39

Priodas Taid a Nain: Y ganfed briodas yn Eglwys Corris, 4ydd Ebrill 1950 Dwi, fel amryw o bobl erill yn falch iawn o fy nheulu. Dwi wedi bod erioed. Dwi'n cofio pan oeddwn i'n fach, mi oni am farddoni fel taid a mi onin cal cryn lwyddiant (yn fy marn bach bersonnol i) tan oeddwn i'n rhyw 12 oed. Wedyn mi ath y ddawn i rywle er fod yr awydd i sgwennu dal yn bodoli yn fy mlogiau ac fy nghaneuon. Yn wir, taid sydd wedi ysbrydoli'r blog yma gan mod i newydd orffen darllen ei nofel: Marged.Mae wedi cymryd sawl mis i mi ei orffen, fel yr oeddwn yn disgwyl o edrych ar maint y nofel! Dwi ddim yn un am ddarllen nofelau cymareg gan eu bod yn dueddol o fod yn drwm. Ond nid felly mo'r nofel yma. Mi lwyddish i ddarllen hanner y nofel mewn un penwythnos yn Lerpwl. Dim ond diogrwydd a diffyg awydd...