Welsh Blogs.com


Llên micro: I can only sing short phrases via Arth sy'n Dawnsio October 20th, 2008 at 20:01

"Beth fasai'r ymateb taswn i'n dweud mod i'n dy garu di o hyd?" Mae hi'n edrych arna' i gyda'i hen lygaid glas pefriog. Wel, nid hen ydyn nhw, chi'n deall. Maen nhw'n ifanc a hardd a swynol; trywanan nhw fy enaid fel y bydden nhw gynifer o flynyddoedd yn ôl. A dyna beth dwi'n meddwl gan ddweud "hen" -- yr amser rhyngom ni. Efallai taw "tragwyddol" yw gair gwell. O'n cwmpas mae yna'r clînc a clênc y tŷ bwyta. Lleisiau a cherddoriaeth oedolyn-cyfoes yn yr awyr. Ond dim ond hi sy'n bodoli yn yr oren a chynnes. "Be'?" medda hi. "Wel, taswn i'n dweud mod i'n dy garu di hyd yn hyn, beth faset ti'n dweud?" Ochenaid hir wrth fodio ei sgarff gwlân ffasiynol. Ei llais Glenfiddich yn canu'n feddal wrth feddwl. Yna mae'n codi ei hen ael dywyll. Ei hael dragwyddol? Na, swnia 'na yn rong. Yr ael a...

Llên micro: Sara Michelle Scores Another Emotional Victory via Arth sy'n Dawnsio October 18th, 2008 at 13:04

Coda fe bore 'fory a bwyteir yr un brecwast a fwyteir pob dydd ers blynyddoedd yn ôl. Tost, te, marmalêd. Brecwast o bencampwyr. Brecwast o freuddwydwyr. Yn y ddinas oer o lenorion a Phabyddion prynai ei de annwyl gan y Gwyddelod ffug ac honnai wrtho ei hunan taw dilys oedd ef. Neu, byddai. Eisteddai wrth ei fwrdd cegin yn gwrando ar yr offeiriaid yn canu; gwyliai'r eira'n disgyn yn feddal; chwarddai; dawnsiai; a rhywsut llwyddai i ddarbwyllo ei hunan taw gwell nag yna byddai yma. Meithrinai’r freuddwyd, y ddelfryd. Daw'r trên i'w gludo lawr i'r hen ddinas. Rhugla'r gwresogydd wrth ei draed a deimla heddwch a thristwch. Neu, heddwch â thristwch. Daw'r cyfarch cynnes, y gwenau gwyn, y llygaid gloywon. Ac ymatebir hyn ganddo â gwên nerfus, mwmian, a llygadrythu ar y llawr. Gwinga fe...

Llên micro: Gŵyr Jen Fy Nghyfrinachau via Arth sy'n Dawnsio October 19th, 2008 at 13:11

Fe'm gwneir yn gyfan gan fy...

Wispa via Arth sy'n Dawnsio October 16th, 2008 at 09:38

image Darn sbwriel rhodda imi.Hi â'r llygaid brown,Â'r llais eira TachweddPan ddeuai wyn meddalI'm cadw a'm bedyddio.Hongiai danau yn yr awyr,A brifai fy mreichiau amdaniHeb ei nabod.A allai fodIddi hi wylai fy enaid?"Maybe I'd be outsideAs you passed on your bike;Would I know?"*Darn glas a choch ac aur ac arianI mewn poced â thrachwantA llawenydd.Jacob a'i fendith a ladratwyd.John Henry a alwyd duw.Deallent y gorfoleddA deimlaf wrth gerdded Bute.Trysoraf y darn bach bregus;Fy nghalon yn dyrnuWrth ddal y wobr mewn llaw."I do love youJust not...""Yes, I know."Brifa fy mreichiau amdani.Petai gennyf ymerodraethauByddwn yn eu chwaluAr ei chyfer.Hi â'r llygaid brown.Fi â'r enaid llawn.-----*Daw'r tair llinell hyn o'r gân "The Luckiest" gan Ben Folds...

Llên ficro: 20 Ionawr 2009 via Arth sy'n Dawnsio October 15th, 2008 at 17:54

"I, Sarah Louise Heath Palin, do solemnly swear that I will support and defend the Constitution of the United States against all enemies...""Chris, wyt ti'n clywed arogl llosgi?""Ie, dim ond fy mhasport yw...

Llên micro: North Dakota 1997 via Arth sy'n Dawnsio October 14th, 2008 at 22:14

Lledodd y llifogydd dros y strydoedd, i mewn tai, ar draws caeau a thros freuddwydion. Daeth y tanau a llosgwyd y ddinas i ddim. Llyncwyd popeth gan Afon Goch. Daeth miloedd o bobl yr ardal i ymladd yn ei herbyn gyda rhawiau a thywod a chwys a gweddïau. Yn ofer.Daeth ddŵr y gwanwyn i'n llonni. Canodd Mam a Vanessa a fi tra cafodd yr ystafell fyw ei llenwi â thonnau, a dawnsiodd belydr ein tortshys yn y noson ddi-bŵer. Yn y bore, cawsom ni bicnic ar y to. A daeth Mr. Betrand yn ei gwch swnllyd, olewog ei arogl, i'n cario i'r tryciau gwyn mawr lle cawsom ni ddonuts a phwnsh i gyd. Bu yna ddyn heddlu a rodd tedi bêr i Vanessa, a ches i gyfle swnio'r seiren ei gar.Daeth y plismon â fi a'm chwaer a Mam i'r brifysgol, lle bu yna bebyll gwyn a phobl yn tyrru ym mhobman. Yn y gymnasiwm bu...

Y felan via Arth sy'n Dawnsio June 18th, 2007 at 22:54

Dechreuais waith ar fy llyfr heddiw, o'r diwedd. Bydd y llyfr hwn yn y Gymraeg, ac na fydd unrhyw un yn ei ddarllen, ond published books are for sell-outs, man. Hwn yw'r llyfr y siaradais amdano ar ddydd Iau, am fy mhrofiadau Cymreig. Rwyf yn gweithio ar fraslun ohono ar hyn o bryd, felly nad oes unrhyw beth diddorol i fi dweud amdano eto.Rwyf wedi bod yn teimlo hiraeth cryf y dyddiau hyn am fy ffrindiau a phethau yn ôl yn yr UDA. Yn enwedig rwyf yn colli fy mrawd ifanc, Jon. Efallai rwyf wedi siarad o'r blaen am sut gweithiodd fy rhieni oriau hir pan roedd Jon a fi'n ifanc, felly roedd gorfod arnaf i'w fagu. Oherwydd hyn, roedd perthynas rhyngom ni'n dau'n ddirdynedig weithiau. Roeddem ninnau'n dechrau bod yn agos iawn tros y blynyddoedd diwethaf ac wedyn symudais yma. Roeddwn yn...

Bwriadau mawreddog via Arth sy'n Dawnsio June 14th, 2007 at 22:52

Rwyf wedi bod yn treulio'r wythnos hon yn gwastraffu fy amser a bod yn feudwy. Efallai bu angen arnaf actio fel hyn, er mwyn cael fy ngwynt ataf, ond rwyf yn dechrau (neu "cychwyn?" Pob tro anghofiaf pa un i'w ddefnyddio) teimlo'n aflonydd ac rwyf eisiau dechrau ar y prosiectau haf fy mod wedi gosod i fy hunan.Yfory dechreuaf weithio ar lyfr am fy mhrofiadau dysgu Cymraeg. Mae rhai pobl wedi awgrymu i fi gwneud rhywbeth fel hyn, ac rwyf wedi bod yn meddwl amdani ers blwyddyn o leiaf. Pan gefais gyfle siarad yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, gwneuthum fraslun ar gyfer araith a dechreuais feddwl am ei ddatblygu i lyfr. Ysgrifennir yn y Gymraeg.Os oes gennyf amser, rwyf eisiau gorffen nofel Saesneg y dechreuais arno'r llynedd. Nofel wahanol yw hon o'r nofel di-gyhoeddwyd a ysgrifennais yn...

Flickr Fiction: Lawr y Mynydd via Arth sy'n Dawnsio March 4th, 2007 at 11:41

Rhedodd. Rhedodd ef mor gyflym ag gallai at y min ac esgynnodd i'r awyr. Ymestynnodd ei breichiau fel bu'n hedfan ac edrychodd allan tros y byd gwyn. Prin gallai gweld tros y pinwydd gwyrdd ac allan i'r helaethrwydd Gogledd Nevada.Edrychodd i lawr tuag at y llinell ddu fach sydd oedd yn torri trwy'r gwyn a gwelodd ef y bws. Gwelodd ef casgliad bach o bobl yn sefyll tu allan -- y merched. Buasent yn rhy oer i dreulio gormod o eu hamser yn yr eira ar ben mynydd. Heblaw am y ffaith na fuasai ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn piso yn erbyn coed fel y bechgyn.Byddai hi lawr yno. Ceisiodd ef i'w gweld hi, ond nad allai -- bu bawb yn rhy bell i ffordd. Gobeithiodd ef y byddai hi yn ei wylio. Gwnâi ef bron unrhyw beth i'w tynnu ei sylw hi; taflai ef ei hunain oddi ar fynydd, ymddengys. Wel, nid yr...