Prin llwyddais gyrraedd amcan o 5,000 gair yr wythnos hon. Dyna fy bare minimum i'w ysgrifennu mewn wythnos ond mae'n her y dyddiau hyn am ryw reswm.Efallai taw natur o'r hyn y rydw i'n ysgrifennu sy'n achosi gohirio. Tywyll yw'r 15fed bennod y llyfr hwn, ac mae'n gorfodi fi meddwl yn ôl ar adeg dywyll fy Mhrofiad Cymraeg. Un peth y rydw i wedi darganfod wrth ysgrifennu'r llyfr hwn yw bod gennyf lawer o chwerwdod a dicter tuag at y Gymraeg a phethau Cymreig. Daw nifer o'r teimladau hyn gan yr adeg honno.Gwyddwn eisoes nad oeddwn i'n hyrwyddwr mwyaf hyzahus (a), ond doeddwn i'n ymwybodol pa mor gryf yw'r teimladau. Wrth ysgrifennu weithiau gofynnaf o'm hunan a ddylwn i ddychwelyd i Minnesota ar ôl gorffen prifysgol. Erbyn hyn mynnaf y rydw i eisiau aros yng Nghymru -- gwneud gradd uwch...
Tarwyd fi ddoe gan y ffaith taw amaturaidd yw cyfrif maint geiriau sydd gennyf ar brosiect. Ni welwch y math stwff hwn gan Owen Martell, er enghraifft. Mae fe'n gweithio ar lyfr arall ar hyn o bryd ond dyw e'n cyfrif ei eiriau pob 20 munud (neu, os mae yn, dyw fe'n cyhoeddi'r wybodaeth hon i'r byd).Ond, wrth gwrs, amatur ydw i.O hyd rydw i'n fath person a swynir gan syniad o ysgrifennu. Rhaid brwydro weithiau erbyn gwneud pethau dim ond oherwydd ymddangosan nhw fod yn "awduraidd" imi. Yfed jin ac ysmygu wrth deipio ac ati. Ar y cyfan, rydw i'n llwyddo osgoi bod yn ystrydebol ond os mae yna ferch sy'n darllen sydd eisiau cael helynt Bohemiadd â fi, rho fi wybod.Ces i e-bost ddoe gan rywun sy'n gwneud rhaglenni teledu o'r Babell Len yn yr Eisteddfod a ofynnodd ai fodlon siarad â Mari...
Rydw i newydd ysgrifennu hyn ar gyfer fy llyfr ac mae'n achosi fi chwerthin:"Di-rif yw'r troeon y rydw i wedi dweud rhywbeth tafod-yn-y-boch dim ond iddo gael ei gamddehongli fel datgan o ddifrif. Er enghraifft, dwedais ar fy mlog unwaith y hoffwn i gael rhyw â chyflwynwraig teledu Sarra Elgan, ac ymatebodd person mewn panig: "Ond priod yw hi! Chwaraewr rygbi yw ei gŵr!" Ie, oherwydd yr unig rhwystr i noson ddrygionus a rhywiol yn ystafell gwely Sarra Elgan yw'r fodrwy honno ar ei bys gan Simon Easterby. Os mae'r ddau'n hollti byth gellwch dybio y bydd Sarra a fi wrthi'n cnuchio ymhen hanner awr yr...
Mwy neu lai rydw i'n hanner y ffordd trwy'r llyfr erbyn hyn. Bydd yn llyfr cymharol o fyr. Felly'r dylai fod, credaf. Byddai gormod o sôn am fy mywyd yn diflasu minnau heb sôn amdanoch chi. Rydw i'n ceisio ysgrifennu stori ddifyrrus -- rhywbeth gall rywun ei ddarllen heb wybod dim amdanaf.Yr wythnos hon rydw i'n ysgrifennu ychydig ar fy mhrofiad Eisteddfod cyntaf. Dyma sut dechreua'r darn:"Siom. Dyna'r gair cyntaf a ddaw i'm pen wrth feddwl am fy Eisteddfod gyntaf. Wel, y gair cyntaf nad yw'n rheg, o leiaf. Rhai geiriau eraill: creigiau, llwch, diflastod, anrhefn, embaras. Ond siom yw'r pennaf air. Roedd y siom fel dwrn i'm bol."Dwi ddim yn siŵr pa mor onest rydw i eisiau bod am fy nheimladau tuag Eisteddfod. A dweud y gwir wrthoch chi, fy nghyfaill agos, teimlaf fath o ddicter...
Nododd wythnos ddiwethaf dwy flwyddyn o'm byw yng Nghaerdydd. Symudodd y briodferch ifanc a fi yma ar 12 Gorffennaf 2006. Time flies.Dwi ddim yn siŵr sut deimlaf am y peth. Pan gyrhaeddir diwrnodau penodol megis pen-blwydd symud i Brydain mae yna duedd edrych yn ôl a cheisio tynnu rhyw fath o gyfan-neges ganddo. Rydw i'n fwy bodlon â'm bywyd nag oeddwn i'n ddwy flwyddyn yn ôl, ond dim mor hapus. Ni chwarddaf fel y roeddwn i arfer.Peth sy’n taro fi trosodd a throsodd wrth ysgrifennu'r llyfr hwn yw diffyg cymdeithasu difyrrus yn fy mywyd. Rhwystr yr iaith yw hwnnw, efallai. Os rydych chi'n nabod fi, byddech chi wedi sylwi y defnyddiaf ragor o Saesneg pan ydw i mewn hwyliau da. O hyd mae'n straen sgwrsio yn y Gymraeg ac weithiau gall fod yn anodd gweld y pwynt. Pam dal at yr iaith pan...
Aeth y daith i Gaerfyrddin yn iawn. Dwedodd Catrin Dafydd wrthyf i unwaith (a) taw lle sydd eich taro fel tref a allai fod yn well yw Caerfyrddin, ac iawn yw hi. Does dim hollol o'i le am y dref ond cewch deimlad y mae rhywbeth ar goll; fel pe cafodd y dref ei hadeiladu gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn sy'n ysgrifennu ei draethawd olaf erioed. Wrth edrych ar Gaerfyrddin, meddyliwch: "Whoever built this place, his heart just wasn't in it."Ond dyna ni. Rydw i wedi gweld lleoedd gwaeth. Ac erbyn hyn rydw i wedi penderfynu gwneud cais am gwrs MA ysgrifennu creadigol yng Ngholeg y Drindod. Es i allan ar ddydd Gwener i siarad â darlithydd am y cwrs ac rydw i'n meddwl y mae'n rhywbeth gwna gyfunioni â'm hamcanion. Yn enwedig oherwydd dwi ddim yn siŵr beth uffach yw fy amcanion.Rydw i eisiau...
Arafodd bethau ychydig tros yr wythnos diwethaf, ces i ddelio â bowt bach o iselder a beidiodd yr ysgrifennu am dri diwrnod. Gwaith unig yw ysgrifennu; treuliaf awr ar ôl awr ar fy mhen fy hun mewn ystafell fach (mor fach na allwn ni letemu gwely yn yr "ail ystafell" hon). Felly roeddwn i'n isel fy ysbryd pan ges i ganlyniadau'r gwanwyn, a gwnaethpwyd pethau'n waeth ganddyn nhw. Rydw i'n uffach o anhapus gyda'r marc a ges i mewn cwrs Hanes yr Iaith, a theimlaf taw annheg oedd y peth. Cwynais, a'r rheswm swyddogol am y marc yw nad ydw i wedi ysgrifennu digon. Roedd safon fy iaith yn ddigonol, dangosais wybodaeth o'r pwnc, ond, yn y bôn, ni ysgrifennais ddigon. "Dim ond dwy awr yn yr arholiad," plediais yn ddi-fudd. Ysgrifennais trwy'r ddwy awr i gyd, ond ymddengys nad oedd yn ddigon....
Fel y mae, mae gennyf ddigon o eiriau ar y prosiect hwn ar gyfer ceisio am Ysgoloriaeth Awduron Newydd oddi Academi. Yng nghefn fy mhen rydw i'n meddwl am wneud cais, ond mae'n well gennyf dreulio'r amser wrthi'n ysgrifennu yn lle na cheisio ennill arian ar gyfer ysgrifennu. Hefyd, os ydych chi'n darllen yn fanwl, gwelir taw:"Yn achos ysgoloriaethau a anelir at brynu amser, mae’r swm a ddyfernir yn rhannol gysylltiedig â cholled incwm yn ystod cyfnod yr ysgoloriaeth, pa un a yw’r ymgeisydd yn gyflogedig ai peidio. Mae’r cais yn gofyn i chi roi amcangyfrif o’r swm hwn. Bydd angen datganiad incwm wedi ei gadarnhau arnom os bydd eich cais yn llwyddiannus. Cyfnod arferol ysgoloriaeth yw rhwng 1 a 6 mis."Ond does gennyf swydd. Felly bydd yn anodd darparu datganiad incwm o'r hyn nad...
A dweud y gwir, dwi ddim yn hapus gyda chynnydd fy llyfr erbyn hyn. Prin gallaf ddweud fy mod i'n ysgrifennu o ddifrif gyda word count fel hynny. Fy esgus yw nad ydw i wedi cael wythnos lawn eto er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu yn unig. Pythefnos yn ôl roeddwn i'n pryderu o hyd am arholiadau, a rhoed hanner yr wythnos hon i ddathlu pen-blwydd priodas gyda'r briodferch ifanc. Naw mlynedd rydym ni'n briod.Ŵn i ddim sut teimlaf am hynny -- naw blwyddyn. Uffach. Yn fuan iawn cyrhaeddaf y marc 10 blwyddyn ac wedyn does dim imi wneud ond treillio ar IllicitEncounters.com am dipyn ar yr ochr; yn trefnu cyfarfodydd dirgel gyda Sarra Elgan (oherwydd gwyddoch nad yw hithau'n hapus gyda hen Simon erbyn hyn -- mae eisiau arni am ddyn gyda llai o gig ar ei esgyrn).Ond yn y cyfamser mae gennyf y...
Rydw i wedi crybwyll at hyn o'r blaen: pan oeddwn i'n ysgrifennu'r Nofel Annarlledir (fy nghyfenw newydd i The Way Forward, gynt Drinking Stories, sef nofel yr ysgrifennais yn 2005 na fydd neb fyth yn ei darllen) byddwn i'n trywyddu fy nghynnydd ar fy mlog trwy nodi faint o eiriau y bues i wedi ysgrifennu. Nawr, ar ôl hoe fach (saith mis), rydw i wedi dychwelyd ati'n ddifrif i ysgrifennu Cwrw Am Ddim: A rhesymau eraill i ddysgu'r iaith, sef hanes o'm profiadau dysgu Cymraeg, symud i Gymru, ac yn y blaen.Felly yn yr wythnos hon rydw i wedi llwyddo crafu allan 1,742 gair. Cynnwys "yr wythnos hon" dim ond dydd Mercher i heno (dydd Iau), felly dyna, yn rhannol, reswm am brinder geiriau. Rheswm arall yw'r peth cyntaf i'w wneud yr wythnos hon bu dileu popeth a ysgrifennais yn ôl ym mis Medi...
Rydw i'n gweithio ar brosiect hir ar hyn o bryd ac yn teimlo'n rhwystredig wrth geisio mynegi fi fy hun heb yr idiomau arferol.Sut fyddwn i'n dweud yn y Gymraeg:"The trappings of power.""The workings of...
Diawl, dwi'n colli'r plot gyda'r stwff blogio 'ma, on'd dwi? Mae'r bai ar adolygu wrth gwrs. Wel, adolygu a diogi. A chwrw. Llawer o gwrw.Efallai eich bod chi wedi clywed am yr ymgyrch gwybodaeth yfed newydd honno sy'n atgoffa pobl am unedau alcohol. Dwedir taw tair neu bedair uned bob dydd dylai fod yn derfyn yfed dyn, dwy neu dair ar gyfer menyw.Doeddwn i ddim yn agos at hynny. Roedd cyfartalog finnau'n agosach i 9 uned (a) -- rhagor os oedd pêl-droed neu rygbi ar y teledu. Gŵn y mae yna nifer ohonoch chi a allai yfed fi o dan y bwrdd, fel petai, ond credaf y mae'n ormod am rywun i'w yfed wythnos ar ôl wythnos, diwrnod ar ôl diwrnod. Felly rydw i'n ati i geisio lleihau fy nghymeriant alcohol yr wythnos hon.Er, ŵn i ddim pa mor hir parha'r cynllun hwn oherwydd mae pêl-droed ar...
Does dim byd yn ddiddorol yn digwydd fan' ma, yn anffodus. Dw i'n cwympo'n ôl gyda'r gwaith cartref Sbaeneg--er bod dim byd yn ddiddorol yn digwydd, mae llawer yn digwydd. Pethau bychain, blin, fel gwneud ein trethi (dyn ni'n cael arian yn ôl o'r llwyodraeth ffederal--hwre!--ond mae dyled 9 doler arnon ni i'r dalaith--bww!). Mae'r gwaith yn poeni Rob ar hyn o bryd. Â dweud y gwir, mae fy ngwaith i yn boenus hefyd: derbynais i "lythyr gwrthodiad" oddiwrth asient arall heddiw. Felly mae'n flin 'da fi; dydy hynny ddim yn bost siriol...ond mae angen ymarfer arnaf cyn y cwrs yn yr haf, rhag ofn i fi fynd i lefel...
Pethefnos yn ôl, mi ddechraes i ddosbarth sgwennu ffuglen yn canolfan llenyddol The Loft yn Minneapolis o'r enw Improvisational Fiction. Mae'r dosbarth yn wych - dosbarth bach a bywiog ydi o. Mae'r athrawes yn ein arwain yn gweithgareddau improvisational ysgrifenedig a actio i ein ysbrydoli i fynd heibio writer's block. Y peth gwaethaf ydi 'sgen i ddim lot o egni ag amser sbâr i sgwennu tu allan o'r dosbarth. Ond dw i'n trio. "Ia siwr, Tom. Da iawn chdi i gyfiawnhau dy...
Mae'n flin 'da fi mod i mor ddiog, ond dyna fe. Rwyt ti'n gallu darllen tipyn bach am ein taith i'r Eidal ar fy mlog Saesneg. A gobeithio pan fydd mwy o amser rhydd 'da fi (pryd? pryd??) postiaf i rhywbeth yn Gymraeg hefyd. Ar hyn o bryd mae pentwr o lyfrau ar fy llawr yn aros i fi eu darllen nhw ar gyfer y gwobrau Cybils, felly...dim llawer o amser i wneud unrhywbeth arall, fel, ym, ysgrifennu blogiau. A dweud y gwir dw i ddim wedi bod mewn tymer dda i ysgrifennu o gwbl, achos fe ges i bedwar rejections yn y tair wythnos gynt. Wel, dyna fywyd yr...
Wel, mae "yfory" wedi troi yn...wythnos. Ond dyma'r crynodeb a addawais i. Mae'n flin 'da fi os mae pethau ynddi hi sy ddim yn gwneud synnwyr. Mae'n anodd i fi esbonio rhai o'r syniadau yn Gymraeg. Cofiwch mae hynny'n nofel i bobl ifanc. Dw i wedi tynnu'r brawddegau oddiwrth llythyr a anfonais i i'r ddau asient:
Dywedir y stori o safbwynt merch o gefndir ethnig cymysg, ac mae'r stori yn dilyn ei ymdrechion i ffeindio ei hunaniaeth hi. Er hynny, hefyd dyma stori am gynllun codi arian wedi mynd dros ben llestri, gyda chanlyniadau trychinebus a doniol.
Mudiad cymdeithasol ffug i fyfyrwyr o gefndir ethnig cymysg ydy'r Latte Rebellion, wedi'i dyfeisio gan high school senior Asha Jamison gyda'i ffrind gorau Carey Wong. Dydy hi ddim yn wrthryfel go iawn, ond mae logo, gwefan, manifesto...a...
...a.y.y.b., ar y rhan fwyaf. Ond yn gyntaf, dyma'r cysylltiadau. Heno roedd rhaglen ar BBC Radio 4 "Word of Mouth" yngly^n â "language policy in the bilingual societies of Quebec, Wales and Northern Ireland." Mae'n bosib gwrando ar y rhaglen dros y wê, dw i'n credu. Dw i ddim wedi cael cyfle i wrando arni hi eto, ond mae'n swnio'n ddiddorol. (Diolch i'r rhestr WELSH-L.) Yn ail--a dw i'n siwr eich bod chi wedi clywed hynny'n barod achos dw i wedi methu postio hynny nes heddiw--mae tair prifysgol yn Nghymru wedi mynd yn annibynnol--Aberystwyth, Bangor, ac Abertawe. Dw i ddim yn siwr os ydy hynny'n golygu bod y prifysgolion yn preifat nawr hefyd, neu os ydyn nhw'n cael eu noddi gan y llywodraeth eto. Diolch i fy mam am anfon yr erthygl i fi.
Llongyfarchiadau i Chris, a ennillodd...
Pan roeddwn i'n ysgrifennu fy nofel The Way Forward (nofel di-gyhoeddedig a ysgrifennais yn ôl yn 2005), rhown i gyfrifiad geiriau ar fy mlog weithiau er mwyn dilyn fy nghynnydd.Heddiw dechreuais y gwaith go iawn, o'r diwedd, o ysgrifennu fy ail lyfr, felly yma mae'r esgyniad yn dechrau. Mae'r broses o ysgrifennu yn hir ac yn ddiflas ac yn anodd, a bydd y broses hon yn arbennig o anodd oherwydd byddaf yn mynd i brifysgol wrth geisio ysgrifennu.Ysgrifennais y drafft cyntaf o'm nofel i mewn chwe mis, ac wedyn treuliais bedwar mis arall yn ei ailysgrifennu. Ond mae gennyf amlinelliad llawn y tro 'ma, felly mae gennyf obaith y symuda pethau'n fwy cyflym.Yn gysylltiedig i bethau ysgrifenedig, byddaf yn dechrau ysgrifennu erthygl fach yng nghylchgrawn Barn ym mis Hydref. Methais ddweud unrhyw...
Jyst tipyn bach o'r diweddaraf...os dych chi'n gyfarwydd â'r awdur i bobl ifanc Diana Wynne Jones (hanes diddorol ei phlentyndod fan 'ma), efallai bydd diddordeb 'da chi mewn hynny. Wythnos gyntaf o Dachwedd (y 5ed - 9fed), bydd y Winter Blog Blast Tour--sef, dathliad o gyfweliadau gyda awduron o lenyddiaeth i bobl ifanc a phlant. Bydd nifer fawr o flogiau (blogiau sy'n sôn am lenyddiaeth i bobl ifanc) yn cymryd rhan, yn gynnwys Finding Wonderland, y blog dw i'n cyfrannu ynddo. A bydd gyda ni gyfweliad anghynwysol gyda Diana Wynne Jones, awdur Howl's Moving Castle, y llyfrau Chrestomanci, a llawer iawn o lyfrau eraill. Dw i'n cofio benthyca llyfrau Diana Wynne Jones oddiwrth ffrind pan o'n i'n tua 10 neu 11 oed, a dw i'n dal i fwynhau ei storiau. Felly dw i'n edrych ymlaen at...
Wel, nawr, wrth i fi gael fy meirniadu, dw i'n teimlo pwys i bostio. Felly, dyma rhestr bach o bethau a wnes i heddiw, wrth i 'ngwr i fod yn Alaska yn pysgota gyda'i dad:
Ail-olygais i bedwar pennod o fy nofel i bobl ifanc (nofel newydd sy ddim yn sôn am Gymru o gwbl--mae'n flin 'da fi)
Chwaraeais i gyda'n cath fach, Zelda, am oriau. (Mae hi'n hyper.)
Gwastraffais i ormod o amser yn edrych ar bethau heb bwynt ar y wê, fel gwybodaeth Wicipedia am fy ardal i.
Sgwennais i gerdyn post at fy chwaer a'i theulu yn Awstralia. Mae'r cerdyn post yn dod o Efrog Newydd. Des i n'ôl o Efrog Newydd tua tri wythnos yn ôl. Colledwr (colledwraig? colledydd?) ydw i.
Teipiais i rhyw bethau diflas ar gyfer swydd freelance; roedd rhaid i fi ei wneud cyn cynfarfod y bydda i'n mynychu...
Dyna fues i'n gwneud dros y penwythnos. Un stafell sydd gen i eleni ac mae hi'n eitha dymunol, er ychydig yn dywyll ac ymhell o fod yn anferth. Roedd fy ystafell wedi llithro mewn i stâd hollol gywilyddus yn yr wythnosau diwethaf. Dwi'n mynd i ddefnyddio fy arholiadau fel esgus, ond un hollol annigonol. Roedd na fôr o nodiadau a thraethodau dros y llawr i gyd - roeddwn i'n gwybod yn union lle'r oedd popeth, wir yr - a cherdded o un pen y stafell i'r llall (tua saith cam) yn golygu neidio o un ynys garped i'r llall.Roedd rhaid i hynny newid y penwythnos yma gan i'r annwyl Rieni alw draw ar eu ffordd i faes awyr Stansted ar wyliau. Maen nhw'n mynd i Awstria, i ardal Salzburg, ac ymlaen i'r Almaen am rhyw bythefnos. Er nad yw Casa'r Traed fel pin mewn papur, mae safonau taclusrwydd a...
Er nad yw hi'n hollol amlwg o beth dwi'n sgwennu ar y blog, dwi'n hoffi meddwl am wleidyddiaeth. Yn fwy na hynny, dwi'n hoff iawn o etholiadau. Mae fy niddordeb hanesyddol yn bennaf ar yr hyn a elwir yn ‘high politics’, hynny yw, gwleidyddiaeth personoliaethau a hunan-ddiddordeb coridorau (cefn) pwer, ymhell o ‘fywyd go iawn.’ Rydw i’n gweld etholiadau’n ddiddorol gan mai dyma gyfle’r ‘byd go iawn’ i atgoffa’r gwleidyddion eu bod nhw’n gwrando ar yn gwylio.Dwi wedi mwynhau dilyn Etholiadau'r Cynulliad yn fawr iawn. Roeddwn i'n aml yn teimlo dylwn i fod yn cyfrannu rhywbeth at yr ymddiddan blogiol ond mae hi'n anodd iawn i rywun oedd mor bell o realiti'r etholiad allu dweud unrhywbeth newydd na diddorol. Dwi wedi cael blas arbennig ar y rhai hynny o'r blogiau sydd...